Anerchiad

Araith Uwchgynhadledd Allforio Busnes Cymru

Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn agor Uwchgynhadledd Allforio Busnes Cymru yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd.

Allforio

Cyflwyniad

Bore da a diolch i chi Dylan am y cyflwyniad. Rydw i wrth fy modd yn eich croesawu chi i gyd fan hyn y bore yma.

Mae’r digwyddiad hwn wedi bod ar y gweill ers fy sgwrs gyntaf un gyda Liam Fox, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach Ryngwladol, yn ôl yn yr haf llynedd.

Roedd yn sgil y refferendwm a’r realiti fod y genedl newydd bleidleisio i adael yr UE.

Roeddem ni’n cydnabod y byddai hyn yn darparu rhai heriau ar gyfer pob busnes yng Nghymru, ac fel y crybwyllwyd i mi gan Gadeirydd y CBI, mae busnesau yn ffynnu ar newid ac maen nhw wedi dangos cadernid mawr.

Fodd bynnag, rydym ni’n cydnabod yn ogystal fod hwn yn amser o gyfle mawr, i’r DU, ac i fusnesau a’r economi yng Nghymru.

Fel rhan o’r DU, mae Cymru yn elwa o’r diogelwch economaidd a’r dylanwad rhyngwladol sy’n dod o rannu ein hadnoddau a rhannu ein llwyddiannau â’r Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Rydym ni angen sicrhau bod gan fusnesau yng Nghymru bob offeryn posibl, er mwyn iddyn nhw fanteisio ar y cyfleoedd a gafodd eu cyflwyno.

Mae Liam a minnau, a Llywodraeth Cymru yn rhannu’r un weledigaeth am Deyrnas Unedig sy’n fyd-eang ac yn edrych tuag allan, ac rydym ni’n cefnogi awydd i sicrhau bod ei adran ef yn helpu busnesau drwy’r DU i gyrraedd eu llawn botensial drwy edrych am farchnadoedd byd-eang.

Fel y dywedodd y Prif Weinidog ym mis Ionawr ‘Nid oedd canlyniad y refferendwm yn benderfyniad i droi’n fewnblyg ac encilio o’r byd’. Sefydlodd hi Adran Masnach Ryngwladol Llywodraeth y DU er mwyn canolbwyntio ar eich cefnogi chi a busnesau eraill yn eich uchelgais masnach, ac am y rheswm hwnnw, mae’n rhaid i bob un ohonom ni fod yn uchelgeisiol dros Gymru, ac rydw i’n dymuno ein gweld yn manteisio ar bob cyfle.

Ym mis Rhagfyr, cyfarfu Liam Fox a minnau â nifer o fusnesau o Gymru.

Heddiw, mae’r uwch-gynhadledd hon yn adeiladu ar yr ymgysylltiad hwnnw drwy ddod â mwy o fusnesau o bob cwr o Gymru ynghyd er mwyn clywed am allforio.

Mewn ychydig o funudau, byddwch chi’n clywed gan fy ffrind da a’m cydweithiwr, Mark Garnier, y Gweinidog dros Fasnach. Cyfarfu ef a minnau yr wythnos diwethaf er mwyn trafod sut y gallwn ni weithio gyda’n gilydd i hyrwyddo masnach a buddsoddiad yng Nghymru – rydym ni eisoes yn cynllunio ar gyfer canlyniadau’r uwch-gynhadledd heddiw.

Rydw i’n bwriadu sicrhau i’r eithaf bod busnesau yng Nghymru yn ganolog i deithiau masnach, a byddaf yn mynychu nifer o deithiau masnach er mwyn cynnig fy nghefnogaeth i’ch helpu chi i ennill y cytundeb hwnnw, a gobeithiaf y bydd rhai ohonoch yn gallu ymuno â ni.

Allforion

Mae Cymru eisoes yn genedl sy’n allforio; gwerth allforion Cymru yn 2015 oedd £11.6 biliwn.

Gyda datblygiadau technolegol yn cael gwared â’r rhwystrau o amser a phellter, mae gennym ni gyfle euraid i lunio swyddogaeth newydd i ni ein hunain yn y byd, ac mae hon yn un sy’n rhoi pobl Prydain gyntaf.

