Canllawiau

Ynglŷn â Sgrinio Daearegol Cenedlaethol (NGS)

Dod i adnabod daeareg eich ardal

Cyflwyniad

Mae’r safle hwn yn cyflwyno canfyddiadau ymarfer Sgrinio Daearegol Cenedlaethol a gynhaliwyd gan Rheoli Gwastraff Ymbelydrol (RWM) i grynhoi’r ddaeareg sy’n berthnasol i waredu gwastraff ymbelydrol uwch ei actifedd yn ddiogel. At ddibenion sgrinio, mae Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon wedi cael eu rhannu’n 13 rhanbarth daearegol sy’n cael eu defnyddio gan Arolwg Daearegol Prydain yn ei Ganllawiau Rhanbarthol. Mae ein gwaith yn darparu asesiad o’r ddaeareg ym mhob rhanbarth sy’n berthnasol i ddiogelwch cyfleuster gwaredu daearegol, ond bydd rhaid cael gwybodaeth fanylach i nodi lleoliadau addas. Cliciwch un o’r dolenni rhanbarthol isod am fwy o wybodaeth.

NGS - Reviewing our geology

Cliciwch yma i wylio fideo byr sy’n cyflwyno Sgrinio Daearegol Cenedlaethol. Ar gyfer gwaredu daearegol, mae rhwystrau wedi’u hadeiladu neu o law dyn yn gweithio gyda’r ddaeareg i ddarparu diogelwch tymor hir. Mae rhoi gwastraff ymbelydrol yn ddwfn o dan y ddaear yn ei roi ymhell tu hwnt i gyrraedd pobl er mwyn ei wneud yn ddiogel. Bydd y graig yn amddiffyn pobl rhag yr ymbelydredd ac, yn dibynnu ar y math o graig, naill ai’n cyfyngu ar yr ymbelydredd neu’n ei rwystro’n gyfan gwbl rhag symud tuag at yr wyneb pan fydd rhwystrau eraill yn dirywio ymhen amser. Bydd gwaredu’n ddwfn o dan y ddaear hefyd yn sicrhau na all y gwastraff byth gael ei ddinoethi ar yr wyneb hyd yn oed os bydd newid yn lefel y môr neu yn ystod unrhyw oes iâ yn y dyfodol. Mae mwy o wybodaeth am sut mae creigiau’n cyfrannu at ddiogelwch tymor hir yma.

Er mwyn gallu cynnwys yr ardal genedlaethol fawr (Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon), mae cydraniad y sgrinio wedi cael ei gadw ar lefel uchel – gan ddefnyddio mapiau sylfaen lle mae centimedr yn cynrychioli tua chwe chilomedr (graddfa o 1:625,000).

Y Cefndir

Mae rhagor o gefndir ynghylch yr agweddau canlynol ar sgrinio ar gael yma:

  • Dull gweithredu ar gyfer gwastraff ymbelydrol uwch ei actifedd ar draws y DU.
  • Canllawiau sgrinio, nodweddion daearegol a gwybodaeth.
  • Canlyniadau sgrinio.
  • Adolygiad annibynnol.

Sgrinio yng nghyd-destun lleoli ehangach a’r camau nesaf.

Yr 13 Rhanbarth

A map of the 13 regions across England, Wales and Northern Ireland that are part of this study

The thirteen geological regions

Cliciwch y dolenni isod i gael gwybodaeth am y rhanbarth sydd o ddiddordeb i chi:

  1. Gogledd Iwerddon
  2. Gogledd Lloegr
  3. Y Pennines ac ardaloedd cyfagos
  4. Dwyrain Lloegr
  5. Cymru
  6. Gororau Cymru
  7. Canolbarth Lloegr
  8. Dwyrain Anglia
  9. Bryste a Chaerloyw
  10. Llundain a Dyffryn Tafwys
  11. De-orllewin Lloegr
  12. Basn Hampshire
  13. Dosbarth Wealden

Cysylltu

Os oes gennych chi ragor o gwestiynau, anfonwch e-bost i gdfenqcymru@nda.gov.uk 

Bydd yr astudiaeth hon yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer ein trafodaethau ag unrhyw gymuned leol fydd yn mynegi diddordeb yn ein rhaglen GDF. Os oes gennych unrhyw gwestiwn, cysylltwch â ni drwy e-bostio gdfenqcymru@nda.gov.uk a bydd aelod o’n tîm yn cysylltu â chi. Os hoffech dderbyn hysbysiadau e-bost am ddiweddariadau i’r tudalennau yma, ’cofrestrwch gyda’n gwasanaeth e-fwletin

Ewch i wefan gwaredu daearegol

Cyhoeddwyd ar 25 January 2018
Diweddarwyd ddiwethaf ar 16 January 2019 + show all updates
  1. Added translation in Welsh due to policy launch by Welsh Government

  2. We have added a new web journey about our National Geological Screening for a Geological Disposal Facility

  3. Added translation