Gwneud cais i fod yn Sefydliad Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr ar y rhaglen Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr ar gyfer Pecynwaith
Canllawiau i sefydliadau ar sut i wneud cais i fod yn Sefydliad Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr i weinyddu'r rhaglen Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr ar gyfer Pecynwaith, a gwybodaeth am sut y bydd eich cais yn cael ei asesu.
Bydd y Sefydliad Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr yn gorff annibynnol, nid-er-elw, sy’n cael ei arwain gan gynhyrchwyr, a bydd yn gweithio ochr yn ochr â PackUK i gyflawni’r cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr ar gyfer Pecynwaith.
Gallai’r Sefydliad Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr fod yn gyfrifol am weinyddu’r gweithgareddau sy’n gysylltiedig â’r canlynol:
-
cyfrifo ffioedd cynhyrchwyr
-
modiwleiddio ffioedd cynhyrchwyr
-
y Fethodoleg Asesu Ailgylchadwyedd (RAM)
-
modelu costau awdurdodau lleol
-
gohebiaeth a gwybodaeth gyhoeddus
-
gwella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd gweithrediadau awdurdodau lleol
Mae PackUK yn bwriadu penodi Sefydliad Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr ym mis Mawrth 2026.
Darllenwch ganllawiau am Gyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr ar gyfer Pecynwaith: (https://www.gov.uk/government/collections/extended-producer-responsibility-for-packaging).
Pwy all wneud cais
Rhaid i’ch sefydliad fod yn gorff preifat, annibynnol, nid-er-elw.
Pryd ddylech wneud cais
Mae’r cyfnod ymgeisio ar agor nawr. Gallwch gyflwyno eich cais unrhyw bryd cyn 17:00 ddydd Gwener 12 Rhagfyr 2025.
Pe bai’r dyddiad cau hwn yn newid neu’n cael ei ymestyn, byddwn yn rhoi gwybod i chi cyn gynted â phosibl.
Sut mae gwneud cais
Cysylltwch ag EPRCustomerService@defra.gov.uk i ofyn am ddogfennau’r cais.
Bydd PackUK yn ymateb o fewn 3 diwrnod gwaith gyda’r ffurflen gais.
Dychwelwch y ffurflen gais wedi’i llenwi drwy anfon e-bost i EPRCustomerService@defra.gov.uk erbyn 17:00 ddydd Gwener 12 Rhagfyr 2025.
Sut bydd eich cais yn cael ei asesu
Bydd eich cais yn cael ei asesu ar sail teilyngdod a pha mor addas ydych chi i fod yn Sefydliad Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr. Byddwn yn edrych ar:
-
sut rydych chi’n dangos eich bod yn gallu cyflawni’r cyfrifoldebau ar gyfer y gweithgareddau y byddwch chi’n eu gweinyddu;
-
sut rydych chi’n dangos bod gan eich sefydliad gefnogaeth cynhyrchwyr, eu cynrychiolwyr, ac eraill y mae’r penodiad yn debygol o effeithio arnynt.
Byddwn ni’n cynnal asesiad cychwynnol o’r holl geisiadau a ddaw i law, ac yna’n gofyn i chi am ragor o wybodaeth, os oes angen. Byddwn ni’n defnyddio system sgorio safonol i roi sgôr i’r ceisiadau.
Bydd y sgoriau hyn yn sail i’r argymhelliad y byddwn ni’n ei gyflwyno gerbron Gweinidogion ym mhob un o Bedair Gwlad y Deyrnas Unedig er mwyn iddynt benodi Sefydliad Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr.