Skip to main content
Canllawiau

Hawlio Rhyddhad Treth Theatr ar gyfer Treth Gorfforaeth

Gwirio a yw’ch cwmni yn gymwys i gael Rhyddhad Treth Theatr ar gyfer Treth Gorfforaeth, a’r hyn y gallwch ei hawlio.

Pwy all hawlio

Mae’n rhaid bod y canlynol yn wir am eich cwmni:

  • mae’n cymryd rhan weithredol yn y gwaith cynllunio a phenderfynu

  • mae’n gweithio’n uniongyrchol i drafod, contractio a thalu am hawliau, nwyddau a gwasanaethau

  • mae’n gyfrifol am redeg y cynhyrchiad o’r dechrau i’r diwedd, gan gynnwys gwneud y canlynol:

    • cyflogi’r perfformwyr

    • hurio’r perfformwyr

Gwiriwch a yw’ch cwmni’n gymwys fel y cwmni cynhyrchu cyn hawlio’r rhyddhad.

Gwirio a yw’r cynhyrchiad yn gymwys i gael rhyddhad treth

Gall eich cwmni hawlio’r rhyddhad os yw’r canlynol yn wir:

  • mae’n llwyfannu un o’r cynyrchiadau theatr cymhwysol canlynol:

    • drama, opera, sioe gerdd neu ddarn dramatig arall sy’n adrodd stori lle mae’r perfformiadau’n fyw a bod y perfformwyr yn cyflawni perfformiadau drwy chwarae rolau

    • ballet

  • prif bwrpas y gynulleidfa yw gwylio’r perfformiad

  • mae’r perfformiadau i gyd, neu’r rhan fwyaf ohonynt, ar gyfer aelodau o’r cyhoedd sy’n talu, neu at ddibenion addysgol

  • mae o leiaf 25% o’r ‘costau craidd’ yn cael eu gwario ar nwyddau neu wasanaethau a ddarperir o’r tu mewn i’r DU neu’r UE, Norwy, Gwlad yr Iâ a Liechtenstein, sef yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) — o 1 Ebrill 2024 ymlaen, mae’n rhaid i o leiaf 10% o’r ‘costau craidd’ fod yn gysylltiedig â gweithgarwch yn y DU

Costau craidd yw’r hyn a wariwyd ar redeg y cynhyrchiad theatr a’i gau. Nid yw’n cynnwys unrhyw gostau a godir yn ystod rhediad y cynhyrchiad.

Ni all eich cwmni hawlio’r rhyddhad os yw’r canlynol yn wir am y cynhyrchiad:

  • prif bwrpas y cynhyrchiad, neu un o’i brif bwrpasau, yw hysbysebu neu hyrwyddo nwyddau neu wasanaethau

  • mae’r cynhyrchiad yn cynnwys cystadleuaeth

  • mae’r cynhyrchiad yn defnyddio anifail gwyllt

  • mae’r cynhyrchiad yn cynnwys golygfeydd o natur rywiol

  • prif bwrpas y cynhyrchiad, neu un o’i brif bwrpasau, yw recordio’r perfformiad

  • mae’r cynhyrchiad wedi’i gynhyrchu at ddibenion hyfforddi

Gallwch wirio a yw’r cynhyrchiad yn gymwys i gael y rhyddhad hwn.

Yr hyn y gallwch ei hawlio

Gallwch hawlio didyniad ychwanegol i ostwng eich elw, neu i gynyddu colled. Bydd hyn yn gostwng swm y Dreth Gorfforaeth y bydd yn rhaid i chi ei dalu.

Y didyniad ychwanegol yw’r isaf o’r naill neu’r llall o’r canlynol:

  • 80% o gyfanswm y costau craidd

  • swm y costau craidd a wariwyd ar nwyddau neu wasanaethau a ddarperir o’r tu mewn i’r DU neu’r AEE — o 1 Ebrill 2024 ymlaen, bydd yn rhaid nodi swm y costau craidd sy’n gysylltiedig â gweithgarwch yn y DU

Os byddwch yn gwneud colled, gall yr holl golled, neu ran ohoni, gael ei hildio yn gyfnewid am gredyd treth taladwy.

Y gyfradd bresennol ar gyfer ildio colledion yw 40%. Gallwch ildio colledion ar gyfradd uwch o 45% os yw’ch cynhyrchiad ar daith.

Er mwyn i’ch cynhyrchiad gael ei ystyried fel un sydd ar daith, mae’n rhaid i o leiaf un o’r canlynol fod yn wir:

  • yn ystod camau cyntaf y cynhyrchiad, mae’n rhaid eich bod yn bwriadu perfformio’r cynhyrchiad mewn o leiaf 6 safle ar wahân

  • bydd o leiaf 14 perfformiad, a bydd y rhain yn cael eu perfformio mewn o leiaf 2 safle ar wahân

Cyfrifwch faint o ryddhad treth y diwydiant creadigol y gallwch ei hawlio ar gyfer eich cynhyrchiad.

Pryd y gallwch hawlio

Gallwch wneud hawliad am Ryddhad Treth Theatr, diwygio’ch hawliad neu ei dynnu, hyd at un flwyddyn ar ôl dyddiad cyflwyno Ffurflen Dreth y Cwmni.

Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2024, gallwch wneud hawliad am Ryddhad Treth Theatr, diwygio’ch hawliad neu ei dynnu, hyd at 2 flynedd ar ôl diwedd y cyfnod cyfrifyddu y mae’n berthnasol iddo.

Mae’n bosibl y gall CThEF dderbyn hawliadau hwyr o dan rai amgylchiadau.

Sut i hawlio

Rydych yn hawlio’r credydau gwariant ar eich Ffurflen Dreth y Cwmni (yn agor tudalen Saesneg). Os byddwch yn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2026, mae’n rhaid i chi gynnwys tudalen atodol CT600P Diwydiannau Creadigol.

Bydd angen i chi gyfrifo’r canlynol:

  • didyniadau ychwanegol sy’n ddyledus i’ch cwmni

  • unrhyw gredyd taladwy sy’n ddyledus i’ch cwmni

Mae’n rhaid i chi gyflwyno ffurflen wybodaeth ychwanegol (yn agor tudalen Saesneg) fel tystiolaeth ar gyfer eich hawliad am ryddhad treth y diwydiant creadigol.

Ar gyfer pob cynhyrchiad, mae’n rhaid i chi roi’r canlynol:

  • teitl y cynhyrchiad

  • dyddiad dechrau’r cynhyrchiad

  • datganiad o’r costau craidd, wedi’u rhannu fel y ganlyn:

    • costau yn y DU neu’r AEE

    • costau nad ydynt yn y DU neu’r AEE

  • dadansoddiad o’r costau fesul categori

Os ydych yn hawlio’r gyfradd rhyddhad ar gyfer cynyrchiadau ar daith, bydd hefyd angen i chi roi nifer y perfformiadau a fydd yn cael eu cynnal ym mhob safle, a dyddiadau’r perfformiadau hyn.

Rhagor o wybodaeth

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth, gan gynnwys enghreifftiau o sut mae’r rhyddhad yn cael ei gyfrifo:

Argraffu'r dudalen hon