Canllawiau

Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain: Telerau ac Amodau

Mae'r telerau ac amodau hyn yn egluro hawliau a chyfrifoldebau'r cwsmer wrth ddefnyddio SOG Ar-lein, STSA & SDTC Defaid & Geifr ynghyd â hawliau a chyfrifoldebau Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain.

Applies to England, Northern Ireland and Wales

Diffiniadau

  1. Mae ‘Ni’, ‘Ein’ yn golygu Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain, y cyfeirir ato hefyd fel RPA Workington. Rydym yn rhan o’r Asiantaeth Taliadau Gwledig, asiantaeth weithredol Defra (Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig).

  2. Mae ‘Chi’, ‘Eich’ yn golygu

  • y cwsmer sydd wedi ei gofrestru â ni fel ceidwad; neu
  • yn achos cwmni cyfyngedig, cyfarwyddwr neu un o swyddogion y cwmni; neu
  • yn achos partneriaeth, y partneriaid unigol.
    3. Mae 'manylion diogelwch' yn golygu manylion mewngofnodi a chyfrinair y defnyddiwr.
    4. Mae 'gwasanaeth' yn golygu SOG Ar-lein STSA & SDTC Defaid & Geifr.
    5. Mae 'Swyddogion Allanol' yn golygu grwpiau sydd â chaniatâd i ddefnyddio SOG Ar-lein, STSA & SDTC Defaid & Geifr; er enghraifft grwpiau milfeddygol at ddibenion rheoli clefydau anifeiliaid, Llywodraeth Lleol, gweithgynhyrchwyr tag clust etc.

Awdurdod

  1. Byddwch yn derbyn y telerau ac amodau hyn y tro cyntaf y byddwch yn defnyddio’r gwasanaeth hwn.

  2. Os caiff y telerau ac amodau hyn eu newid mewn unrhyw ffordd, rhoddir y fersiwn ddiwygiedig ar y dudalen hon. Drwy gadw golwg ar y dudalen hon yn rheolaidd, bydd modd i chi wybod bob amser pa wybodaeth a gesglir, sut y caiff ei defnyddio ac o dan ba amgylchiadau, os o gwbl, y caiff ei rhannu â phartïon eraill.

  3. Rydych yn ein hawdurdodi i dderbyn a gweithredu ar eich cyfarwyddiadau chi.

  4. Rydych yn gyfrifol am yr holl wybodaeth a anfonir atom gennych chi neu gan rywun yn gweithredu ar eich rhan.

Diogelwch - Cwsmeriaid

  1. Rhaid i chi gadw’ch manylion diogelwch yn ddiogel.

  2. Ni ddylech rannu’ch manylion diogelwch ag unrhyw un arall, oni bai eich bod yn rhoi caniatâd iddo weithredu ar eich rhan.

  3. Os byddwch yn awdurdodi rhywun i weithredu ar eich rhan, byddwch yn gyfrifol am yr wybodaeth a’r cyfarwyddiadau y mae’n eu hanfon atom.

  4. Os credwch fod rhywun arall yn gwybod eich manylion diogelwch heb eich caniatâd, rhaid i chi ddweud wrthym ar unwaith. Byddwn yn anfon manylion diogelwch newydd atoch.

Diogelwch - Swyddogion Allanol

  1. Rhaid i chi gadw’ch manylion diogelwch yn ddiogel.

  2. Ni ddylech rannu’ch manylion diogelwch ag unrhyw un arall.

  3. Ni ddylech ychwanegu pobl eraill i’ch cyfrif. Rhaid iddynt wneud cais am fynediad trwy’r sianeli arferol.

  4. Os credwch fod rhywun arall yn gwybod eich manylion diogelwch, rhaid i chi ddweud wrthym ar unwaith. Byddwn yn anfon manylion diogelwch newydd atoch.

  5. Gall methu â chydymffurfio â’r gofynion hyn arwain at ddileu eich mynediad.

Pryd bydd y gwasanaeth ar gael

  1. Byddwn yn ceisio darparu’r gwasanaeth i chi bob amser. Ni fyddwn yn atebol am unrhyw fethiant i ddarparu’r gwasanaeth, yn rhannol neu’n gyfan gwbl, nac am unrhyw achos sydd y tu hwnt i’n rheolaeth resymol. Mae hyn yn cynnwys atal y gwasanaeth er mwyn gwneud gwaith cynnal a chadw a chyflwyno cyfleusterau a gwasanaethau newydd. Mewn achosion o’r fath, byddwn yn ceisio cyfyngu ar nifer y troeon y gwneir hyn ac ar yr amser a dreulir yn gwneud hyn.

  2. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn atal, yn newid neu’n cyfyngu ar y gwasanaeth neu ran o’r gwasanaeth. Byddwn yn ceisio rhoi gwybod i chi cyn gynted ag y bo modd am unrhyw beth a allai darfu ar y gwasanaeth.

Gwybodaeth a anfonir atom – SOG Ar-lein yn unig

  1. Rydym yn anelu at ddiweddaru eich cofnodion ar y SOG (System Olrhain Gwartheg) erbyn y diwrnod canlynol ar gyfer gwybodaeth a roddir ar SOG Ar-lein cyn 4.30pm. Bydd angen 24 awr arall ar gyfer gwybodaeth a roddir ar ôl yr amser hwn.

  2. Ni fydd eich cofnodion yn cael eu diweddaru ar SOG Ar-lein ar unwaith ond rydym yn anelu at eu diweddaru o fewn 48 awr.

