Cyfraddau Treth Incwm Cymru — Adroddiad Blynyddol CThEF 2025
Cyhoeddwyd 11 Medi 2025
Yn berthnasol i Gymru
1. Negeseuon allweddol
Yn ôl yr ymarfer sicrhau data trydydd parti diweddaraf (2023), roedd rhwng 98 a 99% o wybodaeth preswylio CThEF yn gywir. Bydd CThEF yn ailgynnal yr ymarfer yn 2025.
Mae’r mwyafrif o gyflogwyr yn gweithredu codau treth C yn gywir. Fodd bynnag, mae lleiafrif o gyflogwyr (rhwng 2 a 3%) yn hepgor y rhagddodiad ‘C’ ac yn gweithredu cod treth y DU yn lle hynny.
Cyfanswm y Dreth Incwm nad yw’n deillio o gynilion na difidendau a dalwyd gan drethdalwyr Cymreig yn 2023 i 2024 oedd £6.9 biliwn, cynnydd o 14.1% o’i gymharu â 2022 i 2023.
Alldro terfynol Cyfraddau Treth Incwm Cymru (CTIC) yn 2023 i 2024 oedd £2 biliwn, cynnydd o 13.4% o’i gymharu â 2022 i 2023.
Roedd tua 1,584,200 o drethdalwyr Cymreig a gyfrannodd tuag at hyn drwy gael rhywfaint o rwymedigaeth Treth Incwm net ar eu hincwm nad yw’n deillio o gynilion na difidendau, cynnydd o 6.1% o’i gymharu â 2022 i 2023.
2. Diben
Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn galluogi Senedd Cymru i bennu cyfradd Treth Incwm sylfaenol, uwch ac ychwanegol yng Nghymru i’w chymhwyso i incwm trethdalwyr Cymreig nad yw’n deillio o gynilion na difidendau. Defnyddiwyd y pŵer hwn gyntaf mewn perthynas â blwyddyn dreth 2019 i 2020, a pharhaodd y cyfraddau i fod yr un fath â’r rheiny ar gyfer Lloegr a Gogledd Iwerddon ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025.
Mae Cyfraddau Treth Incwm Cymru (CTIC) yn gweithio drwy ostwng cyfraddau treth incwm y DU 10c fesul £1. Codir CTIC ar ben y cyfraddau gostyngol hyn, a gall fod yn is, yn uwch neu’r un fath â chyfraddau’r DU.
Mae Lwfans Personol Treth Incwm yn fater y mae Senedd y DU yn ei gadw’n ôl o hyd.
Cyfraddau Treth Incwm Cymru yn 2024 i 2025
Bandiau | Cyfraddau | Incwm trethadwy |
---|---|---|
Cyfradd sylfaenol | 20% | £12,571 i £50,270 |
Cyfradd uwch | 40% | £50,271 i £125,140 |
Cyfradd ychwanegol | 45% | £125,141+ |
Mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn gweinyddu CTIC drwy’r prosesau Talu Wrth Ennill (TWE) a Hunanasesiad presennol, gan gynnwys drwy ddulliau cydymffurfio a chyfathrebu presennol o ran Treth Incwm. Mae hyn yn sicrhau bod y swm cywir o dreth yn cael ei gasglu, ac yn y rhan fwyaf o achosion, ni fydd trethdalwyr Cymreig yn sylwi ar unrhyw wahaniaeth yn y ffordd y mae CThEF yn rhyngweithio â nhw.
Mae’r adroddiad hwn yn nodi gwybodaeth am weinyddiaeth CThEF o CTIC, gan gwmpasu:
-
nodi trethdalwyr Cymreig a rhoi sicrwydd
-
gweithgarwch cydymffurfiad
-
casglu refeniw CTIC a rhoi cyfrif amdano
-
data ar gyfer pennu cyfraddau CTIC a’u rhagolygu
-
gwasanaeth a chymorth i gwsmeriaid
-
llywodraethu a goruchwylio CTIC
-
costau darparu CTIC, ac ailgodi’r costau hyn ar Lywodraeth Cymru
3. Nodi a sicrwydd
Pwy sy’n drethdalwr Cymreig?
Mae’n ddigon syml i’r rhan fwyaf o bobl wybod a ydynt yn drethdalwr Cymreig mewn unrhyw flwyddyn dreth. Mae unigolion sy’n byw yng Nghymru, ac sydd â’u hunig neu brif fan preswylio yno, yn drethdalwyr Cymreig. Nid yw’r rheiny sydd â’u hunig neu brif fan preswylio wedi’u lleoli mewn man arall yn y DU yn drethdalwyr Cymreig.
Os oes gan berson fwy nag un man preswylio, lleoliad y prif fan neu fannau preswylio sy’n pennu ble mae’n talu ei Dreth Incwm. Os oes gan berson 2 neu fwy o ‘brif fannau preswylio’ mewn gwahanol rannau o’r DU, bydd yn drethdalwr Cymreig os oedd ei brif fan preswylio yng Nghymru am fwy o’r flwyddyn na mewn unrhyw ran arall o’r DU.
Mae Aelodau Senedd Cymru sy’n cynrychioli etholaethau yng Nghymru hefyd yn drethdalwyr Cymreig, ni waeth beth fo’u man preswylio. Gan nad ydynt yn agored i’r rheolau arferol ynghylch preswylio, rydym yn gweithredu proses ar wahân i sicrhau bod ganddynt y statws preswylio cywir ar ein system.
Gwaith nodi a sicrhau
Mae adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol (NAO) ar weinyddu CTIC yn amlygu ym mharagraff 12 Canfyddiadau Allweddol mai nodi trethdalwyr Cymreig yw’r her allweddol i weinyddiaeth CThEF o CTIC yn 2023 i 2024. Nid oes set ddata bendant o breswylwyr Cymru i fesur llwyddiant yn ei herbyn, ond rydym yn hyderus yn ein gallu i nodi trethdalwyr Cymreig fel y manylir isod.
Mae CThEF wedi adeiladu set ddata hydredol newydd sy’n cwmpasu incwm a lleoliad trethdalwyr yn y DU dros gyfnod o 12 mlynedd, o’r flwyddyn dreth a ddaeth i ben yn 2010 i’r flwyddyn dreth a ddaeth i ben yn 2022. Nid yw’r boblogaeth yng Nghymru yn aros yn ei hunfan drwy’r amser a defnyddir y set ddata i edrych ar dueddiadau ar y nifer o unigolion yn symud i/o Gymru a gweddill y DU (Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban).
Dangosodd y gwaith dadansoddi fod Cymru yn dangos tuedd debyg mewn mudo net i’r Alban, gyda niferoedd yn amrywio rhwng -300 a +1,500 hyd at y flwyddyn dreth a ddaeth i ben yn 2017. Yna cynyddodd mudo net i Gymru yn raddol o’r flwyddyn dreth a ddaeth i ben yn 2017 oherwydd cynnydd yn nifer y trethdalwyr sy’n symud o weddill y DU i Gymru. Mae ffigurau o’r set ddata yn awgrymu bod 70,000 o drethdalwyr wedi’u hamcangyfrif i fod wedi symud dros y ffin rhwng 2021 a 2022. Gwnaeth tua 40,000 o’r rhain ddod i Gymru o weddill y DU a gwnaeth tua 30,000 fynd o Gymru i weddill y DU. Ni fydd y nifer o unigolion sy’n symud yr un fath bob blwyddyn.
Mae’r gwaith o nodi trethdalwyr Cymru yn broses barhaus, ac rydym yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod hwn yn parhau’n gadarn.
Ymarfer sicrhau data trydydd parti
Mae CThEF yn gweithio gyda chyflenwr allanol i gynnal ymarfer sicrhau data trydydd parti. Mae hyn yn cymharu data a ddelir gan CThEF â data trydydd parti i asesu cywirdeb data cyfeiriadau CThEF o ran nodi trethdalwr Cymreig. O dan ein trefniadau presennol gyda Llywodraeth Cymru, rydym yn cynnal ymarfer sicrhau data bob 2 flynedd. Mae’r adroddiad diweddaraf ar gael yn Atodiad A, Ymarfer Sicrhau Data Trydydd Parti 2023.
Diweddariadau data
Mae codau post a’r eiddo o fewn iddynt yn newid o bryd i’w gilydd i adlewyrchu eiddo newydd sy’n cael eu codi ac eiddo presennol sy’n cael eu his-rannu. Mae CThEF yn cael diweddariadau chwarterol ynghylch codau post gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Bydd CThEF yn diweddaru ei brosesau ar gyfer tynnu sylw at breswyliaeth yng Nghymru er mwyn sicrhau cywirdeb parhaus o ran codau post a’u statws preswylio.
Chwarter | Nifer y codau post newydd |
---|---|
Chwarter 1 | 158 |
Chwarter 2 | 115 |
Chwarter 3 | 120 |
Chwarter 4 | 125 |
Blwyddyn gyfan | 518 |
Sganiau cod post
Mae CThEF yn cynnal sganiau i nodi unrhyw faterion o ran ansawdd data ac i wneud cywiriadau. Bydd wastad angen sicrhau ansawdd y data sy’n dod i’n llaw, ac nid mater sy’n benodol i CTIC yw hyn. Daw ein data cyfeiriadau o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys unigolion, cyflogwyr ac adrannau eraill o’r llywodraeth. Nid oes unrhyw broblemau gyda’r mwyafrif helaeth o’r data cyfeiriadau a gofnodwyd ar ein systemau, fodd bynnag mae angen cywiro lleiafrif bach ohonynt.
Mae CThEF yn dibynnu ar ddata gan ffynonellau allanol i gwblhau ein cofnodion. Rydym yn defnyddio rhaglen waith i sicrhau bod unrhyw broblemau o ran data ar gyfer cofnodion trethdalwyr Cymreig yn cael eu nodi a’u cywiro, gan atal unrhyw golled mewn refeniw i Lywodraeth Cymru.
Mae’r sgan i sicrhau ansawdd ein data cyfeiriadau yn gweithredu mewn 2 ran:
-
nodi cofnodion trethdalwyr sydd â rhagddodiad cod post yng Nghymru, ond lle nad yw’r cod post wedi’i gofnodi ar restr CThEF o godau post yng Nghymru, sy’n fyw neu wedi’u dileu
-
nodi cofnodion trethdalwyr sydd â chod post gwag, ond sydd â gair allweddol yng nghorff y cyfeiriad sy’n dangos ei fod yn god post yng Nghymru, er enghraifft, Caerdydd
Canlyniadau’r sgan yn 2024 i 2025
Math o wall | Cyflogaeth a phensiwn | Newid o 2023 i 2024 |
---|---|---|
Cod post annilys | 499 | +21% |
Cod post gwag | 210 | -46% |
Er bod cynnydd bach wedi bod yn nifer y codau post annilys, mae hyn yn parhau i fod yn ganran fach iawn o godau post Cymreig. Mae hyn o’i gymharu â nifer y trethdalwyr Cymreig a ddaeth i gyfanswm o 1,584,200 yn y flwyddyn dreth 2023 i 2024, a bydd gan bob un ohonynt god post. Mae CThEF yn monitro tueddiadau yn y data hyn ac yn parhau i adolygu ei ddull o sicrhau data.
Cywirodd CThEF holl gofnodion cyfeiriadau oedd â chodau post annilys a gwag lle roedd gan unigolyn incwm o gyflogaeth neu bensiwn. Mae hyn yn sicrhau nad yw Llywodraeth Cymru yn colli unrhyw dreth o ganlyniad i broblemau o ran ansawdd y data.
Cyfathrebu
Mae cyfathrebu yn hanfodol i’n hymdrechion i nodi trethdalwyr Cymreig yn gywir. Mae CThEF wedi parhau i ddefnyddio’r sianeli cyfathrebu helaeth sy’n bodoli eisoes i atgyfnerthu negeseuon allweddol o ran CTIC at gyflogwyr ac unigolion. Cyfathrebwyd ag unigolion drwy sianeli sy’n cynnwys cyfryngau cymdeithasol ar-lein, y Cyfrif Treth Personol, a’r Crynodebau Treth Blynyddol. Mae’r dulliau cyfathrebu hyn wedi canolbwyntio ar angen y cwsmer i ddiweddaru manylion ei gyfeiriad gyda CThEF pan fydd yn symud.
Mae CThEF wedi cyfathrebu â chyflogwyr drwy sianeli sy’n cynnwys Bwletin y Cyflogwr, Diweddariad i Asiantau, ymgysylltiad Rheolwyr Cydymffurfiad Cwsmeriaid â busnesau mawr a chyrff cyhoeddus, fforymau ar gyfer cyflogwyr, rheolwyr ac asiantau’r gyflogres, GOV.UK a chyfryngau cymdeithasol ar-lein. Mae’r dulliau cyfathrebu hyn wedi canolbwyntio ar atgoffa cyflogwyr o’r pwysigrwydd o gymhwyso’r codau ‘C’ yn gywir, a anfonwyd atynt gan CThEF.
Sut mae cyflogwyr yn cymhwyso codau treth Cymreig
Pan fydd CThEF yn nodi bod unigolyn yn drethdalwr Cymreig at ddibenion TWE, mae cod treth yn cael ei anfon at ei gyflogwr er mwyn iddo ei weithredu. Mae pob cod treth ar gyfer trethdalwyr Cymreig yn cychwyn gyda’r rhagddodiad ‘C’. Mae’r mwyafrif helaeth o gyflogwyr yn gweithredu’r codau a roddir iddynt. Fodd bynnag, mae lleiafrif bach yn gwneud camgymeriadau ac yn gweithredu codau heb y rhagddodiad ‘C’.
