Canllawiau

Cofnodi prisiau gwartheg pwysau marw: canllawiau i ladd-dai

Mae'n rhaid i ladd-dai ym Mhrydain Fawr sy'n ymdrin â lefel uchel o garcasau gwartheg anfon data am brisiau i'r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB) bob wythnos.

Applies to England and Wales

Adrodd Prisiau Pwysau Marw (DWPR) yw’r cynllun lle mae’n rhaid i ladd-dai mwy gyflwyno data prisiau swmp wythnosol ar gyfer carcasau buchol (gwartheg, bison a byfflo). Defnyddir gwybodaeth prisiau pwysau marw a gesglir i benderfynu a oes angen cefnogaeth y diwydiant.

Pa ladd-dai y mae angen iddynt gofnodi eu prisiau

Mae’n rhaid i ladd-dai sy’n lladd mwy nag 20,000 o anifeiliaid buchol llawn dwf 8 mis oed neu drosodd bob blwyddyn (a gyfrifir ar sail cyfartaledd blynyddol treigl) gyflwyno eu prisiau bob wythnos i’r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB).

Mae angen i ladd-dai hefyd gadw a darparu manylion unrhyw daliadau atodol a wneir ar ôl i’r data cychwynnol gael ei gyflwyno. Rhaid anfon y wybodaeth hon at Defra yn unig.

Ble a phryd i anfon gwybodaeth

Mae’n rhaid i chi anfon y wybodaeth dros e-bost i dead.weight@ahdb.org.uk erbyn nos Lun bob wythnos.

Rhaid e-bostio gwybodaeth daliad atodol i prices@defra.gov.uk cyn pen 7 diwrnod o ddiwedd y chwarter y gwnaed y taliad ynddo. Nid oes rhaid i chi gyflwyno’r data hwn i AHDB.

Pa anifeiliaid y dylid eu cynnwys

Mae’n rhaid i’ch data gyfeirio at wartheg unigol a laddwyd yn ystod yr wythnos flaenorol (o’r dydd Llun i’r dydd Sul).

Dim ond anifeiliaid yr ydych yn eu prynu gan gyflenwyr ar sail pwysau marw ac a ddosbarthwyd yn erbyn graddfa’r Undeb y dylech eu cofnodi.

Peidiwch â chofnodi:

  • prisiau ar gyfer anifeiliaid a brynwyd o farchnadoedd pwysau byw
  • prisiau ar gyfer anifeiliaid a laddwyd yn eich lladd-dy ar ran trydydd parti ar sail contract lladd
  • prisiau cyfradd safonol

Sut i gofnodi prisiau pwysau marw

Mae’n rhaid i chi ddarparu’r canlynol ar gyfer pob anifail, yn y drefn hon:

  • dyddiad lladd
  • y fanyleb trin
  • categori’r carcas
  • pwysau
  • dosbarth cydymffurfio
  • dosbarth braster
  • pris
  • rhif lladd

Caiff pob un o’r darnau hyn o ddata ei gynrychioli gan rifau a/neu lythrennau fel y disgrifir isod. Mae’r codau rhifau a llythrennau hyn yn ffurfio cadwyn hir ar gyfer pob anifail.

Y fanyleb trin

Mae data ar fanylebau trin yn galluogi AHDB i addasu prisiau er mwyn gallu eu cymharu.

Pan fyddwch yn cofnodi prisiau, dewiswch y cod sy’n nodi pa un o’r tair manyleb a ganiateir a ddefnyddiwyd gennych:

Manyleb Cod
Cyfeirnod CE 1
Manyleb y DU 2
Manyleb Safonol 3

Categori

Defnyddiwch y categorïau dosbarthu carcasau cig eidion, fel y’u nodir yn y tabl isod.

Categori Disgrifiad
A Carcas anifail gwryw heb ei sbaddu rhwng 12 mis oed a 24 mis oed
B Carcas anifail gwryw heb ei sbaddu dros 24 mis oed
C Carcas anifail gwryw heb ei sbaddu dros 12 mis oed
D Carcas anifail benyw sydd wedi bwrw llo
E Carcas anifail benyw arall dros 12 mis oed
Z Carcas anifail (gwryw neu fenyw) rhwng 8 a 12 mis oed

Pwysau

Cofnodwch y pwysau talu (y pwysau y talwyd y cyflenwr amdano mewn perthynas â’r carcas, a elwir weithiau yn bwysau tâl) mewn cilogramau, wedi’i dalgrynnu i’r cilo agosaf, neu i un lle degol.

Dosbarthiadau cydymffurfio a braster

Dylech ddisgrifio’r dosbarthiadau cydymffurfio a braster ar gyfer pob categori o garcas gan ddefnyddio’r un codau â chodau’r cynllun Dosbarthu Carcasau Cig Eidion.

