Anerchiad

Yr Iaith Gymraeg: Dyletswydd a Her

Prifysgol Caerdydd - 25 Chwefror 2015

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
The Rt Hon Alun Cairns MP

Cyflwyniad

Noswaith dda.

Gai ddechrau drwy ddiolch i Ganolfan Llywodraethiant Cymru am gynnal y ddarlith hon.

Ers blynyddoedd, mae’r Ganolfan wedi arwain y drafodaeth wleidyddol a chyfansoddiadol yma yng Nghymru.

Hefyd, hoffe ni fanteisio ar y cyfle i longyfarch Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd am ei llwyddiant academaidd diweddar.

Ers bron i ganrif, mae’r ysgol wedi cyfrannu at fywyd diwylliannol Cymru, gan gynhyrchu nifer o ysgolheigion a llenorion enwog - yn cynnwys neb llai na Saunders Lewis - rhywun fyddai wedi dilyn ein trafodaethau heno a diddordeb rwy’n siŵr! Mae’r Ysgol wedi cael ei chydnabod fel yr orau yng Nghymru a’r 7fed yn y DU, am safon ei gwaith ymchwil. Mae Caerdydd bellach yn uwch na Rhydychen, Caergrawnt a Bryste o ran ansawdd ymchwil. Llongyfarchiadau i ti Sioned ac i’r holl staff a’r myfyrwyr sy’n gysylltiedig â’r ysgol.

Cenedl heb Iaith, Cenedl Heb Galon

Heno, hoffwn gyflwyno fy ngweledigaeth am sut ddylem amddiffyn a datblygu dyfodol llwyddiannus ar gyfer yr iaith Gymraeg.

Fe sylwch chi yn syth fy mod i yn siarad am ddyfodol yr iaith. Yr iaith Gymraeg yw ein hetifeddiaeth bwysicaf fel cenedl. Er gwaethaf holl bwysau’r byd modern, dwi’n sicr bod gan yr iaith ddyfodol disglair - ond rwy’n gofyn, a ydy’n egni a’n ymdrechion yn cael ei sianelu yn y cyfeiriad cywir ac ar y blaenoriaethau gorau?

Mae parhad diwylliant, cenedl ac iaith yn faterion sy’n naturiol o ddiddordeb i Geidwadwr. Byddai’n esgeulus ohonof i beidio cydnabod cyfraniad sawl, ar draws y sbectrwm gwleidyddol, sydd wedi ymgyrchu mor ddiflino dros warchod ein hiaith. Gwynfor Evans, Cledwyn Hughes a chenhedlaeth gyfan o ymgyrchwyr diflino dros yr iaith. Y blaenaf yn eu plith, y diweddar John Davies Bwlchllan a Meredydd Evans.

Byddai’n esgeulus ohona i hefyd pe na fyddem yn cydnabod cyfraniad allweddol fy mhlaid fy hunan, nac yn talu teyrnged i’r diweddar Arglwydd Roberts o Gonwy.

Roedd Yr Arglwydd Roberts yn fentor i finnau ac yn bencampwr diflino ar ran yr iaith Gymraeg. Roedd yn rhan o’r Swyddfa Gymreig am 15 mlynedd - y cyfnod hiraf fel Gweinidog mewn un adran yn yr 20fed ganrif.

Gyda diolch, i raddau helaeth, i ymgyrchoedd mawr gan y gymuned Gymraeg, y Cymru Cymraeg, fe welsom ni Gerrig Milltir pwysig ac allweddol yn natblygiad y Gymraeg yn y cyfnod modern yn cael eu sefydlu. * S4C * Pasio Deddf yr Iaith Gymraeg * Cyflwyno’r Gymraeg fel pwnc gorfodol yn y Cwricwlwm hyd at Gyfnod Allweddol 4.

O ganlyniad, gosodwyd y sylfeini i’r iaith ffynnu yn ystod hanner olaf yr ugeinfed ganrif.

Ac erbyn diwedd y ganrif ddiwethaf, cafodd y cerrig milltir hynny eu cryfhau gyda sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol.

Roedd sefydliad y Cynulliad ynddo’i hun yn torri tir ar sawl lefel ond o ran iaith, dyma’r corff deddfwriaethol dwyieithog cyntaf ar Ynysoedd Prydain ac roeddwn i’n iawn o fod yn Aelod o’r dechrau.

