Skip to main content
Canllawiau

Newidiadau a materion sy’n effeithio ar y gwasanaeth Treth Gorfforaeth ar-lein

Gwiriwch y newidiadau a’r materion a allai effeithio ar sut rydych yn cyflwyno Ffurflen Dreth y Cwmni.

Lwfansau cyfalaf — lwfans blwyddyn gyntaf newydd o 40%

Yng Nghyllideb 2025, cyhoeddodd y llywodraeth lwfans blwyddyn gyntaf o 40% ar gyfer gwariant cymhwysol a ysgwyddwyd ar offer a pheiriannau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2026 (yn agor tudalen Saesneg) .

Byddwn yn diweddaru’r gwasanaeth ar-lein ar gyfer Treth Gorfforaeth yn Ebrill 2027 i gefnogi’r lwfans newydd drwy gynnwys 2 flwch newydd ar ffurflen CT600.

I hawlio’r rhyddhad cyn hynny, gallwch ddefnyddio’r blychau ar gyfer lwfans cyfalaf sy’n bodoli eisoes ar ffurflen CT600. Defnyddiwch:

  • blychau 725 neu 750 ar gyfer symiau hawlio
  • blwch 760 ar gyfer gwariant cymhwysol

Os nad oes angen i chi roi gwybod am y rhyddhad newydd hwn, gallwch gyflwyno ar-lein yn y ffordd arferol.

Lwfans blwyddyn gyntaf ar gyfer ceir di-allyriadau

Mae’r lwfans blwyddyn gyntaf ar gyfer gwariant cymhwysol ar geir di-allyriadau (yn agor tudalen Saesneg) o 100% wedi’i ymestyn tan 31 Mawrth 2027 at ddibenion Treth Gorfforaeth.

Mae’n bosibl ni fydd modd i nifer fach o gwmnïau i roi gwybod am eu hawliad am y lwfans hwn ym mlwch 726 a 751 o ffurflen CT600 os yw’r ddau beth canlynol yn wir:

  • mae ganddo gyfnod cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2026
  • mae’n bwriadu cyflwyno ei Ffurflen Dreth cyn Ebrill 2027

Byddwn yn diweddaru’r gwasanaeth ar-lein ar gyfer Treth Gorfforaeth yn Ebrill 2027 i gefnogi’r cyfnod estynedig ar gyfer hawlio’r lwfans blwyddyn gyntaf hwn.

Os oes angen i chi gyflwyno hawliad ar gyfer cyfnod cyfrifyddu sy’n dechrau:

  • cyn 1 Ebrill 2026, gallwch barhau i wneud hynny gan ddefnyddio blychau 726 a 751
  • ar neu ar ôl 1 Ebrill 2026, rhowch wybod am eich hawliad ym mlychau 725 a 750 (lwfansau a thaliadau eraill)

Hawliadau credyd gwariant Ymchwil a Datblygu (RDEC)

Ar 8 Awst 2023, cyflwynodd CThEF y ffurflen Cyflwyno gwybodaeth i gefnogi’ch hawliad Ymchwil a Datblygu (R&D). Mae’n rhaid i chi gyflwyno’r ffurflen hon ar gyfer pob hawliad am ryddhad treth neu gredyd gwariant Ymchwil a Datblygu (R&D).

Hawliadau am gredyd gwariant Ymchwil a Datblygu sydd wedi’u hesemptio rhag y cap TWE

Mae’r cynllun cyfun ar gyfer credyd gwariant Ymchwil a Datblygu a’r cymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys wedi disodli’r hen gynllun RDEC a’r cynllun mentrau bach a chanolig ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2024.

Rydym yn ymwybodol o broblem gyda’r dilysiad ar gyfer y blychau newydd sy’n caniatáu i gwsmeriaid hawlio eithriad rhag y cap TWE o dan y cynllun cyfunol.

Gall cwmni ond hawlio esemptiad os yw’n creu neu’n rheoli eiddo deallusol o dan adran CTA09/S1112E o Ddeddf Treth Gorfforaeth (CTA) 2009.

