Canllawiau

Gwiriadau DBS ar gyfer pobl hunangyflogedig a gweithwyr personol

Canllawiau ar sut y gall unigolion hunangyflogedig a gweithwyr personol wneud cais am wiriadau DBS Manylach neu Manylach gyda Rhestr(au) Gwaharddedig trwy Gorff Ymbarél.

Overview 

Trosolwg

Mae’r canllaw hwn yn fyw o 21 Ionawr 2026

Bydd y dudalen hon yn dweud wrthych sut i wneud cais am Wiriad DBS. Mae’r wybodaeth isod ar gyfer unigolion hunangyflogedig a gweithwyr personol.

Person hunangyflogedig yw unigolyn sy’n gweithio iddo’i hun yn hytrach na chael ei gyflogi gan sefydliad. Er enghraifft, tiwtor mathemateg preifat sy’n cynnig gwersi un wrth un i fyfyrwyr yn eu cartrefi.

Gweithiwr personol yw rhywun sy’n cael ei gyflogi’n uniongyrchol gan unigolyn preifat i ddarparu gwasanaethau naill ai iddyn nhw neu i aelod o’u teulu. Er enghraifft, gall rhywun sydd â Chyllideb Iechyd Personol gyflogi unigolyn yn uniongyrchol fel gofalwr – byddai’r person hwn yn weithiwr personol.

Mater i’r person hunangyflogedig neu’r gweithiwr personol yw gwneud cais am eu Gwiriad DBS Manylach eu hunain trwy Gorff Ymbarél DBS. Sefydliad sydd wedi cofrestru gyda’r DBS i brosesu ceisiadau Gwiriad DBS yw Corff Ymbarél. Ni allwch ofyn i’r cyflogwr preifat/rhiant gael hwn ar eich rhan.

Os ydych chi’n unigolyn hunangyflogedig sy’n contractio eich gwasanaethau i sefydliad, gallant wneud cais ar eich rhan yn unol â’u polisïau. Rydym yn argymell eich bod yn trafod hyn gyda nhw.

Sut i wneud cais am Wiriad DBS Manylach neu Manylach gyda Rhestr(au) Gwaharddedig

Cam 1 

Penderfynwch a yw’r rôl rydych chi’n ei chyflawni yn gymwys ar gyfer Gwiriad DBS Manylach neu Manylach gyda Rhestr(au) Gwaharddedig, gan ddefnyddio ein canllawiau cymhwysedd.  

Cam 2 

Os yw’r rôl rydych chi’n ei gwneud yn gymwys ar gyfer Gwiriad DBS Manylach neu Manylach gyda Rhestr(au) Gwaharddedig, bydd angen i chi ddefnyddio Corff Ymbarél DBS i brosesu’r gwiriad ar eich rhan.

Gallwch ddod o hyd i restr o Gyrff Ymbarél ar y dudalen dod o hyd i Gorff Ymbarél GOV.UK. Defnyddiwch yr hidlwyr ar yr ochr chwith i hidlo yn ôl sefydliadau a all brosesu gwiriadau ar gyfer unigolion hunangyflogedig. Mae hyn hefyd yn berthnasol i weithwyr personol.

Gallwch gael gafael ar gost gwiriad DBS ar y tudalen canllawiau i gyflogwyr GOV.UK. Sylwch y bydd Cyrff Ymbarél hefyd yn cymhwyso eu ffioedd gweinyddu eu hunain yn ogystal â ffi Gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Cam 3 

Bydd y Corff Ymbarél yn eich tywys drwy’r broses ymgeisio ac fel rhan o hyn gofynnir i chi brofi eich hunaniaeth yn unol â gofynion gwirio ID y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Ar adeg gwneud cais, efallai yr hoffech ystyried ymuno â’r Gwasanaeth Diweddaru gan ddefnyddio rhif cyfeirnod eich cais. Mae ymuno â’r Gwasanaeth Diweddaru yn galluogi gweithwyr proffesiynol hunangyflogedig gyda nifer o gleientiaid i ddangos yn effeithlon bod eu tystysgrif DBS yn parhau i fod yn gyfredol. Am ragor o wybodaeth, gweler y tudalen Gwasanaeth Diweddaru GOV.UK.

