Anerchiad

Araith Ysgrifennydd Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru

David Jones sy’n amlinellu’r rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer pedwaredd sesiwn y llywodraeth

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
Bae Caerdydd

Hoffwn ddechrau drwy ddweud ei bod yn bleser o’r mwyaf cael bod yma eto heddiw i drafod pedwaredd rhaglen ddeddfwriaethol y llywodraeth.

Pan oeddwn i yma ddiwethaf, ychydig dros flwyddyn yn ôl, mynegais yn glir fy ymrwymiad cadarn i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, y Cynulliad hwn a busnesau Cymru i sicrhau bod Cymru yn cael y buddsoddiad ar gyfer seilwaith, y swyddi, a’r twf sy’n rhan o’n cynllun economaidd hirdymor.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r cydweithrediad hwnnw wedi arwain at ganlyniadau go iawn.

Mae gwaith yn mynd rhagddo ar Wylfa Newydd ar Ynys Môn; rydym wedi cadarnhau buddsoddiad o £212 miliwn mewn carchar newydd yn Wrecsam; a chadarnhaodd ffigurau’r farchnad lafur heddiw bod 10,000 yn fwy o bobl mewn gwaith yng Nghymru nag oedd flwyddyn yn ôl.

Cyflawni dros Gymru

Gan mai hwn fydd anerchiad olaf yr Ysgrifennydd Gwladol i’r Cynulliad hwn yn ystod cyfnod y Senedd hon, rwyf am ddechrau drwy edrych ar yr hyn y mae’r llywodraeth hon wedi’i gyflawni dros Gymru ers i ni ddod i rym.

Rydym wedi cyflawni pob un o’r ymrwymiadau a oedd yn ymwneud yn benodol â Chymru yn ein rhaglen lywodraethu, gan gynnwys:

  • Galluogi cynnal refferendwm 2011 ar bwerau deddfu sylfaenol i’r Cynulliad hwn - ers hynny, mae 14 o Ddeddfau’r Cynulliad wedi cael Cydsyniad Brenhinol

  • Sefydlu Comisiwn Silk, sydd bellach wedi cyflawni ei gylch gwaith.

Hoffwn gofnodi unwaith eto fy niolch i Paul Silk a’i gomisiynwyr am eu diwydrwydd a’u gwaith caled. Wrth gwrs, ar hyn o bryd rydym yn deddfu i roi cyfres gyntaf o argymhellion y comisiwn ar waith.

Mae Llywodraeth Cymru a ninnau hefyd wedi cytuno ar broses i roi sylw i unrhyw gydgyfeirio mewn lefelau cyllido rhwng Cymru a Lloegr yn y dyfodol.

Mae’r ymrwymiadau hyn yn dangos ymrwymiad y llywodraeth i ddatganoli ac i sicrhau bod datganoli’n gweithio’n effeithiol. Ond dim ond rhan o’r stori yw hynny.

Drwy gynyddu lwfansau personol, rydym yn lleihau treth incwm i dros 1.2 miliwn o bobl yng Nghymru – a fydd yn werth hyd at £805 y flwyddyn erbyn i gyfnod y senedd hon ddod i ben – ac erbyn mis Ebrill y flwyddyn nesaf bydd 155,000 yn llai o bobl yn rhan o’r system dreth.

Rydym wedi dileu cynlluniau’r llywodraeth ddiwethaf i gynyddu treth tanwydd, gan gynnwys yr un a fwriadwyd ar gyfer mis Medi eleni. Mae hyn yn golygu bod tanwydd ugain ceiniog y litr yn rhatach i berchnogion yr 1.75 miliwn o gerbydau sydd yng Nghymru na’r hyn y byddai wedi bod.

Aethom ati i ddechrau cyflawni ein cynllun economaidd hirdymor yn 2010 ac rydym wedi cadw ato – cynllun sy’n sicrhau swyddi, buddsoddiad a thwf economaidd.

Mae’r cynllun hwn wedi disodli ffug ffyniant wedi’i yrru gan ddyledion y llywodraeth flaenorol â thwf cynaliadwy sy’n cael ei arwain gan y sector preifat, felly mae mwy o bobl mewn gwaith yng Nghymru nawr nag erioed o’r blaen.

Mae’r llywodraeth hon yn un sydd wedi cyflawni dros Gymru, a drwy ein pedwaredd rhaglen ddeddfwriaethol uchelgeisiol a amlinellwyd yn Araith y Frenhines, mae hi’n un sy’n parhau i gyflawni dros Gymru.

Economi gryfach

Bydd y rhaglen hon yn bwrw ymlaen â’r broses o adeiladu economi gryfach a chymdeithas decach.