Degawd yn ddiweddarach, cyflwynwyd Mesur yr Iaith Gymraeg, a chafodd hwn gefnogaeth wrth bob aelod o bob Blaid - Carreg Filltir arall yn natblygiad yr iaith.

Record o Gefnogaeth Llywodraeth y DU i’r Iaith Gymraeg

Mae gan siaradwyr Cymraeg hawl i ofyn am gefnogaeth gan bob Llywodraeth. Dyma pam fy mod yn benderfynol o wneud popeth gwleidyddol y gallaf i gefnogi’r iaith – fel Gweinidog yn San Steffan.

Er bod yr iaith Gymraeg yn fater sydd wedi datganoli, dwi’n poeni o hyd am ei dyfodol. Mae gen i gyfrifoldeb fel siaradwr a rhiant Cymraeg, i gyfrannu at y drafodaeth bwysig yma.

Mae’n werth cofio bod meysydd polisi o arwyddocâd i’r iaith wedi eu cadw yn San Steffan. Mae’n naturiol y dylai Llywodraeth y DU fod yn gefnogol i’r iaith Gymraeg a gwneud popeth o fewn ein grym i gefnogi’r datblygiad.

Mae Swyddfa Cymru yn gweithio’n agos a’r Adrannau eraill i sicrhau eu bod yn darparu gwasanaethau Cymraeg yn unol â’u cynlluniau iaith.

Mae’r Ysgrifennydd Gwladol a minnau’n cwrdd yn rheolaidd â Chomisiynydd yr Iaith. Dwi’n falch iawn o weld Meri Huws yn bresennol, ac yn talu teyrnged i’w holl waith diflino ar ran siaradwyr Cymraeg. Rydym wedi meithrin perthynas waith agos yn ystod y misoedd diwethaf, a boed i hynny barhau.

Dwi ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad o wasanaethau’r Llywodraeth a ddarperir yn y Gymraeg, er mwyn penderfynu sut y gallant fodloni anghenion siaradwyr Cymraeg yn well yn y dyfodol.

Hyd yma, mae deg o’r Adrannau’r wedi mabwysiadu cynlluniau iaith. Mae’r rhain yn cynnwys Adrannau sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus allweddol yng Nghymru, megis y Weinyddiaeth Gyfiawnder a’r Adran Gwaith a Phensiynau.

Rwy hefyd yn falch i gadarnhau fod Swyddfa’r Cabinet wedi cytuno, i’n galwadau am fabwysiadu Cynllun Iaith Gymraeg .

Bydd eu rôl ar draws holl adrannau’r llywodraeth wrth ddigideiddio yn galluogi mwy o bobl i ddefnyddio gwasanaethau’r llywodraeth yn trwy’r Gymraeg.

Dwi’ wedi gofyn ar swyddogion Swyddfa Cymru i ddeall mwy am safbwyntiau siaradwyr Cymraeg tuag at yr iaith. Rydym wedi comisiynu prosiect ymchwil annibynnol er mwyn dysgu mwy am brofiadau siaradwyr Cymraeg sy’n defnyddio gwasanaethau ar-lein y Llywodraeth. Gobeithio y bydd canfyddiadau’r prosiect yn gallu llywio trafodaethau ynglŷn a sut mae gwella’r ddarpariaeth, a buaswn yn croesawu’ch mewnbwn.

Drwy dynnu sylw at y Cerrig Milltir allweddol a phwysig y soniais amdano’n gynt - a’r camau eraill a gweithredwyd yn San Steffan ond efallai’n llai arwyddocaol- Dwi’n ceisio bwysleisio bod y dadleuon gwleidyddol a deddfwriaethol i raddau helaeth wedi’u hennill erbyn hyn.

Does yr un gwleidydd neu sylwebydd o ddifri yn galw am ddiddymu’r Ddeddf, na’r Mesur, na S4C nac yn gwrthwynebu darpariaeth Gymraeg ar draws y gwahanol adrannau.

Mae’n briodol ac yn bwysig bod y Cerrig Milltir allweddol dwi wedi sôn amdanynt yn gynharach a’r newidiadau gwleidyddol sydd wedi dilyn – yn cael eu cydnabod fel llwyddiannau mawr i ymgyrchwyr allweddol – y Cymry Cymraeg dros yr Iaith.

