IoD Cymru
Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, yn siarad i Aelodau'r IoD Cymru

Hoffwn achub ar y cyfle hwn i bwysleisio ein hymateb i Brexit a sut y gallwn sicrhau bod Cymru yn y sefyllfa orau posib i fanteisio ar y cyfleoedd sydd ar droed.
Wythnos diwethaf, cyhoeddwyd elfennau allweddol ein hymateb i adael yr Undeb Ewropeaidd.
Yn gyntaf, yr amseru. Caiff Erthygl 50 ei galw i rym erbyn diwedd Mawrth 2017 fan bellaf. Mae hyn yn rhoi dwy flynedd i ni drafod telerau ac amodau ein cytundebau masnachu ac ymadael yn ffurfiol.
Gadewch i mi esbonio. Dydyn ni ddim yn cefnu ar ein cyfeillion Ewropeaidd. Dydy cael Ewrop wannach, dlotach ddim yn fuddiol i ni.
Rydyn ni am i’r UE lwyddo ac mae’n fuddiol i’r Undeb bod y DU yn llwyddo hefyd.
Ni yw’r economi sy’n tyfu gyflymaf yn y G7 ac mae’n un o’r economïau datblygedig mwyaf a chadarnaf yn y byd.
Mae cael cymydog agos, cynghreiriad ac economi fawr ffyniannus ar garreg ei ddrws yn fanteisiol i’r UE.
Gwnaethom hefyd gyhoeddi’r broses ar gyfer gadael. Gwnaethom nodi ein bwriad o gyflwyno Bil Diddymu Mawr.
Dyma’r Bil Seneddol a fydd yn trosglwyddo holl gyfreithiau’r UE i fod yn rhan o gyfraith y DU.
Nid yw’n torri tir newydd. Mae’n trosglwyddo’r un safonau, rheoliadau a rhwymedigaethau i’r DU.
Y cyfan fydd yn newid yw y bydd gennym reolaeth dros y gyfraith, gan roi cyfle i ni wneud newidiadau er budd y DU yn nes ymlaen i ddiwallu anghenion y DU.
Cydnabyddwn fod angen trosglwyddo’n ddidrafferth gan amharu cyn lleied â phosib ar ein perthnasau masnachu ac er mwyn gwneud hynny, mae angen economi gadarn ac amgylchedd cadarn sy’n ystyriol o fusnesau ar gyfer buddsoddi tramor.
Mae’r Bil Diddymu Mawr yn arwyddocaol o ran cynnig sicrwydd a diogelwch.
Dylai busnesau fod â ffydd yn y cam gweithredu hwn. Mae’n dangos ymagwedd broblematig, sensitif.
Mae hefyd yn arwydd clir i arweinyddion yr UE ein bod am gynnal trefniant masnachu sydd mor debyg â phosib i’r hyn sydd gennym ni nawr.
Yr wythnos diwethaf cyhoeddodd y Canghellor hefyd y bydd Llywodraeth y DU yn sicrhau cyllid ar gyfer yr holl brosiectau cronfeydd strwythurol a buddsoddi, a gymeradwyir cyn i’r DU adael yr UE.
Rhaid i ni achub ar y cyfle hwn i ystyried ai’r ymateb i Gronfeydd Strwythurol presennol yr UE yw’r ffordd orau o gefnogi’r cymunedau hyn.
Rydw i eisoes wedi mynegi fy mhryderon ynghylch sut mae’r arian hwn wedi cael ei wario yn y gorffennol. Ni ddylai parhau â’r un cynlluniau gwario yn yr un hen ffordd ar ôl dau ddegawd fod yn opsiwn.
Wedi’r cyfan, ateb dros dro yw cronfeydd strwythurol Ewrop, ysgogiad i rannau mwyaf difreintiedig Ewrop.
Mae’n anodd credu bod 16 o flynyddoedd wedi bod ers rownd gyntaf Amcan 1 a bod £4Bn wedi’i wario. Mae angen i ni ofyn y cwestiwn, a yw’r canlyniadau dymunol wedi deillio o hyn? A yw’r cymunedau yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd yn well eu byd - fel yr oeddem wedi’i fwriadu a’i obeithio?
Gallai strwythur newydd roi cyfle i ni ddilyn blaenoriaethau’r DU, gan fuddsoddi mewn dull sydd wedi ei deilwra i economi Cymru.
Mae’r cyfarwyddyd o’r refferendwm yn glir: cael ein sofraniaeth yn ôl; rheoli ein ffiniau; a manteisio ar y cyfleoedd sydd gan y byd ehangach i’w cynnig, ond gan ddiogelu ein heconomi, ein swyddi a’n safonau byw yr un pryd.
Fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru byddaf yn parhau i hyrwyddo Cymru i’r byd. Rydw i’n benderfynol o helpu i gyflawni amcan y Prif Weinidog i fod yn Brydain hyderus fyd-eang nad yw’n troi ei chefn ar globaleiddio ond sy’n sicrhau bod y manteision yn cael eu rhannu gan bawb. Byddaf yn sicrhau bod Cymru wrth wraidd y weledigaeth honno.
Sylfeini Cadarn
Rydyn ni’n wynebu’r heriau a’r cyfleoedd sy’n gysylltiedig â gadael yr Undeb Ewropeaidd o safbwynt economaidd cryf.
Ers 2010, heb gynnwys Llundain, Cymru sydd wedi tyfu gyflymaf.
Yn ôl y ffigurau diweddaraf i Gymru, mae’r gyfradd diweithdra ar ei lefel isaf erioed ac mae’r nifer fwyaf erioed o bobl yn gweithio. O’r diwedd mae Cymru yn cau’r Bwlch sydd rhyngddi a gweddill y DU o ran y Gyfradd Anweithgarwch Economaidd. Mae diwygio lles yn gwneud gwahaniaeth go iawn i gymell pobl i weithio.
Mae rhai o’r gostyngiadau uchaf yn y gyfradd diweithdra wedi bod yn y cymunedau mwyaf difreintiedig.
Diolch i’r drefn, crëwyd y swyddi hyn gan y sector preifat - mae 126,000 yn fwy o swyddi sector preifat yng Nghymru nag oedd yn 2010.
Mae Cymru yn economi hyderus sy’n elwa o gael cyllid sefydlog, ac yn manteisio ar y penderfyniadau anodd a wnaed yn ystod y Senedd ddiwethaf.
Mae’n economi sy’n sylfaenol gadarn, yn hynod o gystadleuol ac yn agored i fusnes.
Heb os, byddwn yn wynebu heriau yn sgil Brexit, ond rydyn ni mewn sefyllfa dda i wynebu’r trawsnewid sydd o’n blaenau.
Masnach a Buddsoddi
Mae Cymru wedi ei hadeiladu ar hanes masnachu byd-eang - ar ddechrau’r ugeinfed ganrif Caerdydd a’r Barri oedd y ddau borthladd mwyaf yn y byd yn allforio glo.
Mor ddiweddar â’r 1990au, denodd Cymru 20% o fuddsoddiad uniongyrchol tramor y DU.
Heddiw mae gwerth allforion i Gymru yn bwysig - £12 biliwn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. O’r swm hwnnw, mae mwy na hanner yn cael ei allforio i wledydd nad ydynt yn yr UE.
Mae gennym y cynhyrchion a’r cwmnïau mwyaf blaenllaw yn y byd yma yng Nghymru.
Rydyn ni’n datblygu ac yn gweithgynhyrchu’r adenydd awyrennau mwyaf datblygedig a thechnolegol a gynhyrchir yn unrhyw le yn y byd. Bellach mae dros hanner awyrennau masnachol y byd yn defnyddio’r adenydd hyn a wneir gan Airbus ym Mrychdyn.
Er hyn, mae ein grym yn ymestyn y tu hwnt i Airbus. Bob dwy eiliad, mae awyren wedi’i phweru gan GE yn cychwyn ar ei thaith rywle yn y byd. Ar unrhyw eiliad, mae mwy na 2,200 o’r awyrennau hyn yn yr awyr, gyda phob un yn cludo hyd at 600 o deithwyr.
Dyma’r neges y mae’n rhaid i ni ei chyfleu i’r byd: mae ein gwlad yn dal yn agored i fusnes. Fel y dywedodd y Prif Weinidog yn y gynhadledd, nid yw’r ffaith ein bod yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yn golygu y byddwn yn gadael cyfandir Ewrop. Ni fyddwn yn cefnu ar ein ffrindiau a’n cynghreiriaid dramor. Ni fyddwn yn cilio o’r byd.
Mae Cymru yn dal yn lle gwych i wneud busnes ac yn gyrchfan deniadol ar gyfer buddsoddi tramor, gan sicrhau hwb gwerthfawr i’r economi a chreu miloedd o swyddi.
Mae denu mwy o fuddsoddiad i Gymru yn rhywbeth rydw i’n teimlo’n angerddol iawn yn ei gylch.
Y llynedd, roedd 97 o brosiectau mewnfuddsoddi a greodd dros 5,000 o swyddi newydd - cynnydd o 7% yn nifer y swyddi newydd a grëwyd o gymharu â’r flwyddyn cynt. Roedd 90 allan o’r 97 yn cynnwys UKTI.
