Anerchiad

Alun Cairns yn adlewyrchu ar gynnydd yng Nghymru yn arwain at gyhoeddiad Dydd Gŵyl Dewi

Araith Brecwast Busnes ACCA

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
The Rt Hon Alun Cairns MP

Gallai fod ychydig yn wahanol i’r hyn yn union a ddwedwyd

Bore da foneddigion a boneddigesau. Mae’n hyfryd bod yma gyda chi – a diolch i chi Brian am eich croeso cynnes.

Mae’n braf iawn gweld cynifer ohonoch yma heddiw – yn enwedig gan fod y digwyddiad hwn yn codi arian at elusen mor werthfawr, apêl cennin pedr Marie Curie.

Symbol o Ddydd Gŵyl Dewi yw’r genhinen Bedr wrth gwrs, dydd llawn balchder i bawb yng Nghymru ar gyfer dathlu ein treftadaeth a’n diwylliant.

Ond eleni mae hefyd yn ddiwrnod pwysig i ddyfodol Cymru.

Yn ddiweddarach yn ystod y bore, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn cyhoeddi canlyniad proses Dydd Gŵyl Dewi, proses sy’n darparu glasbrint ar gyfer dyfodol datganoli yng Nghymru.

Fis Tachwedd diwethaf, gwnaethom ddweud y byddai Cymru wrth galon y ddadl ar ragor o ddatganoli yn y Deyrnas Unedig, ac mae’r pecyn a fydd yn cael ei gyhoeddi’n ddiweddarach heddiw yn gwireddu’r addewid hwnnw ac yn sicrhau Cymru gryfach i’r dyfodol.

Ond er bod materion cyfansoddiadol yn bwysig i bobl yng Nghymru, nid y cyfansoddiad yw’r ystyriaeth ddiffiniol yng ngwleidyddiaeth Cymru.

Ar hyd a lled y wlad, y mater diffiniol i unigolion a busnesau yw’r economi.

A fydd eleni yn flwyddyn dda i’m busnes?

A fydd mwy o gyfleoedd gwaith?

Ydy’r economi yn tyfu?

Oherwydd, yn y pen draw, ar yr economi y bydd unrhyw lywodraeth yn cael ei barnu, ac ni fydd dim yn wahanol ym mis Mai.

Ac yn ôl yn 2010, roeddem yn gwybod y byddai’n rhaid i’r economi fod wrth galon popeth yr oedd y Llywodraeth Glymblaid hon yn ei wneud.

Oherwydd, ar y pryd, roedd yr economi yn dioddef yn sgîl y dirwasgiad gwaethaf yn hanes y wlad ar ôl y rhyfel.

Roedd gennym ddiffyg yn y gyllideb o 10 y cant GDP sef yr uchaf o blith holl economïau Ewrop ar wahân i Iwerddon a’r uchaf ymysg gwledydd y G20.

Yng Nghymru, collodd dros 70,000 o bobl eu swyddi a chododd diweithdra i’r lefel uchaf ers pymtheg mlynedd.

Roedd gan Gymru un o’r economïau mwyaf anghytbwys yn y Deyrnas Unedig, gyda 27 y cant o’r gweithlu yn y sector cyhoeddus.

Ac roedd llawer yn 2010 yn dadlau mai’r ffordd o ddod â’r argyfwng i ben oedd drwy fenthyca rhagor.

Ond, roeddem yn benderfynol o ailstrwythuro ein heconomi i newid y model a chwalwyd yn deilchion mewn ffordd mor drawiadol.

Dyma’r model anghynaladwy a greodd economi anghytbwys a oedd yn seiliedig ar ddyled a gorddibyniaeth ar y sector cyhoeddus.

Felly, gwnaethom lunio ein cynllun economaidd hirdymor i sefydlogi ein sefyllfa ariannol genedlaethol, codi’r economi yn ôl ar ei thraed a gosod cyfeiriad ar gyfer adferiad mwy cytbwys.

