Canllawiau

Gwirio a allwch hawlio rhyddhad lwfans strwythurau ac adeiladau uwch mewn safleoedd treth Parth Buddsoddi a Phorthladd Rhydd y DU

Dysgwch a allwch hawlio rhyddhad lwfans strwythurau ac adeiladau uwch ar wariant cymwys ar strwythurau ac adeiladau mewn safle treth Parthau Buddsoddi a Phorthladd Rhydd y DU.

Wrth gyfeirio at ‘Borthladd Rhydd’ ar y dudalen hon, mae hyn hefyd yn cynnwys ‘Porthladdoedd Rhydd Gwyrdd yn yr Alban’, oni nodir yn wahanol.

Mae safle treth arbennig yn ddarn o dir lle gall busnesau hawlio rhyddhadau treth penodol. Weithiau, gelwir safle treth arbennig yn ‘safleoedd treth Porthladdoedd Rhydd neu Barthau Buddsoddi’. Mae safle treth Porthladd Rhydd yn annibynnol ac wedi’i awdurdodi ar wahân i safleoedd tollau Porthladdoedd Rhydd, ond gallant gwmpasu’r un darn o dir.

Dysgwch ragor am Borthladdoedd Rhydd (yn Saesneg).

Dysgwch ragor am Barthau Buddsoddi (yn Saesneg).

Gallwch hawlio rhyddhad lwfans strwythurau ac adeiladau uwch pan fyddwch yn ysgwyddo gwariant cymhwysol ar strwythurau ac adeiladau mewn safle treth arbennig.

Gellir hawlio’r rhyddhad ar gyfer gwariant a ysgwyddwyd o’r dyddiad y dynodir safle treth arbennig hyd at ddyddiad dod i ben y safle treth arbennig.

Gallwch ddysgu pa gategorïau gwariant sy’n gymwys ar gyfer y lwfans strwythurau ac adeiladu. Darllenwch arweiniad ar hawlio lwfansau cyfalaf ar gyfer strwythurau ac adeiladau.

Ni allwch hawlio hyd nes bod safle treth y Porthladd Rhydd neu’r Parth Buddsoddi arbennig perthnasol wedi’i ddynodi. Gwiriwch pa safleoedd sy’n safleoedd treth Porthladdoedd Rhydd arbennig dynodedig (yn Saesneg). Gwiriwch pa safleoedd sy’n safleoedd treth arbennig Parthau Buddsoddi dynodedig (yn Saesneg).

Sut i fod yn gymwys

Mae’n rhaid i chi fodloni’r gofynion ar gyfer hawlio lwfansau cyfalaf ar strwythurau ac adeiladau. Bydd yn rhaid i chi wneud y canlynol hefyd:

  • dechrau ar y gwaith adeiladu ar yr adeilad neu’r strwythur pan fydd mewn safle treth arbennig (mae’r gwaith adeiladu’n dechrau pan fyddwch yn ymrwymo i’r contract cyntaf neu’n dechrau ar y gwaith adeiladu, p’un bynnag sydd gyntaf)

  • sicrhau bod yr adeilad neu’r strwythur yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd gymhwysol pan fydd mewn safle treth arbennig a hynny ar neu cyn y dyddiad dod i ben ar gyfer y safle hwnnw

  • ysgwyddo’r gwariant cymhwysol ar yr adeilad neu’r strwythur pan fydd mewn safle treth arbennig a hynny ar neu cyn y dyddiad dod i ben ar gyfer y safle hwnnw

  • cofrestru ar gyfer naill ai:

    • Treth Gorfforaeth
    • Treth Incwm

Sut i ddosrannu’r rhyddhad

Mae’n rhaid i chi ddosrannu’r rhyddhad rhwng y canlynol:

Bydd y dosraniad hwn yn digwydd naill ai:

  • pan fydd rhan o’r adeilad neu’r strwythur y tu allan i safle treth arbennig
  • pan fyddwch yn defnyddio strwythur neu adeilad mewn ffordd cymwys ar ôl ddyddiad dod i ben y safle treth arbennig

Faint o ryddhad y gallwch ei hawlio

Gallwch hawlio 10% o wariant cymhwysol safleoedd treth arbennig bob blwyddyn os ydych yn bodloni’r holl amodau gofynnol.

