Anerchiad

Darganfod lle sy’n llawn cyfleoedd

Alun Cairns yn siarad am y buddiannau o fasnachu efo'r DU

The Rt Hon Alun Cairns MP

Cyflwyniad

Diolch Ed am y cyflwyniad. Mae’n bleser cael bod yma prynhawn ‘ma.

Mae’r Deyrnas Unedig yn genedl sy’n edrych allan tua’r byd. Mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn rhoi cyfle i ni lunio perthynas newydd ac agosach gyda’n ffrindiau a’n cynghreiriaid yn Ewrop ond hefyd i edrych tuag allan ac i gryfhau a dyfnhau perthnasau gyda gweddill y byd. Dwi’n credu bod y digwyddiad hwn yn brawf o’r meddylfryd newydd hwnnw.

Wrth gwrs, mae’r Deyrnas Unedig yn cynnwys pedair cenedl wahanol – Lloegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.

Ond mae busnesau yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon wrth reswm yn rhan o farchnad y DU, gyda’i boblogaeth o 65 miliwn o bobl.

Mae gan yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon weinyddiaethau datganoledig, sy’n gallu bod yn fanteisiol i unrhyw fuddsoddwr. Gall y Gweinyddiaethau Datganoledig gynnig cymorth ychwanegol i’r hyn sy’n cael ei ddarparu gan Lywodraeth y DU a’r sefydlogrwydd a’r sicrwydd o fod yn rhan o bumed economi fwya’r byd.

Gyda’n gilydd, rydym wedi bod yn croesawu busnesau a’u helpu i dyfu ers amser maith. Llywodraeth y DU yn arwain ac yn darparu sefydlogrwydd, gyda chymorth lleol y gweinyddiaethau datganoledig.

Cyflwyniad i’r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon

Bydd nifer ohonoch chi erioed wedi bod i Gymru nac yn gwybod llawer am y wlad fach ond arwyddocaol hon yn y DU – ac mae ddwywaith maint Qatar!

Mae seiliau Cymru wedi’u hadeiladu ar fasnachu byd-eang - o’r diwydiannau glo a dur fu’n sbardun i’r chwyldro diwydiannol yn ystod yr ugeinfed ganrif i wasanaethau ariannol, diwydiannau creadigol a datblygiadau mewn gweithgynhyrchu.

O’r cefndir hwnnw o gynhyrchu ynni, mae’n ddiddorol nodi bod Cymru a Qatar ar y cyd yn darparu hyd at 25% o anghenion nwy naturiol presennol y DU, drwy Qatar Petroleum LNG Services, a gyflenwir drwy South Hook, terfynell nwy yng Ngorllewin Cymru. Pan agorodd Ei Mawrhydi’r Frenhines y cyfleuster nôl yn 2009, ro’dd hi’n fraint cael bod yn bresennol.

Ers 2010, mae Cymru wedi tyfu’n gyflymach nag unrhyw ran arall o’r DU y tu allan i Lundain.

Ochr yn ochr â’r Alban a Gogledd Iwerddon, mae’r cysylltiadau â Qatar eisoes yn gryf. Yn ail hanner 2016, allforiwyd dros £100 miliwn o nwyddau i Qatar - dyma berthynas dwi’n awyddus i’w gweld yn ffynnu.

Mae enw da Qatar yn y diwydiant awyrennau i’w ganmol, ac mae gweithgarwch Cymru mewn Aerofod yn cyd-fynd â hynny.

Mae dros hanner o awyrennau masnachol y byd bellach yn hedfan gydag adenydd sy’n cael eu cynhyrchu gan Airbus ym Mrychdyn yng Ngogledd Cymru.

Bob dwy eiliad, mae awyren sy’n cael ei bŵer wrth GE yn codi rhywle yn y byd. Mae’r cyfleuster ger Caerdydd yn gaffaeliad mawr, ar ôl sicrhau buddsoddiad gwerth £20M, i gynnal yr injan GE 9X newydd.

A chyhoeddwyd yn ddiweddar mai Gogledd Cymru fyddai’r hwb byd-eang i atgyweirio’r jet ymladd F35.

Ond mae’r arbenigedd hwn yn ymestyn i rannau eraill o’r DU hefyd. Os ydych chi’n teithio yn yr adran fusnes ar Qatar Airlines, cyn bo hir, byddwch chi’n mwynhau’r seddi cyfforddus sy’n cael eu cynhyrchu gan BE Aerospace Kilkeel yng Ngogledd Iwerddon.

Felly pam buddsoddi yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon?

Rhan o’r DU

Wel, maen nhw i gyd yn rhan o’r DU - y prif le yn Ewrop ar gyfer FDI yr Unol Daleithiau a’r ‘lleoliad mawr gorau ar gyfer cynnal busnes yn hawdd’ yn ôl Banc y Byd.

Rydyn ni’n elwa ar gysylltiadau teithio gwych ar draws y byd, gan gynnwys i weddill Ewrop - a Llundain yw Canolfan Ariannol penna’r byd.