Credai llawer fod y sector preifat yn rhy wan i’n tywys drwy’r adferiad.

Ond ein cynllun economaidd hirdymor ni sy’n dechrau dwyn ffrwyth yng Nghymru.

Mae’r rheini nad oedd ganddynt ffydd ynoch chi, y sector preifat, wedi cael eu profi’n anghywir.

Oherwydd y sector preifat sydd wedi creu dros 100,000 o swyddi yng Nghymru.

Y twf yn y sector preifat sydd wedi creu 26,000 yn fwy o fusnesau yng Nghymru dros y pedair blynedd diwethaf.

A’r sector preifat sy’n sbarduno’r twf 31 y cant mewn allforion ers 2010, gyda Masnach a Buddsoddi’r DU (UKTI) yn helpu Cymru i ddychwelyd i’r amser pan oedd gennym Awdurdod Datblygu Cymru pan mai ni oedd y dynfa ar gyfer mewnfuddsoddi.

Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol - mae economi’r Deyrnas Unedig yn tyfu’n gynt nag economi unrhyw un o wledydd yr G7.

Ac nid twf yn Llundain yw hwn nac yn unrhyw fan arall - economi Cymru yw’r economi sy’n tyfu gyflymaf yn y Deyrnas Unedig.

Wrth gwrs, mae’r twf hwn yn cychwyn o sylfaen isel, ond mae Cymru erbyn hyn yn cael ei hystyried yn fodel o lwyddiant economaidd – lle gwych i gychwyn eich busnes a’i ddatblygu.

Ond, mae gennym bobl o hyd sydd am fychanu’r cyflawniadau hyn a hawlio nad oes adferiad go iawn yn digwydd yng Nghymru.

Ond, mae’r ffeithiau’n dangos bod rhywbeth go iawn yn digwydd yng Nghymru.

Rydym yn gweld ein heconomi yn ail-gydbwyso ac yn symud oddi wrth bod yn ddibynnol ar y sector cyhoeddus.

Ac un peth sy’n fy nghyffroi yw’r twf yr ydym yn ei weld yn ein sector technoleg yng Nghymru.

Ers 2010, o’r holl swyddi newydd sydd wedi’u creu yng Nghymru, mae 36 y cant ohonynt wedi bod mewn sectorau uwch dechnoleg.

Mae cynnyrch newydd a swyddi newydd yn cael eu creu mewn meysydd megis gweithgynhyrchu uwch, TGCh a gwyddorau bywyd uwch.

Bu’r Prif Weinidog yn dathlu’r cadarnhad hwn o safle Prydain fel canolfan fyd-eang ar gyfer rhagoriaeth dechnolegol. Ac mae’r ffaith fod De Cymru yn rhan o hynny yr union beth y mae Cymru ei angen i allu cystadlu yn y farchnad fyd-eang.

Ac nid yw’r cyhoeddiad fod De Cymru yn un o’r clystyrau technoleg sy’n tyfu gyflymaf yn y DU yn syndod o gwbl i mi ar yr un lefel â Chanol Llundain a Manceinion fwyaf o ran nifer y cwmnïau digidol newydd sydd wedi’u sefydlu ers 2010 ac wedi’i nodi gyda Swydd Berkshire a Swydd Caergrawnt fel ardal â’r dwysedd uchaf o gwmnïau digidol a rhan o’r DU y disgwylir iddi elwa o’r twf mewn swyddi digidol a ddisgwylir erbyn 2020.

Dim ond wythnos yn ôl y cefais y fraint o ymweld â’r ganolfan dechnoleg newydd yn Abertawe.

Oherwydd mae gennym ddatblygiadau arloesol ffantastig yma yng Nghymru.

Dim ond wythnos dwytha nodwyd bod dros 5 miliwn o’r cyfrifiaduron maint cerdyn credyd, y Raspberry pi, wedi’u gwerthu sy’n golygu mai hwn yw’r cyfrifiadur Prydeinig sydd wedi gwerthu orau erioed gan wneud hyd yn oed yn well na’r Sinclair Spectrum eiconig.