Byddwn yn cryfhau’r economi drwy sicrhau bod cwmnïau bach yn cael gwell mynediad at gyllid, drwy leihau biwrocratiaeth, drwy helpu busnesau i ehangu i wledydd tramor a drwy hybu buddsoddiad mewn seilwaith.

Bydd y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth yn helpu’r 193,000 o gwmnïau bach yng Nghymru drwy ei gwneud yn haws iddynt gael gafael ar gyllid. Bydd yn rhoi mynediad teg i’r £230 biliwn sy’n cael ei wario yn y DU bob blwyddyn ar ffurf contractau caffael cyhoeddus ac yn sicrhau bod mwy o ffynonellau cyllid ar gael yn haws i fusnesau sy’n dymuno buddsoddi. Bydd hefyd yn gosod targedau dadreoleiddio i leihau’r fiwrocratiaeth sy’n parhau i lesteirio twf busnesau bach.

Mae’r sector preifat yng Nghymru eisoes wedi creu 93,000 o swyddi newydd dros y pedair blynedd diwethaf. Serch hynny, rydym yn cydnabod y gallwn wneud mwy i leihau’r rhwystrau sy’n cyfyngu ar allu busnesau i ymsefydlu, i arloesi ac i dyfu.

Ac i roi help ychwanegol i fusnesau a’u gweithwyr fe fyddwn, drwy’r Bil Cyfraniadau Yswiriant Gwladol, yn ei gwneud yn haws i weithwyr hunangyflogedig dalu Yswiriant Gwladol, ac yn mynd ar ôl y rheini sy’n osgoi gwneud taliadau ar ran eu gweithwyr.

Drwy’r Bil Seilwaith, byddwn yn cynyddu buddsoddiad mewn seilwaith ac yn gwella annibyniaeth a sicrwydd ynni’r Deyrnas Unedig.

Yn amodol ar ymgynghoriad, bydd y Bil hwn yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu nwy ac olew o siâl ac ynni geothermal, a allai sicrhau gwerth cymaint â hyd at 4 biliwn o gasgenni o olew dros yr ugain mlynedd nesaf. Bydd hefyd yn cyflwyno’r hawl i gymunedau gael y cynnig i brynu cyfran mewn cynlluniau adnewyddadwy masnachol newydd.

Un o brif flaenoriaethau’r llywodraeth fydd datblygu economi sy’n gwobrwyo pobl sy’n gweithio’n galed. Bydd y Bil Treth Pensiynau yn rhoi mwy o lawer o hyblygrwydd a dewis i bobl sydd ar fin ymddeol o ran penderfynu sut i wario neu fuddsoddi’r hyn maent wedi’i gynilo fel rhan o’u pensiwn.

Bydd y Bil Pensiynau Preifat yn gwneud y farchnad pensiynau preifat yn arloesol, gan roi dewis i bobl sy’n cynilo’u harian ar gyfer ymddeol i ymuno â chynlluniau cyfunol sy’n rhannu’r risg rhwng yr aelodau.

Erbyn 2037, bydd chwarter poblogaeth Cymru dros 65 oed – oddeutu 292,000 yn fwy o bobl na’r nifer heddiw - ac mae’n iawn iddynt gael cymaint o ddewisiadau ag y bo modd o ran sut i gynilo ar gyfer eu hymddeoliad a sut i gael gafael ar y buddion.

Cymdeithas decach

Rydym hefyd yn parhau â’n gwaith i adeiladu cymdeithas decach sy’n fwy diogel.

Byddwn yn cyflwyno Bil Taliadau Gofal Plant i helpu teuluoedd sy’n gweithio i dalu am eu costau gofal plant drwy roi cymorth sy’n cyfateb i ostyngiad sylfaenol yn y dreth hyd at uchafswm o £2,000 y flwyddyn i bob plentyn.

Bydd y Bil Troseddau Difrifol yn rhoi mwy o bwerau i asiantaethau sy’n gorfodi’r gyfraith i ddelio â throseddau difrifol a chyfundrefnol ac i wneud yn siŵr nad yw’r rheini sy’n cyflawni troseddau difrifol yn elwa ohonynt. Bydd y Bil hefyd yn atgyfnerthu’r gwaith o amddiffyn plant drwy fynegi’n glir bod troseddau creulondeb tuag at blant hefyd yn cynnwys creulondeb sy’n achosi niwed seicolegol.

Bydd y Bil Lluoedd Arfog (Cwynion am y Gwasanaeth a Chymorth Ariannol) yn diwygio ac yn atgyfnerthu’r system gwynion yn ein Lluoedd Arfog ac yn gwneud yn siŵr bod modd i ni roi mwy o gymorth i elusennau a mudiadau llesiannol sy’n rhoi llawer iawn o gymorth hanfodol i bersonél yn ein lluoedd arfog.

