Canllawiau

Cymru – Crynodeb o nodweddion daearegol

Sgrinio Daearegol Cenedlaethol - Isranbarthau Cymru

Dogfennau

Wales Regional Geology

Adroddiad Rhanbarthol Cymru

Manylion

Mae Rheoli Gwastraff Ymbelydrol (RWM) wedi cynhyrchu crynodebau o’r nodweddion daearegol sy’n berthnasol i ddiogelwch cyfleuster gwaredu daearegol ar gyfer pob rhanbarth. Mae’r crynodebau hyn wedi’u bwriadu ar gyfer cynulleidfa ehangach sy’n dechnegol heb fod yn ddaearegol ei natur.

Maent yn crynhoi’r ddealltwriaeth bresennol o’r canlynol:

Mae’r wybodaeth ddaearegol sylfaenol wedi cael ei chasglu a’i hadrodd gan Arolwg Daearegol Prydain fel Adroddiadau Gwybodaeth Dechnegol ar ôl y Canllawiau Terfynol a rhoi’r Cyfarwyddiadau Technegol Manwl a ddatblygwyd at y diben ar waith. Yr Arolwg ydy’r prif ddarparwr data a gwybodaeth geowyddonol gwrthrychol ac awdurdodol yn y DU ac mae’n darparu gwasanaethau arbenigol a chyngor diduedd ar bob elfen o geowyddoniaeth.

Os ydych chi’n defnyddio technoleg gynorthwyol (fel darllenydd sgrin) a bod angen fersiwn o’r ddogfen hon mewn fformat mwy hygyrch arnoch, anfonwch e-bost i gdfenqcymru@nda.gov.uk. Rhowch wybod i ni ym mha fformat mae angen y ddogfen arnoch chi. Bydd yn help i ni os dywedwch chi pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi’n ei defnyddio.

Bydd yr astudiaeth hon yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer ein trafodaethau ag unrhyw gymuned leol fydd yn mynegi diddordeb yn ein rhaglen GDF. Os oes gennych unrhyw gwestiwn, cysylltwch â ni drwy e-bostio gdfenqcymru@nda.gov.uk a bydd aelod o’n tîm yn cysylltu â chi. Os hoffech dderbyn hysbysiadau e-bost am ddiweddariadau i’r tudalennau yma, ’cofrestrwch gyda’n gwasanaeth e-fwletin

Ewch i wefan gwaredu daearegol

Cyhoeddwyd ar 19 December 2018
Diweddarwyd ddiwethaf ar 16 January 2019 + show all updates
  1. Added translation in Welsh

  2. First published.