Rwy’n siŵr fod gan y rhan fwyaf o bobl yn y stafell hon ffôn clyfar ac eto faint ohonoch sy’n gwybod bod hanner ffonau symudol y byd yn rhedeg ar dechnoleg sydd wedi’i chynhyrchu yn Ne Cymru?

Mae angen i Gymru fod ar flaen y gad o ran arloesi a datblygu cynnyrch newydd.

Ac mae Cymru angen llywodraeth sy’n deall beth sydd ei angen ar yr economi i allu tyfu.

Yn 2010, galwodd busnesau am lywodraeth a fyddai’n cefnogi twf ac yn creu’r amodau i’ch galluogi chi i gystadlu.

Felly, rhan allweddol o’n cynllun economaidd hirdymor yn syml yw cael y llywodraeth allan o’ch ffordd!

A dyna pam rydym wedi cael gwared â biwrocratiaeth ddiangen a gorfeichus.

Rydym wedi diwygio neu ddileu dros dair mil o reoliadau, gan arbed dros wyth gant a hanner o filiynau o bunnoedd i fusnesau bob blwyddyn.

Ac rydym hefyd yn lleihau’r baich trethu i’ch galluogi i fuddsoddi’r elw rydych wedi gweithio’n galed i’w ennill yn ôl yn eich busnes.

Eleni, gan y DU fydd y lefel treth gorfforaeth isaf o’i gymharu â gweddill gwledydd y G20.

Ar gyfer busnesau llai yn benodol, mae Cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn gost sylweddol sy’n cyfyngu ar dwf. Dyna pam yr ydym wedi cyflwyno’r lwfans buddsoddi sy’n galluogi dros 35,000 o fusnesau yng Nghymru i gael arian yn ôl wrth greu swyddi.

A’r neges gyson a glywn gan fusnesau yw’r angen i fuddsoddi mewn seilwaith.

Allwn ni ddim cael economi lwyddiannus yn yr unfed ganrif ar hugain heb seilwaith ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

Ers degawdau, mae llywodraeth ar ôl llywodraeth wedi tanfuddsoddi’n ddybryd mewn seilwaith. Ac nid oedd y ffordd o ysgogi’r gwaith o gyflenwi prosiectau yn ddigon deinamig.

Mae ein cynllun economaidd hirdymor yn gweddnewid hyn. Mae lefel ein buddsoddiad mewn seilwaith heddiw yn 47 biliwn o bunnoedd y flwyddyn ar gyfartaledd - 15 y cant o gynnydd mewn dim ond pedair blynedd.

Rydym yn buddsoddi cyfran fwy o gyfoeth ein gwlad mewn seilwaith nag yn ystod cyfnod cyfan y Llywodraeth ddiwethaf.

Ar draws y DU, rydym yn gwario mwy ar y rheilffyrdd nag unrhyw Lywodraeth flaenorol - ac yn trydaneiddio dros 800 milltir o’r trac o’i gymharu â’r 10 milltir pitw dan y llywodraeth Lafur ddiwethaf!

Rydym yn ymrwymo i brosiectau yma yng Nghymru i drydaneiddio prif lein De Cymru a holl rwydwaith rheilffyrdd y Cymoedd.

Ac nid dim ond yng Nghymru y mae Cymru yn manteisio ar ein buddsoddiad mewn seilwaith - bydd y cysylltiad o Reading i Heathrow yn torri 30 munud oddi ar y siwrnai o Dde Cymru i brif faes awyr y DU, gan ddod â busnesau yn nes at gysylltiadau rhyngwladol.

Dim ond mis yn ôl yr oeddwn yn Wrecsam i weld y cynnydd sy’n cael ei wneud ar ein buddsoddiad gwerth 212 miliwn o bunnoedd yn y carchar newydd.

Rydym hefyd yn hyrwyddo buddsoddiad newydd a chyffrous yn ein seilwaith ynni gan gynnwys yn Wylfa ar Ynys Môn.