Mae unigolion yr effeithir arnynt gan y gwallau hyn yn dal i gael eu nodi fel trethdalwyr Cymreig gan CThEF, a thelir y swm cywir o dreth i Lywodraeth Cymru. Felly nid yw Llywodraeth Cymru yn colli unrhyw refeniw gan ein bod yn defnyddio ein dulliau nodi i gyfrifo alldro CTIC. Gan fod cyfraddau Cymru a gweddill y DU yr un fath am y tro, nid oes neb yn talu’r swm anghywir o dreth o ganlyniad i’r gwall hwn. Byddai hyn yn newid pe bai gwahaniaeth i’w gael yn y cyfraddau, er y byddai cysoni diwedd blwyddyn yn sicrhau bod unrhyw ordaliadau neu dandaliadau yn cael eu cywiro. Pe bai’r cyfraddau’n wahanol, byddai’n bwysig i godau gael eu cymhwyso’n gywir yn y flwyddyn er mwyn sicrhau y byddai trethdalwyr yn wynebu cyn lleied o dandaliadau neu ordaliadau erbyn y gwaith cysoni diwedd blwyddyn.
Mae CThEF yn cefnogi cyflogwyr i gymhwyso’r codau Cymreig, a roddir iddynt, yn gywir. Rydym yn cynnal sganiau rheolaidd i fonitro cyfran y cyflogaethau sydd heb y rhagddodiad ‘C’.
Cyflogaethau heb y rhagddodiad ‘C’
Mis | % o gyflogaethau heb y rhagddodiad ‘C’ yn 2024-25 | % o gyflogaethau heb y rhagddodiad ‘C’ yn 2023-24 | % o gyflogaethau heb y rhagddodiad ‘C’ yn 2022-23 | % o gyflogaethau heb y rhagddodiad ‘C’ yn 2021-22 |
---|---|---|---|---|
Ebrill | 2.34% | 2.27% | 2.27% | 2.59% |
Gorffennaf | Data ddim ar gael | 2.61% | 2.56% | 2.02% |
Hydref | Data ddim ar gael | 2.49% | 2.44% | 2.11% |
Ionawr | Data ddim ar gael | 2.48% | 2.36% | 2.32% |
Nid oes data ar gael ar gyfer mis Gorffennaf 2024, Hydref 2024 na mis Ionawr 2025. Cafodd y sgan hwn ei ddadgomisiynu ym mis Mai 2025. Mae adran y Brif Swyddfa Gwybodaeth a Gwasanaethau Digidol yn llunio adroddiad newydd.
Mae’r broblem o gyflogwyr yn peidio â chymhwyso’r codau a roddwyd iddynt gan CThEF yn mynd y tu hwnt i CTIC yn unig, a gall hyn adlewyrchu’r heriau ehangach y mae cyflogwyr yn eu hwynebu wrth weithredu TWE. Mewn sawl achos, mae cyflogwr yn methu â chymhwyso codau ‘C’ oherwydd gwall yn ymwneud â’r feddalwedd neu am fod angen diweddariad ohoni.
Felly, mae ein dull o fynd i’r afael â’r rhagddodiaid ‘C’ sydd ar goll yn canolbwyntio ar atgoffa, addysgu a chefnogi cyflogwyr i gymhwyso’r codau, a roddwyd iddynt, yn gywir. Lle nad yw hyn yn digwydd, rydym yn ailanfon codau at gyflogwyr i’w hysbysu o’r gwall a, lle bo’n bosibl pan fo cyflogwyr yn cael hyn yn anghywir dro ar ôl tro, rydym yn cysylltu â’r cyflogwr i ddeall pam a’u helpu i gael pethau’n iawn.
Mae’r dull hwn wedi llwyddo i leihau cyfradd y gwallau ar gyfer cyflogaethau sydd heb y rhagddodiad ‘C’ o tua 10% yn 2019 i 2020 i tua 2.34% erbyn mis Ebrill 2024. Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a chyflogwyr i sicrhau bod cyfradd y gwallau ar lefel isel.
4. Cydymffurfiad
Gwiriadau cydymffurfio i faterion treth trethdalwyr Cymreig
Mae CThEF yn rhoi gweithgareddau cydymffurfio ar sail risg ar waith wrth gasglu CTIC yn yr un modd ag y gwnaiff wrth gasglu Treth Incwm oddi wrth drethdalwyr yng ngweddill y DU. Ni ailgodir costau ar Lywodraeth Cymru ar gyfer y gweithgarwch hwn.
Mae CThEF yn edrych ar risgiau cydymffurfio dros sawl blwyddyn er mwyn cymryd y camau cydymffurfio mwyaf priodol.
Mae CTIC yn parhau ar yr un lefel â chyfraddau Lloegr a Gogledd Iwerddon, felly ar hyn o bryd nid oes risg o newid yn ymddygiad trethdalwyr Cymreig.
Rhoi sicrwydd o gyfeiriadau
Mae CThEF yn monitro tueddiadau unigolion o ran mudo ar draws y ffin, boed yn unigolion Hunanasesiad neu TWE, drwy gymharu cwsmeriaid, dadansoddi Ffurflenni Treth a newidiadau i gyfrifon treth er mwyn nodi tystiolaeth bosibl o ymatebion ymddygiadol cwsmeriaid.
Mae CThEF hefyd yn dilysu cywirdeb symudiadau y rhoddwyd gwybod amdanynt a chyflawnder eu data cyfeiriadau. Bydd CThEF yn parhau â’i weithgareddau cyfathrebu â chwsmeriaid, gan atgyfnerthu angen y cwsmer i ddiweddaru manylion ei gyfeiriad gyda CThEF unwaith y bydd yn symud.
Taflu goleuni pellach
Nid oes unrhyw wahaniaeth rhwng CTIC a chyfraddau’r DU, felly nid yw CThEF yn disgwyl gweld newid mewn ymddygiad sy’n gysylltiedig â CTIC. Mae CThEF yn parhau i gynnal gweithgarwch cydymffurfio yn ymwneud â threthdalwyr Cymreig mewn meysydd ar wahân i CTIC. Os bydd y gwaith hwnnw’n dangos unrhyw dueddiadau o ran ymddygiad a allai hefyd fod yn berthnasol i sicrhau cydymffurfiad â CTIC, byddwn yn eu hystyried yn y dyfodol.
Unigolion cyfoethog
Mae CThEF yn parhau i ddefnyddio ei fodel presennol ar gyfer Rheoli Cydymffurfiad Cwsmeriaid a dulliau eraill o ryngweithio â chwsmeriaid cyfoethog, i godi ymwybyddiaeth, addysgu cwsmeriaid am eu hymrwymiadau CTIC ac asesu risg gydymffurfio sy’n gysylltiedig â chamliwio statws trethdalwyr Cymreig neu danddatgan incwm sy’n agored i CTIC.
Amseru
Yn ogystal â’r Adolygiadau Gwybodaeth Amser Real a gynhelir yn ystod y flwyddyn, mae rhaglen cysoni TWE diwedd blwyddyn yn gwirio’r dreth a ddidynnir yn erbyn y dreth sy’n ddyledus ar gyfer pob cwsmer. Mae unrhyw dandaliadau’n cael eu casglu oddi wrth y cwsmer, fel arfer drwy addasiad i god TWE y flwyddyn ddilynol, ac mae unrhyw ordaliadau’n cael eu had-dalu.
