Anerchiad

Alun Cairns yn Mynychu Brecwast Busnes CBI Cymru

Bu Ysgrifennydd Cymru ym Mrecwast Busnes CBI Cymru Barclays fore Gwener 4ydd Tachwedd i drafod busnesau Cymreig a Brexit.

Brecwast CBI

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns:

Bore da,

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Emma Watkins a Karen Thomas am gynnal y drafodaeth heddiw – mae digwyddiadau fel hyn mor bwysig oherwydd eu bod yn rhoi inni’r cyfle i rannu syniadau, cael adborth a helpu pobl fel fi i egluro cyfeiriad ein polisi.

Wedi’r cyfan, ni fu erioed amser pwysicach i wrando, ymateb a chyfathrebu am gamau gweithredu yng ngoleuni’r newidiadau mawr sydd wedi digwydd a’r canlyniadau sydd o’n blaenau.

Hoffwn hefyd ddiolch i David Smith, Dylan Jones-Evans a Michael Plaut a fydd yn cyfrannu yn nes ymlaen – caiff arbenigedd a gwaith dadansoddi David ei gydnabod ledled y DU a thu hwnt.

Nid oes un unigolyn sydd wedi gwneud mwy i hyrwyddo mentergarwch na DJE; ac mae Michael Plaut yw rhywun sydd ddim dim ond yn ond siarad am y peth. Mae’n gweithredu. Mae’n allforiwr ac yn grëwr cyfoeth gan ein helpu i dalu am y gwasanaethau cyhoeddus y mae arnom eu hangen.

Felly byddai siarad am unrhyw beth heddiw, yn hytrach na rhoi sylw i rai o’r materion mawr sy’n ein hwynebu – benben – yn golygu y byddwn yn esgeuluso fy nyletswydd fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Fe wnaeth y refferendwm ar 23ain Mehefin newid popeth. Rhaid i’r llywodraeth ymateb ac rydym wedi datgan ein cynlluniau i gynnig - dull gweithredu diwyro, cymaint o sefydlogrwydd â phosibl i’r marchnadoedd a sicrwydd i ddiwydiant.

Yn gyntaf oll, rydym yn benderfynol o fwrw ymlaen gyda’n hamserlen i gyflawni ewyllys pobl Prydain. Roedd y dyfarniad ddoe yn siomedig a bydd apêl yn cael ei chyflwyno yn erbyn y penderfyniad. Rhaid i ni beidio ag anghofio bod y DU, gan gynnwys Cymru, wedi pleidleisio i adael yr UE mewn refferendwm a gymeradwywyd gan Ddeddf Seneddol a byddwn yn parchu canlyniad y refferendwm.

Roeddem wrth gwrs wedi ystyried gwahanol ganlyniadau ddoe ymlaen llaw a hyd yn oed pe byddai’r dyfarniad wedi bod yn wahanol, roedd si ar led ei bod yn debygol iawn y byddai’r rheini sy’n herio sefyllfa’r llywodraeth hefyd wedi apelio. Teimlai rhai fod yr achos hwn yn sicr o fynd i’r Goruchaf Lys yn y pendraw beth bynnag.

Beth bynnag fo canlyniad yr apêl, er hynny, mae rhwymedigaeth ar unigolion beth bynnag eu barn, o ba bynnag blaid wleidyddol - ar draws y llywodraeth ar wahanol lefelau – i barchu’r refferendwm a gweithredu er budd pobl Prydain, er mwyn i’r llywodraeth allu rhoi’r sicrwydd y mae ar y sector busnes ei angen. Gall fod yn demtasiwn i rai o bosibl wneud cyfalaf gwleidyddol, rhaid i bawb fod â’r un flaenoriaeth sef rhoi i chi fel buddsoddwyr a chyflogwyr y sicrwydd yr ydych eisiau.

Yr ail elfen, yw’r dull o weithredu. Rydym wedi cyhoeddi’r Bil Diddymu Mawr. Bydd hwn yn trosi corff y gyfraith UE bresennol yn gyfraith ddomestig y DU, fel y mae. - Yr un safonau, yr un rheolau, yr un rheoliadau, yr un mesurau - yr un rhwymedigaethau y mae’n rhaid inni fyw a gweithio gyda nhw’n awr, yn gyfraith y DU. Y gwahaniaeth allweddol fydd y bydd y Senedd yn rhydd i’w newid a’u gwella i’r dyfodol. Nid wyf yn credu bod pawb yn gwerthfawrogi pwysigrwydd y dull hwn o weithredu. Mae’n gwneud dau beth pwysig iawn.