Mae’r Adran newydd ar gyfer Masnach Ryngwladol yn fwy mentrus, yn fwy rhagweithiol ac yn fwy o ran maint. Mae’n cynnwys mwy na dim ond UKTI, mae’n cynnwys llawer o wasanaethau cymorth eraill hefyd. Mae’n adran ar gyfer y DU gyfan. Mae gan bob busnes yma yr un hawl i gael y cymorth a gynigir gan DIT ag unrhyw fusnes ym Mryste, Caerfaddon neu Newcastle. Cymorth gan y Conswl, y Llysgenhadaeth a’r Teithiau Masnach a’r cyfleoedd Rhwydweithio. Bydd gen i fwy i’w ddweud am hyn dros yr wythnosau nesaf.
Nid yw hyn yn cymryd lle gweithgarwch Llywodraeth Cymru yn y maes hwn ond yn ychwanegol iddo. Mae’n bwysig ein bod yn cydlynu er budd Cymru.
Bellach mae gan Gymru lwyfan cadarn i adeiladu arno dros y misoedd nesaf.
Mae gadael yr UE yn gyfle i negodi ein cytundebau masnachu ein hunain a bod yn rym pwerus a chadarnhaol ar gyfer masnach rydd.
Ledled y byd, rydym am guro’r drwm i Brydain a gwneud ein gorau glas i hybu ein masnach: gan hyrwyddo’r DU fel lle i wneud busnes a masnachu ag ef; ysgogi mewnfuddsoddiad; a negodi cytundebau masnachu.
Buddsoddi mewn Arloesedd
Mae’n fwy na dim ond hanes masnachu byd-eang, ni sy’n gyfrifol am rai o’r datblygiadau arloesol pwysicaf.
Yn amrywio o dwf gweithgynhyrchu a pheirianneg gwerth uwch yn y sectorau awyrofod, cerbydau ac amddiffyn, i sector gwyddorau bywyd sy’n dod i’r amlwg lle mae ymchwilwyr ar flaen y gad o ran biotechnoleg.
A ninnau ar flaen y gad o ran nifer o dechnolegau newydd, mae’r DU yn dod yn arweinydd byd eto.
Ac nid oes man gwell i weld hynny na De Cymru, lle’r ydym yn dal ar flaen y gad o ran datblygiadau mewn technoleg lled-ddargludydd. Bydd ein Canolfan Gatapwlt yn manteisio’n llwyr ar yr arbenigedd lleol er budd economi Cymru a’r DU. Bydd yn datblygu clwstwr mwyaf soffistigedig Ewrop ac yn gwneud gwahaniaeth mawr o ran gwerth a chynhyrchiant.
Buddsoddi mewn Seilwaith
Mae seilwaith hefyd yn allweddol i’ch gallu i lwyddo.
Mae ein rhaglen fuddsoddi yn seilwaith y rheilffyrdd yn un o’r cynlluniau mwyaf uchelgeisiol ers datblygu’r rhwydwaith rheilffyrdd yn y 19eg ganrif.
Mae symiau enfawr yn cael eu buddsoddi i drydaneiddio Prif Reilffordd y Great Western.
Bore ’ma, cefais y fraint o weld y gwaith trydaneiddio ar flaen trên 07:45 y bore o Paddington i Fryste, a’r pleser o weld y ceblau’n cael eu gosod yn Nhwnnel Hafren.
Rwy’n cydnabod bod cau’r twnnel wedi bod yn her i nifer ohonom yma, ond mae’n amlwg y bydd y manteision yn drech na’r drafferth yn y tymor byr hwn.
Mae trydaneiddio Prif Reilffordd y Great Western yn allweddol i’n cysylltedd a bydd yn helpu i wella cynhyrchiant.
Bydd ein cyfraniad o £500 miliwn i’r Fargen Ddinesig ar gyfer Caerdydd yn helpu i drydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd.
Bydd Crossrail - prosiect Peirianneg Sifil mwyaf Ewrop yn hybu’r amseroedd teithio byrrach yn sgil trydaneiddio’r brif reilffordd - gan ddod â Chaerdydd yn nes at Canary Wharf - mewn tua dwy awr. >
Ac rydym yn buddsoddi er mwyn cysylltu maes awyr Heathrow â Phrif Reilffordd y Great Western - gan dorri hanner awr ar y daith rhwng Heathrow a De Cymru.
Mae Pontydd Hafren yr un mor berthnasol i’n mynediad a’n natur gystadleuol. Byddwn yn haneru’r tollau unwaith y bydd y cyhoedd yn berchen ar y Pontydd.
Rydyn ni hefyd yn cael gwared ar yr ail gategori, felly bydd cerbydau nwyddau bach yn talu’r un faint â cheir.
A byddaf yn adolygu’r achos dros gael tollau agored ar y Pontydd.
Rydyn ni’n gwario symiau sylweddol i wella Band eang ledled y DU; ac mae’r ddarpariaeth i Gymru yn 89% ar hyn o bryd.