Mae angen i gwsmeriaid hunangyflogedig gyflwyno Ffurflenni Treth bob blwyddyn ac nad oedd angen cyflwyno Ffurflenni Treth Hunanasesiad ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024 tan fis Ionawr 2025. Felly, byddai gwiriadau cydymffurfio ar Ffurflenni Treth 2023 i 2024 fel arfer yn dechrau yn 2025, er gall ymholiadau gael eu hagor yn gynharach ar gyfer Ffurflenni Treth a gyflwynwyd cyn y dyddiad cau.
Fodd bynnag, nid yw’r rhan fwyaf o’r ymholiadau i Ffurflenni Treth 2023 i 2024 yn dechrau’n syth ar ôl cyflwyno’r Ffurflenni Treth gan fod angen cynnal asesiad risg yn gyntaf.
5. Refeniw, pennu cyfraddau CTIC a’u rhagolygu
Mae CThEF yn casglu CTIC drwy’r systemau TWE a Hunanasesiad Mae’n talu refeniw CTIC i mewn i Gronfa Gyfunol y DU ac mae’r refeniw hwn yn cael ei drosglwyddo wedyn i Lywodraeth Cymru, a chaiff grant bloc adnoddau Llywodraeth Cymru ei ostwng yn unol â hynny, gan adlewyrchu ei phwerau codi refeniw.
Ym mis Gorffennaf 2025, cyhoeddodd CThEF Ystadegau Alldro o ran CTIC ar gyfer 2023 i 2024, a oedd yn cynnwys yr wybodaeth a ddangosir yng nghyfrifon CThEF, dadansoddiadau pellach o CTIC a gwybodaeth gyfatebol ar gyfer trethdalwyr yng ngweddill y DU. Cyfrifir yr alldro ar ôl y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Ffurflenni Treth Hunanasesiad, sy’n golygu bod oedi rhwng diwedd y flwyddyn dreth a chyhoeddi’r alldro ar gyfer y flwyddyn honno. Ni fydd alldro 2024 i 2025 yn cael ei gyhoeddi tan 2026.
Alldro CTIC 2023 i 2024
Ar gyfer 2023 i 2024, roedd cyfanswm refeniw Treth Incwm o drethdalwyr Cymreig yn £6.9 biliwn, gan gynnwys refeniw CTIC o £3 biliwn a briodolwyd i gyllideb Llywodraeth Cymru.
Mae’r tabl cyntaf isod yn dangos cyfanswm y refeniw o Dreth Incwm nad yw’n deillio o gynilion na difidendau (NSND) ar gyfer trethdalwyr Cymreig ac ar gyfer gweddill y DU (gwDU, gan gynrychioli Lloegr a Gogledd Iwerddon) yn 2023 i 2024.
Mae’r ail dabl isod yn dangos refeniw CTIC a briodolwyd i gyllideb Llywodraeth Cymru o Dreth Incwm ar incwm NSND trethdalwyr Cymreig ac yn cymharu hyn â threthdalwyr gweddill y DU yn 2023 i 2024 (er enghraifft, 10c ar y gyfradd sylfaenol, 10c ar y gyfradd uwch, a 10c ar y gyfradd ychwanegol). Mae’r tablau hefyd yn dangos elfennau’r ffigurau.
Cyfanswm refeniw Treth Incwm o Incwm NSND Trethdalwyr Cymreig a di-Gymreig yn 2023 i 2024
Refeniw | NSND Cymreig (£biliwn) | NSND gwDU (£biliwn) | Cyfran Gymreig o holl NSND y DU |
---|---|---|---|
Rhwymedigaeth sefydledig Hunanasesiad | 2.260 | 122.474 | 1.7% |
Rhwymedigaeth sefydledig TWE | 4.716 | 103.855 | 4.0% |
Rhwymedigaeth bellach amcangyfrifedig: Ffurflenni Treth hwyr ac incwm o gydymffurfiad | 0.135 | 6.202 | 2.0% |
Llai: addasiad ar gyfer symiau na ellir eu casglu | (0.037) | (1.402) | 2.4% |
Rhyddhad wrth y ffynhonnell | (0.102) | (2.595) | 3.5% |
Rhodd Cymorth | (0.066) | (1.416) | 4.1% |
Refeniw terfynol ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024 | 6.905 | 227.119 | 2.7% |
CTIC yn 2023 i 2024 yn erbyn Treth Incwm NSND gwDU
Refeniw | NSND Cymreig (£biliwn) | NSND gwDU (£biliwn) |
---|---|---|
Rhwymedigaeth sefydledig Hunanasesiad | 0.823 | 36.999 |
Rhwymedigaeth sefydledig TWE a Chytundebau Setliad TWE | 2.194 | 46.256 |
Rhwymedigaeth bellach amcangyfrifedig | 0.053 | 2.015 |
Llai: addasiad ar gyfer symiau na ellir eu casglu | 0.017 | 0.602 |
Rhyddhad wrth y ffynhonnell | 0.051 | 1.298 |
Rhodd Cymorth | 0.033 | 0.708 |
Refeniw terfynol ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024 | 2.968 | 82.662 |
Mae’r oedi wrth gadarnhau swm gwirioneddol alldro CTIC ar gyfer 2023 i 2024 o ganlyniad i’r prosesau TWE a Hunanasesiad.
Er mwyn gweinyddu TWE i drethdalwyr, mae CThEF yn cynnal gwaith cysoni diwedd blwyddyn i asesu a yw unigolion wedi talu gormod o dreth neu heb dalu digon ohoni mewn unrhyw flwyddyn dreth. Yn yr un modd, nid yw’n ofynnol i drethdalwyr gyflwyno Ffurflenni Treth Hunanasesiad ar-lein i CThEF tan 10 mis ar ôl diwedd y flwyddyn dreth y mae’r rhain yn berthnasol iddynt.
Data ar gyfer pennu cyfraddau CTIC a’u rhagolygu
Mae CThEF wedi gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun gwaith cytûn. Mae hwn yn manylu ar y dadansoddi a’r data y bydd CThEF yn eu darparu i Lywodraeth Cymru i’w chefnogi yn ei gwaith dadansoddi. Mae swyddogion yn cyfarfod yn rheolaidd i sicrhau bod blaenoriaethau newydd yn cael eu trafod a’u hystyried yn erbyn ymrwymiadau presennol. Fel rhan o hyn, mae’r ddwy ochr wedi cytuno ar ba wybodaeth newydd a fyddai’n ddefnyddiol i’w helpu i ddarparu gwell ddealltwriaeth o alldro CTIC.
Mae CThEF yn rhoi data perthnasol i Lywodraeth Cymru am CTIC. Ar lefel y DU, cyflawnir y tasgau hyn gan ddefnyddio Arolwg o Incwm Personol (SPI).
