Canllawiau

Beth yw priodas dan orfod?

Diweddarwyd 27 March 2023

Beth yw priodas dan orfod?

Gall unrhyw berson gael ei orfodi mewn i briodas - mae hyn yn cynnwys pobl o bob oed, rhyw, ethnigrwydd a chrefydd.

Priodas dan orfod yw pan nad yw un neu’r ddau berson yn cydsynio neu’n methu â chydsynio i’r briodas a defnyddir pwysau neu gamdriniaeth i’w gorfodi i mewn i’r briodas. Mae hefyd yn golygu pan yw unrhyw beth yn cael ei wneud i orfodi rhywun i briodi cyn troi’n 18 oed, hyd yn oed os nad oes pwysau neu gamdriniaeth.

Mae priodas dan orfod yn anghyfreithlon yn y DU. Mae’n fath o gam-drin domestig ac gamddefnydd difrifol ar hawliau dynol.

Er nad yw gorfodi rhywun i briodi yn rhywbeth corfforol bob tro, mae yn erbyn y gyfraith ar bob adeg.

Gall y pwysau a roddir ar berson i briodi gymryd sawl ffurf gwahanol:

  • pwysau corfforol gall gymryd ffurf bygythiadau neu drais (gan gynnwys trais rhywiol)
  • pwysau emosiynol neu seicolegol gall fod ar ffurf gwneud i rywun deimlo fel pe baen nhw’n dwyn cywilydd ar y teulu, gan wneud iddyn nhw gredu y gallai’r sawl sy’n agos iddyn nhw ddod yn fregus ac agored i salwch oni bai fod y person hwnnw’n priodi, neu eu rhwystro rhag cael rhyddid neu arian oni bai eu bod yn cytuno i’r briodas

Ond pan yw’r person sydd i briodi o dan 18 oed, mae gwneud unrhyw beth i’w orfodi i briodi yn drosedd – does dim rhaid iddo fod yn bwysau.

Mewn rhai achosion gellir mynd â phobl dramor heb wybod eu bod yn mynd i briodi. Pan ydynt yn cyrraedd y wlad honno, gellir cymryd eu pasbort(au)/dogfennau teithio i geisio eu hatal rhag dychwelyd i’r DU.

Beth yw cydsyniad?

Er mwyn i briodas fod yn un gydsyniol, rhaid iddi fod yn un lle mae’r ddau berson yn rhydd o ran eu hewyllys i briodi. Dylech deimlo fel bod gyda chi ddewis.

Yn gyfreithiol, does gan pobl sydd a chanddynt anableddau dysgu neu gyflyrrau iechyd meddwl difrifol ddim y gallu i gydsynio i briodi, hyd yn oed ydyn nhw’n teimlo eu bod yn dymuno priodi. 

Beth yw priodas a drefnwyd?

O ran priodas oedolion, nid yw priodas drefnedig yr un peth â phriodas dan orfod. Mewn priodas drefnedig, mae’r teuluoedd yn cymryd rhan flaenllaw wrth ddewis y partner priodas, ond mae’r ddau unigolyn yn rhydd i ddewis a ydynt am ymrwymo i’r briodas.

O ran priodas plant (hyd at 18 oed), nid oes unrhyw wahaniaeth rhwng priodas drefnedig a phriodas dan orfod. Mae gwneud unrhyw beth i achosi plentyn i briodi yn briodas dan orfod - ac yn drosedd.

Os ydych yn cydsynio i briodi, ond yn newid eich meddwl yn ddiweddarach – ac eto’n teimlo bod gofyn arnoch chi o hyd i briodi – yna mae hynny’n briodas dan orfod hefyd.

Beth alla i ei wneud?

Os ydych chi mewn perygl dybryd galwch yr heddlu ar 999.

Os ydych chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod yn cael ei orfodi mewn i briodas dan orfod naill ai o fewn y DU neu dramor, gallwch ddod i gyswllt â’r Uned Priodas Dan Orfod.