Gallwch wneud cais am y rhyddhad am 10 mlynedd o ddyddiad dechrau cyfnod y lwfans.

Dyddiad dechrau cyfnod y lwfans yw’r hwyraf o’r canlynol:

  • adeilad neu adeiladwaith yn cael ei ddefnyddio gyntaf at ddiben dibreswyl
  • pan fyddwch yn gwario’n gymhwysol

Enghreifftiau o ryddhad y gallwch ei hawlio

Enghraifft 1

Rydych wedi adeiladu warws sydd yn costio £1,200,000 mewn safle treth arbennig. Ymrwymwyd i bob contract ar gyfer y gwaith adeiladu ar ôl y dyddiad y dynodwyd y safle treth arbennig.

Cwblhawyd y warws ar 22 Mawrth 2024 a gwnaethoch ddechrau ei ddefnyddio ar gyfer eich busnes logisteg o 1 Ebrill 2024 ymlaen. Rydych yn paratoi cyfrifon ar gyfer pob blwyddyn sy’n dod i ben ar 31 Mawrth.

Yn y cyfnod trethadwy hyd at 31 Mawrth 2025, gallwch hawlio 10% am y flwyddyn.

10% × £1,200,000 = £120,000

Cyfanswm yr hawliad yw £120,000 ar gyfer y flwyddyn a ddaw i ben ar 31 Mawrth 2025.

Enghraifft 2

Rydych wedi adeiladu ffatri sydd yn costio £2,000,000, gyda 60% ohono mewn safle treth arbennig a 40% mewn ardal nad yw’n safle treth arbennig.

Ymrwymwyd i bob contract ar gyfer y gwaith adeiladu ar ôl y dyddiad y dynodwyd y safle treth arbennig.

Cwblhawyd y ffatri ar 13 Gorffennaf 2023 a gwnaethoch ddechrau ei ddefnyddio ar gyfer eich busnes gweithgynhyrchu o 1 Awst 2023 ymlaen. Rydych yn paratoi cyfrifon ar gyfer pob blwyddyn sy’n dod i ben ar 31 Gorffennaf.

Yn y cyfnod trethadwy hyd at 31 Gorffennaf 2024, gallwch hawlio 10% y flwyddyn ar 60% o’r gwariant a 3% y flwyddyn ar 40% o’r gwariant.

60% o £2,000,000 = £1,200,000
40% o £2,000,000 = £800,000
10% o £1,200,000 = £120,000
Plws 3% o £800,000 = £24,000

Cyfanswm yr hawliad yw £144,000 ar gyfer y flwyddyn a ddaw i ben ar 31 Gorffennaf 2024.

Sut i hawlio’r rhyddhad

Mae’n rhaid i chi gael datganiad lwfans i hawlio’r rhyddhad. Mae’n rhaid iddo nodi:

  • eich bod am i’r gwariant cymhwysol fod yn wariant cymhwysol ar gyfer safleoedd treth arbennig
  • swm y gwariant cymhwysol ar gyfer safleoedd treth arbennig

Darllenwch Hawlio lwfansau cyfalaf ar gyfer strwythurau ac adeiladau i ddysgu rhagor am ddatganiadau lwfans a sut i hawlio rhyddhad.

Cyhoeddwyd ar 12 November 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 8 April 2024 + show all updates
  1. We now use the broad term 'special tax sites' instead of referring specifically to 'Freeport sites'. Links to guidance about Freeport special tax sites and Investment Zone special tax sites have been added.

  2. Welsh translation added.

  3. First published.