Mae cymaint o frwydrau, er gwaethaf pob disgwyl ar adegau, wedi tanlinellu cerrig milltir hynny ar ran ein cenedl.

Serch hynny, nid oes angen i mi eich atgoffa y bu dirywiad sylweddol yng nghyfran y boblogaeth sy’n siarad Cymraeg, o 20.8% yn 2001 i 19.0% yn 2011.

Roedd y gostyngiad yn niferoedd yn y Fro Gymraeg yn arbennig o bryderus.

Yn Sir Gaerfyrddin, - Sir gyda cymaint o hanes falch o sefyll dros yr iaith - bu’r gostyngiad mwyaf yng Nghymru - o 50.3% yn 2001 i 43.9% yn 2011.

Erbyn hyn mae’r Gymraeg yn iaith leiafrifol mewn dau gadarnle, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion. Dim ond yng Gwynedd a Môn mae dros hanner y boblogaeth bellach yn siarad Cymraeg.

Y tu hwnt i’r Fro, mae’r sefyllfa ychydig yn fwy positif.

Yn ôl y disgwyl, mae Caerdydd yn parhau i ennill siaradwyr Cymraeg. Mae’r hen ddywediad, “Ar Daf yr Iaith y Dyfodd” yn cael ei wireddu.

Yma yn ein prifddinas, cynyddodd niferoedd y siaradwyr Cymraeg. Mae’n arwyddocaol bod bron i 50 y cant o’r siaradwyr Cymraeg yng Nghaerdydd rhwng 15 a 44 oed.

Cymaint y bu’r twf yng Nghaerdydd fel bod ganddi fwy o siaradwyr Cymraeg erbyn hyn na Cheredigion gyfan.

Er bod twf y Gymraeg yng Nghaerdydd ac ardaloedd dinesig yn rhywbeth i’w ddathlu a’i groesawu, ni all hyn fod ar draul y “Fro Gymraeg”.

Ac eto, er mor bwysig oedd y Cerrig Milltir allweddol hynny i statws yr iaith a’r datblygiadau gwleidyddol a dinesig, alla i ddim peidio meddwl ein bod wedi cyrraedd pwynt lle mae rhywfaint o’r egni positif, yr awch i ymgyrchu – ag yr oedd mor lwyddiannus- dros yr iaith wedi diflannu.

Gan fod y strwythurau y buon ni’n ymladd drostynt dros sawl degawd yn eu lle, efallai ein bod ni’n teimlo bod ein gwaith wedi cyflawni. Ac eto, mae data’r Cyfrifiad yn dangos y dylem fod yn ymgyrchu nawr yn fwy caled nag erioed – ond falle mewn cyfeiriad gwahanol o bosib?

Y prif bwynt dwi’n gwneud yw bod yr ymgyrchoedd hynny wedi gwneud llawer mwy na dim ond llwyddo newid deddfwriaeth neu sefydlu sianel deledu.

Roedd yr ymgyrchoedd hynny yn ein hatgoffa bwysigrwydd yr iaith; o’r materion ehangach sy’n gysylltiedig â’r iaith, pa mor fregus y gallai fod a sut roeddem wedi gorfod ymladd er mwyn cael hawliau.

Roedd y newidiadau deddfwriaethol yn gamau pwysig - ond nad oeddent ar eu pen eu hunain, neu hyd yn oed ar y cyd yn ein galluogi i gyrraedd ein nod.

Roedd yr ymgyrchoedd yn cyflawni mwy na’r bwriad penodol. Roeddent yn dangos cyfeiriad y daith - a pha mor berthnasol a phwysig oedd hi.

Mae’n anodd credu bod llawer o’r ymgyrchwyr hynny a weithredodd yn uniongyrchol 30 neu 40 mlynedd yn ôl yn rhan o’r sefydliad erbyn hyn. Ac mae hynny’n beth da.

Ond a oes gwagle wedi’i greu o ganlyniad?

Dim ond drwy ail-greu’r egni a’r awydd hwnnw ddangoson ni er mwyn gyflawni’r Cerrig Milltir y gallwn ni ddiogelu’r iaith Gymraeg.

