Canllawiau

Iawndal yn y System Gyfiawnder

Canllawiau ar y mathau gwahanol o iawndal o fewn y system gyfiawnder.

Applies to England and Wales

Mae tri llwybr i ddioddefwyr a’u teuluoedd dderbyn iawndal o fewn y system gyfiawnder:

  • Gorchmynion iawndal troseddol a wneir gan lysoedd troseddol – gorchmynnir y troseddwr i wneud iawn ariannol i’w ddioddefwr am unrhyw anaf personol, colled neu ddifrod sy’n deillio o’r drosedd, yn amodol ar fodd.
  • Cynllun Iawndal Anafiadau Troseddol – cynllun iawndal a ariennir gan y Llywodraeth sydd ar gael i ddioddefwyr troseddau treisgar.
  • Hawliadau a wneir mewn llysoedd sifil – gall dioddefwyr hawlio iawndal gan gyflawnwyr drwy’r llysoedd sifil.

Gorchmynion iawndal a wnaed gan y llysoedd troseddol

Pan geir rhywun yn euog o drosedd, gall llysoedd troseddol roi gorchymyn iawndal i droseddwr. Mae hyn yn golygu bod y troseddwr yn digolledu’r dioddefwr am unrhyw anaf personol, colled neu ddifrod sy’n deillio o’r drosedd. Gellir rhoi gorchymyn iawndal naill ai fel dedfryd yn ei rinwedd ei hun neu ochr yn ochr â dedfryd arall - megis dirwy neu orchymyn cymunedol.

Mae gorchmynion iawndal yn bodloni un o bum diben dedfrydu y mae’n rhaid i lysoedd eu hystyried wrth ymdrin â throseddwyr: gwneud i droseddwr roi rhywbeth yn ôl i bobl y mae eu trosedd wedi effeithio arnynt. Nid math o gosb ydyw.

Rhaid i’r llys roi rhesymau os bydd yn penderfynu peidio â gorchymyn iawndal mewn achosion priodol.

Swm yr iawndal

Mae swm yr iawndal y gall llys ei ddyfarnu yn ddiderfyn.

Gellir gorchymyn iawndal am unrhyw swm y mae’r llys yn ei ystyried yn briodol, gan gymryd i ystyriaeth unrhyw dystiolaeth ac unrhyw sylwadau a wneir gan:

  • yr erlynydd – megis faint o iawndal y mae’r dioddefwr yn ei geisio ac unrhyw dystiolaeth sy’n dangos yr anaf personol, colled neu ddifrod sydd wedi digwydd
  • y troseddwr – er enghraifft am ei amgylchiadau ariannol.

Mae gorchmynion iawndal yn briodol mewn achosion syml lle gellir cyfrifo swm yr iawndal yn hawdd.

Lle nad oes gan y troseddwr ddigon o arian i dalu’r swm llawn y gofynnodd y dioddefwr amdano, gall y llys:

  • leihau swm y gorchymyn iawndal sy’n golygu efallai na fydd yn talu cost lawn unrhyw anaf personol, colled neu ddifrod a achosir, neu
  • caniatáu amser ychwanegol i’r troseddwr dalu; gellir talu iawndal dros gyfnod o hyd at dair blynedd mewn achosion priodol.

Wrth bennu swm yr iawndal, mae’n rhaid i’r llysoedd ddal y fantol rhwng ceisio iawndal a pheidio â gosod dyledion sy’n afrealistig.

Cesglir unrhyw iawndal i ddioddefwr oddi wrth droseddwr yn gyntaf, cyn unrhyw orchmynion ariannol eraill a roddir gan y llys, megis gordal dioddefwr, dirwy neu gostau.

Dylai gorchymyn iawndal fod o fudd ac ni ddylai achosi niwed i ddioddefwyr. Os, am unrhyw reswm, nad yw’r dioddefwr eisiau iawndal, dylai hyn fod yn hysbys i’r llys a’i barchu.

Costau Profedigaeth ac Angladd

Gellir rhoi gorchymyn iawndal hefyd i droseddwr yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud taliadau am gostau angladd neu brofedigaeth mewn perthynas â marwolaeth o ganlyniad i drosedd.

Profedigaeth

Dim ond er budd priod yr ymadawedig, neu, yn achos plentyn dan oed, ei rieni ef neu hi, y gellir gwneud gorchymyn iawndal mewn perthynas â phrofedigaeth. Rhaid i orchmynion digolledu mewn perthynas â phrofedigaeth beidio â bod yn fwy na £15,120.

Treuliau Angladd

Gellir gwneud gorchymyn digolledu mewn perthynas â threuliau angladd er budd unrhyw un a gafodd y treuliau.

Gordal i ddioddefwyr

Mae’r gordal (y cyfeirir ato’n aml fel y “gordal dioddefwr”) yn gyhuddiad a osodir ar droseddwyr gan y llys. Mae’r gordal yn berthnasol i’r rhan fwyaf o ddedfrydau troseddol a bydd y swm y mae’n ofynnol i’r troseddwr ei dalu yn amrywio, yn dibynnu ar ddifrifoldeb y ddedfryd ac oedran y troseddwr.