Unwaith y bydd eich cais wedi’i gyflwyno a’i brosesu gan y DBS, bydd eich tystysgrif yn cael ei hanfon atoch yn y post. Gallwch ddysgu rhagor am wahanol gamau’r broses DBS ar y [tudalen Rôl yr heddlu ym mhroses gwiriad DBS GOV.UK] (https://www.gov.uk/guidance/police-role-in-the-dbs-checking-process). 

Cam 4 

Unwaith y byddwch wedi derbyn eich tystysgrif, byddwch yn gallu ei dangos i unigolion sy’n defnyddio eich gwasanaethau.

Gallwch ddysgu rhagor am y wybodaeth a allai ymddangos ar wiriadau DBS Manylach neu Manylach gyda Rhestr(au) Gwaharddedig ar y Gwiriadau DBS: canllawiau i gyflogwyr GOV.UK

Enghreifftiau

Enghraifft 1 

Mae Peter yn darparu tiwtora mathemateg i blant yn ei ardal leol. Nid yw Peter yn gysylltiedig ag asiantaeth na chyflogwr ac mae’n ymgymryd â’r gwaith hwn fel unigolyn hunangyflogedig. Ar gyfartaledd mae’n gweithio 2 noson yr wythnos.

Gall Peter wneud cais am Wiriad Manylach gyda Rhestr Waharddedig DBS yn y gweithlu plant trwy Gorff Ymbarél.

Unwaith y bydd wedi derbyn ei dystysgrif, gall Peter ddangos hon irieni/gofalwyr/gwarcheidwaid y plant sy’n bwriadu ei gyflogi. Gallant ofyn am weld ei dystysgrif a defnyddio’r wybodaeth hon wrth ystyried addasrwydd Peter i weithio gyda’u plentyn.

Enghraifft 2 

Mae Kelly yn ofalwr personol – mae hi’n darparu cymorth i gleientiaid sy’n oedolion sy’n dymuno ei recriwtio o dan y cynllun taliadau uniongyrchol. Fel rhan o’r cymorth hwn, bydd Kelly yn darparu gofal personol i gleientiaid yn ogystal â gwneud eu siopa ar eu rhan.

Mae Kelly yn gymwys i gael Gwiriad Manylach gyda Rhestr Waharddedig DBS yn y gweithlu oedolion. Gall Kelly wneud cais drwy Gorff Ymbarél.

Unwaith y bydd Kelly wedi derbyn ei thystysgrif, bydd hi’n gallu dangos hon i’r unigolyn sy’n recriwtio ei gwasanaethau. Yna byddant yn gallu defnyddio’r wybodaeth hon wrth ystyried addasrwydd Kelly i weithio gyda nhw.

Enghraifft 3 

Mae Jason yn blymwr hunangyflogedig, ac mae ganddo ddiddordeb mewn cael Gwiriad DBS Manylach gyda Rhestr(au) Gwaharddedig yn y gweithluoedd plant ac oedolion, gan ei fod yn credu bod angen hyn ar gyfer ei rôl sy’n cynnwys mynd i mewn i gartrefi cwsmeriaid.

Mae’r Corff Ymbarél y mae’n cysylltu ag ef yn cynghori nad yw’n gymwys ar gyfer y math hwn o Wiriad DBS a gall Jason ystyried gwneud cais am Wiriad Sylfaenol DBS.

Cysylltu â’r DBS  

Mae gwybodaeth gyswllt DBS ar gael ar yr hafan.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 16 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf ar 23 Ionawr 2026 show all updates
  1. Added translation

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon