Canllawiau

Canllawiau Arolygiadau labelu cig eidion a chig llo

Bydd Arolygwyr yn cynnal ymweliadau dirybudd i sicrhau eich bod yn cydymffurfio â'r rheolau ynglŷn â labelu cig eidion yn orfodol ac yn wirfoddol.

Applies to England and Wales

O leiaf unwaith y flwyddyn, bydd un arolygydd neu fwy a awdurdodir gan Defra yn ymweld â’ch safle i sicrhau eich bod yn cydymffurfio â’r Cynllun Labelu Cig Eidion Gorfodol.

Os ydych chi yn gwneud honiadau labelu sydd angen eu cymeradwyo o dan y Cynllun Labelu Cig Eidion a Gymeradwywyd byddant hefyd yn sicrhau eich bod wedi eich cofrestru ar y cynllun ac yn meddu ar y tystysgrifau cywir.

Gall yr arolygwyr fod o:

  • Arolygiaeth Da Byw a Chig yr Asiantaeth Taliadau Gwledig (RPA)
  • adrannau safonau masnach neu iechyd yr amgylchedd yr awdurdod lleol

Ni fyddwch yn cael gwybod am yr ymweliad ymlaen llaw.

Mae’n rhaid i chi roi cymorth rhesymol i’r arolygydd yn ogystal â mynediad i’ch cofnodion. Mae rhwystro’r arolygydd neu wrthod ei adael i mewn i’ch safle yn drosedd.

Ni ddylech roi gwybodaeth anghywir neu gamarweiniol.

Oni bai bod gennych reswm dros amau ei gywirdeb, gallwch dybio bod y wybodaeth rydych yn ei chael o dan y system labelu cig eidion pan fyddwch yn prynu cig eidion gan eich cyflenwyr yn gywir.

Labelu gorfodol: beth fydd yr arolygydd yn ei wirio

Efallai y bydd angen i’r arolygydd archwilio’r canlynol:

  • carcasau
  • unrhyw gig eidion ffres neu wedi’i rewi ar y safle
  • labeli cig eidion
  • cofnodion

Bydd angen i’r arolygydd edrych ar gofnodion i gynnal gwiriadau olrhain.

Labelu cymeradwy: beth fydd yr arolygydd yn ei wirio

Bydd yr arolygydd yn sicrhau bod gweithredwyr sy’n gwneud honiadau gwirfoddol o dan y Cynllun Labelu Cig Eidion Cymeradwy yn parhau i labelu yn unol â’r gymeradwyaeth a gawsant. Os ydych wedi cael eich cymeradwyo o dan y Cynllun Labelu Cig Eidion Cymeradwy, yna dylech allu dangos y canlynol i’r arolygydd:

  • tystysgrif cydymffurfiaeth cynnyrch a gyhoeddwyd gan ddilyswr a gydnabyddir gan y llywodraeth yn dilyn arolygiad blaenorol
  • eich dogfen gymeradwyaeth a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Taliadau Gwledig (neu, yng Nghymru, Llywodraeth Cymru).
Cyhoeddwyd ar 1 April 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 January 2021 + show all updates
  1. Council Regulation (EC) 1760/2000 changed to Regulation EUR 2000/1760

  2. Added translation

  3. Updated with more information about enforcement notices.

  4. First published.