Beth yw’r Uned Priodas Dan Orfod?

Mae’r Uned Priodas Dan Orfod yn cynnig cymorth a chyngor i ddioddefwyr, y sawl sydd mewn perygl a phobl broffesiynol.

Gall yr uned Priodas Dan Orfod roi cyngor a chymorth cyn ac ar ôl i chi adrodd am y mater i’r heddlu, a hefyd os byddwch yn dewis peidio ag adrodd o gwbl.

Ceir ystod o gymorth o gynnig gwybodaeth a chyfarwyddyd i helpu dioddefwyr sydd dramor ddychwelyd i’r DU.

Mae gan weithwyr achos brofiad wrth ymdrin â materion diwyllianol, cymdeithasol ac emosiynol ynghylch priodas dan orfod.

Gall yr Uned Priodas dan Orfod gynnig cyngor a chymorth i unrhyw un sydd yn y DU, waeth beth fo’u cenedligrwydd. Dramor, gall ein Llysgenadaethau Prydeinig, Uchel Gomisiynau a Swyddfeydd Is-gennad ddarparu cymorth consylaidd i wladolion Prydeinig (gan gynnwys gwladolion deuol), ac mewn rhai amgylchiadau i wladolyn y Gymanwlad.

Galwch:

  • (+44) (0) 207 008 0151 Dydd Llun i Ddydd Gwener 9am i 5pm
  • (+44) (0) 207 008 1500 Canolfan Ymateb Byd-Eang (tu allan i oriau gwaith)
  • E-bost fmu@fco.gov.uk

Dwyt ti ddim ar dy ben dy hun

Nid yw’n anarferol i deimlo’n ynysig os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod dan bwysau i briodi. Ond nid ydych ar eich pen eich hun. Bob blwyddyn, mae cannoedd o achosion yn cael eu hadrodd i ni, gan fenywod a dynion o bob oed, ethnigrwydd a chrefydd, gan gynnwys o’r gymuned LHDTC+. Eto i gyd, nid yw llawer o bobl yn adrodd yr hyn sy’n digwydd iddynt, neu’r hyn y gallent feddwl sy’n digwydd i rywun y maent yn ei adnabod.

Mae’r storïau bywyd go-iawn hyn yn dangos y gall priodas dan orfod ddigwydd i unrhyw un, waeth beth yw eu hoedran, rhyw, crefydd neu ethnigrwydd – a gall adrodd amdano achub bywydau. (Nid eu henwau go iawn yw’r enwau a roddir)

Stori Aisha

“Rown i’n 15 ac ar fin gorffen fy arholiadau TGAU pan sylweddolais i fod dad yn cynlliunio i’m danfon dramor er mwyn priodi fy nghefnder hŷn. Roedd dad yn grac iawn drwy’r amser a weithiau’n bwrw fi a fy mam. Doedd Mam ddim eisiau i fi briodi mor ifanc ond roedd gormod o ofn arni i ddweud na wrtho. Rown i’n credu byddai dad yn ceisio fy nhwyllo i i adael y wlad ac yna cymryd fy ffôn fel na fyddwn i’n gallu galw ar unrhyw un am help.”

Dywedodd Aisha wrth athro yn ei hysgol, a alwodd yr Uned Priodas Dan Orfod. Gweithiodd yr Uned Priodas Dan Orfod gyda’r adran gofal cymdeithasol i blant er mwyn cael Gorchymyn Diogelu Rhag Priodas Dan Orfod, a gyflwynwyd i dad Aisha. Llwyddodd y gorchymyn i atal priodas dan orfod i ddigwydd oherwydd bod tad Aisha’n methu â’i chymryd allan o’r wlad ac ni allai geisio am basbort ar ei rhan. Roedd  Aisha yn ofni aros gartref felly fe’i rhoddwyd hi dan ofal maeth diogel dros dro. Gweithiodd mam Aisha gyda’r adran gofal cymdeithsol i blant ac fe gafodd gymorth i adael tad Aisha. Mae Aisha nawr yn byw’n ddiogel gyda’i mam a’i brodyr iau ac fe lwyddodd i orffen ei harholiadau TGAU.

