Canllawiau

Y Gronfa Berchnogaeth Gymunedol: nodyn esboniadol ar y broses benderfynu

Mae hwn yn amlinellu’r broses asesu a phenderfynu ar gyfer dewis cynigion llwyddiannus i’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol a’r penderfyniadau mewnol a gymeradwyir gan yr Uwch-Swyddog Cyfrifol (SRO).

Y broses asesu a phenderfynu weinidogol

Asesu a llunio rhestr fer ar gyfer y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol

Asesir pob cais yn erbyn y meini prawf a nodir yn y Prosbectws ac yn y ddogfen Meini Prawf Asesu a gyhoeddwyd ar gov.uk. Y ffurflen gais a gyflwynir gan ymgeiswyr yw prif ffocws pob asesiad, ond mae ymgeiswyr hefyd yn cyflwyno dogfennaeth ychwanegol. Ystyrir y dogfennau hyn lle bo’n briodol.

Cynhelir gwiriadau cychwynnol yn erbyn y meini prawf cyhoeddedig yn y prosbectws i sicrhau bod y cais: o fewn cwmpas, yn gymwys ac wedi darparu digon o wybodaeth i gynnal asesiad. Yna caiff cynigion eu hasesu yn erbyn y fframwaith asesu cyhoeddedig (diweddarwyd hwn ar gyfer R3). Er mwyn bod yn gyllidadwy, mae’n ofynnol i’r bidiau gyrraedd y sgorau meincnod gofynnol ar gyfer yr achos rheoli a’r achos strategol. Os daw’n amlwg na fydd y cais yn gallu cyrraedd y safon ofynnol ar unrhyw ran o’r asesiad, gall asesiad y bid hwnnw ddod i ben.

Gwahoddir sylwadau gan swyddogion yn Swyddfeydd Ysgrifenyddion Gwladol Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn ogystal â’r Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, yn ystod y broses asesu hefyd. Mae’r gweinyddiaethau datganoledig hefyd yn cael cyfle i wneud sylwadau ar geisiadau gan eu gwledydd priodol.

Yna cynhelir proses gymedroli. Bydd asesiadau a dewisir i’w safoni yn cynnwys cymysgedd o fidiau â sgôr isel, ffiniol a rhai â sgôr uchel neu fidiau arbennig o gymhleth. Mae paneli safoni yn trafod y dull o sgorio pob un o’r meini prawf i sicrhau fod y canllawiau asesu wedi’u cymhwyso’n deg ac yn gyson, gan ddiwygio unrhyw sgorau yn ôl yr angen. Yn Rownd 1, gan mai hon oedd y rownd asesu gyntaf, gofynnodd DLUHC hefyd i wasanaethau Partneriaethau Lleol ac Adran Actiwari’r Llywodraeth weithredu fel yswirwyr annibynnol i adolygu a chymedroli asesiadau i sicrhau fod y meini prawf asesu wedi’u cymhwyso’n deg ar draws yr asesiad o’r holl fidiau.

Cynhelir gwiriadau i ddilysu gwybodaeth. Mae hunaniaeth, trefniadau llywodraethu a diddyledrwydd sefydliadau yn cael eu gwirio fel rhan o’r broses hon, sydd hefyd yn helpu i ganfod ac atal twyll.

Ar ôl eu safoni, mae swyddogion yn cyflwyno rhestr fer o geisiadau i Weinidogion sy’n bodloni’r meini prawf sylfaenol ac felly’n cael eu hystyried yn rhai cyllidadwy.

Gwneud penderfyniadau Gweinidogol

Rhoddir cyngor i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau gyda’r rhestr fer o gynigion ar gyfer ei benderfyniad ynghylch pa rai i’w hariannu.

Yn Rowndiau 1 a 2, cafodd yr Ysgrifennydd Gwladol yr opsiwn i gymhwyso’r 3 ffactor ychwanegol a ganlyn wrth ystyried y rhestr fer er mwyn dewis y rhestr derfynol ar gyfer cyllid. Mae’r rhain er mwyn sicrhau:

1. dosbarthiad cytbwys o leoliadau prosiectau ar draws pob rhan o’r Deyrnas Unedig

2. gwasgariad cymesur o leoliad prosiectau rhwng ardaloedd gwledig a threfol

3. rhaniad thematig rhesymol o fathau o asedau a gefnogir gan y rhaglen

O Rownd 3, cafodd yr Ysgrifennydd Gwladol yr opsiwn i gymhwyso dwy ystyriaeth bellach hefyd, er mwyn dewis y rhestr derfynol ar gyfer cyllid. Mae’r rhain er mwyn sicrhau:

4. cydbwysedd o fathau o sefydliadau sydd wedi gwneud cais, e.e., plwyfi vs sefydliadau cymunedol

5. cydbwysedd rhwng prosiectau sydd angen symiau mawr o arian a’r rhai sydd angen symiau bach

Cyflwynir y rhestr fer hefyd i Weinidogion o Drysorlys EM a’r Adran Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn ogystal â Swyddfeydd yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, a rhoddir cyfle iddynt roi sylwadau a chyngor, yn seiliedig ar yr un ffactorau ychwanegol.

Mae Gweinidogion yn hysbysu eu Swyddfeydd Preifat o unrhyw fuddiannau personol neu ariannol mewn perthynas â’r Gronfa, ac yn tynnu yn ôl o’r asesiad fel y bo’n briodol.

Yn Rownd 1 penderfynodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau ganolbwyntio’n benodol ar sicrhau bod lledaeniad daearyddol prosiectau ar draws y Deyrnas Unedig. Cytunodd y gweinidogion o Drysorlys EM a’r Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn ogystal â Swyddfeydd yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon â’r dull hwn.