Mae’r SPI yn cael ei lunio i ddarparu sylfaen dystiolaeth fesuradwy lle y gellir costio newidiadau arfaethedig i gyfraddau treth, lwfansau personol a rhyddhadau treth eraill ar gyfer Gweinidogion y Trysorlys. Fe’i defnyddir i helpu i lywio penderfyniadau polisi o fewn CThEF a Thrysorlys EF, yn ogystal ag at ddibenion modelu a rhagolygu treth.
Mae’r SPI yn seiliedig ar wybodaeth a ddelir gan CThEF am unigolion a allai fod yn agored i dreth y DU. Caiff ei gynnal yn flynyddol gan CThEF ac mae’n cwmpasu incwm sy’n agored i gael ei asesu am dreth bob blwyddyn dreth. Nid yw pob un o’r unigolion yn drethdalwyr oherwydd gall gweithredu rhyddhadau a lwfansau personol eu heithrio rhag bod yn agored i dreth. Pan fo incwm yn fwy na’r trothwy ar gyfer gweithredu TWE, mae’r arolwg yn rhoi’r ffynhonnell swyddogol, fwyaf cynhwysfawr a chywir o’r data ar incwm personol.
Mae CThEF yn rhoi copi diweddar o set ddata SPI i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn. Roedd y copi hwn union yr un fath â’r hyn a ddefnyddiwyd, at ddibenion tebyg, ar lefel y DU, ac eithrio cyfuno ychydig bach o ddata trethdalwyr ar y lefelau incwm uchaf er mwyn osgoi unrhyw doriadau posibl o gyfrinachedd y trethdalwr. Mae CThEF yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR) i sicrhau bod yr wybodaeth yn bodloni eu gofynion ac yn cefnogi rhagolygon a’r gwaith o bennu cyfraddau ar gyfer Cymru.
O 2019 i 2020, wrth gyflwyno CTIC, bu gostyngiad yng ngrant bloc adnoddau Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cyfateb i 10 pwynt canrannol o bob cyfradd dreth o Dreth Incwm nad yw’n deillio o gynilion na difidendau gan drethdalwyr Cymreig, a bod hyn wedi’i gynyddu gan ddefnyddio’r mecanwaith a nodir yn y fframwaith cyllidol y cytunodd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU arno ym mis Rhagfyr 2016.
Bob blwyddyn, bydd y derbyniadau treth a gynhyrchir a’r didyniad o’r grant bloc yn seiliedig i ddechrau ar ragolwg ac yna fe’u cysonir â derbyniadau go iawn a gasglir a ddaw yn hysbys tua 15 mis ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol sydd dan sylw.
Mae’n rhaid i CThEF roi data digonol i Lywodraeth Cymru allu cyflawni ei dyletswyddau mewn perthynas â rheoli arian sy’n gysylltiedig ag unrhyw newid rhwng symiau CTIC a ragolygwyd a’r symiau a gasglwyd. Er mwyn cyflawni’r gofyniad hwn, mae CThEF wedi cytuno gyda Llywodraeth Cymru i roi ffigurau CTIC o’r data Gwybodaeth Amser Real (RTI) a gafwyd gan gyflogwyr. Dyma’r dangosydd gorau o dueddiadau mewn rhwymedigaethau Treth Incwm sydd ar gael mewn amser real, ond nid yw’n ddarlun cyflawn o rwymedigaethau Treth Incwm am ei fod yn eithrio treth a delir drwy Hunanasesiad (a rhai addasiadau a wneir i rwymedigaethau TWE) ar ôl diwedd y flwyddyn dreth.
Mae CThEF yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau ein bod yn darparu’r dadansoddiad gofynnol iddynt. Cyflawnodd CThEF amrywiaeth o allbynnau dadansoddol ar CTIC i Lywodraeth Cymru ers adroddiad blynyddol y llynedd, gan gynnwys:
-
llunio rhagolygon CTIC a Threth Incwm gwDU ar gyfer yr OBR yn nhymor Hydref 2024 a Gwanwyn 2025
-
gwerthuso rhagolygon mis Rhagfyr 2021 a mis Mawrth 2022 ar gyfer CTIC yn 2022 i 2023 i’r OBR, gan fwydo i Ragolygon Trethi a Gwariant Datganoledig mis Mawrth 2025 a Rhagolwg Trethi Cymreig 2024
-
llunio Amcangyfrif Dros Dro ar gyfer CTIC yn 2024 i 2025 ar gyfer Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol CThEF 2024 i 2025
-
rhannu Dadansoddiad Dosbarthu Incwm ar gyfer alldro CTIC yn 2023 i 2024
-
darparu data Gwybodaeth Amser Real misol am drethdalwyr TWE
-
diweddaru ‘canllaw cyflym’ CTIC Llywodraeth Cymru gyda’r data alldro diweddaraf a rhagolygon macro-economaidd yr OBR
-
dadansoddiad o Unig Fasnachwyr a Phartneriaethau yng Nghymru a gwDU ar gyfer 2022 i 2023
-
rhannu fersiwn Tâp at Ddefnydd y Cyhoedd (PUT) o Arolwg o Incwm Personol 2022 i 2023
6. Gwasanaeth a chymorth i gwsmeriaid
Mae CThEF yn rhoi’r un lefel o wasanaeth cwsmeriaid, cymorth a thryloywder i drethdalwyr Cymreig, ag a roddir i dalwyr treth incwm yng ngweddill y DU.
Mae CThEF yn gweinyddu CTIC fel rhan o system Treth Incwm y DU. Yn y rhan fwyaf o achosion, ni fydd trethdalwyr Cymreig, felly, yn gweld gwahaniaeth yn y ffordd y mae CThEF yn rhyngweithio â nhw. Mae’r dull hwn hefyd yn sicrhau bod y swm cywir o dreth yn cael ei gasglu.
Cesglir CTIC drwy brosesau TWE a Hunanasesiad presennol sydd wedi’u haddasu i adlewyrchu cyfraddau CTIC. Mae trethdalwyr Cymreig yn gallu defnyddio arweiniad a sianeli cyswllt cwsmeriaid arferol CThEF i gael cyngor a gwybodaeth.
Yn y rhan fwyaf o feysydd, bydd gwasanaeth i gwsmeriaid a roddir i drethdalwyr Cymreig yn cael ei gynnwys a’i adrodd yn yr hyn y mae CThEF yn ei adrodd am wasanaethau i gwsmeriaid ar draws y DU.
