Anerchiad

Araith Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Heddiw cyflwynodd Alun Cairns anerchiad Araith y Frenhines i Gynulliad Cenedlaethol Cymru

The Rt Hon Alun Cairns MP

Diolch yn fawr Lywydd.

Mae’n fraint bod yma yn siambr y Senedd unwaith eto, yn dilyn yr agoriad gan Ei Mawrhydi y Frenhines fis diwethaf.

Mae gennyf atgofion melys o’r siambr hon ers fy nghyfnod yn Aelod o’r Cynulliad. Mae dychwelyd wedi gwneud imi feddwl gymaint y mae hi wedi newid ers yr adeg honno.

Ers 2011, pan gymerodd y Cynulliad hwn bwerau deddfu llawn, mae wedi pasio 28 o Ddeddfau a darnau niferus o is-ddeddfwriaeth gan gynnwys deddfwriaeth arloesol ym meysydd rhoi organau, cynaliadwyedd a thai.

Lywydd, rwyf eisiau siarad heddiw am raglen ddeddfwriaethol y D.U. a sut mae’n sicrhau diogelwch ac yn cynyddu cyfleoedd bywyd i bobl ledled Cymru.

Refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd

Ond yn gyntaf, rwyf eisiau sôn am y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd a beth mae hyn yn ei olygu i bob un ohonom.

Mae pobl Cymru a’r Deyrnas Unedig wedi dweud eu barn a rhaid inni weithredu ar sail hynny i sicrhau ein bod yn rheoli’r modd rydym yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae angen inni ddangos arweiniad cryf a meithrin hyder ymysg busnes a buddsoddwyr, Prifysgolion a Cholegau, sefydliadau Elusennol ac Awdurdodau Lleol ac ymysg teuluoedd a defnyddwyr fel ei gilydd.

Rydym yn parhau’n aelodau llawn o’r Undeb Ewropeaidd am ddwy flynedd o leiaf, ac ar ôl siarad â’r ymgeiswyr am yr arweinyddiaeth, mae’n glir na fydd Erthygl 50 yn cael ei galw i rym yn syth ar ôl iddynt gael eu hethol. Mae hyn yn rhoi rhagor o sefydlogrwydd i’r economi ac i’r rhai sy’n elwa ar gymorth yr U.E.

Mae angen inni ddefnyddio’r cyfnod yn y cyfamser i baratoi’r wlad ar gyfer tynnu allan. Mae’r Cabinet wedi cytuno i sefydlu uned yr U.E. yn Whitehall i edrych ar yr holl faterion cyfreithiol, ymarferol, rhanbarthol ac ariannol y bydd yn rhaid eu hystyried. Byddaf yn gweithio’n agos gyda Phrif Weinidog Cymru i oleuo’r Uned wrth i’r D.U. negodi i adael yr U.E. Byddaf yn sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu cynrychioli wrth i’r Cabinet gytuno ar ein sefyllfa negodi.

Dydy siarad yn negyddol ddim yn mynd i helpu neb. Mae’r ymateb gan y gymuned fusnes yng Nghymru wedi creu argraff fawr arnaf i. Mewn sesiwn wybodaeth a gynhaliwyd gennyf yn ddiweddar, clywais eiriau fel ‘busnes fel arfer’ a ‘chyfle i ail-greu busnesau’, a fy ffefryn i, ‘mae Entrepreneuriaid yn ffynnu ar newid’, fel y dywedodd un allforwr.

Ac rwyf eisiau sicrhau nad ystyrir bod y gwerthoedd sy’n annwyl i’r gymdeithas ym Mhrydain - sef y gwerthoedd sy’n ymwneud â goddefgarwch, bod yn agored, undod - yn cael eu colli o ganlyniad i’r refferendwm…

…ein bod ni’n ymdrechu’n galetach i gefnogi cydlyniant cymunedol, a hynny’n lleol ac yn genedlaethol.

Mae economi Prydain yn gryf: oherwydd bod cyflogaeth ar ei lefel uchaf erioed bron, a bod y diffyg ariannol yn llai, rydym mewn sefyllfa dda ar gyfer tyfu.

Gadael sefydliad yr U.E. ydym ni, nid troi ein cefnau ar gyfeillion, cymdogion a phartneriaid masnachu yn Ewrop.

Rwy’n obeithiol am ein dyfodol ac am Gymru a Phrydain y mae’n rhaid i ni eu creu y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.

Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod adnoddau UKTI ar gael i agor marchnadoedd newydd, ac i ddefnyddio’r Swyddfa Dramor i ddatblygu perthnasoedd ymhellach i ffwrdd. Mae Swyddfa Cymru’n barod wrth law i roi’r mynediad hwnnw at holl adnoddau ac arbenigedd Whitehall.

Y Rhaglen Ddeddfwriaethol - Diogelwch i Bobl sy’n Gweithio

Gan droi at ein rhaglen ddeddfwriaethol, mae diogelwch economaidd yn flaenoriaeth inni. Gwnaethpwyd cynnydd da dros y chwe blynedd ddiwethaf a fi yw’r cyntaf i gydnabod bod rhagor eto i’w wneud.

Bydd y Bil Economi Ddigidol yn moderneiddio’r hinsawdd ar gyfer entrepreneuriaeth ac yn rhoi hawl cyfreithiol i bawb gael band eang cyflym iawn. Bydd y Bil yn cefnogi cryfderau allweddol Cymru yn y sector technoleg er mwyn iddo ddatblygu rhagor.

Bydd y Bil Trafnidiaeth Fodern yn darparu ar gyfer ceir di-yrrwr, canolfan awyrennau gofod, a diogelwch yn ymwneud â gweithrediadau droniau, ymysg polisïau eraill. A bydd y Bil Seilwaith a Chynllunio Cymdogaethau yn symleiddio cynllunio ac yn rhoi’r Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol ar sail statudol.

Bydd y Bil Twf a Swyddi Lleol yn hyrwyddo perchentyaeth yn Lloegr ac yn datganoli pwerau ychwanegol sylweddol i Ranbarthau Lloegr. Mae hyn yn creu cyfleoedd i’r economïau rhanbarthol yng Nghymru greu partneriaethau cryf ond mae hefyd yn tynnu sylw at y ffaith y bydd mwy o gystadleuaeth ledled y D.U., a rhaid inni weld hynny fel her gadarnhaol.

Y Rhaglen Ddeddfwriaethol - Cynyddu Cyfleoedd Bywyd

Rydym hefyd yn benderfynol o fynd ymhellach o ran mynd i’r afael â phethau sy’n rhwystro cyfleoedd.

Drwy’r Bil Diwygio Carchardai a’r Llysoedd, byddwn yn grymuso Llywodraethwyr Carchardai i fwrw ymlaen â’r arloesi sydd ei angen ar ein carchardai, gan sicrhau nad warws ar gyfer troseddwyr fydd Carchardai mwyach ond, yn hytrach, ddeorfeydd ar gyfer newid bywydau.

Bydd y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol yn gwneud newidiadau mawr i fabwysiadu er mwyn troi’r fantol o blaid mabwysiadu’n barhaol os dyna’r ateb cywir i’r plentyn.

A bydd y Bil Addysg Uwch ac Ymchwil yn cadarnhau sefyllfa’r D.U. fel un o arweinwyr y byd o ran ymchwil gan sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o’r £6 biliwn o fuddsoddiad a wnawn bob blwyddyn. Mae Prifysgolion Cymru yn cael mwy nag erioed, a gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn trafod materion eraill sy’n ymwneud â’r Bil gyda’r Gweinidog Prifysgolion.

Y Rhaglen Ddeddfwriaethol - Cryfhau Diogelwch y Wlad

Mae cadw ein gwlad yn ddiogel yn yr adeg heriol hon yn flaenoriaeth.

Bydd y Bil Gwrth-eithafiaeth a Diogelu yn gymorth i Awdurdodau darfu ar weithgareddau eithafwyr.

Bydd y Bil Pwerau Ymchwilio yn llenwi tyllau yn ein cyfarpar diogelwch er mwyn inni allu rhoi’r offer sydd eu hangen ar asiantaethau gorfodi’r gyfraith i amddiffyn y cyhoedd yn yr oes ddigidol.

A bydd y Bil Plismona a Throseddu yn bwrw ymlaen â’r cyfnod nesaf o ddiwygio’r Heddlu, tra bydd y Bil Arian Troseddol yn cadarnhau rôl y D.U. yn y frwydr yn erbyn llygredd rhyngwladol ac yn ei gwneud yn bosibl i roi cosbau llym i rai sy’n gwyngalchu arian ac yn elwa ar droseddau.

