Skip to main content
Canllawiau

Ffurflen Dreth y Cwmni: Problemau TG (WT1)

Defnyddiwch ffurflen WT1 os na allwch anfon eich Ffurflen Dreth y Cwmni ar-lein oherwydd problem TG gyda gwasanaethau ar-lein CThEF.

O 1 Ebrill 2026 ymlaen, dylech ddefnyddio meddalwedd fasnachol (yn agor tudalen Saesneg) i gyflwyno cyfrifon blynyddol a Ffurflenni Treth eich Cwmni i CThEF.

Gallwch ond cyflwyno Ffurflen Dreth y Cwmni ar bapur os yw’r canlynol yn wir:

Pryd i ddefnyddio’r ffurflen

Bydd angen i chi lenwi a chyflwyno ffurflen WT1 gyda ffurflen bapur wedi’i chwblhau os nad ydych wedi gallu anfon eich ffurflen ar-lein oherwydd problem TG gyda gwasanaethau ar-lein CThEF.

Sut i gwblhau’r ffurflen

Mae angen i chi wneud y canlynol:

  1. Lawrlwytho’r ffurflen a’i chadw ar eich cyfrifiadur.

  2. Agorwch y ffurflen gan ddefnyddio’r fersiwn ddiweddaraf o Adobe Reader sy’n rhad ac am ddim.

  3. Llenwch y ffurflen ar y sgrin.

  4. Argraffwch ef a’i anfon at CThEF gyda’ch ffurflen bapur.

WT1 ffurflen: Dreth y Cwmni problemau TG

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch different.format@hmrc.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Efallai na fydd y ffurflen yn gweithio os byddwch yn ceisio’i hagor yn eich porwr rhyngrwyd. Os nad yw’r ffurflen yn agor, cysylltwch â gwasanaeth cwsmeriaid Cymraeg CThEF (yn agor tudalen Saesneg).

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 27 Mai 2026

Argraffu'r dudalen hon