Mae’r gwasanaeth i gwsmeriaid a’r gefnogaeth ar gyfer trethdalwyr Cymreig, asiantau a chyflogwyr y mae CThEF wedi’u gwneud yn rhan o’i brosesau presennol yn cynnwys y canlynol:
-
darparu codau treth Cymreig i holl drethdalwyr Cymreig a’u cyflogwyr cyn dechrau’r flwyddyn dreth
-
crynodebau treth blynyddol a gyhoeddir i bob trethdalwr Cymreig
-
diweddaru cyfrifianellau ar-lein cyn dechrau’r flwyddyn dreth gyda chyfraddau CTIC a bennwyd gan y Senedd er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gywir i drethdalwyr Cymreig
-
arweiniad ar gyfer darparwyr meddalwedd gyflogres ar sut i wneud cyfraddau Cymreig yn rhan o’u cynhyrchion TWE i gyflogwyr
-
arweiniad ar sut mae penderfynu ar statws trethdalwr Cymreig a’r hyn i’w wneud os yw cwsmeriaid o’r farn bod CThEF wedi nodi eu statws yn anghywir
-
annog cwsmeriaid i ddiweddaru eu manylion personol, gan ganolbwyntio ar ddefnydd o’r Cyfrif Treth Personol
-
anfon tablau treth ar bapur, sy’n adlewyrchu cyfraddau Cymru, at gyflogwyr sydd wedi’u heithrio’n ddigidol cyn dechrau’r flwyddyn dreth
Er bod y rhan fwyaf o’r cwsmeriaid yng Nghymru yn cael cyswllt â CThEF drwy brosesau sydd eisoes yn bodoli, a bod y gwasanaeth cwsmeriaid felly’n cael ei adrodd o fewn ffigurau’r DU, mae rhai agweddau ar wasanaeth cwsmeriaid yn benodol i CTIC. Er enghraifft, canllawiau ar statws trethdalwyr Cymreig a’r gallu i drafod â CThEF os oes anghytuno â’r statws man preswylio Cymreig a roddwyd.
Mae’n bwysig bod CThEF yn gallu dangos bod ei wasanaeth i gwsmeriaid yn y meysydd hyn yn cyfateb i’r hyn y mae’n ei ddarparu ar draws y DU gyfan. Felly, mae’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth (SLA) rhwng CThEF a Llywodraeth Cymru yn ymrwymo CThEF i gasglu ac adrodd am fetrigau allweddol o ran cyswllt cwsmeriaid, sy’n benodol i CTIC. Mae’r metrigau allweddol ar gyfer 2024 i 2025 wedi’u hamlinellu yn Atodiad C o’r adroddiad hwn, sef yr Adroddiad Gwybodaeth Busnes Blynyddol.
Gwasanaeth Cymraeg
Mae gan CThEF wasanaeth Cymraeg sydd wedi’i hen sefydlu, ers dros 30 mlynedd, ac sy’n cael ei ddarparu o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993. Cyflogir tua 40 o staff amser llawn ar gyfer gwaith yn y Gymraeg.
Mae CThEF yn darparuʼr rhan fwyaf oʼi wasanaethau Cymraeg drwy 2 dîm penodedig o siaradwyr Cymraeg sydd ym Mhorthmadog ac yng Nghaerdydd. Maent yn darparu gwasanaeth cwsmeriaid a gwasanaethau cyfieithu, yn ogystal â helpu adrannau eraill yn CThEF gyda materion syʼn ymwneud âʼr Gymraeg. Yng Nghaerdydd, mae hefyd uwch-reolwr dynodedig dros yr iaith Gymraeg. Siaradwraig Gymraeg ydyw, a hithau yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pob mater sy’n ymwneud â’r Gymraeg yn CThEF.
Cefnogir cymorth CTIC i gwsmeriaid Cymraeg gan y ddau dîm mewn amryw o ffyrdd. Mae CThEF hefyd yn cynnig opsiwn gwasanaeth Cymraeg i gwsmeriaid o’r brif linell gymorth Treth Incwm. Mae CThEF yn cael tua 24,000 o alwadau bob blwyddyn gan gwsmeriaid Cymraeg eu hiaith ar draws pob un o’n gwasanaethau cwsmeriaid.
7. Llywodraethu a goruchwylio
Trefniadau llywodraethu
Mae’r trefniadau llywodraethu sydd ar waith ar gyfer gweinyddiaeth CThEF o CTIC yn sicrhau ein bod yn cyflawni ein rhwymedigaethau ac yn diwallu anghenion Llywodraeth Cymru. Mae gweinyddiaeth CThEF o CTIC yn cael ei llywodraethu ar y cyd gan CThEF a Llywodraeth Cymru, ac rydym yn gweithio’n agos gyda hi i sicrhau bod digon o arolygiaeth o’n gweinyddiaeth o CTIC.
Cytundeb Lefel Gwasanaeth (SLA)
Mae ein CLG gyda Llywodraeth Cymru yn nodi rhwymedigaethau CThEF ar gyfer gweinyddu CTIC, a’r mesurau perfformiad ar gyfer monitro hyn. Mae hyn yn sicrhau bod trethdalwyr Cymreig yn cael gwasanaeth o ansawdd cyson ac mae’n galluogi CThEF a Llywodraeth Cymru i fodloni eu priod gyfrifoldebau.
Mae’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth yn cael ei adolygu’n flynyddol gan CThEF a Llywodraeth Cymru. Ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025, diweddarwyd y CLG i gynnwys cytundeb cyfrinachedd sy’n nodi sut y bydd CThEF yn trin gwybodaeth bolisi sensitif a rennir gan Lywodraeth Cymru.
Mae llofnodwyr y Cytundeb Lefel Gwasanaeth yn CThEF a Llywodraeth Cymru yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn i adolygu cynnydd CThEF o ran gweinyddu CTIC.
Bwrdd CTIC
Mae Bwrdd CTIC yn cyfarfod bob chwarter i adolygu gweinyddiaeth CThEF o CTIC. Mae’n cynnwys cynrychiolwyr o CThEF a Llywodraeth Cymru. Daw’r aelodau o feysydd ar draws CThEF sydd â rhan allweddol i’w chwarae yn ein gweinyddiaeth o CTIC. Rhennir cyfrifoldebau cadeirio rhwng CThEF a Llywodraeth Cymru.
Yn ystod 2024 i 2025, trafododd Bwrdd CTIC amrywiaeth o faterion yn ymwneud â gweinyddiaeth CThEF o CTIC. Roedd hyn yn cynnwys cymeradwyo’r fethodoleg ar gyfer cyfrifo’r alldro Cymreig ar gyfer 2023 i 2024, cymeradwyo’r costau i’w hailgodi ar Lywodraeth Cymru, cytuno ar y newidiadau arfaethedig i’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth, ac adolygu’r Cynllun Cydymffurfiaeth ar gyfer 2024 i 2025.
Yn ystod blwyddyn dreth 2024 i 2025, cynhaliwyd cyfarfodydd hybrid Bwrdd CTIC bob yn ail rhwng Llundain a Chaerdydd.
Gweithgor Dadansoddol Datganoledig
Mae’r Gweithgor Dadansoddol Datganoledig yn cynnwys cynrychiolwyr o CThEF, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban, yr OBR, a Chomisiwn Cyllidol yr Alban.
Mae’r gweithgor yn cyfarfod yn rheolaidd, ac yn trafod, ymhlith pethau eraill, y fethodoleg y mae CThEF yn ei defnyddio i gyfrifo alldro CTIC, a gwaith dadansoddol arall a wneir gan CThEF i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban.
Trefniadau ariannol
O dan y Cytundeb Fframwaith Cyllidol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, mae Llywodraeth Cymru yn ad-dalu CThEF am unrhyw gostau net ychwanegol yr eir iddynt, yn gyfan gwbl ac o anghenraid, o ganlyniad i weithredu a gweinyddu pwerau CTIC.