Law yn llaw â hyn, byddwn yn cynnig Bil Hawliau ar gyfer Prydain er mwyn diwygio fframwaith hawliau dynol y D.U., gan ymgynghori’n llawn â’r Cynulliad ynghylch y cynigion.

Newidiadau yn Lloegr yn unig

Mae’r rhaglen ddeddfwriaethol hon hefyd yn gwneud newidiadau pellach a fydd yn berthnasol i Loegr yn unig, gan gynnwys diwygio gwaith cymdeithasol a rhoi mwy o ryddid i athrawon mewn ysgolion, yn ogystal ag annog prifysgolion newydd.

Gobeithio y bydd pob un ohonoch yn edrych ar ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i Loegr ac yn ceisio cyfleoedd ohonynt. Efallai drwy ei hatgynhyrchu neu drwy wneud rhywbeth tra gwahanol, ond gobeithio y bydd pob un ohonom yn cydnabod mai’r D.U. yw ein marchnad fwyaf a bod cysylltiad anorfod rhyngom.

Po agosaf y bydd cymunedau’n gweithio, yn cydweithio, yn ategu, yn cydlynu a hyd yn oed yn cystadlu, y gorau fydd y canlyniadau, yn enwedig yng ngoleuni canlyniad y refferendwm lai na phythefnos yn ôl.

Bil Cymru

Fy mhrif nod ar gyfer Bil Cymru yw sicrhau ei fod yn cyflawni dau egwyddor tanategol ar gyfer llywodraethiad datganoledig Cymru yn y dyfodol: sef eglurder ac atebolrwydd.

Amseriad

Cynhaliwyd yr ail ddarlleniad yr wythnos diwethaf, a chynhaliwyd diwrnod cyntaf y Pwyllgor ddoe. Gwn fod rhai pryderon am yr amser a neilltuwyd ond ar bob achlysur daeth y trafodaethau i ben yn gynnar gyda digon o amser wrth gefn.

Cynhelir yr ail ddiwrnod ddydd Llun nesaf. A chynhelir trafodaeth bellach yn yr hydref wrth i’r Bil gyrraedd y Cyfnod Adrodd cyn y Trydydd darlleniad. Bydd yr holl broses yn dechrau eto wrth i’r Bil symud i’r tŷ arall pryd bydd yr Arglwyddi’n sicr o ddangos diddordeb manwl a chraffu.
Wrth gwrs, rwyf eisiau i’r Cynulliad hwn basio cynnig cydsyniad deddfwriaethol ac rwy’n sicr y bydd y Prif Weinidog Cymru, y Llywydd a minnau’n parhau â’n trafodaethau twymgalon.

Y Cynulliad yn dod i Oed

Bydd y Bil yn datganoli pwerau sylweddol, yn darparu eglurder ac atebolrwydd ac yn tanategu fy ymrwymiad i ddatganoli.

Nid yw Biliau Cyfansoddiadol yn rhywbeth y mae rhywun yn ei weld bob dydd, ond bydd yn rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru a’r Cynulliad ganolbwyntio ar bethau sy’n bwysig i bobl sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru. Lefelau treth, yr economi, polisi iechyd ac addysg, prosiectau ynni ac adfywio.

Un Awdurdodaeth

Lywydd, roedd y ‘prawf rheidrwydd’ yn tra-arglwyddiaethu ar y Bil Cymru drafft, ac fe wnaeth cynnwys y prawf arwain at alwadau am awdurdodaeth ar wahân.
Credid bod y prawf yn gosod y bar yn rhy uchel a galwyd am drothwy is. Ond Lywydd, rwyf wedi mynd gam ymhellach ac wedi cael gwared ar y prawf yn llwyr pan fydd y Cynulliad yn addasu’r gyfraith sifil a throseddol mewn meysydd datganoledig.

O ganlyniad, dylai llawer o’r dadleuon dros awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân fod wedi cilio.

Ond rwy’n cydnabod hefyd fod rhai o’r pwyntiau a wnaed yn ddilys. Felly, rwyf wedi cynnwys cymal ar wyneb y Bil sy’n cydnabod am y tro cyntaf fod y Gyfraith yng Nghymru yn cael ei gwneud gan y Cynulliad a Gweinidogion Cymru o fewn yr un awdurdodaeth gyfreithiol.