Dim ond carcasau â’r dosbarthiadau yn y tabl isod y dylech eu cofnodi.

Categori Disgrifiad
A U2, U3, R2, R3, O2 ac O3
B R3
C U2, U3, U4, R3, R4, O3 ac O4
D R3, R4, O2, O3, O4, P2 a P3
E U2, U3, R2, R3, R4, O2, O3 ac O4
Z U2, U3, R2, R3, O2 ac O3

Pris

Cofnodwch y pris rydych yn ei dalu i’r cyflenwr am bob anifail pan ddaw’r anifail hwnnw i’r lladd-dy:

  • mewn ceiniogau fesul cilo, wedi’i dalgrynnu i’r geiniog gyfan agosaf neu i un lle degol
  • ac eithrio TAW
  • gan gynnwys bonysau am elfennau megis bridiau prin neu frodorol, heb GM, Sicrwydd Fferm ac organig
  • cyn i unrhyw ddidyniadau gael eu gwneud ar gyfer costau cysylltiedig fel caffael, cludo, yswiriant, prosesu a lladd, costau cludo carcas ar gyfer pob anifail, archwilio cig, golchi lorïau, ardoll AHDB ac unrhyw daliadau eraill ‘islaw’r llinell’. (A ‘o dan y llinell’ a fydd didyniad fod yn fach ac yn ddibwys o’u cymharu â gwerth carcas.)

Os ydych chi’n cyfyngu’r pwysau y telir carcas arno, yna rhowch wybod am y pris y cilo fel cyfanswm y pris a dalwyd, wedi’i rannu â phwysau gwirioneddol y carcas.

Os byddwch yn cofnodi prisiau am garcasau gyda dwrn yr aren a braster sianel (KKCF) wedi’u cynnwys, dylech nodi hyn yn glir. Bydd AHDB yn addasu’r prisiau er mwyn gallu cymharu’r holl brisiau (ar y sail nad yw’r carcasau yn cynnwys KKCF).

Rhif lladd

Gall y rhif lladd gynnwys unrhyw nifer o ddigidau, ond mae’n rhaid i’r nifer honno barhau’n ddigyfnewid ar gyfer canolfan benodol. Felly os yw eich lladd-dy yn defnyddio rhifau lladd 12-digid, ond am ryw reswm y caiff rhifau 11-digid eu pennu weithiau, mae’n rhaid i chi ychwanegu gofod neu sero er mwyn sicrhau bod 12 rhif yn ymddangos ar gadwyn data’r DWPR ar gyfer pob anifail (peidiwch â defnyddio tabiau).

Sut i anfon y data

I gael cyngor manwl ar y fformat ar gyfer cyflwyno eich data, cysylltwch ag AHDB.

Rhaid e-bostio gwybodaeth am daliadau atodol i prices@defra.gov.uk

Archwiliadau

Os yw eich lladd-dy yn cofnodi prisiau pwysau marw, caiff eich cofnodion eu harchwilio unwaith bob chwarter. Os yw eich lladd-dy yng Nghymru neu Loegr, caiff ei archwilio gan Arolygiaeth Da Byw a Chig yr Asiantaeth Taliadau Gwledig (RPA).

Cânt eu cynnal yn ystod archwiliadau dirybudd arferol o ladd-dai buchol.

Beth fydd yr arolygydd yn ei wneud

Bydd gan yr arolygydd y wybodaeth am brisiau a ddarparwyd gennych i AHDB ar gyfer wythnos benodedig. Bydd yn cymharu’r wybodaeth hon â chofnodion eich lladd-dy.

Bydd yr arolygydd yn cysoni:

  • o leiaf 10% o’r wybodaeth ar daflenni lladd â’r anfonebau cynhyrchwyr
  • o leiaf 10% o’r wybodaeth ar allbrintiadau gan AHDB o’r prisiau a gyflwynwyd gennych â’r cofnodion taliadau

Os yw’r arolygydd yn canfod problemau, gall RPA gymryd camau gorfodi yn eich erbyn am beidio â chydymffurfio â’r gofynion DWPR.

Yr hyn y mae’n rhaid i chi ei wneud

Fel gweithredwr lladd-dy, mae’n rhaid i chi roi pob cymorth a gwybodaeth resymol sydd eu hangen ar y swyddogion archwilio i gynnal yr archwiliad. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod cofnodion ar gael i’w harchwilio.

Ni ddylech wrthod mynediad i’ch safle mewn perthynas ag archwiliad nac atal arolygydd rhag cyflawni ei waith (gan gynnwys drwy roi gwybodaeth ffug). Os byddwch yn gwneud hynny, rydych yn cyflawni trosedd, a allai arwain yn uniongyrchol at erlyniad, ac o bosibl ddirwy neu ddedfryd o garchar.

