Ystadegau Swyddogol

Cwmnïau Corfforedig yn y Deyrnas Unedig – Gorffennaf 2015

Gwybodaeth am gwmnïau a phartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig a gorfforwyd yn y Deyrnas Unedig ar gyfer Gorffennaf 2015.

Dogfennau

Manylion

Ystadegau misol ar gwmnïau, gan gynnwys nifer y corfforiadau, diddymiadau, dogfennau a gofrestrwyd a maint cyfan y gofrestr yn Nhŷ’r Cwmnïau.

Gweler heyfd: Cwmnïau Corfforedig yn y Deyrnas Unedig (yn fisol ac yn wythnosol hyd fis Gorffennaf 2015)

Ystadegau blaenorol

Gallwch darllen datganiadau ystadegau blaenorol ar gyfer cwmnïau corfforedig neu gellir gweld sganiad o ddatganiadau ystadegau blynyddoedd blaenorol ar Yr Archifau Gwladol.

Ystadegau diwygiedig ym mis Gorffennaf:
Canfuwyd gwall yn y daenlen Excel tabl 'corfforiadau, diddymiadau a maint cofrestr hanesyddol'. Mae ffigurau’r gofrestr wirioneddol ar gyfer 2013-14 a 2014-15 (2,969,702 ar gyfer y ddwy) yn anghywir. Mae’r ffigurau hyn wedi cael eu diwygio (2013-14: 2968099 a 2014-15: 3203697).

Mae ffigurau mis Mehefin yn nhabl 'corfforiadau, diddymiadau a maint cofrestr hanesyddol hefyd yn anghywir a dylid defnyddio tabl mis Gorffennaf i gael y ffigurau diweddaraf.

Achos o dorri’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau Swyddogol

Nid oedd caniatáu gweld y cyhoeddiad hwn cyn ei ryddhau yn gyson â’r rheolau a nodir yng Ngorchymyn Gweld Ystadegau Swyddogol cyn eu Rhyddhau 2008, gan arwain at achos o dorri’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau Gwladol. Cafodd adroddiad yn nodi amgylchiadau’r achos o dorri’r Cod ei gyflwyno i Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig. Adroddiad ar achos o dorri’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau Swyddogol (Saesneg yn unig)

Cyhoeddwyd ar 27 August 2015
Diweddarwyd ddiwethaf ar 17 December 2015 + show all updates
  1. A production error was discovered in this document originally published on 27 August 2015. The second bullet on page 4 of ‘Key points’ and on page 8 ‘The growth in incorporated companies’. The ‘Total and the Effective Register increase’ was incorrectly shown as 2.7m. This error has now been corrected to 2.5m. We apologise for any inconvenience caused.

  2. Breach of the Code of Practice for Official Statistics report link added

  3. Statistics revision. Attachments updated: An error has been identified in the Historic Inc, Diss & Register Size Table in the excel spreadsheet. The effective register for 2013-14 and 2014-15 figures (2,969,702 for both years) are incorrect. These figures have been revised (2013-14: 2968099 and 2014-14: 3203697). The June figures in the Historic Inc, Diss & Register Size Table are also incorrect and July's table should be used for the latest figures.

  4. Added translation