Rhaid cydnabod, ni all unrhyw lywodraeth roi bywyd i iaith drwy ddeddfwriaeth yn unig, rhywbeth roedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ei hunan yn cydnabod yn ei Maniffesto yn 1972!

Felly, ar beth ddylai’r egni hwnnw ganolbwyntio? Sut ddylen ni lenwi’r gwagle? Dros beth y dylen ni ymgyrchu??

Gadewch i mi amlinellu rhai o’r heriau sy’n ein wynebu

Yn gyntaf, Addysg

Cydnabyddir yn gyffredinol bod ysgolion cyfrwng Cymraeg yn darparu addysg o safon uchel. Yn hanesyddol, mae safon academaidd yn ein ysgolion wedi bod yn llawer uwch nag yn yr Ysgolion Cyfrwng Saesneg.

Pan oeddwn i’n mynd i’r ysgol yn Ystalyfera ychydig dros 30 mlynedd yn ôl, roedd rhai o’m ffrindiau ysgol yn teithio bron i ddwy awr o dde Gŵyr i gyrraedd y dosbarth cofrestru erbyn 9am. Roedd y cymhelliant a’r gefnogaeth i’r iaith mor ddwfn gan rieni’r plant, roeddent yn fodlon gweld eu plant yn goddef y daith bob dydd er mwyn yr iaith.

Yma yng Nghaerdydd erbyn hyn, mae yna 3 Ysgol Uwchradd Cyfrwng Cymraeg a 14 Ysgol Gynradd - a ffigurau tebyg yn Abertawe.

Pwy fyddai wedi dychmygu y byddai yna ysgolion cyfrwng Cymraeg llwyddiannus yn yr hen ‘Tiger Bay’?

Yn allweddol, mae’r ysgolion hyn yn cyrraedd ac yn denu plant a rhieni o gymunedau nad ydynt yn draddodiadol Gymraeg.

Yn Ysgol Pwll Coch er enghraifft, mae rhyw 19% o’r disgyblion yn dod o gefndiroedd lleiafrifol ethnig. Ac mae’r ymgyrch am ysgol cyfrwng Cymraeg yn Grangetown yn fwy o dystiolaeth eto o’r galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg mewn ardaloedd nad ydynt yn draddodiadol Gymraeg. A boed i hynny barhau!

Mae hyn yn newyddion gwych, a dylen ni fod yn eu dathlu. Ac eto, ydy’r cymhelliant hwnnw sydd yn ein gwaed yn dal i fodoli, - y cymhelliant a’n gwnaeth ni’n benderfynol o frwydro am ysgolion newydd?

Mae angen i safon yr addysg a ddarperir mewn Ysgolion Cyfrwng Cymraeg fod o leiaf cystal nag ysgolion cyfrwng Saesneg - gan fod rhaid i ni frwydro o hyd.

Yn anffodus, er gwaethaf holl ymdrechion athrawon, mae’n drist bod ein sector addysg yn llusgo y tu ôl i’r sector yn Lloegr a’r rhan fwyaf o’r byd datblygedig. Mae hyn y cael ei adlewyrchu yn y canlyniadau PISA diweddaraf.

Dyma’r Her -

Meddyliwch pa mor dda fyddai hi pe bai ein hegni i ymgyrchu yn arwain at weld ysgolion cyfrwng Cymraeg yn perfformio’n well nag ysgolion tebyg ar draws Ewrop.

O gymharu â rhannau eraill o’r DU ac Ewrop, mae Cymru ar ei hôl hi o ran cyflwyno “rhaglennu digidol” i’r cwricwlwm - sgiliau pwysig lle mae’n rhaid i’r cyfnewid rhwng ieithoedd fod yn rhywbeth normal.

Mae’r rheini sy’n ymfalchïo yn yr iaith yn dueddol o allu mynegi’r iaith mewn cyd-destun diwylliannol. Mae angen i ni greu cyfleoedd tebyg i’r iaith ffynnu mewn cylchoedd eraill - mewn byd technoleg, peirianneg ac mewn meysydd digidol.