Y cyntaf, bydd yn rhoi sicrwydd i fusnesau fel chi, wrth inni adael yr UE, y bydd gennym yr un arferion ag sydd gennym nawr; ac yn ail, mae’n anfon neges glir i arweinwyr yr UE nad ydym yn rhwygo’r llyfr rheolau nac yn troi ein cefnau ar arferion cyffredin. Rydym yn awyddus i roi sicrwydd iddynt ein bod am weithio gyda nhw wrth inni drafod ein hymadawiad â’r UE. Mae twf parhaus economi’r UE er lles inni, fel y mae twf parhaus ein heconomi ninnau iddynt hwythau.

Hyd yn oed cyn inni gyrraedd y ddau Gam Gweithredu hyn - mae llawer o waith yn mynd rhagddo ac wedi cael ei wneud ers mis Mehefin diwethaf.

Er na allaf fanylu ar ein dull o weithredu, dylech fod yn hyderus ynglŷn â’r gwaith dadansoddi a chwmpasu sydd wedi cael ei wneud ar ein sefyllfa economaidd.

Er enghraifft, rydym wedi bod yn edrych yn fanwl ar sectorau’r economi, sut maent yn integreiddio, eu gwerth, eu pwysigrwydd i wahanol ranbarthau a gwledydd. Eu marchnadoedd allweddol o ran mewnforio ac allforio a’r camau y mae angen inni eu cymryd, i roi’r gefnogaeth orau iddynt.

I Gymru, mae’r sector awyrofod, dur, moduron, amaethyddiaeth, gwasanaethau ariannol a phroffesiynol yn ganolog i’n hystyriaethau.

Mae’r Adran newydd ar gyfer Masnach Ryngwladol yn sylfaenol i’n cyfleoedd marchnata i’r dyfodol ac yn naturiol, mae rhai marchnadoedd yn bwysicach nag eraill. Nid oes ond raid ichi edrych ar ystadegau gwladol ar werth allforion o wahanol wledydd i economi’r DU.

Mae’r gwaith o gwmpasu a dadansoddi, a’r hyn sy’n cynnal y sectorau hyn yn y DU, a’r camau y mae angen eu cymryd i’w cefnogi yn rhan o’n hystyriaethau cyn i Erthygl 50 gael ei galw i rym.

Ond rydym yn mynd i’r afael â Brexit gydag economi gref – dywed yr IMF mai’r DU yw’r economi G7 sy’n tyfu gyflymaf eleni.

Ac ni all y data economaidd ehangaf a gyhoeddwyd – twf chwarterol/ Addasiadau Banc Lloegr – ond ennyn hyder ynom.

Cafodd y buddsoddiad Japan-DU mwyaf mewn hanes – hefyd y buddsoddiad Asiaidd mwyaf ar gofnod i’r DU, Softbank yn caffael gwneuthurwr sglodion iPhone, ARM am £24bn – ei lofnodi ym mis Gorffennaf.

A’r wythnos diwethaf yn unig, fe wnaeth Nissan, rhan o un o’r sectorau diwydiannol pwysig y cyfeiriais atynt yn gynharach – ymrwymo i linellau cynhyrchu newydd Qashqai ac X-Trail yn Sunderland. Mae’r rhain yn rhoi hwb mawr i’r hyder yn economi’r DU ar ôl Brexit gan anfon negeseuon pwysig at eraill sy’n ystyried buddsoddi.

Ac yma yng Nghymru: *Mae gennym nifer fwy nag erioed o bobl mewn gwaith ac mae diweithdra yn dal i gwympo – gyda’r gyfradd isaf ledled y DU. *Dangosodd gwaith ymchwil gan Barclays fod GDP y pen yng Nghymru wedi cynyddu 9.7% ar y flwyddyn diwethaf, sy’n lefel dwf mwy na Llundain, Gogledd-ddwyrain Lloegr a Gorllewin Lloegr.

A pheth braf hefyd ydy gweld bod busnesau bach yng Nghymru wedi cynyddu eu trosiant dros y flwyddyn diwethaf, gyda Chaerdydd yn arwain y ffordd gyda thwf o 12%, y twf trydydd cyflymaf ar draws y DU, gan guro Llundain sydd ar 7% yn unig.

Yn bwysig, mae Cymru wedi cymryd camau breision ymlaen gyda’i gallu i allforio dros y blynyddoedd diwethaf – mae gwerth allforion o Gymru wedi mwy na dyblu er 1999 ac mae’n sefyll ar £12.6 biliwn yn 2015, gyda 60% yn mynd y tu allan i’r UE.

