Apelio yn erbyn cosb Hunanasesiad am gyflwyno neu dalu’n hwyr
Dysgwch sut i apelio yn erbyn cosb Hunanasesiad ar gyfer unigolyn neu bartneriaeth.
Pryd caiff cosb ei rhoi i chi
Bydd CThEF yn anfon hysbysiad o gosb atoch chi os byddwch yn methu’r dyddiad cau am naill ai:
-
anfon eich Ffurflen Dreth
-
talu’ch treth Hunanasesiad mewn pryd
Os nad ydych yn cytuno bod cosb yn ddyledus, gallwch apelio i CThEF yn ei herbyn.
Os byddwch yn apelio, dylech ystyried talu’r gosb. Os nad ydych yn ystyried talu, a bod eich apêl yn cael ei gwrthod, bydd yn rhaid i chi dalu llog ar y gosb o’r dyddiad yr oedd yn ddyledus hyd at y dyddiad rydych yn ei thalu.
Os ydym yn cytuno â’ch apêl, byddwn yn ad-dalu’r swm rydych wedi’i dalu gyda llog o’r dyddiad y gwnaethoch ei dalu (os nad oes gennych unrhyw dreth arall sy’n dal i fod heb ei thalu).
Os nad oes angen i chi gyflwyno Ffurflen Dreth
Gallwch ofyn i ni ganslo cosb os nad oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth i ni mwyach.
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen y canlynol arnoch:
-
y dyddiad y cafodd y gosb ei chodi
-
y dyddiad y cyflwynwyd eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad gennych (os ydych wedi’i chyflwyno)
-
y dyddiad y gwnaethoch dalu’ch treth (os ydych wedi’i thalu)
-
manylion am eich esgus rhesymol dros gyflwyno’ch Ffurflen Dreth yn hwyr, neu dros beidio â gwneud eich taliad mewn pryd
Sut i apelio
Defnyddiwch yr offeryn hwn er mwyn gwirio sut i apelio yn erbyn cosb Hunanasesiad ar gyfer unigolyn neu bartneriaeth.
Byddwch yn gallu naill ai:
-
gwneud eich apêl ar-lein
-
lawrlwytho ffurflen SA370 neu ffurflen SA371 er mwyn gwneud apêl drwy’r post
Ar ôl i chi gyflwyno’ch apêl
Dysgwch pryd y gallwch ddisgwyl ymateb gan CThEF ar ôl cyflwyno’ch apêl.
Gallwch ofyn i CThEF adolygu’r penderfyniad os ydych yn anghytuno â’r penderfyniad.
Gwiriwch sut i dalu cosb Hunanasesiad.