Canllawiau

Gwirio a yw’r cyfnod pontio ar gyfer pensiynau’r gwasanaeth cyhoeddus wedi effeithio ar eich cleient

Sut i gyfrifo sefyllfa dreth eich cleient os ydych yn asiant treth sy’n gweithredu ar ei ran a bod y cyfnod pontio ar gyfer pensiynau’r gwasanaeth cyhoeddus (sy’n cael ei alw’n McCloud) wedi effeithio arno.

Bydd angen i chi gael awdurdodiad ysgrifenedig i weithredu ar ran eich cleient os yw’r cyfnod pontio ar gyfer pensiynau’r gwasanaeth cyhoeddus wedi effeithio arno, a bod y cleient am i chi roi gwybod am newidiadau i’w sefyllfa dreth o ran y canlynol:

  • taliadau lwfans oes
  • taliadau lwfans blynyddol
  • taliadau heb eu hawdurdodi

Cyn i chi ddechrau

I ddefnyddio’r gwasanaeth, bydd angen i chi gael gwybodaeth gan eich cleient am unrhyw daliadau lwfans blynyddol a lwfans oes, gan gynnwys:

  • datganiadau cynilion pensiwn, gan gynnwys unrhyw ddatganiadau diwygiedig
  • manylion cyfanswm incwm trethadwy eich cleient — os na allwch ddarparu’r manylion hyn, gofynnir i chi am yr wybodaeth sydd ei hangen i gyfrifo cyfanswm yr incwm trethadwy
  • manylion incwm trothwy eich cleient — os na allwch ddarparu’r manylion hyn, gofynnir i chi am yr wybodaeth sydd ei hangen i gyfrifo’r incwm trothwy
  • manylion incwm wedi’i addasu eich cleient – os na allwch ddarparu’r manylion hyn, gofynnir i chi am yr wybodaeth sydd ei hangen i gyfrifo’r incwm wedi’i addasu
  • manylion lwfans personol eich cleient o flwyddyn dreth 2015 i 2016 hyd at a chan gynnwys blwyddyn dreth 2022 i 2023 — os na allwch ddarparu’r manylion hyn, bydd angen i chi ofyn i’ch cleient edrych ar ei P60 neu gyfrif treth personol i gael yr wybodaeth hon
  • Ffurflenni Treth Hunanasesiad, os yw’ch cleient wedi’u cyflwyno
  • datganiad ymddeoliad neu ddatganiad digwyddiad crisialu buddiannau, os yw’n berthnasol
  • manylion unrhyw gynlluniau pensiwn gwasanaeth cyhoeddus yr oedd eich cleient yn aelod ohonynt rhwng blynyddoedd treth 2015 i 2016 a 2022 i 2023, a chan gynnwys y blynyddoedd hynny
  • manylion banc eich cleient (os oes ad-daliad yn ddyledus i’r cleient)

Sut mae gwirio sefyllfa dreth eich cleient ar ôl y cyfnod pontio

  1. Defnyddiwch y gwasanaeth Cyfrifo’ch addasiad i bensiwn gwasanaeth cyhoeddus i wirio sefyllfa dreth eich cleient.

  2. Gallwch lawrlwytho neu argraffu’r wybodaeth ar ddiwedd y gwasanaeth.

  3. Os nad oes gennych ffurflen i roi gwybod am unrhyw newidiadau, gofynnwch am un drwy anfon e-bost i publicservicepensionsremedy@hmrc.gov.uk gan nodi ‘Ffurflen asiant (Agent form)’ yn y llinell pwnc.

  4. Defnyddiwch yr wybodaeth rydych wedi’i chael gan y gwasanaeth i lenwi’r ffurflen.

  5. Dylech ddychwelyd yr wybodaeth rydych wedi’i chael gan y gwasanaeth ynghyd â’r ffurflen gyflawn (ac awdurdodiad ysgrifenedig gan eich cleient i weithredu ar ei ran) at CThEF, drwy anfon e-bost i publicservicepensionsremedy@hmrc.gov.uk — i ddychwelyd y ffurflen, bydd angen i chi gytuno i ohebu â CThEF dros e-bost.