Mae llawer o’r datblygiadau mewn technoleg sy’n pweru ein ffonau symudol a dyfeisiau eraill yn cael eu harloesi fan hyn yng Nghymru.

Mae dros hanner awyrennau masnachol y byd yn awr yn hedfan drwy ddefnyddio adenydd a wnaed gan Airbus ym Mrychdyn, a phob dau funud, mae awyren wedi’i phweru gan GE yn esgyn i’r awyr yn rhywle yn y byd.

Ond nid busnesau mawrion yn unig a all allforio. Mewn gwirionedd, bydd busnesau mawrion yn mynd â ni rhan o’r ffordd yn unig yn ein huchelgais.

Yn 2015, cymerodd pedair mil o gwmnïau Cymru eu camau allforio cyntaf – fy uchelgais i yw gweld mwy o fusnesau yng Nghymru yn dilyn ôl eu troed.

Yr wythnos ddiwethaf, roeddwn i yng Ngwobrau Busnes Cymru yn Siambr Fasnach De Cymru lle cefais yr anrhydedd o gyfarfod â nifer o wahanol fusnesau sydd eisoes yn allforio.

Hoffwn estyn fy llongyfarchiadau i enillwyr y wobr llwyddiant drwy fasnach dramor, sef Welsh Hill Bakery, a’r holl enwebedigion ac rydw i’n gwybod bod rhai ohonyn nhw yma yn yr ystafell heddiw.

Mae busnesau bychain drwy Gymru, sydd yn cael eu cefnogi yn ogystal gan Ffederasiwn y Busnesau Bach, yn allforio am y tro cyntaf, gyda chefnogaeth Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

Cig Oen Cymru, Chwisgi Penderyn a Halen Môr Môn i enwi dim ond rhai.

Bu Halen Môn yn allforio ers 2001 ac mae wedi cyrraedd y pwynt lle y mae’n gwerthu halen yn awr i 17 o wahanol wledydd drwy’r byd.

Cefnogaeth gan y Llywodraeth

Mae llwyddiant allforio cwmnïau fel Halen Môn yn ddibynnol ar entrepreneuriaeth y rhai hynny sydd ynghlwm â’r cwmni, ond mae gan y Llywodraeth yn ogystal ran i’w chwarae drwy helpu a chefnogi.

I Halen Môn, roedd hynny’n cynnwys sefydlu cyfarfodydd gyda phrynwyr mewn marchnadoedd a oedd yn amrywio o Hong Kong i Singapore, Tsieina, Rwsia a Siapan.

Eu helpu nhw i fynd drwy’r gwaith papur angenrheidiol.

A chefnogi eu cais ar gyfer statws Enw Tarddiad Gwarchodedig yn 2014.

Yn ychwanegol at hynny, gall Llywodraeth y DU gefnogi busnesau drwy ddod â chwmnïau Prydeinig GWYCH at ei gilydd mewn meysydd perthynol ar Deithiau Masnach ac mewn digwyddiadau eraill.

Mae gan Lywodraeth y DU 1,200 o staff ymroddedig mewn 109 o wledydd drwy’r byd ‒ adnodd o safon fyd-eang ar gyfer busnesau yng Nghymru i barhau i fanteisio arno a dyna’n union beth yr ydw i eisiau’i weld yn digwydd.

Mae’r Adran Masnach Ryngwladol yn adran ar gyfer y DU i gyd, ac rydw i eisiau gweld busnesau yng Nghymru yn manteisio ar y gefnogaeth y gall yr adran ei chynnig. P’un ai ydych chi’n fusnes yn Abertawe neu’n Swindon, mae gennych chi’r hawl i gael yr un gefnogaeth.

Yn ystod y flwyddyn ariannol hon, mae’r calendr gweithgareddau wedi cynnwys 791 o deithiau masnach a digwyddiadau sydd ar gael ar gyfer cwmnïau yn y DU.

