Canllawiau

Gwirio a oes angen i chi roi gwybod i CThEF am eich incwm rhent

Gwiriwch a oes angen i chi ddatgan incwm o roi tir neu eiddo ar osod, am gyfnodau byr neu hir, gan gynnwys y rheiny sydd wedi’u hysbysebu ar-lein.

Os ydych yn cael incwm o roi tir neu eiddo ar osod, mae’n bosibl y bydd angen i chi roi gwybod i CThEF hyd yn oed os nad oes angen i chi dalu treth arno. Mae hyn yn cynnwys rhoi tir neu eiddo ar osod gan ddefnyddio’r canlynol:

  • marchnad ar-lein

  • asiantau eiddo

  • hysbyseb papur newydd

Pwy all ddefnyddio’r offeryn hwn

Gallwch ddefnyddio’r offeryn hwn i wirio a oes angen i chi roi gwybod i ni ynghylch incwm a gewch o roi’r canlynol ar osod:

  • ystafell yn eich prif gartref, gan gynnwys defnydd fel gwely a brecwast

  • eich prif gartref

  • eiddo nad yw’n brif gartref i chi

  • tir, er enghraifft eich dreif

Gallwch hefyd ddefnyddio’r offeryn hwn i wirio a oes angen i chi roi gwybod i CThEF am incwm a gewch o werthu nwyddau, eiddo personol neu wrth ddarparu gwasanaeth.

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen gwybodaeth ynghylch eich incwm rhent. Gallai hyn gynnwys:

  • faint a gawsoch, neu faint yr ydych yn disgwyl ei gael yn ystod y flwyddyn dreth

  • p’un a ydych yn rhannu’r incwm rhent hwn gydag unrhyw un arall

  • p’un a ydych yn cael incwm arall o roi tir neu eiddo arall ar osod

Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i gyfrifo a oes angen i chi roi gwybod i ni ynghylch yr incwm hwn.

Dechrau nawr

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 24 Hydref 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 19 Mawrth 2025 show all updates
  1. The message about the tool not being available if you use the special furnished holiday lettings rules on this income has been removed.

  2. Added translation

  3. First published.

Argraffu'r dudalen hon