Ystyried effeithiau penderfyniadau gweinidogol ar gydraddoldeb

Bydd Gweinidogion yn cael dadansoddiad o gydraddoldeb ar gyfer y rhaglen yn rhan o’r broses benderfynu. Pan fydd Gweinidogion wedi ystyried effeithiau eu penderfyniad ar gydraddoldeb, gan gydnabod gofynion Deddf Cydraddoldeb 2010, adran 149 Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus ac, yn achos Gogledd Iwerddon, gofynion ychwanegol Deddf Gogledd Iwerddon 1998, byddant yn cadarnhau eu penderfyniadau.

Cyhoeddi a’r camau nesaf

Ar ôl i benderfyniadau gael eu cadarnhau, bydd y cynigwyr llwyddiannus ar gyfer y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol yn cael eu cyhoeddi a rhoddir gwybod i ymgeiswyr am ganlyniad eu cynnig. Bydd cynigwyr aflwyddiannus yn cael adborth ar eu cais gyda’u canlyniad.

Cyhoeddodd y Canghellor gynigwyr llwyddiannus rownd gyntaf y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol yn Adolygiad Gwariant 2021 ac fe’u rhestrir yn Y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol: cynigwyr llwyddiannus y rownd gyntaf. Bydd cynigwyr llwyddiannus mewn rowndiau yn y dyfodol yn cael eu rhestru ac ar gael i’w gweld yma.

Gwneud penderfyniadau mewnol

Proses flaenoriaethu ar gyfer dyfarnu cymorth wedi’i dargedu

Er mwyn blaenoriaethu’r cymorth at ymgeiswyr, bydd ein darparwr cymorth datblygu yn defnyddio proses gwneud penderfyniadau 4 cam i flaenoriaethu ymgeiswyr sydd wedi pasio’r cam mynegi diddordeb. Mae hyn yn cynnwys:

1. Defnyddio cyfres o fetrigau cenedlaethol i bennu lefel y seilwaith cymdeithasol presennol mewn man lleol i flaenoriaethu’r datganiadau o ddiddordeb ar gyfer trafodaeth bellach.

2. Ystyried gwybodaeth am ddatganiadau o ddiddordeb penodol ac aeddfedrwydd ac anghenion cymorth penodol yr ymgeisydd er mwyn argymell a ddylid cynnal asesiad diagnostig gyda grŵp.

3. Cynnal asesiad diagnostig 1:1 gyda’r grŵp er mwyn pennu eu parodrwydd ar gyfer cyflwyno cais COF, hyfywedd y prosiect, ac anghenion cymorth y grŵp.

4. Cadarnhau’r pecyn cymorth manwl gyda nifer penodol o ddiwrnodau o gefnogaeth a’r tasgau i’w cyflawni gyda’r grŵp.

Y metrigau cenedlaethol a ddefnyddiwyd yng ngham 1 yw:

  • Lefel yr amddifadedd, a geir drwy ddefnyddio’r Mynegeion Amddifadedd Lluosog ar gyfer Cymru, Lloegr a’r Alban. Yng Ngogledd Iwerddon bydd Mesur Amddifadedd Lluosog Gogledd Iwerddon yn cael ei ddefnyddio.
  • Lefel y seilwaith cymdeithasol, a ddarperir gan y Mynegai Anghenion Cymunedol ar gyfer Cymru, Lloegr a’r Alban. Nid yw hyn ar gael ar gyfer Gogledd Iwerddon. Bydd gwybodaeth leol a ddarperir gan y darparwr cymorth datblygu yn darparu cyd-destun y prosiect i helpu i lywio penderfyniadau.
  • Amrywiaeth ethnig, a gaiff ei ystyried drwy ddefnyddio data’r Cyfrifiad ar gyfer y ganran o’r ‘Pobl mewn Grŵp Lleiafrifoedd Ethnig (Prydeinig nad yw’n Wyn)’.

Gall y darparwr cymorth datblygu hefyd argymell prosiectau sy’n cael cymorth manwl am gyfradd lai o arian cyfatebol fel y nodir yn y prosbectws

Cyllid ychwanegol ar gyfer prosiectau Rownd 1 a Chyfnod ymgeisio 1 Rownd 2 sy’n wynebu pwysau oherwydd chwyddiant

Ym mis Chwefror 2023 penderfynodd y Gweinidogion y gallai prosiectau Rownd 1 a Chyfnod Ymgeisio 1 Rownd 2 wneud cais am arian atodol i reoli pwysau chwyddiant annisgwyl sy’n effeithio ar eu gallu i gyflawni’n gyffredinol fel busnes cymunedol cynaliadwy. Dim ond os darperir tystiolaeth i ddangos yr effaith nas rhagwelwyd y mae chwyddiant wedi’i chael ar gostau eu prosiect y cytunir ar hyn. Cymeradwywyd y broses hon gan yr Uwch Swyddog Cyfrifol (SRO) ar gyfer y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol.

Mae’r cymorth hwn ar gael i brosiectau Rownd 1 a Rownd 2 Cyfnod Ymgeisio 1 yn unig. Disgwyliwn i ymgeiswyr y dyfodol roi cyfrif am bwysau chwyddiant yn eu cynlluniau busnes ac felly ni fyddant yn wynebu pwysau annisgwyl.

Cyhoeddwyd ar 27 October 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 5 July 2023 + show all updates
  1. Updated Welsh translation.

  2. Updating the explanation of the assessment and decision making process.

  3. Updated to separate ministerial and internal decision making.

  4. Added translation

  5. Amended to include the reopening of round 1.

  6. Added translation

  7. First published.