Canllawiau

Gwneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth wedi ei ôl-ddyddio os ydych yn fenyw drawsryweddol

Efallai bydd menywod trawsryweddol a anwyd rhwng 31 Hydref 1953 a 6 Tachwedd 1953 yn gymwys i gael Pensiwn y Wladwriaeth o 31 Hydref 2018 hyd at ddyddiad eu pen-blwydd yn 65 oed.

Cymhwysedd

Efallai y bydd gennych hawl i gael Pensiwn y Wladwriaeth wedi ei ôl-ddyddio os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol:

  • cawsoch eich geni rhwng 31 Hydref 1953 a 6 Tachwedd 1953
  • roeddech wedi byw yn eich rhywedd a gaffaelwyd am o leiaf 2 flynedd erbyn 31 Hydref 2018
  • rydych wedi cael llawdriniaeth ailbennu rhywedd

Mae hyn oherwydd bod dyfarniad llys yn golygu bod rhaid cydnabod unigolyn trawsryweddol sydd wedi cael llawdriniaeth ailbennu rhywedd ac wedi byw yn y rhywedd a gaffaelwyd am gyfnod sylweddol yn ei ryw a gaffaelwyd at ddibenion Pensiwn y Wladwriaeth.

Sut i wneud cais

Cysylltwch â’r Gwasanaeth Pensiwn a gofynnwch am ffurflen mynegi diddordeb.

Y Gwasanaeth Pensiwn

Os ydych yn ffonio o’r DU

Llinell Gymraeg: 0800 731 0453
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am i 3.30pm

Llinell Saesneg: 0800 731 0469
Relay UK (os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 731 0469
Ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Os ydych yn ffonio o dramor

Ffôn o’r tu allan i’r DU: +44 (0)800 731 0469
Relay UK (os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): +44 151 494 1260 yna 0800 731 0469
Ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Ysgrifennu at y Gwasanaeth Pensiwn

E-bost: npc.grteam@dwp.gov.uk

Trwy’r post:
GR Team (iyn gyfrinachol)
Newcastle Pension Centre
TJ001
Tyneview Park
Benton
Tyne and Wear
NE98 1BA

Beth fyddwch ei angen i wneud cais

Pan ddychwelwch y ffurflen, bydd angen i chi anfon prawf eich bod wedi bod yn byw yn eich rhywedd a gaffaelwyd am o leiaf 2 flynedd erbyn 31 Hydref 2018. Gallai hyn gynnwys copïau o’ch:

  • pasbort
  • trwydded yrru
  • slipiau cyflog
  • dogfennau budd-daliadau
  • biliau cyfleustodau
  • dogfennau swyddogol eraill

Mae rhaid i’r holl ddogfennau fod yn eich enw a’ch rhywedd a gaffaelwyd. Mae rhaid bod y ddogfen gynharaf wedi ei dyddio cyn 31 Hydref 2016.

Bydd angen i chi hefyd anfon prawf eich bod wedi cael llawdriniaeth ailbennu rhywedd, er enghraifft llythyr gan eich meddyg.

Beth fydd yn digwydd nesaf

Cewch lythyr a fydd yn dweud wrthych a oes gennych hawl i ôl-ddyddio Pensiwn y Wladwriaeth. Os oes gennych hawl, telir unrhyw arian sy’n ddyledus i chi.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 4 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 15 Hydref 2025 show all updates
  1. Removed textphone details and added Relay UK details.

  2. Updated telephone number and opening times for the Pension Service.

  3. Updated opening times for the Pension Service.

  4. First published.

Argraffu'r dudalen hon