Stori Syed

“Roeddwn yn 25 pan aeth fy rhieni  a fi i Bacistan ar gyfer priodas deuluol. Pan gyrhaeddais i yno darganfyddais mai fi oedd yr un oedd i briodi. Doeddwn i ddim am wneud hyny ond mae gan fy mam lawer o broblemau iechyd a dywedodd pawb fy mod yn ei gwneud hi’n fwy sâl drwy wrthod. Wedi diwrnodau o ddweud na, yn y diwedd fe wnes i anobeithio ac ildio i ewyllys fy nheulu. Pan gyrhaeddais i adref i’r DU, fe geisiais anghofio amdano a pharhau i fyw fy mywyd. Yna, fe wnaeth teulu fy ngwraig ddechrau rhoi pwysau arnaf i wneud cais am fisa iddi ddod i’r DU. Bydden nhw’n fy ngalw a fy mygwth.”

Gwnaeth Syed alwad i’r Uned Priodas Dan Orfod ar y cyfle cynharaf ac eglurodd yr Uned sut allen nhw ei helpu am ei fod yn noddwr anfodlon.

Stori Khadija

“Byddwn i’n mynd i drafferth yn aml adref, am wisgo colur neu am aros allan yn hwyr gyda fy ffrindiau. Doedd fy mam ddim yn hoffi hyn ac fe fydden ni’n dadlau llawer. Pan oeddwn i’n 19, dywedodd wrtha i ein bod ni’n mynd ar wyliau i ymweld â fy mam-gu yn Somalia. Pan gyrhaeddais i yno, fe wnaeth mam fy ngollwng mewn ysgol breswyl a dweud wrtha i bod yn rhaid i fi aros yno hyd nes i fi ddysgu bod yn ferch Somali dda. Fe gymerodd hi fy mhasbort a fy ngadael i yno. Roedd yr ysgol yn wirioneddol ofnadwy. Bydden nhw’n ein curo ni a dweud wrthyf fi os oeddwn i am adael yna roedd yn rhaid i fi briodi un o’r gwarchodwyr.”

Roedd Khadija wedi cadw a chuddio ffôn cyfrinachol. Dywedodd wrth ei chariad am yr hyn oedd wedi digwydd ac fe alwodd ef yr Uned Priodas dan Orfod. Gweithiodd yr Uned Priodas dan Orfod gyda’r heddlu yn y DU i gael Gorchymyn Diogel Rhag Priodas dan Ofal a orchymynodd mam Khadija i ddychwelyd ei phasbort iddi, ei chaniatáu i adael yr ysgol a threfnu ei ehediad ‘nôl i’r DU. Helpodd yr Uned Priodas dan Orfod i Khadija ddod o hyd i lety diogel dros dro pan gyrhaeddodd hi ‘nôl yn y DU. Ar hyn o bryd mae hi’n byw mewn lloches ac yn derbyn cymorth gan bobl proffesiynol arbenigol i ailadeiladu ei bywyd yn annibynol o’i theulu.

Nid yw Llysgenhadaeth Prydain yn Mogadishu yn cynnig gwasanaethu consylaidd. Os ydych chi yn Somalia neu Somaliland gallwch gyslltu ag Uwch Gomisiwn Prydain yn Nairobi.)

Stori Mandeep

“Neithiwr fe glywais i fy rhieni yn sgwrsio am ein taith i India yr haf yma a’u cynllun i’m brawd, Mandeep, briodi  tra ein bod yno. Dywedodd fy mam eu bod yn mynd yn rhy hen i ofalu amdano felly y byddai’n well iddo gael gwraig i wneud hynny. Mae gan Mandeep anableddau dysgu dwys ac mae’n ddibynol ar mam a dad am gyflawni hyd yn oed y tasgau mwyaf sylfaenol. Dwi wir ddim yn credu ei fod e’n deall unrhyw beth am fod mewn priodas.”

