Canllawiau

Gwirio a allwch hawlio rhyddhad rhag Treth Dir y Tollau Stamp mewn safle treth arbennig Porthladd Rhydd neu safle treth arbennig Parth Buddsoddi yn Lloegr

Dysgwch a allwch hawlio rhyddhad rhag Treth Dir y Tollau Stamp wrth brynu tir neu adeiladau mewn safle treth arbennig Porthladd Rhydd neu safle treth arbennig Parth Buddsoddi yn Lloegr.

Mae’n bosibl y gallwch hawlio rhyddhad rhag Treth Dir y Tollau Stamp (yn Saesneg) os ydych yn prynu tir neu adeiladau mewn safle treth arbennig Porthladd Rhydd neu safle treth arbennig Parth Buddsoddi yn Lloegr.

Os ydych chi’n prynu tir neu adeiladau mewn safle treth arbennig Porthladd Rhydd neu safle treth arbennig Parth Buddsoddi yn:

  • yn yr Alban — mae cynllun Llywodraeth yr Alban yn bwriadu cynnig rhyddhad Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladu, yn amodol ar gytundeb deddfwriaeth
  • yng Nghymru ― mae cynllun Llywodraeth Cymru yn cynnig rhyddhad Treth Trafodiadau Tir, yn amodol ar gytundeb deddfwriaeth

Gallwch ddarllen rhagor am y canlynol:

Mae safle treth arbennig yn ddarn o dir lle gall busnesau hawlio rhyddhadau treth penodol. Weithiau, gelwir safleoedd treth arbennig yn ‘safleoedd treth Porthladdoedd Rhydd neu Barthau Buddsoddi’. Mae safle treth Porthladd Rhydd yn annibynnol ac wedi’i awdurdodi ar wahân i safle tollau Porthladd Rhydd, ond gall gwmpasu’r un darn o dir.

Dysgwch ragor o wybodaeth am Borthladdoedd Rhydd (yn Saesneg).

Dysgwch ragor am Barthau Buddsoddi (yn Saesneg).

Gallwch hawlio rhyddhad rhag Treth Dir y Tollau Stamp, pan fyddwch yn:

  • prynu unrhyw dir neu adeiladau mewn safle treth arbennig (os ydych yn defnyddio’r tir neu’r adeiladau mewn ffordd gymhwysol)
  • prynu prydles ar gyfer y tir neu adeiladau, gan gynnwys naill ai:
    • adnewyddu prydles hir
    • unrhyw daliadau rhent ar gyfer y brydles

Gellir hawlio’r rhyddhad o’r dyddiad y dynodir safle treth arbennig Porthladd Rhydd neu Barth Buddsoddi tan ddyddiad dod i ben y safle treth arbennig.

Gallwch hawlio rhyddhad o hyd os yw perchnogion blaenorol wedi gwerthu’r tir neu’r adeiladau cyn dyddiad gorffen y safle treth arbennig. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os yw’r perchennog blaenorol wedi hawlio rhyddhad.

Gwiriwch pa safleoedd sy’n safleoedd treth Porthladdoedd Rhydd dynodedig (yn Saesneg).

Gwiriwch pa safleoedd sy’n safleoedd treth Parthau Buddsoddi dynodedig (yn Saesneg).

Sut i fod yn gymwys

Gallwch hawlio’r rhyddhad os ydych yn bwriadu defnyddio’r tir neu’r adeiladau mewn ffordd gymhwysol.

Mae ffyrdd cymhwysol yn cynnwys y canlynol:

  • i’w defnyddio mewn masnach neu broffesiwn masnachol
  • ar gyfer datblygu neu ailddatblygu i’w hailwerthu
  • rhoi’r tir neu’r adeiladau ar osod i berson arall sy’n talu rhent i chi — ar yr amod nad ydynt yn cael eu defnyddio fel eiddo preswyl

Pan na allwch hawlio’r rhyddhad

Ni allwch hawlio rhyddhad ar gyfer tir neu adeiladau sydd:

  • wedi’u prynu y tu mewn i safle treth arbennig cyn iddo gael ei ddynodi neu ar ôl dyddiad dod i ben y safle treth arbennig
  • i’w defnyddio fel eiddo preswyl
  • i’w datblygu neu eu hailddatblygu’n eiddo preswyl
  • i’w cadw fel stoc gan y busnes i’w hailwerthu heb eu datblygu na’i hailddatblygu

Faint o ryddhad y gallwch ei hawlio

Gallwch hawlio rhyddhad llawn rhag Treth Dir y Tollau Stamp ar gyfanswm y pris prynu os yw o leiaf 90% o’r pris prynu ar gyfer tir neu adeiladau cymhwysol.