Mae gan CThEF broses gadarn ar waith i sicrhau ein bod yn nodi costau gweinyddu CTIC yn gywir. Rydym yn sicrhau ein bod yn darparu digon o dystiolaeth i Lywodraeth Cymru fel y gall Llywodraeth Cymru fod yn sicr ynghylch cywirdeb y costau sydd i’w hailgodi.
Fel rhan o’r broses hon, mae gennym y Fframwaith Costau a Ailgodir ar waith i nodi ein dull o weithredu a’n rhwymedigaethau ar gyfer ailgodi costau ar Lywodraeth Cymru. Mae hwn wedi’i atodi i’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth ac yn cael ei adolygu bob blwyddyn.
Rydym yn darparu adroddiad i Lywodraeth Cymru bob mis i sicrhau ei bod yn gweld y costau sydd i’w hailgodi – ac mae hyn yn digwydd bob chwarter. Dim ond pan fydd Bwrdd CTIC yn fodlon bod y costau’n gywir y bydd anfoneb yn cael ei chodi.
Yn 2024 i 2025, y costau a ailgodwyd ar Lywodraeth Cymru gan CThEF ar gyfer gweinyddu CTIC oedd:
Costau a ailgododd CThEF ar Lywodraeth Cymru ar gyfer gweinyddu CTIC yn 2024 i 2025
Chwarter (£ miliwn) | Costau cyflawni a gweithredu |
---|---|
Chwarter 1 | 0.08 |
Chwarter 2 | 0.08 |
Chwarter 3 | 0.13 |
Chwarter 4 | 0.08 |
Blwyddyn gyfan | 0.47 |
Mae CThEF yn ailgodi costau cyflawni a chostau gweithredu CTIC. Costau cyflawni oedd costau cychwynnol sefydlu gweinyddiaeth CThEF o CTIC, a chostau gweithredu yw costau dydd i ddydd y weinyddiaeth hon.
Mae’r siartiau isod yn dangos costau hanesyddol cyflawni a gweithredu CTIC sydd wedi’u hailgodi ar Lywodraeth Cymru, a sut mae costau cyflawni wedi lleihau dros amser. Pe bai Llywodraeth Cymru yn gwneud newidiadau pellach i CTIC, mae’n debygol y byddai costau cyflawni pellach.
Costau cyflawni a gweithredu CTIC a ailgodwyd ar Lywodraeth Cymru mewn blynyddoedd blaenorol
Cost | 2024-25 (£miliwn) | 2023-24 (£miliwn) | 2022-23 (£miliwn) | 2021-22 (£miliwn) | 2020-21 (£miliwn) | 2019-20 (£miliwn) | 2018-19 (£miliwn) | 2017-18 (£miliwn) | |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Costau cyflawni | Amherthnasol | Amherthnasol | Amherthnasol | Amherthnasol | 0.19 | 1.77 | 5.44 | 0.29 | |
Costau gweithredu | 0.47 | 0.43 | 0.42 | 0.44 | 0.53 | 0.23 | Amherthnasol | Amherthnasol | |
Cyfanswm cost CTIC a anfonebwyd yn y flwyddyn ariannol | 0.47 | 0.43 | 0.42 | 0.44 | 0.72 | 1.60 | 5.80 | 0.34 |
Sylwer: Ar gyfer ‘cyfanswm cost CTIC a anfonebwyd yn y flwyddyn ariannol’, efallai nad union swm y costau cyflawni a gweithredu yw’r ffigurau a ddangosir oherwydd amserlenni anfonebu.
Archwiliad allanol
Yn ogystal â’r strwythur llywodraethu mewnol y cytunwyd arno gan CThEF a Llywodraeth Cymru, mae gweinyddiaeth CThEF o CTIC hefyd yn cael ei goruchwylio gan sawl corff allanol.
Y Swyddfa Archwilio Genedlaethol
Mae’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn archwilio gweinyddiaeth CThEF o CTIC bob blwyddyn. Ym mis Ionawr 2025, cyhoeddodd yr NAO ei adroddiad o ran perfformiad CThEF yn 2023 i 2024. Nododd paragraff 11 o’r Canfyddiadau Allweddol fod gan CThEF reolau a gweithdrefnau digonol ar waith i sicrhau bod CTIC yn cael eu hasesu a’u casglu’n briodol, a’u bod yn cydymffurfio â’r rheolau hynny.
Ni wnaeth y Swyddfa Archwilio Genedlaethol unrhyw argymhellion ar gyfer gwella, ac mae ei hasesiad cadarnhaol o weinyddiaeth CThEF o CTIC yn rhoi sicrwydd i ni ein bod ni’n cyflawni ein rhwymedigaethau ac yn cynnal gwasanaeth o lefel uchel i Lywodraeth Cymru a threthdalwyr Cymreig.
Disgwylir i adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ar weinyddiaeth CThEF o CTIC yn 2024 i 2025 gael ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2026.
Y Senedd
Mae CThEF yn gweinyddu CTIC ar ran Llywodraeth Cymru. Wrth wneud hynny, rydym hefyd yn atebol i’r Senedd am ein perfformiad. Fel rhan o’r gwaith o roi CTIC ar waith, penododd CThEF Swyddog Cyfrifyddu Ychwanegol, sydd ar gael i roi tystiolaeth i bwyllgorau’r Senedd. Y Swyddog Cyfrifyddu Ychwanegol presennol yw Jonathan Athow, Cyfarwyddwr Cyffredinol Strategaeth a Chynllunio Treth ar gyfer Cwsmeriaid.
8. Edrych at Ddyfodol 2025 i 2026
Adolygiad o Bwerau Treth Incwm Cymru
Ym mis Mawrth 2025, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod yn comisiynu adolygiad allanol o bwerau Treth Incwm Cymru. Bydd CThEF yn parhau i gefnogi Llywodraeth Cymru os bydd unrhyw newidiadau i gyfeiriad CTIC. Os bydd gwahaniaeth rhwng cyfraddau CTIC a chyfraddau’r DU, bydd CThEF yn trafod dulliau cydymffurfio gyda Llywodraeth Cymru.
Atodiad A: Ymarfer Sicrhau Data Trydydd Parti 2023
Canlyniad yr ymarfer profi yn erbyn data trydydd parti
Tabl 1a: Cofnodion GB Group heb eu paru wedi’u tynnu gan KAI
Cofnodion GB Group heb eu paru | Nifer wedi’i thynnu gan KAI |
---|---|
Dyblyg | 2,540 |
Wedi marw | 2,143 |
O dan 18 | 59,149 |
Preswylio dramor | 7,532 |
Tabl 1b: Cofnodion GB Group heb eu paru sydd wedi’u paru gan KAI
Cofnodion GB Group heb eu paru | Nifer wedi’i pharu gan KAI |
---|---|
Wedi’u paru â Chymru | 594,156 |
Wedi’u paru â gwDU | 10,779 |
Heb eu paru | 107,826 |
Tabl 1c: Cyfansymiau cofnodion GB Group heb eu paru wedi’u paru gan GBG a KAI a chyfansymiau’r ganran wedi’u haddasu
Cofnodion GB Group heb eu paru | Cyfanswm wedi’i baru gan GBG a KAI | cyfanswm y % wedi’i addasu |
---|---|---|
Wedi’u paru â Chymru | 2,835,760 | 95.84% |
Wedi’u paru â gwDU | 15,396 | 0.52% |
Heb eu paru | 107,826 | 3.64% |
Methodoleg
Anfonodd Gwybodaeth, Dadansoddi a Chudd-wybodaeth (KAI) tua 88 miliwn o gofnodion at GB Group o’r CID (Fframwaith Adnabod Dinasyddion), fel rhan o sicrwydd data cyfeiriadau CThEF.