Os ydych yn hawlio esemptiad, gwnewch yn siŵr bod y swm a nodwyd ym mlwch L75 yn hafal i’r swm a nodwyd ym mlwch L70. Mae hyn fel bod swm y cyfyngiad cam 3 a gaiff ei gario ymlaen i’r cyfnod cyfrifyddu nesaf ym mlwch L80 fod yn ‘0’.

Byddwn yn diweddaru’r gwasanaeth yn Ebrill 2027 i ddatrys y broblem hon.

Diwydiannau creadigol

Ar 1 Ebrill 2024, cyflwynodd CThEF y ffurflen Cefnogi’ch hawliad ar gyfer rhyddhadau treth y diwydiant creadigol. Mae’n rhaid i chi gyflwyno’r ffurflen hon ar gyfer pob hawliad am ryddhadau treth y diwydiant creadigol neu gredydau gwariant y diwydiant creadigol ynghyd â Ffurflen Dreth y Cwmni.

Mae’r gwasanaeth ar-lein ar gyfer Treth Gorfforaeth bellach wedi’i ddiweddaru i gefnogi’r dudalen atodol CT600P. Os ydych yn hawlio un neu fwy o gredydau neu ryddhadau creadigol, mae’n rhaid i chi gynnwys ffurflen CT600P gyda’ch Ffurflen Dreth. Mae hyn yn berthnasol i hawliadau newydd ac i hawliadau diwygiedig.

Rhyddhadau Diwylliannol a Rhyddhad Treth ar gyfer Ffilm, Teledu o Safon Uchel, Teledu i Blant, Animeiddio a Gemau Fideo

Rydym yn ymwybodol o broblem gyda’r dilysiad sy’n effeithio ar nifer fach o gwsmeriaid sy’n hawlio un rhyddhad ar gyfer Rhyddhadau diwylliannol a Ffilm, Teledu o Safon Uchel, Teledu i Blant, Animeiddio a Gemau Fideo, neu’r ddau ohonynt, ac:

  • nid oes colledion i’w hildio yng ngholofn D
  • nid ydych chi’n hawlio unrhyw ryddhad treth yng Ngholofn E

Mae’n rhaid i’r ffigur a nodwyd yng ngholofn E fod yn llai na’r ffigur a nodwyd yng ngholofn D. Ni fydd y gwasanaeth yn derbyn sero yn y ddwy golofn hyn ar gyfer blychau P260 i P305.

Yn yr achosion hyn, dylech nodi £1.00 yng ngholofn D er mwyn i’ch ffurflen gael ei derbyn. Ni fydd hyn yn effeithio ar ddilysrwydd eich hawliad.

Bydd y gwasanaeth yn cael ei ddiweddaru ym mis Ebrill 2027 i ddatrys y broblem hon.

Does dim effaith ar adrannau’r CT600P sy’n ymwneud â Chredyd Gwariant Gemau Fideo a Chlyweledol.

Benthyciadau i gyfranogwyr

Yng Nghyllideb 2025, cynyddwyd cyfradd y dreth sy’n daladwy o dan y drefn benthyciadau i gyfranogwyr o 33.75% i 35.75%. Bydd y gyfradd newydd yn berthnasol i fenthyciadau a wneir neu fuddiannau a roddir ar neu ar ôl 6 Ebrill 2026.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn adran 455 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 ac adran 464A o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010.

Bydd y gwasanaeth ar-lein ar gyfer Treth Gorfforaeth yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu’r newid hwn ar 6 Ebrill 2027.

Os yw’r gyfradd newydd yn berthnasol i’ch cwmni a bod angen i chi gyflwyno cyn 6 Ebrill 2027, bydd angen i chi ddiwygio’ch ffurflen ar ôl 6 Ebrill 2027 i adlewyrchu’r gyfradd newydd.

Gofynion newydd ar gyfer fformat cyfrifiant Treth Gorfforaeth

Mae angen i’r rhan fwyaf o gwmnïau gynnwys cyfrifiant wrth gyflwyno’u Ffurflen Treth Gorfforaeth. Mae’r cyfrifiant hwn:

  • fel arfer yn cael ei gynhyrchu gan eich meddalwedd cyfrifyddu
  • yn cynnwys y tagiau eXtensible Business Reporting Language (XBRL) angenrheidiol

Er mwyn gwella cysondeb a darparu disgwyliadau clir, mae CThEF yn cyflwyno safoni ar gyfer rhannau penodol o’r cyfrifiant. Y 2 faes cyntaf sy’n cael sylw yn y fersiwn hon yw:

  • addasiadau cyfrifyddu
  • lwfansau cyfalaf

Byddwn yn cyflwyno adrannau ychwanegol mewn diweddariadau yn y dyfodol.