Os yw llai na 90% o’r pris prynu ar gyfer tir neu adeiladau cymhwysol, gallwch hawlio rhyddhad ar y rhan o Dreth Dir y Tollau Stamp ar gyfer y tir neu’r adeiladau sy’n gymwys, cyhyd â bod pris y tir neu’r adeiladau cymwys yn 10% neu fwy o gyfanswm y pris.

Ni allwch hawlio unrhyw ryddhad os yw llai na 10% o gyfanswm y pris prynu ar gyfer tir neu adeiladau cymhwysol.

Sut i hawlio rhyddhad

I hawlio’r rhyddhad, mae’n rhaid i chi lenwi a chyflwyno ffurflen treth trafodiadau tir cyn pen 14 diwrnod i’r trafodiad. Dysgwch sut mae llenwi’ch ffurflen treth trafodiadau tir (yn Saesneg).

Mae’n rhaid i bob hawliad gael ei wneud ar neu cyn dyddiad dod i ben y safle treth arbennig.

Tynnu’r rhyddhad yn ôl

Mae cyfnod rheoli o 3 blynedd ar ôl dyddiad y pryniant.

Yn ystod y cyfnod rheoli, mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r tir neu’r adeiladau mewn ffordd gymhwysol.

Os, ar unrhyw adeg yn y cyfnod rheoli, nad yw’r tir neu’r adeiladau’n cael eu defnyddio mewn ffordd gymhwysol, mae’n rhaid i chi gymryd camau rhesymol i wneud y canlynol:

  • dechrau defnyddio’r tir neu adeiladau mewn ffordd gymhwysol
  • gwerthu’r tir neu’r adeiladau

Os nad yw’r naill na’r llall o’r camau hyn yn cael eu cymryd, caiff y rhyddhad ei dynnu’n ôl a bydd rhaid i chi wneud y canlynol:

  • cyflwyno Ffurflen Treth Dir y Tollau Stamp arall
  • talu’r dreth cyn pen 30 diwrnod

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn Llawlyfr Treth Dir y Tollau Stamp (yn Saesneg).

Enghreifftiau o gyfrifo’r rhyddhad

Enghraifft 1

Caiff £800,000 ei dalu am dir sy’n llwyr o fewn safle treth arbennig, ond mae £200,000 (25%) o’r swm a dalwyd yn ymwneud â thir na fwriedir iddo gael ei ddefnyddio mewn ffordd gymhwysol.

Caiff £600,000 (75%) ei dalu am dir mewn safle treth arbennig sydd i’w ddefnyddio mewn ffordd gymhwysol. Mae Treth Dir y Tollau Stamp yn cael ei gostwng 75% o gyfanswm y dreth sy’n ddyledus am y pryniant cyfan.

Enghraifft 2

Caiff £2 miliwn ei dalu am dir sydd yn rhannol o fewn ac yn rhannol y tu allan i safle treth arbennig.

Mae’r holl dir o fewn y safle treth arbennig i’w ddefnyddio mewn ffordd gymhwysol.

Mae £400,000 (20%) o’r swm a dalwyd ar gyfer tir y tu allan i’r safle treth arbennig.

Caiff £1.6 miliwn (80%) ei dalu am dir mewn safle treth arbennig sydd i’w ddefnyddio mewn ffordd gymhwysol.  Mae Treth Dir y Tollau Stamp yn cael ei gostwng 80% o gyfanswm y dreth sy’n ddyledus am y pryniant cyfan.

Enghraifft 3

Caiff £5 miliwn ei dalu am dir sydd yn rhannol o fewn ac yn rhannol y tu allan i safle treth arbennig.

Mae £500,000 ar gyfer tir y tu allan i’r safle treth arbennig.

Mae £4.5 miliwn ar gyfer tir y tu mewn i’r safle treth arbennig.

Dim ond £400,000 sydd wedi’i dalu ar gyfer tir y bwriedir ei ddefnyddio mewn ffordd gymhwysol.

Gan fod £400,000 yn llai na 10% o gyfanswm y pris a dalwyd, sef £5 miliwn, ni ellir hawlio rhyddhad rhag Treth Dir y Tollau Stamp.

Cyhoeddwyd ar 9 July 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 8 April 2024 + show all updates
  1. This guidance has been updated to provide information about Investment Zones.

  2. Welsh translation added.

  3. You cannot claim Stamp Duty Land Tax (SDLT) if you’re buying land or buildings in a Freeport tax site in Scotland and Wales.

  4. Added information about when you cannot claim relief for land or buildings which are purchased inside a Freeport tax site.

  5. The examples of how Stamp Duty Land tax is calculated in Freeport tax sites have been updated.

  6. First published.