Canllawiau

Gofyn i’ch cyflogwr am Dâl Salwch Statudol

Gallwch ddefnyddio’r ffurflen SC2 er mwyn gofyn i’ch cyflogwr am Dâl Salwch Statudol (SSP).

Pryd i ddefnyddio’r ffurflen SC2

Dylech wirio’ch contract cyflogaeth er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn dilyn unrhyw weithdrefnau salwch a gytunwyd arnynt.

Gellir defnyddio’r ffurflen i hunanardystio absenoldeb oherwydd salwch neu ochr yn ochr â nodyn ffitrwydd.

Mae’n rhaid eich bod wedi bod i ffwrdd o’r gwaith o ganlyniad i salwch am fwy na 3 diwrnod yn olynol (gan gynnwys diwrnodau nad ydych yn gweithio) i fod yn gymwys i gael SSP.

Sut i lenwi’r ffurflen SC2

Casglwch eich holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau. Byddwch yn llenwi’r ffurflen hon ar-lein ac ni allwch gadw’ch cynnydd.

Bydd y ffurflen yn gofyn i chi am wybodaeth, yn cynnwys:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • eich rhif ffôn
  • manylion o’ch salwch, yn cynnwys y dyddiadau yr oeddech yn sâl
  • dyddiad eich diwrnod gwaith olaf cyn i’ch salwch ddechrau
  • eich rhif cloc neu’ch rhif gyflogres

Llenwch y ffurflen SC2

Ar ôl i chi lenwi’r ffurflen, rhowch hi i’ch cyflogwr. Byddant yn defnyddio’r wybodaeth hon i wirio’ch cymhwystra. Cadwch gopi er eich gwybodaeth.

Rhagor o wybodaeth

Mae’r arweiniad Tâl Salwch Statudol (SSP) yn rhoi gwybodaeth am faint y gallwch ei gael, cymhwystra, sut i hawlio, nodiadau ffitrwydd ac anghydfodau.

Cyhoeddwyd ar 10 July 2014