Galw am sgiliau a safonau uwch yn y meysydd yma dylai fod yn rhan o’n hymgyrch dros yr iaith Gymraeg - yn yr un modd ag y mae’n galw am addysg well. Fel hyn, gallwn sianelu ein hegni a sicrhau addysg Gymraeg sy’n llwyddo’n rhyngwladol. Bydd hyn yn arwain at sylfaen fwy cynaliadwy ac ehangach er budd addysg cyfrwng Cymraeg, on hefyd er mwyn Cymru gyfan.

Gall y sgiliau hyn helpu adfywio economi Cymru yn ogystal â chreu cyfleoedd newydd a chyffrous i adfywio’r iaith Gymraeg.

Yn sgil hyn, ga’i sôn am S4C

Mae S4C, heb os, wedi gwneud cyfraniad enfawr i’r diwydiant creadigol yng Nghymru, a bu’n allweddol o ran hyrwyddo’r Gymraeg.

Mae’r sianel yn rhan o DNA Cymru.

Ers ei sefydlu yn 1982, mae’r llywodraeth – neu’r trethdalwyr - wedi buddsoddi tua £2.2 biliwn yn economi Cymru.

Mae’r sianel wedi ei gwarchod rhag toriadau pellach yn y gyllideb.

Dwi’n gobeithio y bydd pobl yn cydnabod arwyddocâd y setliad yn y gyllideb diwethaf yng nghyd-destun galwadau am arbedion mewn cymaint o gyllidebau eraill. Mae’r Llywodraeth yn cydnabod arwyddocâd yr arian hwn - ac yn cydnabod pwysigrwydd y sianel.

Hoffwn bwysleisio’r hyn ddywedais wrth TAC, yn eu Cyfarfod Blynyddol. Er taw nid ffigurau gwylio yw’r unig fesur, mae nhw dal i fod yn fesur bwysig. Rhaid bod yn berthnasol.

Ond gan droi’n benodol at y pwynt ynghylch egni a chynnwrf. Roedd S4C yn arfer ennill gwobrau Oscars a BAFTA yn rheolaidd, yn ogystal a llwyddo’n rhyngwladol yn y maes animeiddio.

Roedd yr holl lwyddiannau rhyngwladol yn rhan o nodweddion S4C. Mae’n bur debyg bod ein hyder fel siaradwyr Cymraeg, wrth ennill y gwobrau hyn, yn bwysicach na’r gwobrau eu hun. Dyma’r llwyddiannau sy’n creu momentwm y gallai’r iaith ffynnu oddi ar.

Roeddwn yn falch dros ben o fynd i weld “Y Gwyll” yn cael ei ffilmio yng Ngheredigion yn ddiweddar. Mae’r rhagoriaeth a welwyd yn awgrymu ein bod yn ôl ar y trywydd iawn.

Y Gymraeg a’r Economi

Mae hyn yn fy arwain i ddweud a phwysleisio bod dyfodol y Gymraeg yn llwyr gysylltiedig â’r economi.

Efallai bod rhai ohonoch yn cofio slogan enwog Cymdeithas yr Iaith yn y 1970au, “Dim Iaith, Heb Waith”.

Mae siaradwyr Cymraeg ifanc yn cael eu denu o’r cadarnleoedd i Gaerdydd a dinasoedd mawr Lloegr, am gyfleoedd gwaith.

Er mwyn mynd i’r afael â’r llif cyson o bobl ifanc sy’n gadael y Fro, mae angen creu’r swyddi er mwyn galluogi ein pobl ifanc i aros neu ddychwelyd i’w cymunedau.

Mae galluogi pobl ifanc, sy’n siaradwyr Cymraeg yn bennaf, i aros ac i ddychwelyd i’w cymunedau lleol yn hollol allweddol os am unrhyw obaith o greu’r cymunedau bywiog y mae pob un ohonom yn dymuno gweld. Dwi eisoes wedi sôn am bwysigrwydd Addysg gyda hyn ac mae technoleg ddigidol yn creu mwy o gyfleoedd i wireddu hyn gyda S4C yn cefnogi.

Mae penderfyniad diweddar S4C i ail-leoli ei phencadlys yng Nghaerfyrddin yn arwain at y posibilrwydd o gryfhau’r iaith yn Ne Orllewin Cymru, ac annog datblygiad economaidd yn yr ardal.

