Anerchiad

Adroddiad Blynyddol Swyddfa Cymru

Rt Hon Cheryl Gillan MP, Secretary of State for Wales, presents the annual report 2010-11 to Parliament.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
The Rt Hon Cheryl Gillan MP

Hwn yw fy adroddiad blynyddol cyntaf i’r Senedd fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru. A minnau wedi fy ngeni a’m magu yng Nghymru, roedd yn anrhydedd cael fy mhenodi’n Ysgrifennydd Cymru gan y Prif Weinidog ym mis Mai 2010 ac i fod y fenyw gyntaf yn y swydd honno.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae Swyddfa Cymru wedi wynebu sawl her, yn enwedig gan fod dwy lywodraeth glymblaid wahanol wedi bod yn gyfrifol am lywodraethu Cymru. Golygai hyn fod ein hymdrechion i hyrwyddo cydgysylltiad a chydweithrediad effeithiol rhwng y ddwy lywodraeth yn bwysicach nag erioed. Nid oedd bosib i Gymru gael ei heithrio ychwaith rhag y penderfyniadau anodd y gorfodwyd Llywodraeth y DU i’w gwneud er mwyn mynd i’r afael â’r diffyg ariannol a sicrhau cydbwysedd unwaith eto yn yr economi.

Ers i mi gael fy mhenodi’n Ysgrifennydd Gwladol, rwyf wedi bod yn benderfynol o ddefnyddio synnwyr cyffredin wrth fy ngwaith, gan sicrhau’r fargen decaf i Gymru, a datblygu perthynas fusnes adeiladol gyda Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd.

Edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda’r Prif Weinidog a’i weinyddiaeth newydd yn dilyn etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai er mwyn sicrhau twf economaidd, buddsoddiad, a chyfleoedd i bawb yng Nghymru gan barchu a chynnal y setliad datganoli ar yr un pryd.

Rwyf yn ymroddedig i gefnogi gweinidogion y Cynulliad yn y meysydd hynny sydd wedi’u datganoli, a gobeithiaf hefyd y byddant hwythau’n cefnogi Llywodraeth y DU ynghylch materion a gadwyd yn ôl.

Dylem weld yr Agenda Parch hon fel proses ddwyffordd, nid fel stryd unffordd. A dylem ei defnyddio i ddatblygu perthynas gadarnhaol a chadarn gan weithio at gydweithredu a buddsoddi yn y dyfodol. Fel Llywodraeth cawsom ddechrau cadarnhaol a chynnar pan ddaeth David Cameron yn un o’r Prif Weinidogion cyntaf i ymweld â’r Senedd – ac o fewn wythnos i ddechrau yn y swydd.

Ers hynny, mae’r Llywodraeth Glymblaid, ei Gweinidogion a Swyddfa Cymru wedi ceisio gweithio’n adeiladol gyda Llywodraeth Cymru er budd Cymru a’r Deyrnas Unedig, er gwaethaf y sefyllfa economaidd galed yr ydym wedi’i hetifeddu.

Fel Llywodraeth, rydym yn ymroddedig i ddatganoli. Fel Ysgrifennydd Cymru, sicrhau’r Refferendwm ar ragor o bwerau i’r Cynulliad oedd un o fy mhrif flaenoriaethau wrth ddechrau yn y swydd. Ym mis Mawrth, pleidleisiodd pobl Cymru o blaid rhoi pwerau deddfu sylfaenol i’r Cynulliad mewn meysydd datganoledig. Byddant yn gwneud y Cynulliad a Llywodraeth Cymru yn gwbl gyfrifol ac atebol am y penderfyniadau a wnânt a’r arian y byddant yn ei wario ar feysydd datganoledig. Bydd hyn, fel y mae eraill wedi awgrymu, yn creu ‘diwylliant dim esgusodion’ ar gyfer y Cynulliad a gweinidogion Cymru. Wales Office Annual Report 1

Dim ond blwyddyn sydd ers cychwyn y Llywodraeth Glymblaid. Rydym yn canolbwyntio, yn gwbl briodol, ar yr hyn y gallwn ei gyflawni dros bum mlynedd er mwyn sicrhau sefydlogrwydd economaidd ac ariannol ar gyfer yr hirdymor. Ond rwyf yn credu ein bod eisoes wedi gwneud llawer i roi’r wlad hon yn ôl ar y trywydd cywir.

Mae’r arwyddion yn awgrymu ein bod yn symud i’r cyfeiriad cywir. Rydym wedi gosod cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer adeiladu cymdeithas decach, fwy cyfrifol, sy’n cefnogi’r rheini sydd ei angen fwyaf. Rydym wedi gwneud penderfyniadau anodd ond angenrheidiol ynghylch yr economi er mwyn delio â’r llanast a etifeddwyd gan y Llywodraeth flaenorol.

Yng Nghymru, rydym yn buddsoddi mewn seilwaith megis trydaneiddio rheilffyrdd a band eang cyflym iawn, a bydd camau i symleiddio system dreth gymhleth y DU a lleihau baich rheoliadau yn cefnogi busnesau a mentrau yng Nghymru. Wrth ddiwygio’r wladwriaeth les, bydd hyn yn targedu cefnogaeth i’r rheini sydd fwyaf agored i niwed a helpu’r rheini sy’n gallu gweithio i fynd yn ôl i weithio mewn swyddi neu i gael hyfforddiant. Mae hyn yn arbennig o bwysig yng Nghymru lle gwelir o hyd, gwaetha’r modd, ardaloedd o ddiweithdra uchel a phobl heb waith, er gwaethaf ymdrechion llywodraethau, un ar ôl y llall.

Ym mis Rhagfyr, cadeiriais gyfarfod cyntaf Grwp Cynghori ar Fusnes Swyddfa Cymru yn Llundain. Gwahoddwyd cynrychiolwyr o bob rhan o’r sbectrwm busnes yng Nghymru i rannu eu barn sy’n cyfrannu at Grwp Cynghori ar Fusnes y DU a gadeirir gan y Prif Weinidog. Mae’r Grwp yn cyfarfod bob chwarter erbyn hyn i drafod unrhyw faterion sy’n effeithio ar Gymru.

Mae Swyddfa Cymru yn ymroddedig i arbedion effeithlonrwydd, ac wrth wneud hynny lleihau costau i’r Llywodraeth. Aethom ati i arwain drwy esiampl, gan ei gwneud yn ofynnol i bob gweinidog a staff deithio dosbarth safonol ar drên yn hytrach na dosbarth cyntaf. Aethom ati hefyd i nodi a gweithredu arbedion mewn meysydd eraill.

Wrth i ni gychwyn ail flwyddyn y Llywodraeth Glymblaid, rwyf yn hyderus bod sefyllfa economaidd Cymru yn fwy cadarn – er ni allwn laesu dwylo o gwbl ynghylch yr heriau lu sydd o’n blaenau. Mae Swyddfa Cymru yn ailgyfeirio ei gweithredu er mwyn adlewyrchu ei rôl yn well wrth gynrychioli Cymru yn San Steffan a chynrychioli San Steffan yng Nghymru.

Byddwn hefyd yn parhau i weithio’n adeiladol gyda Llywodraeth newydd Cymru yn dilyn etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai. Drwy gydweithio er budd cenedlaethol, gallwn gyflawni’r gorau i Gymru.

Y Gwir Anrhydeddus Cheryl Gillan AS Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Cyhoeddwyd ar 7 July 2011