Erthygl ag awdur wedi'i enwi

Ysgrifennydd Gwladol Cymru: Etifeddiaeth Aberfan

Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, yn ysgrifennu darn personol 50 mlynedd ers trychineb Aberfan.

Aberfan

Yr wythnos hon paratown i gofio hanner can mlynedd ers trychineb Aberfan, un o’r trasiedïau mwyaf dychrynllyd i daro Cymru yn yr ugeinfed ganrif.

Ar 21 Hydref, mewn mannau cyhoeddus a phreifat, byddwn yn cofio’r 116 o blant a’r 28 o oedolion a fu farw pan ddisgynnodd llechwedd o wastraff glo du ar ben ysgol y pentref a chartrefi cyfagos.

Mae’r lluniau du a gwyn o’r ymdrechion achub yn bur adnabyddus gyda llawer o’r adroddiadau yn yr wythnosau cyn y diwrnod cofio wedi ein hatgoffa o ddewrder a dioddefaint y gymuned. Drwy hanesion personol pwerus, dangosodd y rhaglen ddogfen The Aberfan Young Wives’ Club ar ITV Wales sut y sefydlodd teuluoedd y rhai a fu farw grŵp hunan-gymorth eu hunain; llwyddodd cymuned glos y cymoedd i’w cynnal drwy’r erchylltra’n syth ar ôl y digwyddiad a’r profiad hir ac araf o ymdopi wedyn. Dangosodd adroddiad newyddion arall yn ddiweddar mai ond yn y pum mlynedd diwethaf y teimlodd un o’r plismyn cyntaf i gyrraedd y trychineb y gallai ofyn am driniaeth ar gyfer anhwylder straen wedi trawma.

Bydd gan lawer o deuluoedd yng Nghymru eu hatgofion byw eu hunain o’r hyn yr oeddent yn ei wneud pan glywsant am Aberfan. Roedd fy nhad yn weithiwr dur ym Mhort Talbot pan glywodd Cymru a gweddill y byd fod rhywbeth erchyll wedi digwydd. Dywedodd wrthyf sut i’r gymuned Gymreig gyfan a’r holl fyd rewi mewn dryswch llwyr. Sut y gallai trasiedi mor ofnadwy ddigwydd?

Daeth yr ateb o’r Tribiwnlys Ymchwilio a gasglodd fod ‘Trychineb Aberfan yn hanes arswydus o ddynion di-glem a diofal oedd yn gyfrifol am waith yr oeddent yn gwbl anghymwys i’w gyflawni, o fethu â rhoi sylw i rybuddion clir a diffyg arweiniad llwyr oddi uchod’.

Eisteddais i fyfyrio ar ôl ymweld â Gardd Goffa a Mynwent Aberfan.

Er i haul yr hydref dywynnu’r diwrnod hwnnw gan eurliwio’r ardd ynghyd â’r llechwedd sydd bellach wedi hen lasu, roedd y lluniau enwog sy’n adnabyddus i ni gyd yn fwy byw nag erioed.

Roedd yn galonogol gweld bod tîm pêl-droed Cymru wedi ymweld â’r Ardd Goffa’r wythnos diwethaf i ddangos eu parch yn dawel.

I berthnasau’r rhai a fu farw, nid yw poen Aberfan byth yn mynd. Ni ddaeth dim i roi pen ar y mwdwl fel petai. Yn ddiweddar bu i mi gyfarfod ag ymddiriedolwyr Elusen Goffa Aberfan, llawer ohonynt yn oroeswyr y trychineb, a ddywedodd wrthyf nad yw’r teimladau hynny - o golled a dicter - byth yn pylu ond bod gobaith a ffydd yn araf ennill y dydd.

Ni fydd unrhyw iawndal, dim canfyddiad o euogrwydd corfforaethol, byth yn rhoi llwyr wellhad i’r bobl hyn.

Beth felly allwn ni ei gynnig i bobl Aberfan a’r cymunedau cyfagos? Arhoswn am funud yr wythnos hon i gofio’r diwrnod dychrynllyd hwnnw; mae hefyd angen i ni allu cynnig dyfodol i’r rhai sy’n tyfu i fyny yno.

Mae trefi ym Mhrydain y mae eu henwau’n atgyfodi atgofion am drasiedïau eraill: Dunblane, Lockerbie, Hungerford. Yn hir ar ôl i sylw’r cyfryngau symud ymlaen, rhaid i’r cymunedau hyn barhau i fodoli - gan barchu’r cof am yr hyn a ddigwyddodd ond yn ymwybodol bod angen creu dyfodol. Fel y dywedodd un goroeswr wrthyf, nid ydynt am i Aberfan gael ei ddiffinio gan drasiedi’n unig.

Mae gennym gyfrifoldeb i greu’r amodau iawn mewn cymunedau fel Aberfan - drwy gefnogi busnesau lleol, pwyso am fewnfuddsoddi ac annog mentrau lleol.

Mae’r cymoedd yn adnabyddus am y nodwedd unigryw Gymreig honno o fod yn gymunedol glos.

Gwyddai’r glowyr fod addysg yn hanfodol i ehangu gorwelion. Disgrifiwyd y rhwydweithiau o sefydliadau glowyr ar draws de Cymru gan un academydd fel “un o’r rhwydweithiau mwyaf o sefydliadau diwylliannol a grëwyd gan y dosbarth gweithiol yn unlle yn y byd”. Yn y 1930au roedd tua chant o lyfrgelloedd glowyr ar draws maes glo de Cymru - gyda glowyr yn darllen popeth o Das Kapital i The Wealth of Nations a phopeth yn y canol hefyd.

Mae angen i ni barhau’r etifeddiaeth addysgol honno a sicrhau bod gan blant y cymunedau ôl-ddiwydiannol hyn ddewis o’r addysg orau a rhagolygon gwaith da gyda chyflogwr lleol ffyniannus neu gyfle i ddod yn entrepreneuriaid.

Roedd Aberfan yn rhywle a brofodd drychineb ofnadwy na fydd ei dioddefwyr byth yn ei anghofio. Ein dyletswydd i’r rhai sy’n byw yno heddiw yw sicrhau bod ymwybyddiaeth o orffennol tywyll yn mynd law yn llaw â’r dyfodol disglair y mae’n ddyledus arnom ei roi iddynt.

Yn ôl yr hanes roedd milwyr Cymreig yn canu Myfanwy wrth dyllu i geisio dod o hyd i unrhyw un ar ôl yn fyw yn y rwbel. Mae’r geiriau canlynol o’r gân alarus honno efallai’n adlewyrchu ein gobaith am blant y pentref heddiw

Myfanwy boed yr holl o’th fywyd Dan heulwen ddisglair canol dydd. A boed i rosyn gwridog iechyd I ddawnsio ganmlwydd ar dy rudd

Ymddangosodd fersiwn o’r erthygl hon yn y Sunday Times ar 16 Hydref.

Cyhoeddwyd ar 20 October 2016