Canllawiau

Gwirio a allwch hawlio’r Bonws Cadw Swyddi o 15 Chwefror 2021 ymlaen

Cael gwybod a ydych yn gymwys i hawlio’r Bonws Cadw Swyddi a’r hyn y mae angen i chi ei wneud i’w hawlio. Byddwch yn gallu ei hawlio rhwng 15 Chwefror 2021 a 31 Mawrth 2021.

This guidance was withdrawn on

The Job Retention Bonus has been withdrawn.

Ni allwch hawlio’r Bonws Cadw Swyddi tan 15 Chwefror 2021. Bydd yr arweiniad hwn yn cael ei ddiweddaru erbyn diwedd mis Ionawr 2021 gyda manylion ynghylch sut i gael mynediad at y gwasanaeth hawlio ar-lein ar GOV.UK.

Mae’r Bonws Cadw Swyddi yn daliad trethadwy untro o £1,000 i chi (y cyflogwr), ar gyfer pob cyflogai cymwys y gwnaethoch ei roi ar ffyrlo a’i gadw’n gyflogedig yn barhaus tan 31 Ionawr 2021.

Byddwch yn gallu hawlio’r bonws rhwng 15 Chwefror 2021 a 31 Mawrth 2021. Does dim rhaid i chi dalu’r arian hwn i’ch cyflogai.

Pwy all hawlio

Gallwch hawlio’r bonws os ydych yn gyflogwr sydd wedi rhoi cyflogeion ar ffyrlo ac wedi gwneud hawliad cymwys ar eu cyfer drwy ddefnyddio’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws. Mae’n rhaid i’ch cyflogai fod wedi bod yn gymwys i gael grant drwy’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws i chi fod yn gymwys i gael y bonws.

Gallwch hawlio’r bonws o hyd os ydych yn cyflwyno hawliad ar gyfer y cyflogai hwnnw drwy’r Cynllun Cynnal Swyddi. Bydd arweiniad ar y Cynllun Cynnal Swyddi’n cael ei gyhoeddi’n fuan.

Os ydych wedi ad-dalu symiau’r grant Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws i CThEM

Ni allwch hawlio’r bonws ar gyfer unrhyw gyflogai nad ydych wedi’i dalu gan ddefnyddio grant y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws gan nad ydych wedi ad-dalu symiau’r grant yr hawlioch ar eu cyfer. Mae hyn yn berthnasol waeth beth yw’r rheswm pam y gwnaethoch ad-dalu symiau’r grant.

Cyflogeion y gallwch hawlio ar eu cyfer

Gallwch hawlio ar gyfer y cyflogeion canlynol:

  • cyflogeion y gwnaethoch hawliad cymwys ar eu cyfer o dan y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws
  • cyflogeion y gwnaethoch gadw mewn cyflogaeth barhaus o ddiwedd cyfnod hawlio eich hawliad diwethaf ar eu cyfer drwy’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws, hyd at 31 Ionawr 2021
  • cyflogeion nad ydynt yn ymgymryd â chyfnod rhybudd statudol neu gontractiol i chi ar 31 Ionawr 2021 (mae hyn yn cynnwys pobl sy’n ymgymryd â rhybudd o ymddeoliad)
  • cyflogeion y gwnaethoch dalu digon iddynt ym mhob mis treth perthnasol a digon i fodloni trothwy incwm lleiaf y Bonws Cadw Swyddi

Os yw CThEM yn gwirio’ch hawliadau Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws o hyd, gallwch barhau i hawlio’r Bonws Cadw Swyddi ond mae’n bosibl y bydd oedi i’ch taliad nes bod y gwiriadau hynny wedi’u cwblhau.

Ni fydd CThEM yn talu’r bonws os gwnaethoch hawliad anghywir drwy’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws ac nad oedd eich cyflogai’n gymwys ar gyfer y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws.