Does dim amheuaeth bod defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle wedi ffynnu ymysg cwmnïau cynhyrchu ar ôl sefydlu S4C.

Gellid dadlau bod y cwmnïau hyn ymysg y lleiafrif yng Nghymru lle taw’r Gymraeg yw’r brif iaith a ddefnyddir yn y busnes. Mae’r bobl a gyflogir gan gwmnïau megis Tinopolis a Telesgop yn byw ac yn gweithio mewn cymunedau lleol, gan gryfhau’r Gymraeg yn eu cymunedau.

Mae darparu seilwaith lleol cadarn er mwyn galluogi a chefnogi’r iaith yn hanfodol. Rhaid i’r Ymgyrch dros yr Iaith fod yn rhan hefyd o’r ymgyrch dros wella mynediad i fand eang, dros wella cysylltiadau symudol a datblygu sgiliau a fydd yn galluogi mwy o fusnesau i fuddsoddi yn y Bröydd Cymraeg.

Mae gan lywodraethau bob ochor i’r M4 gyfraniad tuag at hwn.

Mae’n galonogol bod Gweinidogion Cymru wedi sefydlu dwy Ardal Fenter yn y cadarnleoedd Cymraeg - yn Wylfa ar Ynys Môn, a Thrawsfynydd yn Eryri.

Mae gan ein Prifysgolion rôl i wthio gyrfaoedd yn y byd busnes, entrepreneriaith, gwyddoniaeth a thechnoleg i bobl ifanc Cymraeg. Dwi’n falch bod y Coleg Cymraeg wedi cydio yn yr her hon ac wedi datblygu’r cwrs Entrepreneuriaeth cyntaf o’i fath drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’n rhaid i ni hefyd wneud mwy i hyrwyddo manteision economaidd dwyieithrwydd i fusnesau.

Mae gan y Gymraeg ei gwerth fel brand ei hun, a gall greu safbwynt masnachol positif i fusnesau. Er nad yw defnyddio’r Gymraeg yn gyffredin ymysg cwmnïau Cymreig, mae yna gwmnïau rhyngwladol, brandiau byd-eang megis Tŷ Nant a Halen Môn sy’n defnyddio enwau Cymraeg i adlewyrchu eu gwreiddiau lleol.

Er gwaetha’r enghreifftiau hyn, mae angen mwy o ymdrech wrth annog busnesau eraill i ddefnyddio’r Gymraeg fel arf brandio. Dwi’n croesawu gwaith y Comisiynydd Iaith wrth amlygu buddion brandio dwyieithog.

Mae twf addysg ddwyieithog wedi cyfrannu’n fawr tuag at yr iaith. Ond wrth i ni addysgu, mae’n rhaid i ni hefyd barhau i hyrwyddo’r iaith ar lawr gwlad.

Tu hwnt i’r dosbarth, mae sefydliadau a mudiadau traddodiadol fel Yr Urdd, Merched y Wawr, Mudiad Ysgolion Meithrin, Clybiau Ffermwyr Ifanc, Yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Papurau Bro yn parhau i wneud cyfraniad allweddol tuag at fywyd y cymunedau Gymraeg.

Mae’r bywyd a’r gweithgaredd cymunedol a gynhyrchir gan y sefydliadau hyn ac eraill yn gwbl allweddol o ran cefnogi a datblygu’r Gymraeg fel iaith fyw yn ein cymunedau.

Y sefydliadau hyn sy’n rhoi bywyd i’r iaith, drwy gynnig amrywiaeth o gyfleoedd cymdeithasol a diwylliannol gwerthfawr i bobl ifanc a hen drwy gyfrwng y Gymraeg. Y cyrff yma yw asgwrn cefn y diwylliant Cymraeg.

Does dim diffyg angerdd nac egni yn y grwpiau hyn i hyrwyddo’r iaith. Rhaid i bob un ohonom wneud popeth posib i’w helpu i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd.

Roeddwn wrth fy modd yn cael cyfle i weld gwaith Menter Iaith Caerdydd â y prynhawn yma, a chyfarfod â Siân Lewis a’i thîm.