Fe gysylltodd chwaer Mandeep â’r Uned Priodas dan Orfod er mwyn amlygu ei phryderon ynglŷn â sefyllfa ei brawd a’i allu i ddeall yr hyn oedd ar fin digwyddd iddo. Fe wnaeth yr Uned Priodas Dan Orfod gyfeirio at y tîm gofal cymdeithsol i oedolion gan egluro’r sefyllfa ac fe ofynon nhw a fyddai modd cwblhau Asesiad Gallu Meddyliol ar gyfer Mandeep, gan sicrhau bod ffynhonell yr wybodaeth yn parhau i fod yn anhysbys. Roedd Mandeep eisoes yn cael cymorth gan y tîm anabledd dysgu, ond doedden nhw ddim yn ymwybodol o’r briodas oedd ar fin digwydd. Drwy gynnal yr asesiad, fe wnaethon nhw ganfod nad oedd ganddo’r gallu i gydsynio i ryw a phriodas. Drwy gyngor yr Uned Priodas dan Orfod, rhoddwyd cynllun diogelu yn ei le, gan gynnwys Gorchymyn Diogelu Rhag Priodas dan Orfod. Yna, gweithiodd y tîm anabledd dysgu gyda’r teulu i egluro risg priodas i Mandeep ac yna chwilio am opsiynau eraill ar gyfer ei anghenion hir dymor.

Stori Malcolm

“Susan ydw i. Malcolm yw fy nhad. Mae e’n 75 ac yn ystod y 5 mlynedd diwethaf fe ddaeth yn dost iawn gyda chlefyd Alzheimer ac mae ei dementia yn ddifrifol. Dyw e’ ddim yn gallu cofio’r pethau mwyaf sylfaenol, fel ble mae’n byw neu beth gafodd e’ i frecwast. Clywais gan ei gymydog, Pamela, yr haf diwethaf, ei bod hi wedi trefnu gwyliau ar gyfer y ddau ohonyn nhw a’u bod nhw mewn cariad ac yn cynllunio i briodi pan ddown nhw ‘nôl. Allwn i ddim credu’r peth. Pan wnes i holi dad ynglŷn â’r sefyllfa, alle fe ddim cofio cytuno i’r daith ond roedd e’n meddwl bydde gwyliau’n beth neis. Pan soniais i am briodas doedd e’ ddim fel pe bai’n deall.”

Doedd Susan ddim yn sicr a fyddai hyn yn cael ei ddiffinio fel priodas dan orfod felly fe alwodd yr Uned Priodas dan Orfod i ofyn. Fe wnaethon nhw egluro os nad oes gan Malcolm y gallu i gydsynio i briodas, yna byddai’n drosedd iddo briodi. Cynhaliwyd asesiad gallu ar unwaith gan y tîm gofal cymdeithasol i oedolion. Pendefynwyd nad oedd gan Malcolm y gallu i gydsynio i briodas a gwnaed y penderfyniad i’r heddlu gymryd camu er mwyn atal hyn rhag digwydd.

Cwestiynau cyffredin

Beth sy’n digwydd pan fydda i’n galw’r Uned Priodas dan Orfod?

Byddwch yn sgwrsio â gweithwr achos profiadol fydd yn gwrando a chynnig cymorth a gwybodaeth wedi ei deilwra ar gyfer eich amgylchiadau unigol. Byddan nhw’n rhoi gwybod i chi am eich hawliau a’r gwasanaethau sydd
ar gael i chi. Byddwn ni ddim yn cysylltu â’ch teulu.

Ydy galwadau sy’n cael eu gwneud i’r Uned Priodas Dan Orfod yn anhysbys?

Gallwch aros yn anhybsys os y dymunwch ond fe allai hyn gyfyngu maint y gefnogaeth gallai’r Uned Priodas dan Orfod ei gynnig, felly byddan nhw’n gofyn yn aml am bethau fel eich oedran, lleoliad a chenedligrwydd. Bydd unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei rannu gyda ni yn cael ei drin yn gyfrinachol, oni bai eich bod o dan 18 neu bod yna berygl uniongyrchol o niwed.