Cyflogeion sydd wedi’u trosglwyddo i chi o dan TUPE neu oherwydd newid o ran perchnogaeth

Efallai y byddwch yn gymwys i hawlio’r Bonws Cadw Swyddi ar gyfer cyflogeion o fusnes blaenorol y cawsant eu trosglwyddo i chi os yw’r canlynol yn wir:

  • roedd rheolau TUPE yn berthnasol
  • roedd y rheolau dilyniant busnes ar gyfer TWE yn berthnasol
  • roedd y cyflogeion yn gysylltiedig â throsglwyddiad busnes o ddatodwr cwmni sy’n destun datodiad gorfodol, lle y byddai TUPE wedi bod yn berthnasol pe na bai’r cwmni mewn datodiad gorfodol

I hawlio’r Bonws Cadw Swyddi ar gyfer cyflogeion sydd wedi’u trosglwyddo i chi, mae’n rhaid i chi fod wedi eu rhoi ar ffyrlo ac wedi hawlio ar eu cyfer drwy’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws yn llwyddiannus, fel eu cyflogwr newydd. Mae’n rhaid i’r cyflogeion fodloni’r holl feini prawf cymhwystra perthnasol i gael y Bonws Cadw Swyddi.

Mae hyn yn golygu na fyddwch yn gallu hawlio’r Bonws Cadw Swyddi ar gyfer unrhyw gyflogeion sy’n cael eu trosglwyddo i chi ar ôl i’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws ddod i ben ar 31 Hydref 2020.

Hawlio ar gyfer unigolyn nad yw’n gyflogai

Gallwch hawlio’r Bonws Cadw Swyddi ar gyfer unigolion nad ydynt yn gyflogeion, megis deiliaid swydd neu weithwyr asiantaeth, cyn belled â’ch bod wedi hawlio grant ar eu cyfer drwy’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws a bod y meini prawf cymhwystra eraill ar gyfer y Bonws Cadw Swyddi’n cael eu bodloni.

Y trothwy incwm lleiaf

I fod yn gymwys i gael y bonws, mae’n rhaid i chi sicrhau bod eich cyflogeion wedi cael eu talu o leiaf y trothwy incwm lleiaf.

Er mwyn bodloni’r trothwy incwm lleiaf, mae’n rhaid i chi dalu o leiaf cyfanswm o £1,560 (gros) i’ch cyflogai drwy gydol y misoedd treth canlynol:

  • 6 Tachwedd i 5 Rhagfyr 2020
  • 6 Rhagfyr 2020 i 5 Ionawr 2021
  • 6 Ionawr i 5 Chwefror 2021

Mae’n rhaid i chi dalu’ch cyflogai o leiaf un taliad o enillion trethadwy (o unrhyw swm) ym mhob un o’r misoedd treth perthnasol.

Mae’r meini prawf ar gyfer y trothwy incwm lleiaf yn berthnasol waeth beth:

  • pa mor aml yr ydych yn talu eich cyflogeion
  • unrhyw amgylchiadau a allai fod wedi gostwng cyflog eich cyflogai yn ystod y cyfnodau treth perthnasol, megis bod ar absenoldeb statudol neu absenoldeb di-dâl

Byddwn yn gwirio bod eich cyflogeion wedi cael o leiaf y trothwy incwm lleiaf drwy wirio gwybodaeth y gwnaethoch ei chyflwyno drwy Gyflwyniadau Taliadau Llawn drwy Wybodaeth Amser Real (RTI).

Pa daliadau sy’n cael eu cynnwys yn y trothwy incwm lleiaf

Dim ond taliadau sy’n cael eu cofnodi fel cyflog trethadwy fydd yn cyfrif tuag at y trothwy incwm lleiaf. Rhoddir gwybod am gyflog trethadwy i CThEM fel ffigwr unigol drwy Gyflwyniadau Taliadau Llawn drwy Wybodaeth Amser Real (RTI).

Dewch o hyd i enghreifftiau o gyflogeion a’r trothwy incwm lleiaf.

Os ydych yn gwneud diswyddiadau

Os gwnewch ddiswyddiadau, mae’n rhaid i chi gydymffurfio â’r rheolau arferol ar gyfer diswyddo, sy’n cynnwys defnyddio meini prawf diswyddo teg. Mae’r rheolau hyn yn berthnasol hyd yn oed os yw hyn yn golygu bod llai o’ch cyflogeion yn gymwys i gael y Bonws Cadw Swyddi.

Paratoi i hawlio

Ni allwch hawlio’r bonws tan 15 Chwefror 2021. Bydd yr arweiniad hwn yn cael ei ddiweddaru erbyn diwedd mis Ionawr 2021 gyda manylion ynghylch sut i gael mynediad at y gwasanaeth hawlio ar-lein ar GOV.UK.

