Skip to main content
Canllawiau

Gwirio’ch dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno Ffurflenni Treth a’u talu

Defnyddiwch yr offeryn hwn i ddysgu am eich dyddiadau cau treth a’u hychwanegu at eich calendr.

Yr hyn y gallwch ei wneud â’r offeryn hwn

Defnyddiwch yr offeryn hwn i wirio’r dyddiadau cau ar gyfer y canlynol:

  • Cynllun y Diwydiant Adeiladu os ydych yn gontractwr
  • TWE os ydych yn gyflogwr
  • Hunanasesiad
  • TAW

Bydd eich dyddiadau cau yn seiliedig ar yr wybodaeth a roddwyd gennych. Byddwch hefyd yn cael yr opsiwn i argraffu’ch dyddiadau cau, neu eu hychwanegu at eich calendr.

Calendrau sy’n cydweddu â’r offeryn hwn

Gallwch ychwanegu eich dyddiadau cau at y rhan fwyaf o raglenni calendr ar eich cyfrifiadur, ffôn neu dabled.

Os ydych yn defnyddio’r offeryn hwn ar iPhone neu iPad, bydd angen i chi ddefnyddio Safari i ychwanegu’ch dyddiadau cau at eich calendr Apple.

Cyn i chi ddechrau

Ar gyfer rhai trethi, bydd angen i chi wybod yr wybodaeth ganlynol:

  • dyddiad dechrau a dyddiad dod i ben eich cyfnod cyfrifyddu
  • sut i dalu’ch bil treth
  • sut rydych yn anfon eich Ffurflenni Treth — drwy’r post neu ar-lein

Bydd yr offeryn hwn yn cymryd tua 5 munud i chi ei lenwi.

Nid oes angen i chi fewngofnodi i ddefnyddio’r offeryn hwn. Nid yw’r wybodaeth a roddwyd gennych er mwyn pennu’ch dyddiadau cau yn cael ei rhoi i CThEF.

Gwirio nawr

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 13 Awst 2026

Argraffu'r dudalen hon