  3. Cewch gyfle i argraffu derbynneb i gadarnhau’r wybodaeth rydych chi wedi’i hanfon. Fe’ch cynghorir yn gryf i argraffu neu gadw copi o’r wybodaeth rydych yn ei hanfon atom. Gellir defnyddio’r copi hwn fel tystiolaeth mewn achosion apêl.

  4. Os byddwch yn sylweddoli eich bod wedi gwneud camgymeriad mewn unrhyw wybodaeth rydych yn ei hanfon atom, rhaid i chi gysylltu â ni cyn gynted ag y bo modd drwy e-bost neu dros y ffôn. Rhaid i chi roi manylion i ni am yr wybodaeth rydych wedi ei hanfon, a’r wybodaeth gywir.

  5. Er mwyn gwella’r gwasanaeth, rydym yn casglu gwybodaeth am y ffordd y mae ein cwsmeriaid yn defnyddio’r gwasanaeth.

Lawrlwytho gwybodaeth

  1. Rydym yn rhoi caniatâd i chi lawrlwytho eich gwybodaeth er mwyn ei defnyddio gyda meddalwedd arall, er enghraifft, pecyn meddalwedd fferm.

  2. Ni fyddwn yn atebol am unrhyw wybodaeth a allai gael ei llygru wrth iddi gael ei lawrlwytho.

3.Dim ond gwybodaeth sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r daliadau y maent yn ymweld â nhw y gall Swyddogion Allanol ei lawrlwytho.

Lanlwytho gwybodaeth

  1. Rydym yn rhoi caniatâd i chi lanlwytho eich gwybodaeth er mwyn cofrestru genedigaethau, symudiadau a farwolaethau ar SOG Ar-lein.

  2. Nid ydym yn gyfrifol am y canlyniadau os caiff unrhyw wybodaeth ei llygru cyn i Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain ei derbyn.

Eich ymddygiad

  1. Rhaid i chi ddefnyddio’r gwasanaeth at ddibenion cyfreithlon yn unig.

  2. Ni chewch ddefnyddio’r gwasanaeth at unrhyw rai o’r dibenion isod:

  • Dibenion twyllodrus.
  • Anfon gwybodaeth atom sy’n anweddus, yn fygythiol, yn dramgwyddus neu’n ddifenwol.

Sefydlu hyperddolenni i SOG Ar-lein, STSA & SDTC Defaid & Geifr

  1. Rydym yn caniatáu i ddefnyddwyr sefydlu hyperddolenni i’r gwasanaeth hwn. Nid oes rhaid i chi ofyn am ganiatâd i gysylltu’n uniongyrchol â’r tudalennau hyn.

Eiddo Deallusol

Mae’r enwau, y delweddau a’r logos sy’n dynodi pwy yw Defra, yr Asiantaeth Taliadau Gwledig, adrannau’r llywodraeth, trydydd partïon a’u gwybodaeth, eu cynnyrch a’u gwasanaethau yn nodau perchenogol y Goron a/neu drydydd partïon. Ni chaniateir copïo na defnyddio ein logos a/neu unrhyw logo gan drydydd parti a ddefnyddir drwy’r gwasanaeth hwn heb dderbyn caniatâd ymlaen llaw gan berchennog yr hawlfraint berthnasol. Caiff y deunydd ar y safle hwn ei warchod gan hawlfraint y Goron oni nodir yn wahanol. Caniateir i chi atgynhyrchu’r deunydd sy’n cael ei ddiogelu gan hawlfraint y Goron (ar wahân i’r Arfbais Frenhinol a logos adrannau neu asiantaethau) yn rhad ac am ddim ar unrhyw ffurf neu mewn unrhyw gyfrwng ar yr amod ei fod yn cael ei atgynhyrchu’n gywir ac nad ydych yn ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Os bydd unrhyw rai o eitemau hawlfraint y Goron sydd ar y safle hwn yn cael eu hailgyhoeddi neu eu copïo i eraill, rhaid nodi ffynhonnell y deunydd a chydnabod statws yr hawlfraint. Ni chaiff defnyddwyr y gwasanaeth hwn gopïo, dosbarthu na chyhoeddi unrhyw ran o ddeunydd hawlfraint y Goron a gymerwyd ohono. Rhaid cael caniatâd ffurfiol Rheolydd Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus i ddefnyddio’r deunydd at unrhyw ddiben arall heblaw’r hyn a ganiateir uchod.

Hawlfraint y Goron, Trwyddedu a Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus

Tel 020 8876 3444

Ymholiadau Cyhoeddi Papur Gorchymyn a Deddfwriaeth

Tel 020 7276 5229

Dehongli’r Ddeddfwriaeth

Cyfeiriwch ymholiadau uniongyrchol ynghylch cymhwyso’r ddeddfwriaeth at y corff llywodraeth sy’n gyfrifol am y ddeddfwriaeth. Mae manylion cysylltu ar wefan Direct Gov. Nid yw caniatâd i atgynhyrchu deunydd a warchodir gan y Goron yn cynnwys unrhyw ddeunydd ar y safle hwn sy’n cael ei nodi fel hawlfraint trydydd parti. Rhaid cael caniatâd deiliaid perthnasol yr hawlfraint i atgynhyrchu deunydd o’r fath.

Cyhoeddwyd ar 11 February 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 17 December 2019 + show all updates
  1. Information added to inform user that to improve the service, we collect information about how our customers use the service.

  2. Added translation

  3. Added translation

  4. Added translation