Rydyn ni’n gweithio hefyd i leihau mannau digyswllt o ran derbyniad ffonau symudol gyda chytundeb i sicrhau darpariaeth llais a thestun gan bob gweithredwr. Bydd gan y DU 98% o ddarpariaeth 4G erbyn diwedd 2017 a bydd gan Gymru a’r gwledydd eraill yn y DU o leiaf 95%. Mae’r ymateb hwn yn un gwahanol iawn i’r Arwerthiant 3G lle nad oedd unrhyw alw am ddarpariaeth - sef un o’r prif resymau pam bod gennym ni’r mannau digyswllt y soniais amdanyn nhw.
Dyma faes rydw i a Llywodraeth Cymru yn cydweithio’n agos arno i roi pwysau ar weithredwyr i chwarae eu rhan yn y gwaith o lenwi’r bylchau.
Bydd buddsoddi cyhoeddus gofalus, wedi ei dargedu mewn seilwaith o werth uchel yn rhan bwysig o strategaeth y Llywodraeth i adeiladu economi sy’n gweithio i bawb.
Cadarnhaodd y Canghellor yr wythnos diwethaf y bydd diogelu a chefnogi’r economi’n cael blaenoriaeth dros ddileu’r diffyg ariannol.
Gan fod yr economi’n ymateb i effeithiau gadael yr UE, mae’n bosib y bydd gan bolisi ariannol rôl i’w chwarae.
Rydyn ni’n barod i gymryd pa gamau bynnag sydd eu hangen i ddiogelu ein heconomi.
Bargeinion Dinesig
Ond nid ar seilwaith yn unig y mae adeiladu economi gadarn. Mae ein heconomi yn galw am dwf cytbwys, cynaliadwy, hirdymor.
Rydyn ni’n dal i ddibynnu gormod ar ychydig sectorau allweddol sy’n tueddu i ganolbwyntio ar Lundain a De Ddwyrain Lloegr.
Mae cynhyrchiant yng Nghymru yn is nag yn UDA, yr Almaen, Ffrainc a’r Eidal. Pe bai hyn yn gwella 1% bob blwyddyn am ddegawd, byddai hyn yn creu £250Bn, sef £9,000 i bob aelwyd.
Llundain a De Ddwyrain Lloegr yw’r unig ranbarthau yn y DU sy’n uwch na chyfartaledd y DU. Fodd bynnag, maen nhw hyd yn oed yn is na chyfartaledd UDA, Ffrainc, yr Almaen a’r Eidal.
Y newyddion da yw bod Cymru wedi bod yn cau’r bwlch, ond mae mwy i’w wneud o hyd. Bydd cau’r bwlch hwnnw’n allweddol i ddyfodol Cymru y tu allan i’r UE.
Swyddogaeth y Bargeinion datganoli rhanbarthol yw helpu i gyflawni hynny, ynghyd â gwella cynhyrchiant. Mynd i’r afael â’r gwahaniaethau rhanbarthol hynny fydd un o’r ffactorau allweddol ar gyfer strategaeth ddiwydiannol y llywodraeth.
Y Fargen Ddinesig ar gyfer Caerdydd sy’n werth £1.2 biliwn yw’r Fargen Ddinesig fwyaf yn y DU. Mae’n ymwneud â gwireddu potensial economaidd. Mae mwy o waith i’w wneud ar hyn o hyd ond credwn mai arweinyddion busnes a’r bobl sy’n gwneud penderfyniadau lleol sydd yn y sefyllfa orau i ddeall beth sydd ei angen i hybu twf yn eu hardal.
Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda phartneriaid lleol hefyd i’w helpu i ddatblygu’r Fargen Ddinesig ar gyfer Rhanbarth Bae Abertawe a fydd yn eu helpu i ysgogi’r economi leol a sicrhau twf o ran cynhyrchiant.
Rydyn ni’n gweithio hefyd ar Fargen Twf ar gyfer Gogledd Cymru ac rwy’n awyddus i roi hyn ar waith ar Draws y Ffin.
Bydd hyn yn helpu i gadarnhau economi’r rhanbarth a gwneud y mwyaf o’i chysylltiadau â Phwerdy’r Gogledd.
Rwy’n benderfynol o weld Gogledd Cymru yn agored i gyfleoedd economaidd Manceinion, Lerpwl a Swydd Gaer.
Casgliad
Gallwch fod yn dawel eich meddwl ein bod yn barod i gymryd y camau angenrheidiol i ddiogelu’r economi a manteisio ar y cyfleoedd a fydd yn codi wrth i ni lunio perthynas newydd â’r Undeb Ewropeaidd a gwneud Prydain yn wlad sydd wir yn gweithio i bawb.
Yr un wlad eangfrydig a byd-eang ei meddwl ydym ag a fuom erioed ac mae ein gwlad yn agored i fusnes o hyd.