Yr hyn y mae angen i chi ei wneud

Yn y rhan fwyaf o achosion, nid oes angen cymryd unrhyw gamau. Dylai’ch darparwr meddalwedd rhoi’r newidiadau hyn ar waith yn awtomatig.

I gael rhagor o wybodaeth am y gofynion newydd, gan gynnwys y cynnwys, y fformat a’r tagiau XBRL, darllenwch y ffeil ‘CT Computations Format’ (yn agor tudalen Saesneg). Mae’r ddogfen hon yn egluro sut i lenwi’r adrannau hyn o’r cyfrifiant ac mae’n cynnwys y canlynol:

  • tablau manwl
  • nodiadau esboniadol

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 4 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 18 Mai 2026 show all updates
  1. When claiming Research and Development Expenditure Credits that are exempt from the PAYE cap, you no longer need to submit computations and PDFs. Updated section 'Research and Development expenditure credit (RDEC) claims' to remove this information.

  2. The ‘Capital allowances — new 40% first-year allowance' section has been updated to say there will be 2 new boxes added to form CT600 from April 2027.

  3. Sections 'Research and Development expenditure credit claims which are exempt from PAYE cap' and 'Cultural Reliefs and Film, High End TV, Children's TV, Animation and Video Games tax relief' updated because of an issue with validation. Also added a new section 'Loans to participators'.

  4. The link to the file 'CT Computations Format' has been updated in the section 'New requirements for Company Tax computation format'.

  5. Information about reporting the new 40% first-year allowance for capital allowances has been added.

  6. The ‘Audio-Visual Expenditure Credit (AVEC) and Video Games Expenditure Credit (VGEC)’ section has been updated to say there are other amounts that should be included in box 540 or 541.

  7. Information about new requirements for Company Tax computation format has been added.

  8. Added information about changes for first-year allowance for zero-emission cars and how to indicate you are claiming an exemption from the PAYE cap for certain Research and Development expenditure credit (RDEC) claims.

  9. Guidance for making a creative industry tax relief or credit claim has been updated.

  10. Added information for customers who are a Non-Resident Company claiming Small Profit Rate or Marginal Rate.

  11. Information about claims for creative industry tax reliefs and creative industry expenditure credits has been added.

  12. Information about using box 773 for the 50% first-year allowance has been updated.

  13. Information about issues affecting Research and Development expenditure credit (RDEC) claims has bee updated.

  14. Information added to explain what to do if you receive an error message when completing the additional information form relating to Research and Development expenditure credit (RDEC) claims.

  15. Information about how to report Electricity Generator Levy receipts and the amount of levy payable has been added.

  16. The issue about account submissions using the FRC Taxonomy with the ‘Highest Paid Director’ tag has been resolved.

  17. Information for completing CT600N Residential Property Developer Tax (RPDT) and claiming RPDT group relief for carried forward losses and full expensing and 50% first-year allowances, has been added.

  18. Information about an issue with account submissions made using the FRC Taxonomy with the ‘Highest Paid Director’ tag has been added.

  19. There are currently no service issues. The issues for: 'companies claiming non-trading losses in respect of intangible fixed assets', 'research and development claims' and 'companies reporting an amount of brought forward step 2 restriction but not claiming any research and development expenditure credit in the current accounting period' have been resolved.

  20. Information about loans to participators has been added.

  21. The page has been updated with the latest changes and issues.

  22. The page has been updated with the latest changes and issues.

  23. Information about Small and Medium Enterprise companies claiming Research and Development expenditure credit but not SME payable tax credit, Companies claiming Small and Medium Enterprise Payable Tax Credit and Companies claiming Research and Development expenditure credit and reporting an amount of brought forward step 2 restriction to be carried forward to the next accounting period has been added.

  24. The page has been updated with the latest changes and issues.

  25. First published.

Argraffu'r dudalen hon