Papur polisi

Pan fydd y Comisiwn Elusennau yn ymchwilio i elusennau

Cyhoeddwyd 23 May 2013

Applies to England and Wales

1. Sut rydym yn asesu pryderon

Rydym yn nodi ac yn asesu pryderon am elusennau o ystod eang o ffynonellau. Mae hyn yn cynnwys cwynion a gyflwynir i ni, a hefyd, materion rheoleiddiol rydym wedi’u nodi o ganlyniad i’n gwaith rhagweithiol ein hunain.

Rydym yn asesu’r pryderon hyn yn erbyn ein Fframwaith Rheoleiddio a Risg i benderfynu:

  • a yw’n fater i’r Comisiwn
  • difrifoldeb y mater, graddau’r risg o dan sylw, a sut mae’r ymddiriedolwyr yn delio â’r mater

2. Pan fyddwn yn cymryd camau rheoleiddio

Mae ein rôl reoleiddio’n canolbwyntio ar ymddygiad ymddiriedolwyr a’u llywodraethu ac arweinyddiaeth o’r elusen. Os bydd rhywbeth yn mynd o’i le, mae’n rhaid i ymddiriedolwyr gymryd cyfrifoldeb am ddatrys hyn. Fel rheolydd rydym yn sicrhau bod ymddiriedolwyr yn gwneud hyn yn weithredol ac yn effeithiol. Pan na fydd ymddiriedolwyr yn gallu neu’n anfodlon gwneud hynny, gallwn ddelio â’r pryderon mewn achos cydymffurfio rheoliadol. Nid ymchwiliadau ffurfiol yw’r achosion hyn, yn hytrach eu nod yw sicrhau bod ymddiriedolwyr yn mynd i’r afael ag unrhyw fethiannau a gwendidau yn rheolaeth eu helusennau. Gall hyn fod trwy ddilyn ein canllaw neu gynllun gweithredu rydym wedi cytuno â nhw. Pan fo angen, gallwn ddatrys materion llywodraethu elusennau trwy ddefnyddio ein pwerau cyfreithiol i wneud cynlluniau neu orchmynion lle nad oes gan elusen ei phwerau ei hun i wneud hynny.

Weithiau, mewn achosion o gam-drin, neu lle bydd gennym amheuon neu dystiolaeth o gamreoli a/ neu gamymddwyn wrth weinyddu elusen, gallwn agor ymchwiliad statudol i nodi ac ymchwilio i hyn ac i ddatrys y problemau a ganfyddir.

3. Pan fyddwn yn agor ymchwiliad statudol

Mae ymchwiliad statudol yn bŵer cyfreithiol sy’n caniatáu i’r Comisiwn ymchwilio i bryderon rheoliadol yn ffurfiol o fewn elusen, elusennau, neu ddosbarth o elusennau. Yn gyffredinol, rydym yn agor ymchwiliad lle bydd gennym bryderon rheoliadol bod camymddwyn a/ neu gamreoli wrth weinyddu elusen yn, wedi neu fod â photensial i ddigwydd.

Nod yr ymchwiliad yw:

  • nodi graddau, os o gwbl, y camymddwyn a /neu gamreoli wrth weinyddu’r elusen
  • asesu unrhyw risg i’r elusen, ei buddiolwyr, gweithwyr cyflogedig, gwirfoddolwyr neu asedau
  • penderfynu a oes angen i ni amddiffyn yr elusen

Gweithgaredd canfod ffeithiau yw ymchwiliad, i ymchwilio’r materion, ac nid yw ynddo’i hun yn rhagbenderfyniad o gamwedd. Yr eithriad i hyn yw lle y bydd yn amlwg ar yr adeg yr agorir yr ymchwiliad y bu camwedd ac y gallai fod angen i ni ystyried defnyddio ein pwerau amddiffyn dros dro, neu adferol parhaol ar unwaith.

Cyn agor ymchwiliad statudol, gallwn gynnal asesiad cyn-ymchwiliad. Bydd hyn yn cynnwys archwilio’r honiadau a’r achosion sy’n peri pryder yn erbyn ein Fframwaith Rheoleiddio a Risg. Diben asesiad o’r fath yw sicrhau ein bod yn defnyddio ein meini prawf i agor ymchwiliad yn gyson ac yn deg. Mae’r asesiad hwn yn archwilio’r achosion o bryder ac a yw’r sbardunau ar gyfer ymchwiliad yn cael eu bodloni.

Mae’r meini prawf ar gyfer agor ymchwiliad yn seiliedig ar un neu fwy o’r ffactorau canlynol:

  • arwyddion o gamymddwyn a/ neu gamreoli wrth weinyddu’r elusen
  • torri ymddiriedaeth yn sylweddol neu ddiffyg cydymffurfio â chyfraith elusennau
  • risg sylweddol i eiddo, buddiolwyr, gweithwyr cyflogedig, gwirfoddolwyr, neu waith elusen
  • efallai bydd angen i ni ddefnyddio pwerau rheoleiddio sydd ar gael yn unig os bydd ymchwiliad wedi’i agor
  • mae angen i ni sefydlu neu ddilysu ffeithiau, neu gasglu tystiolaeth, ac ymchwiliad yw’r ffordd fwyaf effeithiol o wneud hynny
  • mae angen i ni ddiogelu ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn yr elusen neu mewn elusennau’n gyffredinol

Asesir pob achos ar ei ffeithiau ei hun ac mae’n bosibl y gellir effeithio arno gan allu, ymddygiad ac ymateb yr ymddiriedolwyr.

Ar ôl i ni agor ymchwiliad, gallwn ddefnyddio’r ystod lawn o’n pwerau i gaffael gwybodaeth ac i amddiffyn yr elusen, ei buddiolwyr, ei hasedau neu ei henw da. Mae rhai o’r pwerau hyn dros dro, megis cyfyngu ar drafodion neu ‘rewi’ cyfrif banc. Mae eraill yn barhaol ac yn parhau ar ôl diwedd ymchwiliad, er enghraifft, penodi neu ddiswyddo ymddiriedolwyr.

I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn cynnal ein hymholiadau, darllenwch y canllawiau Ymholiadau statudol i elusennau: canllawiau i elusennau (CC46).

Rydym hefyd yn cyhoeddi canfyddiadau ein hymchwiliadau a gwaith achos arall.