Yn ogystal, mae’n cynnwys mwy na 80 o deithiau o’r tu allan a’r tu mewn a grëwyd gan yr Adran Masnach Ryngwladol i’r DU ac o’r DU gyda’n partneriaid masnachu allweddol drwy’r byd.

Yng Nghymru, mae’r Adran Masnach Ryngwladol wedi helpu mwy na 600 o gwmnïau eleni wrth gyflawni gwasanaethau allforio – yn cynnwys cefnogaeth oddi wrth ein canolfannau tramor, help wrth fynychu sioeau masnach rhyngwladol ac ymchwil i’r farchnad.

Dywedodd 20 o gwmnïau o Gymru wrthym ni fod ein cefnogaeth wedi eu helpu nhw i ennill cytundebau allforio gwerth mwy na £200 miliwn yn ystod y naw mis olaf.

Gweithio gyda Llywodraeth Cymru

Mae’r gefnogaeth a gynigir gan Lywodraeth Cymru yn ategu’r gefnogaeth a gynigir gan Lywodraeth y DU. Nid ydym yn cystadlu â’n gilydd. Rydym yn dymuno i fusnesau Cymru allforio ac ennill cytundebau allforio.

Gyda’n gilydd, rydym ni’n cefnogi busnesau o bob maint ac ymhob sector, gyda phob cam o’u siwrnai allforio.

Rydw i’n gwybod bod Gweinidog yr Economi, Ken Skates yn siomedig nad yw’n gallu bod yma heddiw, ond yn ddiweddarach y bore yma, bydd Mick McGuire, Cyfarwyddwr Sectorau yn Llywodraeth Cymru yn ymuno â ni, ochr yn ochr â chynrychiolwyr o Lywodraeth y DU, ar gyfer sesiwn ynglŷn â chefnogaeth allforio sydd ar gael i fusnesau yng Nghymru. Credaf fod hyn yn dangos pa mor agos y mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’i gilydd ar yr agenda hon sy’n cael ei rhannu.

Ar ôl hynny, byddwn yn clywed gan Jon Rennie o Cloth Cat Animation, Tim Lowe o Dawnus ac Andrew Evans o SPTS, tri o allforwyr llwyddiannus o Gymru, ynglŷn â’u profiadau o allforio a sut y mae’r Llywodraeth wedi’u cefnogi nhw gyda’u hymdrechion. Yn ogystal, byddwn yn hoffi clywed lle y gallai Llywodraeth y DU fod wedi mynd ymhellach.

Y Casgliad

Gobeithiaf y byddwch chi’n gadael y fan hon heddiw wedi cael eich ysbrydoli i edrych ar farchnadoedd y byd.

Yn ogystal, gobeithiaf y byddwch chi’n gadael y fan hon yn gwybod sut i gael mynediad at yr offer a fydd yn eich helpu i wireddu’r weledigaeth honno.

Mae miliynau o bobl drwy’r byd yn edrych am eich sgiliau chi, eich arbenigedd chi, eich cynnyrch chi a’ch gwasanaethau chi, ac rydw i’n eich annog i ystyried hyn.

Fy ngwaith i fel Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru yw cefnogi busnesau Cymru a gwneud popeth a allaf i helpu busnesau fel eich busnesau chi i ffynnu. Mae fy nrws ar agor i chi bob amser.

Rydw i’n dymuno pwysleisio mai ar lefel y DU, drwy fy adran yn Swyddfa Cymru, drwy’r Adran Masnach Ryngwladol, a thrwy’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad, y gallwn ni eich helpu chi i symud y gwaith hanfodol hwn hyd yn oed ymhellach, gan wneud cysylltiadau newydd o gwmpas y byd.

Rydym ni’n benderfynol i wneud unrhyw beth a phopeth y gallwn ni er mwyn datblygu eich busnes a sicrhau cytundebau allforio i chi.

Hoffwn yn awr groesawu’r Gweinidog dros Fasnach Ryngwladol, Mark Garnier, a fydd yn dweud mwy ynglŷn â buddion masnachu, ac ynglŷn â’r gefnogaeth sydd ar gael drwy’i adran ef

Cyhoeddwyd ar 6 March 2017