Annog v Deddfwriaeth

A chyn i mi gloi, hoffwn fynd yn ôl am eiliad at y pwyntiau gwleidyddol a deddfwriaethol dwi wedi sôn amdanynt yn gynharach. Fel y dywedais, mae’r dadleuon gwleidyddol a deddfwriaethol wedi’u hennill, a dwi wedi rhestru rhai o’r camau gweithredu dwi’n ymchwilio iddynt ar draws adrannau llywodraeth y DU.

Ni fuasech yn credu pa mor ddigalon o isel yw nifer yr ymwelwyr i gynnwys Cymraeg GOV.UK. Hyd yma, dim ond DAU, ie DAU, gais Cymraeg sydd wedi ei gwblhau ar gyfer Lwfans Gofalwyr.

Wrth gwrs, ni all cefnogaeth y Llywodraeth i’r iaith gael ei arwain gan y galw yn unig – ac mae cyfrifoldeb arna’i i wneud yn haws.

Ond, wrth geisio dylanwadu ar Adrannau eraill ynglŷn â’r angen i ddatblygu gwasanaethau Cymraeg, byddai fy swydd fel Gweinidog yn San Steffan yn llawer haws petawn yn gallu dangos bod siaradwyr Cymraeg yn defnyddio’r cyfleoedd.

O bell ffordd, y dudalen Gymraeg fwyaf poblogaidd ar GOV.UK yw’r gwasanaeth bwcio prawf gyrru ymarferol, sy’n denu bron i 1000 o ymwelwyr bob mis.

Ond eto, ar ôl cyrraedd y dudalen, mae bron i ddwy ran o dair o’r ymwelwyr yn clicio’n ôl o’r Gymraeg i’r fersiwn Saesneg. Mae hyn yn awgrymu bod yn well ganddyn nhw i lenwi’r ffurflen yn yr iaith Saesneg, er eu bod yn ymwybodol o’r fersiwn Gymraeg.

Mae hyn yn amlwg yn her, i’r llywodraeth weithredu’n fwy arloesol ond dwi’n meddwl ei bod yn deg dweud ei fod yn her i bob un ohonom i ddefnyddio mwy ar y darpariaethau sydd ar gael.

Dydw i ddim eisiau gweld sefyllfa lle mae’n holl egni’n cael ei ddefnyddio i dargedu rheoliadau yn hytrach na cheisio annog pobl i ddefnyddio’r Gymraeg.

Dwi wastad wedi bod o’r farn bod angen corff hyd braich o’r llywodraeth er mwyn hybu a chynllunio dyfodol yr iaith. Roeddwn yn flin pan roedd y Bwrdd Iaith wedi cael ei ddiddymu. Roedd y Bwrdd yn rhoi pwys ar hyrwyddo’r iaith, nid yn unig rheoleiddio’r defnydd ohoni.

Herio Defnydd Iaith

Mae cyfrifoldeb unigolion, teuluoedd a chymunedau yn ogystal â chyfrifoldeb llywodraethau yn allweddol i ddyfodol yr iaith.

Felly, y pwynt olaf dwi’n dymuno trafod heno yw herio ymddygiad ieithyddol, yn arbennig ymysg ein pobl ifanc.

Bydd rhai ohonoch yn gyfarwydd â’r dywediad “Gwell Cymraeg Crap na Saesneg Slic”.

Dwi eisiau gosod her i bob un ohonom i wneud mwy i annog dysgwyr Cymraeg, i fod yn oddefgar ac yn gefnogol, yn arbennig tuag at y rhai hynny a ddaw o gymunedau nad ydynt yn draddodiadol Gymraeg.

Yn yr ysbryd positif hwn, dwi eisiau herio pob un ohonom - yn cynnwys fi fy hun, i ddefnyddio’r iaith mor aml â phosib.

Rydym yn gwybod, am resymau hanesyddol, a rhesymau diwylliannol o bosibl, bod siaradwyr Cymraeg wedi bod yn gyndyn, neu’n bryderus, ynglŷn â defnyddio’r Gymraeg wrth drafod busnes swyddogol.

Mae’n sefyllfa drist bod gormod o siaradwyr Cymraeg sydd wedi astudio Cymraeg yn yr ysgol nes eu bod yn 16 oed, yn dal i beidio ag ystyried eu hunain fel siaradwyr Cymraeg, neu heb yr hyder i ddefnyddio’r iaith y tu hwnt i’r dosbarth neu’r iard.