Nid yw’r gordal yn berthnasol os yw’r llys yn rhyddhau’r person yn llwyr neu’n gwneud gorchymyn o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.

Pwrpas y gordal yw sicrhau bod gan y troseddwyr rywfaint o gyfrifoldeb dros at y gost o gefnogi dioddefwyr a thystion. Fodd bynnag, nid yw incwm o’r gordal yn mynd yn uniongyrchol i ddioddefwyr trosedd unigol, yn yr un modd ag y mae iawndal yn ei wneud.

Yn lle hynny, mae incwm o’r gordal yn cyfrannu at gyllid a roddir i Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu sy’n comisiynu gwasanaethau cymorth lleol i ddioddefwyr troseddau yn eu cymunedau. Mae hefyd yn ariannu cymorth a gomisiynir yn genedlaethol fel:

  • canolfannau cymorth trais rhywiol ledled Cymru a Lloegr
  • y Gwasanaeth Tystion yn y Llys
  • y Gwasanaeth Dynladdiad Cenedlaethol

Gwybodaeth bellach am y cyfraddau gordal.

Iawndal a ddyfarnwyd o dan y Cynllun Digolledu am Anafiadau Troseddol

Mae’r Cynllun Iawndal am Anafiadau Troseddol yn gynllun a ariennir gan y llywodraeth. Mae’n digolledu dioddefwyr ag anaf corfforol neu feddyliol a achosir gan drosedd dreisgar a gyflawnir ym Mhrydain Fawr. Mae hefyd yn digolledu teuluoedd dioddefwyr mewn profedigaeth.

Mae’r Cynllun yn diffinio trosedd trais fel ymosodiad corfforol, ymosodiad rhywiol, bygythiad sy’n achosi ofn trais uniongyrchol, neu weithred neu anwaith o natur dreisgar sy’n achosi anaf corfforol.

Dim ond ar gyfer anafiadau cymwys a nodir yn atodiad E y Cynllun y gellir gwneud taliadau iawndal. Yn ogystal, mae colled enillion a threuliau, taliadau plant a dibyniaeth, a thaliadau profedigaeth ac angladd ar gael.

Mae’n rhaid i bob ymgeisydd fodloni meini prawf cymhwyster llym.

Yn y canllaw iawndal anafiadau troseddol mae rhagor o wybodaeth am y Cynllun a’r Broses ymgeisio Nid oes cymorth ariannol uniongyrchol ar gael o’r Cynllun. Bwriedir iddo fod yn gynllun pan fetho popeth arall a lle mae cyfle i fynd ar drywydd iawndal yn rhywle arall, dylai ymgeiswyr wneud hynny.

Hawliadau yn y llysoedd sifil am iawndal

Yn ogystal ag iawndal troseddol, mae hefyd yn bosibl gwneud hawliad drwy’r llysoedd sifil – er enghraifft, hawliad anaf personol yn erbyn y sawl a gyflawnodd ymosodiad. Gall y math hwn o hawliad gynnwys niwed seicolegol a achosir i’r dioddefwr.

Dylech geisio cyngor proffesiynol os ydych yn ystyried yr opsiwn hwn gan fod y broses yn fwy cymhleth na’r cynllun iawndal anafiadau troseddol a gall eich gwneud yn agored i risgiau cost, yn enwedig os nad oes gan y diffynnydd ddigon o arian i dalu iawndal.

Rhaid cyflwyno hawliadau anafiadau personol o fewn 3 blynedd i’r drosedd, er y gall y llysoedd gytuno i ymestyn hyn (er enghraifft mewn hawliadau achosion hanesyddol o gam-drin plant).

Mae hefyd yn bosibl cael cyngor am ariannu hawliad sifil, er enghraifft trwy ymrwymo i gytundeb ffi amodol (cytundeb ‘dim-ennill, dim-ffi’) lle nad oes rhaid talu costau cyfreithiol os collir yr hawliad (er efallai y byddwch fod yn atebol am gostau’r partïon eraill o dan yr amgylchiadau hynny).

Mae’r llysoedd sifil yn mynnu bod yr hawlydd yn profi mai’r diffynnydd oedd yn gyfrifol am yr anaf/colled a ddioddefwyd, a gall yr hawliad gael ei herio.

Mae’n bosibl y bydd modd ceisio’r math hwn o iawndal hyd yn oed pan nad oedd unrhyw euogfarn am y drosedd yn y llysoedd troseddol, gan fod y profion a ddefnyddir gan y llysoedd sifil yn wahanol. Mae gofyn am gyngor proffesiynol yn bwysicach fyth ar gyfer y math hwn o hawliad gan fod gan hawliad sifil risgiau o ran costau.

Effaith gorchymyn digolledu ar ddyfarniad dilynol o iawndal mewn achosion sifil neu o dan y Cynllun

Bydd unrhyw arian a dderbynnir gan y dioddefwr gan y troseddwr fel rhan o orchymyn iawndal a roddir gan y llysoedd troseddol, fel arfer yn cael ei dynnu o unrhyw ddyfarniad dilynol a wneir mewn achos llys sifil, neu unrhyw ddyfarniad a wneir o dan y Cynllun Digolledu am Anafiadau Troseddol.

Cyhoeddwyd ar 22 December 2022