Ystadegau Swyddogol

Pwyntiau allweddol ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2016

Cyhoeddwyd 27 October 2016

  • Yn y Deyrnas Unedig yn y 3 mis i 30 Medi 2016, cafwyd 154,685 o gorfforiadau cwmnïau a 102,681 o ddiddymiadau.
  • Ar ddiwedd y cyfnod, 3,795,682 oedd nifer y cwmnïau ar y gofrestr gyfan. 3,548,514 oedd nifer y cwmnïau ar y gofrestr effeithiol.
  • Mae’r gofrestr gyfan a’r gofrestr effeithiol wedi parhau i dyfu ers dechrau 2014.
  • Er gwaethaf tueddiadau tymhorol, mae nifer y corfforiadau a diddymiadau hefyd wedi cynyddu’n gyffredinol ers 2014.

Bu cynnydd sydyn yn nifer y cwmnïau a ddiddymwyd yn ystod chwarter cyntaf 2016, oherwydd newidiadau deddfwriaethol a gyflwynwyd ym mis Hydref 2015

Ar hyn o bryd dim ond yn Saesneg y darperir yr adroddiad ystadegol llawn. Os hoffech weld cyfieithiad Cymraeg o fersiynau o’r adroddiad hwn yn y dyfodol, anfonwch neges e-bost at: statistics@companieshouse.gov.uk. Ystadegau blaenorol

Gallwch ddarllen datganiadau ystadegau blaenorol ar gyfer cwmnïau corfforedig (yn Saesneg) neu gellir gweld datganiadau ystadegau o flynyddoedd blaenorol ar wefan yr Archifau Gwladol.