Dyma ble mae gan y Cyfryngau Cymraeg gyfraniad pwysig i’w wneud o ran herio patrymau ieithyddol a meithrin hyder mewn siarad a defnyddio’r iaith.

Fel rydym yn gwybod, mae byd y cyfryngau yn newid, ac felly hefyd y ffyrdd rydym yn mwynhau gwylio cynnwys - ar y ffon, ar yr Ipad, dros y we, drwy wasanaethau dal i fyny - ac yn y blaen.

Dwi eisiau gweld y gymuned Gymraeg ar flaen y gad yn y maes yma - yn defnyddio ac yn datblygu ffyrdd newydd o ddenu cynulleidfaoedd – yn defnyddio’r safon addysg uwch a’r sgiliau gwell wnes i sôn amdani. Does bosib byddai hynny yn fanteisiol i’r Gymraeg, yn arbennig i ddysgwyr ac i genhedlaeth iau?

Dwi eisiau i ni barhau i gynhyrchu cynnwys dewr a chyffrous all apelio at siaradwyr Cymraeg, fel y mae Golwg 3-6-0 a gwasanaeth newydd “Cymru Fyw” y BBC.

Dwi eisiau gweld yr iaith Gymraeg yn ffynnu ym maes cyfryngau cymdeithasol, ar Twitter, Facebook a Maes-e.

Dwi eisiau gweld yr iaith yn ffynnu ar Deledu Lleol - platfform all fynd â rhaglenni hyd yn oed yn agosach at gymunedau lleol.

A pham bodloni ar hynny - erbyn hyn mae gennym y dechnoleg - pam y dylai siaradwyr naturiol Cymraeg ddarparu dau gyfweliad ar wahân, un yn Saesneg ar gyfer Wales Today ac un yn y Gymraeg ar gyfer Newyddion?

Nag yw hi’n hen bryd i ni ystyried isdeitlo cyfweliadau yn yr iaith mwyaf naturiol i’r un sy’n cael ei cyfweld?

Efallai y gadawai y ddadl yma at ddiwrnod arall!

Casgliad

Dwi wedi cyflwyno fy ymrwymiad personol, ac ymrwymiad y Llywodraeth, i gefnogi’r iaith Gymraeg

Dwi hefyd wedi gosod her heno i bob Cymro a Chymraes ac i bawb sy’n caru Cymru i hyrwyddo ein hiaith unigryw.

Mae gennym ni, fel siaradwyr Cymraeg, hanes cadarn o gynnal ymgyrchoedd sy’n ennill ac yn llwyddo. Mae’r ymgyrchoedd hynny tan yn ddiweddar wedi canolbwyntio’n bennaf ar ofynion deddfwriaethol. Mae’n bryd erbyn hyn i ni gyfeirio’r egni sydd gennym ar ôl i -

  • Fynnu’r safonau uchaf mewn addysg, nid dim ond yn y pynciau traddodiadol ond hefyd mewn materion sy’n bwysig i’r economi newydd.
  • Sicrhau bod yr iaith yn rhan flaenllaw o ddatblygiadau technolegol ym myd gwyddoniaeth, peirianneg a thechnoleg.
  • Mynnu’r seilwaith modern gorau i’r bröydd Cymraeg i sicrhau amrywiaeth yn yr economi ac i roi cyfle i siaradwyr Cymraeg aros neu ddychwelyd i’w cymunedau genedigol.

Mae pob un o’r rhain yn bwysig am resymau economaidd ond yn ein Bröydd Cymraeg, maent heb os nac oni bai yn fwy pwysig am eu bod hefyd yn fodd o sicrhau dyfodol y Gymraeg.

Bu i Saunders Lewis yn ei ddarlith enwog ‘Tynged yr Iaith’ ein rhybuddio bod tranc y Gymraeg yn agosáu.

Mae’n bryd i ni siarad am fywyd yr iaith ac ysgogi’n hunain i sicrhau ei pharhad.

Ac felly, ar drothwy penwythnos arall o rygbi 6 Gwlad, boed i linellau olaf ysgytwol ein hanthem genedlaethol atseinio o’r theatr ddarlithio hon, a thrwy Gymru gyfan -

O bydded i’r heniaith barhau

Cyhoeddwyd ar 2 March 2015