Os oes angen i chi roi gwybod am newidiadau i sefyllfa dreth eich cleient ar gyfer taliadau heb eu hawdurdodi, bydd angen i chi ysgrifennu at CThEF drwy anfon e-bost i publicservicepensionsremedy@hmrc.gov.uk, gyda ‘taliadau heb eu hawdurdodi (unauthorised payments)’ wedi’i nodi yn y llinell pwnc.

Ar ôl i chi wneud cais

Os oes gan eich cleient daliadau treth ychwanegol i’w talu ar gyfer blwyddyn dreth 2019 i 2020 hyd at a chan gynnwys blwyddyn dreth 2022 i 2023, a bod eich cleient yn dewis eu talu, bydd CThEF yn rhoi hysbysiad i’ch cleient ac yn anfon copi atoch chi drwy’r post.

Bydd ad-daliadau treth i’ch cleient yn dibynnu ar y blynyddoedd treth pan oedd wedi gordalu treth.

Ad-dalu taliadau treth o flwyddyn dreth 2015 i 2016 hyd at a chan gynnwys blwyddyn dreth 2018 i 2019

Os oes ad-daliad o daliadau treth yn ddyledus i’ch cleient ar gyfer blwyddyn dreth 2015 i 2016 hyd at a chan gynnwys blwyddyn dreth 2018 i 2019, bydd CThEF yn adolygu’r wybodaeth ac yn ei throsglwyddo i gynllun pensiwn y gwasanaeth cyhoeddus, ynghyd â’ch manylion chi.

Bydd eich cynllun pensiwn yn gwneud y canlynol:

  • ad-dalu unrhyw daliadau treth y mae’ch cleient wedi’u gordalu
  • cynyddu buddiannau pensiwn eich cleient i gwmpasu swm yr ad-daliad sy’n ddyledus ar gyfer taliadau treth y gwnaeth y cynllun eu gordalu ar ran eich cleient

Efallai y bydd y cynllun pensiwn yn cysylltu â chi i ofyn am unrhyw wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen arno.

Ad-dalu taliadau treth o flwyddyn dreth 2019 i 2020 hyd at a chan gynnwys blwyddyn dreth 2022 i 2023

Os oes ad-daliad o daliadau treth yn ddyledus i’ch cleient ar gyfer blwyddyn dreth 2019 i 2020 hyd at a chan gynnwys blwyddyn dreth 2022 i 2023, bydd CThEF yn adolygu’r wybodaeth a roddir.

Lle bo’ch cleient wedi talu’r dreth yn uniongyrchol i CThEF, byddwn yn ad-dalu eich cleient gan ddefnyddio’r manylion banc rydych yn eu rhoi. Dim ond er mwyn gwneud ad-daliad y byddwn yn derbyn manylion banc eich cleient.

Lle bo’r cynllun pensiwn yn talu’r taliadau treth ar ran eich cleient, byddwn yn anfon y manylion i’r cynllun pensiwn. Wedyn, gall y cynllun pensiwn gynyddu buddiannau pensiwn eich cleient i gwmpasu swm yr ad-daliad sy’n ddyledus i’ch cleient ar gyfer taliadau treth y gwnaeth y cynllun eu gordalu ar ran eich cleient

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 5 Hydref 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 19 Medi 2024 show all updates
  1. Information that you need to provide about your client has been updated to include details about different allowances and incomes. Information about how repayments of tax charges are processed based on the tax years you are claiming for has also been updated.

  2. Clarified in 'how to check your client's tax position following the remedy' that you need to also send written authorisation from your client to act on their behalf.

  3. The information to check what you need before you use the service has been updated.

  4. First published.

Argraffu'r dudalen hon