Allwch chi warantu fy niogelwch?

Er na allwn warantu eich diogelwch, gallwn eich rhoi chi mewn cyswllt gydag asiantaethau all helpu eich diogelu. Dylech alw’r heddlu bob tro ar 999 os ydych mewn perygl uniongyrchol.

Beth ddylwn i ei wneud os byddaf yn penderfynu gadael cartref?

Gall llety diogel mewn lloches fod ar gael i ddoddefwyr priodas dan orfod a gwasanaethau arbenigol ar gyfer pobl o wahanol gefndiroedd. Mae lloches lawer yn fwy na lle diogel i gysgu. Bydd staff arbenigol yn rhoi’r hyn sydd ei angen arnoch chi i’ch galluogi i adeiladu bywyd newydd.

Beth sy’n digwydd os fydda i dramor ac yn llwyddo i ffoi, ond nad oes gen i ddigon o arian i hedfan adref?

Os yn bosibl o gwbl, ceisiwch gymryd peth arian parod lleol, ffôn teithiol gyda chredyd rhyngwladol a chopi o’ch pasbort (ac os oes gyda chi ddogfennau preswyl neu fewnfudo o wlad arall, cymerwch rhain hefyd). Ond fe allwn helpu amnewid dogfennau teithio’r DU os oes angen. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw’r eitemau hyn yn ddiogel ac wedi’u cuddio.

Gallwn gynnig cyngor a’ch helpu i edrych ar nifer o opsiynau mewn perthynas â’ch dychweliad i’r DU. Gellir defnyddio Gorchymyn Diogelu Rhag Priodas dan Orfod mewn rhai amgylchiadau i helpu i dalu am gostau eich dychweliad.

Pa mor hir fydd hi’n cymryd cyn y gallaf ddod ‘nôl i’r DU a ble fydda i’n aros tra bod y trefniadau’n cael eu gwneud?

Byddwn yn ceisio gwneud trefniadau i chi ddod yn ôl cyn gynted â phosib. Fodd bynnag, os ydych chi yn aros dramor am unrhyw gyfnod, byddwn yn ceisio eich helpu i ddod o hyd i le diogel i aros.

Os ydw i dramor, beth fydd yn digwydd os nad oes gen i fy mhasbort?

Os ydych yn ddinesydd Prydeinig, gallwn roi Dogfen Deithio Brys i chi unwaith ein bod yn fodlon gyda’ch hunaniaeth. Os nad ydych yn ddinesydd Prydeinig bydd yr Uned Priodas dan Orfod yn eich cynghori i gysylltu hefyd gyda llysgenhadaeth agosa’r wlad yr ydych yn ddinesydd ohoni er mwyn ceisio cael help i ddod o hyd i ddogfen deithio newydd.

Os gwnes i briodi dramor, ydy fy mhriodas yn ddlys yn y DU?

Os yw eich priodas yn un sy’n cael ei gydnabod fel un dilys yn y wlad lle cafod ei gynnal, fe fydd yn gymwys yn y DU mewn sawl achos. Rhaid i chi siarad gyda chyfreithiwr, waeth bynnag ai priodas sifil neu grefyddol a gawsoch. Dydy ysgariad crefyddol ddim yn ddilys yn y DU.

Allwch chi fy helpu i os ydw i o dan 16?

Gallwn. Ffoniwch y llinell gymorth er mwyn trafod eich dewisiadau.

Os nad ydw i’n ddinesydd Prydeinig allwch chi fy helpu i?

Gall yr Uned Priodas Dan Orfod gynnig cymorth a chefnogaeth i unrhyw un yn y DU sydd mewn perygyl o fod mewn priodas dan orfod ond gallwn roi cymorth consylaidd dramor i ddinasyddion Prydeinig (gan gynnwys pobl â chenedligrwydd ddeuol) yn unig.