Mae gennym system gyfreithiol y mae buddsoddwyr yn ei deall ac yn gyfarwydd â hi, ac economi rheoleiddio isel a threthiant isel.

Mae gennym brifysgolion o safon byd - Belfast, Caerdydd a Chaeredin i enwi ond rhai i gyd-fynd â’r rhagoriaeth Rhydychen, Caergrawnt, Imperial a nifer o rai eraill ar draws Lloegr. Mae’r canolfannau ymchwil ar draws y DU yn denu canmoliaeth ryngwladol.

Ac rydyn ni’n byw yn y gylchfa amser iawn i wneud busnes gydag Asian yn y bore ac America yn y prynhawn.

Arbenigedd sy’n flaenllaw ar draws y byd

Mae arbenigedd yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon yn enwog ledled y byd, ac yn flaenllaw mewn nifer o feysydd.

Mae gan Gymru enw da fel cartref rhai o gwmnïau aerofod mwya’r byd.

Gogledd Iwerddon yw’r prif leoliad byd-eang ar gyfer mewnfuddsoddi diogelwch seiber, a’r prif leoliad rhyngwladol ar gyfer cwmnïau o’r Unol Daleithiau.

Mae’r Deyrnas Unedig yn arweinydd byd-eang ac yn bwerdy yn y diwydiant gwasanaethau ariannol. Mae mwy o sefydliadau a buddsoddwyr ariannol o dramor yn dewis cynnal eu busnes yn y DU a gyda’r DU nag unrhyw wlad arall.

Mae sector ariannol yr Alban, gyda llawer ohono yng Nghaeredin a Glasgow, wedi chwarae rôl allweddol yn llwyddiant y DU fel arweinydd ariannol byd-eang.

Belfast yw’r brif ddinas fyd-eang ar gyfer prosiectau technoleg y gwasanaethau ariannol, ac mae Gogledd Iwerddon wedi dod i’r amlwg fel canolfan cyfreithiol-technoleg. Mae Caerdydd wedi’i henwi gan Fasnach a Buddsoddi Rhyngwladol fel Canolfan Ragoriaeth mewn Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol.

Ac nid gwasanaethau cyfreithiol-technoleg yn unig, mae gan Gymru arbenigedd hefyd mewn technoleg feddygol, yn enwedig diagnosteg.

Mae GE Healthcare, o’u canolfan yn Ne Cymru, yn darparu technolegau a gwasanaethau meddygol trawsnewidiol sy’n llunio oes newydd o ofal i gleifion.

A gyda chymorth Llywodraeth y DU a’r Gweinyddiaethau Datganoledig, mae Ymchwil a Datblygu yn ffynnu.

Er enghraifft, y prosiect hir dymor sy’n cael ei arwain gan un o gwmnïau technoleg mwyaf blaenllaw Cymru IQE a Phrifysgol Caerdydd. Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, rydym yn creu’r clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cyntaf yn y byd - yn Ne Cymru.

Neu’r bioquarter yng Nghaeredin sydd yn ne ddwyrain y ddinas sy’n arbenigo mewn sicrhau bod darganfyddiadau newydd yn cael eu troi’n fentrau masnachol.

Mae prifysgolion yr Alban wedi cyfrannu’n helaeth at wyddoniaeth a pheirianneg yn ystod y blynyddoedd diwethaf. O ddarganfyddiad damcaniaethol Higgs Boson i fod y cyntaf i glonio mamal sef Dolly the Sheep, mae gan brifysgolion yr Alban enw da am arloesi a rhagoriaeth.

Mae’r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon mewn lle da i gynhyrchu pobl ifanc addysgedig a medrus fydd yn arweinwyr busnes y dyfodol.

Lloliadau gwych ar gyfer busnes

Mae Caerdydd, prifddinas Cymru, ond dwy awr o Lundain ar y trên cyflym, ac mae economïau Gogledd a Chanolbarth Cymru hefyd wedi’u cysylltu’n dda gyda dinasoedd mawr fel Manceinion, Lerpwl a Birmingham.

Gallwch hedfan yn syth o faes awyr London City i Gaerdydd mewn llai nag awr. Mae’r daith awyren i Belfast hefyd yn cymryd awr; a’r daith i Gaeredin o dan awr a hanner.

Mae rhwydweithiau ffyrdd a rheilffyrdd Gogledd Iwerddon, gyda thri maes awyr, yn cynnig mynediad hawdd i Weriniaeth Iwerddon.

Mae gan yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon hefyd seilwaith digidol trawiadol, gan ddarparu cysylltiadau llais a data ar gyflymder uchel ledled y byd.

Hefyd, mae busnesau sy’n buddsoddi yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon hefyd yn elwa ar gostau gweithredu, rhenti masnachol a phrisiau tai cystadleuol iawn, sydd ymhlith yr isaf yn Ewrop.