Y llynedd, UDA oedd marchnad fwyaf Cymru o hyd, gyda gwerth £2.8bn o nwyddau a gwasanaethau yn teithio ar draws yr Iwerydd. Mae gwledydd y tu allan i’r UE, fel Singapore, Quatar a Japan i gyd ymysg y 10 cyrchfan uchaf ar gyfer allforion o Gymru.

Mae peiriannau gan Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr a GE yn Nantgarw yn enghreifftiau gwych o lwyddiannau. Bob dwy eiliad, mae awyren wedi’i phweru gan GE yn codi i’r awyr rhywle yn y byd.

Cymaint yw ein llwyddiant yn y sector hwn fel bod dros hanner awyrennau masnachol y byd yn awr yn hedfan gan ddefnyddio adenydd a wnaed gan Airbus ym Mrychdyn.

Mae’r buddsoddiadau penodol yn sgîl cynlluniau Toyota i adeiladu peiriannau hybrid y genhedlaeth nesaf yng Nglannau Dyfrdwy yn hwb pellach, a ddydd Llun roedd Prif Weinidog Cymru a minnau gydag Aston Martin yn Sain Tathan - enghreifftiau Cymreig penodol o fuddsoddi yn digwydd yng Nghymru.

Mae cynhyrchiant yn dal i fod yn her y mae’n rhaid i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru weithio gyda’i gilydd i roi sylw iddi.

Gan edrych i’r dyfodol, mae angen inni hefyd ystyried pa gyfleoedd pellach sydd yna i gynyddu ein hallforion. Er mai peiriannau ac offer cynhyrchu pŵer oedd yr allforion uchaf eu gwerth yn 2015 rwy’n credu y gallwn weld twf pellach yma yn ogystal ag mewn sectorau eraill. Rwyf eisiau agor marchnadoedd newydd a dyma lle mae ein deialog yn bwysig.

Mae’r DIT yn Adran yn Whitehall a fydd yn gweithio dros y DU gyfan ac mae Liam Fox a minnau yn benderfynol o adlewyrchu anghenion a chyfleoedd i fusnesau Cymru. Ddoe yn unig, roedd y Gweinidog o’r adran, yr Arglwydd Price yng Nghaerdydd gyda fy nghydweithiwr Guto Bebb, yn cyfarfod â Ken Skates a busnesau Cymreig. Mae Ken a minnau yn benderfynol o weithio’n agos fel ein bod yn ategu gweithgareddau’r ddwy Lywodraeth.

Mae gan bob busnes yma’r un hawl i’r gefnogaeth a gynigir i unrhyw fusnes boed e ym Mryste, Caerfaddon neu Birmingham. Mae cefnogaeth Teithiau Masnach, Llysgenhadaeth a Chonsyliaeth a’r Cyfleoedd i rwydweithio yn bwysig a bydd gennyf fwy i’w ddweud am hyn dros yr wythnosau nesaf.

Mae UKTI fel yr oedd, wedi llwyddo i gefnogi Cymru dros y blynyddoedd, gyda 90 allan o’r 97 o brosiectau Buddsoddi Uniongyrchol Tramor yng Nghymru y llynedd yn cael cefnogaeth.

Wrth inni edrych ymlaen at yr ychydig flynyddoedd nesaf, hoffwn eich sicrhau bod llywodraeth y DU wedi ymrwymo i wneud popeth yn ei gallu i roi sicrwydd a sefydlogrwydd i’r sector busnes.

Rwy’n angerddol dros werthu Cymru i’r byd a denu buddsoddiadau i mewn o bedwar ban byd i Gymru. Mae hyn yn hanfodol os ydym am adeiladu ar gryfderau ein gwlad ac ysgogi’r twf economaidd yr ydym oll am ei weld.

Wrth i ni baratoi am ein trafodaethau i adael yr UE, rwyf am wneud yn siŵr bod eich lleisiau chi yn cael gwrandawiad uniongyrchol. Soniais am yr Arglwydd Price ddoe a phythefnos yn unig yn ôl mi gyflwynais David Davis, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Adael yr UE i Is-gangellorion Cymreig er mwyn iddynt allu lleisio eu barn yn bersonol. Byddaf yn cynnig mwy o gyfleoedd o’r fath ac rwyf am i chi fod yn rhan o hyn.

Felly, rwyf yn eich annog chi, fel chwaraewyr allweddol mewn busnes a diwydiant, i ymgysylltu â’m hadran, i Hyrwyddo eich llwyddiannau, rhannu eich anawsterau a datgan eich gofynion fel ein bod nid yn unig yn cael y fargen orau i’r DU, ond hefyd y fargen orau i’ch busnes.

Diolch yn fawr.

Cyhoeddwyd ar 8 November 2016