A alla i gael amddiffyniad cyfreithiol i atal y briodas?

Gallwch. Mae priodas dan orfod yn drosedd yn y DU. Os ydych chi’n cael eich gorfodi i briodi, gallwch geisio cael eich diogelu’n gyfreithiol drwy’r llysoedd sifil a/neu’r system cyfiawnder troseddol.

Wrth ystyried sut mae amddiffyn eich hunan, gallwch ddewis cymryd y llwybr sifil er mwyn ceisio cael Gorchymyn Diogelu Rhag Priodas dan Orfod, neu fynd at yr heddlu a dilyn erlyniad drwy’r llys troseddol, neu’r ddau. Gallwch ddewis hefyd i beidio â gwneud unrhyw un o’r pethau hyn. Gall yr Uned Priodas dan Orfod eich helpu i edrych ar yr holl opsiynau.

Gellir defnyddio Gorchmynion Diogelu Rhag Priodas dan Orfod er mwyn atal rhywun rhag cael ei orfodi mewn i briodas neu ei ddiogelu os yw priodas dan orfod eisoes wedi digwydd. Gellir arestio person am dorri gorchymyn. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r gorchmynion hyn, gallwch alw’r Uned Priodas dan Orfod neu fynd at https://www.gov.uk/government/publications/forced-marriage-protection-orders-fl701.

Cymorth a chefnogaeth

  • Heddlu yn ystod argyfwng: 999
  • Heddlu pan na fydd yn argyfwng: 101
  • Rhwydwaith Ashiana (Llundain) – lloches arbenigol, cyngor, cymorth a gwasanaethau cwnsela ar gyfer mewnywod a merched 14+ du a lleiafrifoedd ethnig: 0208 539 0427
  • Childline: 0800 1111
  • Imkaan – Sefydliad ffeministaidd du sy’n cmynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched Du ac sydd mewn lleiafrif: 020 7842 8525
  • IKWRO – Sefydliad Hawliau Menywod (Dwyrain Llundain) – sydd yn helpu menywod a merched o’r Dwyrain Canol ac Affganistan sy’n byw yn y DU: 0207 920 6460
  • Forward (Gogledd Llundiain) – Sefydliad a arweinir gan fenywod Affricanaidd sydd yn gweithio i ddod â thrais yn erbyn menywod a merched i ben: 0208 960 4000
  • Elusen Rhyddid (Freedom Charity): 0845 607 0133
  • Llinell gymorth priodas dan orfod/camdrin ar sail ‘anrhydedd’ Karma Nirvana: 0800 5999 247
  • Project Menywod Duon Llundain (London Black Women’s Project): 0208 472 0528
  • Llinell Gyngor i Ddynion: 0808 801 0327
  • Llinell Gymorth Cam-Drin Domestig Genedlaethol: 0808 2000 247
  • Respond – ar gyfer dioddefwyr a chanddynt anableddau dysgu: 0207 383 0700
  • Y Samariaid: 116123
  • Cymorth i Fenywod Shakti (Caeredin): 0131 475 2399
  • Project Sharan – elusen sy’n cynnig cymorth a chyngor i fenywod bregus, yn enwedig o darddiad De Asiaidd, sydd wedi bod mewn perygl neu sydd mewn perygl ar hyn o bryd o gael eu diarddel o ganlyniad i gamdriniaeth neu erledigaeth: 0844 504 3231
  • Shelter – cyngor ar dai: 0808 800 4444
  • Southall Black Sisters – mudiad Asiaidd sy’n cynnig cyngor, cwnsela a chymorth arall: 0208 571 9595
  • Stonewall Housing – cyngor ar dai i bobl LHDT: 0207 359 5767
  • Switsfwrdd Llinell Gymorth LDHT+ : 0300 330 0630
  • Tai a Chymorth Throughcare (Throughcare Housing and Support) (Birmingham): 0121 554 3920
  • Gwir Anrhydedd: 07480 621711