Gwneud cais am daliad untro o dan y Cynllun Iawndal Apeliadau Etifeddol Llwyddiannus
Canllaw os cawsoch lefel is o fudd-dal ar ôl symud i Gredyd Cynhwysol, ac roedd hyn oherwydd penderfyniad i roi terfyn ar eich hen fudd-dal 'etifeddol', a ganfuwyd i fod yn anghywir.
Yn berthnasol i Loegr, yr Alban a Chymru
Cefndir
Mae chwe hen fudd-dal ‘etifeddiol’ yn cael eu disodli gan un budd-dal, Credyd Cynhwysol. Y rhain yw Budd-dal Tai, credydau treth (Credyd Treth Plant a Chredyd Treth Gwaith), Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm a Chymhorthdal Incwm.
Unwaith y bydd rhywun yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, mae eu budd-daliadau etifeddol yn stopio, ac ni allant symud yn ôl atynt.
Ar gyfer pwy mae’r cynllun
Yn 2020, daeth penderfyniad y Llys Apêl i’r casgliad na all pobl, a oedd â phenderfyniad anghywir i ddod â’u budd-daliadau etifeddol i ben a gafodd ei ddiwygio yn ddiweddarach, er enghraifft ar apêl, gael eu budd-dal etifeddol wedi’i adfer os ydynt eisoes wedi hawlio Credyd Cynhwysol. Fodd bynnag, lle roedd gan yr un bobl hawl i lefel is o fudd-daliadau ar Gredyd Cynhwysol, roedd y llys yn cydnabod eu bod wedi dioddef colled ariannol.
Nod y cynllun hwn yw digolledu’r rhai sy’n rhan o’r grŵp hwn ac sy’n bodloni’r gofynion cymhwysedd.
Pwy sy’n gymwys
Efallai y byddwch yn gymwys i gael iawndal os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol:
-
mae gennych brawf roeddech yn derbyn un neu fwy o fudd-daliadau etifeddiol prawf modd, gan gynnwys Budd-dal Tai, credydau treth (Credyd Treth Plant a Chredyd Treth Gwaith), Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm neu Gymhorthdal Incwm
-
gwnaed penderfyniad i roi terfyn a un o’ch budd-daliadau etifeddol, gan ddod â’ch hawl i ben
-
oherwydd y penderfyniad hwnnw, fe wnaethoch chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn llwyddiannus o fewn mis i’ch budd-dal etifeddol ddod i ben
-
roedd swm y Credyd Cynhwysol roedd gennych hawl iddo yn llai na’r hyn a gawsoch gan eich budd-dal etifeddol cyn y symud
-
fe wnaethoch herio’r penderfyniad a stopiodd eich budd-dal, ac fe wnaethoch ennill, sy’n golygu y dylech fod wedi parhau i dderbyn eich budd-dal etifeddol yn hytrach na gwneud cais am Gredyd Cynhwysol pan wnaethoch chi
Dim ond pobl sy’n bodloni’r holl amodau hyn sy’n gymwys o dan y cynllun.
Beth mae hyn yn ei olygu i chi
Os bu’n rhaid i chi symud i Gredyd Cynhwysol oherwydd penderfyniad a ganfuwyd yn ddiweddarach i fod yn anghywir, efallai y bydd gennych hawl i daliad untro. Mae hyn yn berthnasol os oedd y swm a gawsoch gan Gredyd Cynhwysol yn llai nag a gawsoch o’ch budd-dal etifeddol.
Mae’r cynllun yn rhoi cyfandaliad tebyg i’r hyn y gallai llys fod wedi’i roi i chi am eich colled. Mae’r taliad i gwmpasu’r arian a gollwyd gennych oherwydd na allech ddychwelyd i’ch hen fudd-dal.
Mae’r cyfandaliad yn cael ei weithio allan trwy gymryd eich colled fisol fwyaf a’i luosi â 12.
Sut i wneud cais
Llenwch y .
Gallwch hefyd ysgrifennu llythyr sy’n ateb y cwestiynau ar y ffurflen.
Anfonwch y ffurflen gais neu’r llythyr at:
Freepost
Lowestoft Jobcentre
Post Handling Site B
Wolverhampton
WV99 1NH
RTGC-GJXX-GSKR
Os na allwch lenwi’r ffurflen, gallwch hefyd wneud cais drwy ein ffonio ni:
Ffôn: 0800 158 5557
Llinell Gymraeg: 0800 328 1744
Relay UK (os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 328 5644
Gwasanaeth video relay Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur - darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu dabled
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau
Beth sy’n digwydd nesaf
Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn penderfynu a ddylech dderbyn taliad o dan y cynllun ac efallai y byddant yn cysylltu â chi i gael rhagor o wybodaeth.
Byddant yn anfon penderfyniad atoch am eich cais o fewn 6 wythnos i’w dderbyn.
Penderfyniad y Llys Apêl
Mae’r cynllun iawndal hwn yn dilyn penderfyniad y Llys Apêl TD, AD ac R v Secretary of State for Work and Pensions [2020] EWCA Civ 618.
Ei nod yw digolledu pobl a oedd yn gorfod gwneud cais am Gredyd Cynhwysol oherwydd bod penderfyniad wedi’i wneud i roi terfyn ar eu budd-daliadau etifeddol prawf modd (Budd-dal Tai, credydau treth, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Lwfans Ceisio Gwaith, neu Gymhorthdal Incwm). Cawsant hawl is o dan Gredyd Cynhwysol. Yn ddiweddarach, newidwyd y penderfyniad i roi terfyn ar eu budd-daliadau etifeddol ond ni ellid adfer eu budd-daliadau etifeddol blaenorol.