Hefyd, mae angen cydnabod y trefniadau gweinyddol arbennig er mwyn gwneud lle i Gyfraith Cymru ac rwyf wedi sefydlu gweithgor sy’n cynnwys Llywodraeth Cymru, yr Arglwydd Brif Ustus a swyddogion y D.U. Bydd hyn yn digwydd yn gyfochrog â chraffu ar y Bil.

Mae’r awdurdodaeth sengl yn rhoi hyder a pharhad, ac ni chlywais erioed am achos o fethu â chyflawni polisi oherwydd yr awdurdodaeth sengl. Mae’n cynnig symlrwydd i fusnesau ac yn caniatáu i Gymru a chwmnïau cyfreithiol yng Nghymru fanteisio ar gyfleoedd yn Llundain ac mewn lleoedd eraill. Mae’r proffesiwn cyfreithiol yn un o’r sectorau sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru.
Nid wyf yn sicr beth fyddai’n cael ei gyflawni gan y baich rheoleiddiol ychwanegol, y fiwrocratiaeth a’r risg i fuddsoddwyr ac ysgolion y gyfraith. Derbyniwyd hyn gan Aelodau Seneddol yr wrthblaid ddoe.

Mae dyfodiad y Meiri Dinesig a datganoli ledled Lloegr yn ein gosod mewn mwy o gystadleuaeth am fuddsoddiadau. Rwy’n awgrymu nad ydym yn tanbrisio sut y byddai ein cystadleuwyr yn portreadu’r risgiau.

Darparu Eglurder - Y Model Cadw Pwerau

Mae’r model cadw pwerau yn ganolog i’r Bil.

Ac rydym wedi torri’r cymalau cadw ers cyhoeddi’r Bil drafft ym mis Hydref.

Mae’r rhestr ym Mil Cymru wedi cael ei symleiddio, gyda disgrifiadau mwy eglur a chywir o’r cymalau cadw. Credaf ein bod, yn fras, wedi cael y cydbwysedd cywir.

Bydd y model cadw pwerau yn sicrhau setliad a fydd yn ei gwneud yn glir i bobl yng Nghymru pwy y dylent eu dal i gyfrif – Llywodraeth y D.U. ynteu Lywodraeth Cymru - am y penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau bob dydd.
Pwerau at Bwrpas

Mae’r Bil hefyd yn datganoli rhagor o bwerau - dros borthladdoedd a phrosiectau ynni, cyfyngiadau cyflymder, arwyddion traffig a gwasanaethau cludiant yng Nghymru.

… pwerau dros ffracio a chodi glo yn ogystal â thrwyddedu morol a chadwraeth.

Atebolrwydd

Un o nodweddion allweddol deddfwrfa aeddfed, Senedd, yw ei bod yn codi llawer o’r arian mae’n ei wario drwy drethu.

Datganoli Treth Dir y Dreth Stamp a’r Dreth Dirlenwi a datganoli’n llwyr yr Ardrethi Busnes y llynedd yw’r camau cyntaf tuag at hyn ac nid yw ond yn iawn fod cyfran o’r dreth incwm yn cael ei datganoli hefyd.

Mae Bil Cymru yn cael gwared ar yr angen am refferendwm i gyflwyno Cyfraddau’r Dreth Incwm yng Nghymru.
Mae angen cytuno ar faterion ymarferol gyda Llywodraeth Cymru, yn enwedig sut caiff grant bloc Cymru ei addasu o ystyried datganoli trethi, a byddaf yn parhau i adeiladu ar ein perthynas dwymgalon a gobeithio y bydd darparu’r cyllid gwaelodol yn rhoi hyder i’r Aelodau.

Casgliad

Lywydd, fel y nodais yn gynharach, mae’r rhaglen ddeddfwriaethol gymaint yn fwy wrth gwrs na dim ond datganoli yng Nghymru.

Mae’n ymwneud â mwy na’r cyfansoddiad, sydd mor aml wedi ymgolli cymaint ym Mae Caerdydd.

Mae’r rhaglen ddeddfwriaethol yn ymwneud â darparu diogelwch ar gyfer pobl sy’n gweithio ledled Cymru. Mae’n ymwneud â chynyddu cyfleoedd bywyd pobl ledled Cymru. Ac mae’n ymwneud a chryfhau ein diogelwch cenedlaethol.

Rhaid i ni nawr gyd weithio gyda’n gilydd , y ddwy Lywodraeth, i ddarparu dyfodol llewyrchus ac unedig i Gymru.

Diolch.

Cyhoeddwyd ar 6 July 2016