Erthygl ag awdur wedi'i enwi

Ysgrifennydd Gwladol Cymru: Edrych ymlaen

Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns yn adlewyrchu ar 2016 ac yn rhannu ei sylwadau ar gyfer 2017.

Alun Cairns

Nid oes angen i mi eich atgoffa chi bod 2016 wedi bod yn flwyddyn gythryblus ym maes gwleidyddiaeth. Rhwng refferendwm yr Undeb Ewropeaidd ac etholiad Donald Trump, daeth yr annisgwyl yn fwyfwy cyffredin fel yr aeth y flwyddyn yn ei blaen.

Ond, yng Nghymru, fe wnaethom ni gadw at ein blaenoriaethau a chloi’r flwyddyn â chyflawniadau sylweddol:

  • y nifer uchaf o bobl mewn gwaith
  • Aston Martin, y gwneuthurwr ceir o fri, yn dewis ein gwlad i gynhyrchu eu cerbydau byd-enwog
  • a chytundeb ar fargen gyllido hanesyddol rhwng Llywodraethau ym Mae Caerdydd a San Steffan

Mae’r cyflawniadau hyn ond yn bosibl oherwydd y berthynas aeddfed a chadarnhaol rhwng gweinidogion Llywodraeth y DU a gweinidogion Llywodraeth Cymru - a bydd y fformiwla gyllido hon yn darparu eglurder ar wariant cyhoeddus am genhedlaeth.

Aston Martin

Aston Martin

Yn bersonol, bydd 2017 yn ymwneud â pharhau i adeiladu gwlad sy’n gweithio i bawb. Mae economi gadarn yn allweddol ar gyfer creu swyddi, ac wrth i ni baratoi i adael yr UE, byddwch yn gweld gweinidogion Llywodraeth y DU yn teithio drwy’r wlad i gwrdd â chyflogwyr o’r sector preifat, o ddiwydiannau ac o elusennau er mwyn gwrando ar y problemau a chynnig cefnogaeth.

Meeting

Meeting

Fel llais Llywodraeth y DU yng Nghymru, mae fy adran yn gweithio â’r Adran Masnach Ryngwladol ac ar draws Whitehall i wneud yn siŵr bod cwmnïau yn ystyried Cymru yn lle deniadol i fuddsoddi ynddo wrth i ni adael yr UE. Wrth i ni barhau i adeiladu economi ffyniannus, mae adroddiadau cadarnhaol wedi’u cyhoeddi am fargen bosibl rhwng Tata Steel a’u gweithwyr i ddiogelu swyddi ym Mhort Talbot. Rwyf yn gobeithio y gwelwn ni fargen yno yn fuan, yn dilyn misoedd o ansicrwydd.

Bydd y flwyddyn hon hefyd yn garreg filltir wrth i Fil Cymru gwblhau’i gyfnod yn y Senedd a mynd yn ei flaen i gael Cydsyniad Brenhinol – y cam diweddaraf yn y daith ddatganoli a ddechreuodd yn 1999. Efallai eich bod yn cofio i ni orffen 2016 â setliad cyllido hael i Gymru, gan gynnwys y gallu i godi elfen o dreth incwm. Rwyf yn bersonol wedi ymrwymo i ddatblygu ein perthynas waith agos â Llywodraeth Cymru ymhellach i gyflawni uchelgais cyffredin – sef datblygu economi Cymru.

Gobeithiaf y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried sut gall y pwerau ariannol newydd hyn greu amgylchedd ffrwythlon sy’n ddeniadol i weithwyr a chyflogwyr. Eleni yw’r flwyddyn byddwn yn diddymu dadleuon sych a chyfansoddiadol ynghylch datganoli, a dangos ein bod ni’n cefnogi pobl gyffredin yng Nghymru.

Hoffwn dynnu sylw at ddau beth arall sydd ar fy rhestr o dasgau:

  1. bmynediad band eang/ffonau symudol
  2. thrafnidiaeth

Mae’n bosibl fod llawer ohonom wedi cael ffonau clyfar neu dabledi cyfrifiadurol newydd yn anrhegion Nadolig. Fodd bynnag, ni fydd y pleser o agor yr anrhegion hyn yn parhau os na fyddwch chi’n gallu mewngofnodi, neu os mai dim ond weithiau y byddwch chi’n gallu gwneud hynny. Ni fydd ffôn clyfar o unrhyw fudd heb signal. Bydd Guto Bebb, fy nghydweithiwr, yn parhau i arwain y ffordd o ran rhoi diwedd ar ddifethdod y mannau gwan hyn, ac rydyn ni’n dechrau 2017 ag uwchgynhadledd ffonau symudol sy’n cynnwys yr holl gwmnïau ffonau symudol mawr.

Severn Tunnel Visit

Severn Tunnel Visit

Trafnidiaeth: wrth ddychwelyd i’r gwaith ar ôl y gwyliau, bydd llawer yn teithio dros Bont Hafren bob diwrnod. Mae ymgynghoriad ar droed ynghylch gwneud y broses honno yn llai llafurus gan ddefnyddio technolegau newydd i reoli’r tollau. Mae cael cysylltiadau trafnidiaeth dda yn hanfodol i greu economi sy’n gweithio i bawb, ac rwy’n gobeithio hefyd y byddwn ni’n gweld cynnydd ar ffordd liniaru’r M4 yn 2017 i gefnogi’r uchelgais cyffredinol ar gyfer gwella trafnidiaeth yng Nghymru.

Yn olaf, bydd rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd eleni – un o’r digwyddiadau chwaraeon mwyaf yn 2017. Mae ein gwlad yn awr wedi cynnal nifer trawiadol o ddigwyddiadau chwaraeon anferth, a bydd y rownd derfynol fod yn ffenestr siop fyd-eang i Gymru. Rhaid derbyn yr her ac efelychu llwyddiant ein chwaraewyr pêl-droed ar y cae y llynedd - a dangos i weddill y byd gwlad mor falch a chryf yw Cymru gyda dwy Lywodraeth yn gweithio â’i gilydd er lles yr holl gymunedau.

Dim ond un peth sydd ar ôl i’w wneud, sef dymuno blwyddyn hapus a ffyniannus i chi gyd yn 2017 - Blwyddyn Newydd Dda!

Cyhoeddwyd ar 1 January 2017