Cyn i chi allu hawlio’r bonws, bydd yn rhaid i chi fod wedi rhoi gwybod i CThEM am yr holl daliadau a wnaed i’ch cyflogai rhwng 6 Tachwedd 2020 a 5 Chwefror 2021 drwy Gyflwyniadau Taliadau Llawn drwy Wybodaeth Amser Real (RTI).

Mae rhai camau y mae’n rhaid i chi eu cymryd nawr i sicrhau eich bod yn barod i hawlio.

Mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

  • dal i fod wedi cofrestru ar gyfer TWE ar-lein
  • cydymffurfio â’ch rhwymedigaethau TWE i gyflwyno TWE yn gywir ac mewn pryd gan ddefnyddio Gwybodaeth Amser Real (RTI) ar gyfer pob cyflogai rhwng 6 Ebrill 2020 a 5 Chwefror 2021
  • cadw’ch cyflogres yn gyfoes a gwneud yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod am ddyddiad gadael unrhyw gyflogeion sy’n rhoi’r gorau i weithio i chi erbyn diwedd y cyfnod cyflog y mae’n gadael ynddo
  • defnyddio’r dangosydd patrwm taliad afreolaidd mewn Gwybodaeth Amser Real (RTI) ar gyfer unrhyw gyflogeion nad ydynt yn cael eu talu’n rheolaidd
  • cydymffurfio â phob cais gan CThEM i ddarparu unrhyw ddata cyflogeion ar gyfer hawliadau drwy’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws yn y gorffennol

Defnyddio asiant i wneud TWE ar-lein ac i hawlio’r Bonws Cadw Swyddi

Os ydych yn defnyddio asiant sydd wedi’i awdurdodi i weithredu TWE ar-lein i chi, bydd yn gallu hawlio’r Bonws Cadw Swyddi ar eich rhan.

Bydd yr arweiniad hwn yn cael ei ddiweddaru erbyn diwedd mis Ionawr 2021 gyda manylion ynghylch sut y gall asiantau hawlio’r bonws ar eich rhan.

Sut y caiff y Bonws Cadw Swyddi ei drin o ran treth

Mae’n rhaid i chi gynnwys taliadau a gewch o dan y cynllun fel incwm pan fyddwch yn cyfrifo’ch elw trethadwy at ddibenion Treth Incwm a Threth Gorfforaeth.

Gall busnesau ddidynnu costau cyflogaeth, fel arfer, wrth gyfrifo elw trethadwy at ddibenion Treth Incwm a Threth Gorfforaeth.

Ni fydd yn rhaid i unigolion â chyflogeion nad ydynt yn cael eu cyflogi fel rhan o fusnes (megis nanis neu staff domestig arall) dalu treth ar y grantiau a geir o dan y cynllun.

Pan fydd y llywodraeth yn dod â’r cynllun i ben

Bydd gennych tan 31 Mawrth 2021 i gyflwyno hawliad Bonws Cadw Swyddi. Bydd y cynllun yn dod i ben ar ôl hynny. Ni fydd unrhyw hawliadau pellach yn cael eu derbyn ar ôl y dyddiad hwn.

Ni fyddwch yn gallu hawlio tan 15 Chwefror 2021 a bydd yr arweiniad hwn yn cael ei ddiweddaru erbyn diwedd mis Ionawr 2021 gyda manylion ynghylch sut i gael mynediad at y gwasanaeth hawlio ar-lein.

Cysylltu â CThEM

Rydym yn derbyn nifer fawr iawn o alwadau ar hyn o bryd. Mae cysylltu â CThEM yn ddiangen yn peryglu ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Cael help ar-lein

Defnyddiwch gynorthwyydd digidol CThEM i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y cynlluniau cymorth yn sgil coronafeirws. Gallwch hefyd gysylltu â CThEM os nad oes modd i chi gael yr help sydd ei angen arnoch ar-lein.

Help a chymorth arall

Gallwch wylio fideos a chofrestru ar gyfer gweminarau rhad ac am ddim er mwyn dysgu rhagor am y cymorth sydd ar gael i’ch helpu i fynd i’r afael ag effeithiau economaidd coronafeirws.

Cyhoeddwyd ar 2 October 2020