Bydd y Bil Caethwasiaeth Modern yn cryfhau’r gyfraith i atal caethwasiaeth a masnachu pobl, gan wella’r gefnogaeth sydd ar gael i bobl sydd wedi dioddef troseddau o’r fath. Bydd y Bil yn creu Comisiynydd Atal Caethwasiaeth i sicrhau ymateb mwy cydgysylltiedig i orfodi’r gyfraith. Wrth gwrs, mae gan Gymru ei Chydgysylltydd Atal Caethwasiaeth ei hun; rydym yn cymeradwyo’r ffaith bod y swydd honno wedi’i chreu ac yn awr yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i weld sut bydd darpariaethau’r Bil hwn yn cyd-fynd â’r rôl bwysig honno.

Bydd y Bil Gwroldeb, Cyfrifoldeb a Gweithredu Cymdeithasol yn sicrhau gwell amddiffyniad i’r miliwn o bobl yng Nghymru sy’n gwirfoddoli eu hamser i helpu eraill a’r rheini sy’n helpu mewn argyfyngau, er enghraifft y llifogydd a effeithiodd ar gymunedau Aberystwyth a Bae Colwyn y gaeaf diwethaf, os bydd camau cyfreithiol yn cael eu cymryd pan fydd rhywbeth yn mynd o’i le.

Drwy’r Bil Galw Aelodau Seneddol yn Ôl, byddwn yn cyflwyno ffordd o alw Aelodau Seneddol yn ôl mewn achosion o ddrwgweithredu difrifol. Er y bwriedir i’r Bil hwn fod yn berthnasol i Aelodau Seneddol yn unig, rwyf wedi ysgrifennu at y Llywydd yma yn gofyn am ei barn ynghylch a fyddai proses galw’n ôl yn briodol ar gyfer Aelodau Cynulliad hefyd.

Mae fy nghydweithiwr, Ysgrifennydd Gwladol yr Alban, wedi ysgrifennu rhywbeth tebyg i Senedd yr Alban, a bydd yr atebion a gawn yn helpu i greu dull gweithredu ar gyfer galw’n ôl yng nghyd-destun y deddfwrfeydd datganoledig.

Yn olaf, bydd Bil Cymru yn parhau â’i daith drwy’r senedd yn y sesiwn newydd, gan sicrhau mwy o bwerau ym maes trethiant a benthyca i’r Cynulliad hwn a Gweinidogion Cymru, a rhoi’r gallu i’r Cynulliad bennu ei drefniadau cyllidebol ei hun. Rwy’n siŵr y byddwch yn croesawu’r pwerau hyn ac yn eu defnyddio’n ddoeth, er mwyn hybu twf a ffyniant economi Cymru.

Gweithio gyda Llywodraeth Cymru

Mae gan nifer o Filiau eraill yn y rhaglen oblygiadau i Gymru hefyd, ac mae fy swyddfa’n gweithio gydag adrannau eraill yn Whitehall i wneud yn siŵr bod buddiannau Cymru yn cael eu hystyried yn llawn wrth i’r ddeddfwriaeth gael ei datblygu.

Rydym ni’n llywodraeth sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod datganoli’n gweithio, ac rydym yn ymwneud yn llawn â Llywodraeth Cymru yng nghyswllt y Biliau hynny a fydd yn cyffwrdd â materion datganoledig.

A phan fydd angen Cynigion Caniatâd Deddfwriaethol, byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cymorth yn cael ei roi.

Casgliad

Ddirprwy Lywydd, mae rhaglen ddeddfwriaethol y llywodraeth yn adeiladu ar y gwaith rydym wedi’i wneud er 2010 i gyflawni ein cynllun hirdymor i ddatblygu economi gryfach a chymdeithas decach.

Mae’n rhaglen a fydd yn dwyn budd i bobl Cymru, yn yr un modd ag y bydd yn dwyn budd i bobl ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig.

Bydd yn helpu i gryfhau ein Hundeb ac yn dangos yn glir y manteision a fydd yn dod i ran pob un ohonom wrth fod yn rhan o Deyrnas Unedig a chryf.

Bydd yn parhau â momentwm y twf economaidd cynaliadwy a welwyd dros y flwyddyn ddiwethaf, sy’n cael ei hybu gan sector preifat sy’n tyfu.

Mae hon yn rhaglen ddeddfwriaethol sy’n cyflawni i Gymru, ac rwy’n ei chymeradwyo i chi heddiw.

Cyhoeddwyd ar 11 June 2014