Camau gorfodi a chosbau os na fyddwch yn cydymffurfio

Os na fydd lladd-dy trwyddedig a weithredir gennych yn cydymffurfio â’r rheoliadau perthnasol, gallech fod yn cyflawni trosedd a allai arwain yn uniongyrchol at erlyniad, ac o bosibl ddirwy neu ddedfryd o garchar.

Os yw eich lladd-dy yng Nghymru neu Loegr, gall RPA gymryd amrywiaeth o gamau. Mae’r ddogfen RPA Fixed Penalty Guidance yn cynnwys rhagor o wybodaeth am yr hyn a wna’r RPA pan fydd lladd-dai yn torri’r rheolau.

Mathau o gamau gorfodi

Gall RPA gymryd pedair lefel o gamau gweithredu:

  • hysbysiadau diffyg, sef rhybuddion anffurfiol sy’n rhoi amser i chi ddatrys y broblem; byddwch yn cael rhybudd llafar ar yr un pryd ac weithiau lythyr hefyd
  • hysbysiadau gorfodi, a gyhoeddir pan fydd yr arolygydd yn gweld nad yw’r broblem wedi’i datrys pan fydd yn ymweld eto; bydd yr hysbysiad yn datgan y drosedd y mae’r arolygydd o’r farn eich bod yn ei chyflawni ac yn dynodi’r mesurau y mae’n rhaid I chi eu rhoi ar waith o fewn cyfnod amser penodedig; bydd hefyd yn eich hysbysu o’ch hawl I apelio
  • hysbysiadau cosb, a roddir os na fyddwch yn cydymffurfio â hysbysiad gorfodi; bydd hysbysiad cosb yn pennu dirwy ac yn rhoi 28 diwrnod I chi ei thalu
  • erlyniad troseddol, os na fyddwch yn talu’r ddirwy a bennwyd yn yr hysbysiad cosb; gellir eich erlyn hefyd os byddwch yn methu â chydymffurfio â hysbysiad gorfodi

Os bydd cyfran uchel o’r carcasau a archwiliwyd yn destun sylw, neu os ydych wedi cyflawni trosedd yn y gorffennol, gall RPA gyhoeddi hysbysiad gorfodi heb roi hysbysiad diffyg yn gyntaf. Felly hefyd mewn perthynas â throseddau difrifol sy’n ymwneud â methu â hysbysu, trwyddedau a chofnodion a marciau.

Os ydych wedi cyflawni dwy drosedd neu fwy yn y gorffennol, gall RPA gyhoeddi hysbysiad cosb neu ddechrau erlyniad ar unwaith. Os bydd arolygydd yn dod o hyd i fwy nag un broblem yn ystod ymweliad, bydd RPA yn eu hystyried ar wahân at ddibenion gorfodi. Felly gallech dderbyn mwy nag un hysbysiad ar ôl arolygiad.

Dirwyon

Os bydd RPA yn eich erlyn, a chewch eich collfarnu o drosedd sy’n ymwneud â marcio neu labelu carcasau mewn ffordd sy’n debygol o gamarwain, nid oes terfyn i’r ddirwy y gall y llys ei phennu ar eich cyfer. Gall troseddau eraill arwain at ddirwyon posibl o hyd at £5,000.

Sut i apelio

Yr unig fath o gam gweithredu y gallwch apelio yn ei erbyn yw hysbysiad gorfodi. Mae dwy ffordd o wneud hyn:

Bydd gennych un mis o ddyddiad yr hysbysiad gorfodi i wneud cwyn i lys yr ynadon.

Rheoliadau perthnasol

Manylion Cyswllt

Tîm Cynlluniau Technegol Cig RPA sy’n gweinyddu DWPR ar gyfer Cymru a Lloegr.

Meat Technical Schemes

Rural Payments Agency
Eden Bridge House
Lowther Street
Carlisle
Cumbria
CA3 8DX

E-bost MTS.Carlisle@rpa.gov.uk

Telephone 03300 416508

Cyhoeddwyd ar 31 March 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 June 2023 + show all updates
  1. Contact updated from RPA to Defra.

  2. Updated bullet points under heading 'Price'

  3. Regulation 1308/2013 changed to EUR 2013/1308 and Commission Delegated Regulation (EU) 2017/1182 and Commission Implementing Regulation (EU) 2017/1184 changed to Regulation EUR 2017/1182 and EUR 2017/1184

  4. Added link to penalty notice

  5. Text reviewed and updated

  6. Additional guidance added following the introduction of new procedure for reporting supplementary payment information to RPA

  7. Update to 'How to report on deadweight pricing' section for clarity.

  8. First published.