Cefnogaeth gan y Llywodraeth

Mae lefel y gefnogaeth sydd ar gael i fusnesau yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon yn sylweddol, ac mae busnesau sydd wedi’u lleoli yma wedi derbyn cefnogaeth Llywodraeth y DU a’r Gweinyddiaethau Datganoledig, gydag Adran Fasnach Ryngwladol y DU yn chwarae rôl allweddol.

Mae gan Gymru peth o’r cymhellion cyllid ac ariannol uchaf yn y DU.

Ond nid gwaith yw popeth!

Diwylliant a ffordd o fyw

Mae chwaraeon yn rhywbeth sy’n uno’r genedl gyfan - neu a ddylwn ni ddweud cystadleuaeth gyfeillgar. Yn hanesyddol, mae Cymru wedi serennu ar y cae rygbi - a phêl-droed hefyd wrth gwrs, yn dilyn ein llwyddiant ym Mhencampwriaethau Ewrop y llynedd. Mae’r pêl-droediwr byd-enwog Gareth Bale yn fodel rôl i gynifer. Yng Nghaerdydd, bydd rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn cael ei chynnal mewn rhai wythnosau - gyda 300M o bobl yn gwylio ledled y byd.

Mae’r Alban wedi cynhyrchu rhai o enwau mwyaf y byd chwaraeon modern, gan gynnwys Syr Chris Hoy sydd wedi ennill nifer o fedalau aur yn y Gemau Olympaidd a Syr Andy Murray, ymhlith eraill.

Glasgow oedd cartref balch Gemau’r Gymanwlad yn 2014, a chafodd ei chydnabod yn ddiweddar fel y pumed ddinas orau am chwaraeon yn y byd, ar y blaen i Baris, Sydney a Los Angeles, sydd i gyd wedi cynnal y Gemau Olympaidd.

A phan fyddwch yn sefydlu busnes yn yr Alban, Cymru neu Ogledd Iwerddon, gallwch fod yn sicr o gael croeso cynnes a didwyll, a ffordd o fyw sydd o fudd i’ch gweithwyr.

O draethau godidog Sir Benfro, lle cafodd Harry Potter ei ffilmio - i Ucheldiroedd yr Alban gyda’i ddyffrynnoedd gwefreiddiol, i golofnau trawiadol y Giant Causeway yng Ngogledd Iwerddon, gall pob cenedl gynnig rhywbeth gwahanol - o ran hanes, tirlun a diwylliant.

Cafodd Gogledd Cymru ei osod yn y pedwerydd safle ar restr y Lonely Planet o’r rhanbarthau gorau yn y byd i ymweld â nhw.

Ac mae Cymru yn cystadlu â’r Alban i fod yn genedl golffio - yr Alban gyda thraddodiad St Andrew’s, ond mae gan Gymru 180 o gyrsiau golff gan gynnwys y Celtic Manor, cartref y Cwpan Ryder yn 2010.

Mae arbenigedd Gogledd Iwerddon am Rasio Ceffylau yn gyfarwydd ledled y byd.

I gloi

Gobeithio y byddwch chi’n gadael y sesiwn hon gyda’ch llygaid yn agored i’r cyfleoedd y mae’r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon yn eu cynnig.

Gobeithio y byddai’n eich gweld chi’n dilyn yn ôl traed nifer sydd eisoes wedi buddsoddi, fel:

  • GlaxoSmithKline sydd wedi buddsoddi £110 million mewn safle yn yr Alban, fydd yn gweithgynhyrchu meddyginiaethau anadlu.
  • Mae Citi, un o sefydliadau ariannol mwyaf blaenllaw y byd, wedi sefydlu presenoldeb yn Belfast ym mis Tachwedd 2004 ac wedi parhau i dyfu ers hynny.
  • Mae Airbus ac Aston Martin – dau gwmni rhyngwladol sydd wedi buddsoddi’n sylweddol yng Nghymru – yma heddiw.

Ochr yn ochr â gweddill y Deyrnas Unedig, mae’r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon yn wynebu byd newydd o gyfleoedd wrth i ni ddechrau ein trafodaethau i adael yr Undeb Ewropeaidd, cryfhau ein perthnasau gyda phartneriaid masnachu cyfredol a meithrin perthnasau gyda phartneriaid masnachu newydd ar draws y byd.

Ar yr un pryd, byddwn yn parhau i fod yn bartneriaid dibynadwy, yn gynghreiriaid parod ac yn ffrindiau agos gyda gweddill Ewrop.

Fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru, efallai y gwnewch chi faddau i fi am fy mrwdfrydedd amlwg am Gymru. Dwi’n uchelgeisiol dros Gymru - ac mae ganddi lawer i gynnig i’r byd.

Ond os byddwch chi’n dewis Cymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon neu Loegr hyd yn oed, efallai na allwn ni gystadlu â thywydd Qatar - ond gallwn ni gynnig economi sefydlog sy’n tyfu, gweithlu medrus, croeso cynnes, lle gwych i greu busnes, a Llywodraeth y DU sy’n benderfynol ac mewn lle perffaith i agor cyfleoedd yn Ewrop a thu hwnt.

Cyhoeddwyd ar 30 March 2017