Ac wrth i economi Cymru weld cynnydd mewn busnesau uwch dechnoleg a swyddi uwch dechnoleg, mae seilwaith ein gwlad yn cael hwb mawr ei angen o ran technoleg uwch.

Bythefnos yn ôl roeddwn ym Mlaenafon yn Big Pit.

Nid edrych yn ôl ag edmygedd ar gryfder y diwydiant glo yn ystod y chwyldro diwydiannol oedd pwrpas yr ymweliad hwn.

Ond yn hytrach, i ddathlu chwyldro newydd sy’n digwydd ledled Cymru – y chwyldro digidol.

Yng Nghymru erbyn hyn mae miliwn o gartrefi a busnesau yn gallu cael mynediad at rywfaint o’r band eang cyflymaf yn y byd.

Bellach, mae busnesau bach nad oedd ganddynt obaith o’r blaen o gystadlu â rhannau eraill o’r DU a oedd â chysylltiad rhwydwaith o safon, yn awr yn sbarduno economi Cymru.

Gyda chwe deg a naw o filiynau o bunnoedd o fuddsoddiad gan Lywodraeth y DU, rydym yn gweddnewid cymunedau ar draws Cymru gyfan gan wneud yn siŵr fod ein seilwaith yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

Hefyd, y buddsoddiad gan Lywodraeth y DU sy’n golygu bod gennym gyfnewidfa rhyngrwyd yn ein prif ddinas.

Mae’r gyfnewidfa hon yn darparu cyfleoedd newydd ar gyfer ffrydio creadigol a digidol ac yn lleihau costau’n sylweddol i fusnesau.

Mae cyfnewidfa rhyngrwyd Caerdydd yn dangos y gallwn, drwy ddeall busnes, gwrando ar fusnes a gweithio gyda busnes, greu’r canolbwynt digidol blaengar hwn ar ein stepen drws.

Rwy’n credu ein bod wedi gwneud cynnydd gwych yng Nghymru – mae ein cynllun economaidd hirdymor yn arwain at ganlyniadau go iawn.

Rydym yn gweld y sector preifat yn tyfu ac yn creu swyddi newydd.

Rydyn ni’n gweld y swyddi hyn yn cael eu creu yn y sectorau uwch dechnoleg newydd wrth i’n heconomi ailgydbwyso.

Ac mae gennych chi lywodraeth sy’n cefnogi eich dyheadau o safbwynt twf drwy ddadreoleiddio, lleihau’r baich treth a buddsoddi yn y seilwaith sydd ei hangen arnoch i gystadlu a thyfu.

Mae’r llwybr ar gyfer twf economaidd cryf yng Nghymru wedi cael ei osod.

Mae cynllun ar waith sy’n rhoi’r cyfle gorau inni i greu’r Gymru fodern lewyrchus yr ydym i gyd am ei chael.

Y perygl mawr yr ydym yn ei wynebu yw peidio â chwblhau’r gwaith.

Y peth olaf mae Cymru ei angen yw ansicrwydd gwleidyddol ac economaidd.

Rwy’n falch iawn o’n record.

Yn dilyn uwchgynhadledd fuddsoddi’r DU a NATO, mae Cymru ar y map byd-eang.

Economi Cymru yw’r economi sy’n tyfu gyflymaf yn y DU.

Economi sy’n cael ei chefnogi gan ein buddsoddiad mewn band eang cyflym iawn, ein buddsoddiad £212 miliwn yn y carchar yn Wrecsam ac economi lle bydd trenau trydan yn teithio ar draws y rhwydwaith yma yn ne Cymru.

Ar y diwrnod hanesyddol hwn, lle byddwn yn gosod y llwybr ar gyfer datganoli yng Nghymru i’r dyfodol, mae fy neges i chi yn glir.

Rydym ar y llwybr iawn i greu economi gryfach ac mae angen inni barhau â’r gwaith yr ydym wedi’i gychwyn.

Cyhoeddwyd ar 27 February 2015