Er mwyn darparu sicrwydd o ddata cyfeiriadau CThEF, cynhaliodd GB Group ymarfer paru o gofnodion y CID yn erbyn ffynonellau data trydydd parti, e.e. y gofrestr etholiadol a chofnodion credyd.
Ar ôl cwblhau’r ymarfer hwn, anfonodd GB Group adroddiadau KAI yn amlinellu nifer y cofnodion oedd wedi’u paru’n llwyddiannus â gwlad, nifer y cofnodion cyfeiriadau gwrthgyferbyniol (yn ôl gwlad) a nifer y cofnodion sydd heb eu paru ag unrhyw gyfeiriad yn ôl y data trydydd parti.
Ochr yn ochr â’r adroddiad hwn, anfonodd GB Group restr o rifau YG (Yswiriant Gwladol) a TRNau (Cyfeirnodau Dros Dro) i KAI [1] nad oeddent yn cyd-fynd â ffynhonnell trydydd parti.
Mae KAI yn ceisio cadarnhau’r cofnodion hyn a dod o hyd i’w gwybodaeth ddiweddaraf am gyfeiriad/gwlad yn nata treth CThEF. Gwneir hyn drwy wneud y canlynol:
-
tynnu rhifau YG a TRNau dyblyg o’r rhestr gychwynnol
-
paru’r cofnodion â nifer o systemau CThEF h.y. CESA/NPS ac RTI i nodi: unigolion sydd wedi marw, unigolion o dan 18 oed (ar yr adeg y cynhaliwyd ymarfer paru GB Group) ac unigolion sy’n preswylio dramor
-
tynnu cofnodion sy’n cael eu nodi fel pobl sydd wedi marw, o dan 18 oed neu’n preswylio dramor oddi ar y rhestr gychwynnol heb ei pharu
-
mae cofnodion sy’n weddill sy’n paru â systemau CThEF yn cael eu dyrannu i ranbarth/gwlad yn seiliedig ar god post dilys a’r rhanbarth GOR/ITL2 cyfatebol sy’n gysylltiedig â’r cod post. Gwneir hyn drwy baru codau post, sydd wedi’u hechdynnu, â thabl chwilio cod post ar gyfer Codau GOR a dyrannu rhanbarth Cyfundrefn Treth Incwm gyfatebol yn seiliedig ar lythyren gyntaf y newidyn hwn
Canlyniadau ymarfer paru GB Group
O’r 3,030,346 o’r cofnodion yng Nghymru:
-
cafodd 2,241,604 (73.97%) o gofnodion eu paru â chyfeiriad yng Nghymru a oedd â chyfeiriad yng Nghymru yn ôl y CID
-
roedd 4,617 (0.15%) o gofnodion wedi’u paru â chyfeiriad yn gwDU ond roedd ganddynt gyfeiriad yng Nghymru yn ôl y CID
-
roedd 784,125 (25.88%) o’r cofnodion yng Nghymru heb eu paru ag unrhyw gyfeiriad
Ar gyfer achosion b), anfonwyd llythyr at yr unigolyn yn gofyn iddo ddiweddaru data ei gyfeiriad.
Daeth GB Group hefyd o hyd i 6,128 o gofnodion yn y data CID oedd â chyfeiriad gwDU ond a oedd yn paru â chyfeiriad yng Nghymru yn ôl y data trydydd parti. Anfonwyd llythyr at yr unigolion hyn hefyd yn gofyn iddynt ddiweddaru eu cyfeiriad.
Canlyniadau ymarfer paru KAI
Fel yr amlinellwyd, gwnaeth KAI baru 784,125 o’r cofnodion oedd heb eu cadarnhau â systemau CThEF a hefyd:
-
tynnu 2,540 o rifau YG / TRNau dyblyg o’r rhestr gychwynnol
-
tynnu 59,149 o gofnodion lle roedd yr unigolyn o dan 18 oed pan gynhaliwyd y gwaith profi yn erbyn data (roedd 38 o dan 16 oed, 29,858 yn 16 oed ac roedd 29,253 yn 17 oed)
-
tynnu 7,532 o gofnodion lle nodwyd bod yr unigolyn yn preswylio dramor
-
tynnu 2,143 o gofnodion lle nodwyd bod yr unigolyn wedi marw
-
nodi 594,156 o gofnodion lle roedd gan yr unigolyn God GOR Cymru (83.36% o’r rhestr gychwynnol, heb ei pharu wedi’i haddasu)
-
nodi 15,396 o gofnodion lle roedd gan yr unigolyn God GOR gwDU
Nid oeddem yn gallu cadarnhau 107,826 o gofnodion. O’r rhain:
-
roedd 103,569 (96.05%) yn TRNau, sef 3.50% o’r rhestr wedi’i haddasu o 2,835,760 o’r cofnodion yng Nghymru a anfonwyd at GB Group (gydag achosion dyblyg, wedi marw, o dan 18 oed ac achosion tramor wedi’u heithrio)
-
roedd 4,257 (3.95%) yn rhifau YG
Gweler tabl 1 am ragor o fanylion.
Casgliad
Ar ôl cwblhau cydrannau KAI a Group GB o’r ymarfer paru trydydd parti hwn, dangosir bod statws trethdalwyr CThEF yn gywir mewn 95.84% o achosion (pan fydd achosion dyblyg, wedi marw a thramor wedi’u heithrio). Fodd bynnag, wrth ystyried achosion a barwyd, cafodd 2,835,760 allan o 2,851,156 o achosion eu paru fel rhai Cymreig (99.46% o’r cyfanswm wedi’i addasu).
Felly, ar draws y ddau gam, dim ond 0.54% o’r cofnodion hyn a nodwyd fel rhai sy’n preswylio yn gwDU pan roddodd CID gyfeiriad yng Nghymru. A dim ond 107,826 (3.64%) o gyfanswm y rhestr yn CID sy’n parhau i fod heb eu cadarnhau, gyda’r rhan fwyaf (96.05%) o’r rhain yn TRNau.
Wrth ystyried y ffigur hwn yng nghyd-destun cywirdeb cyffredinol y trethdalwyr Cymreig mae CThEF yn eu nodi, mae’n bwysig cofio nad yw’r boblogaeth hon yn cyfateb i drethdalwyr Cymreig gweithredol gwahanol mewn unrhyw flwyddyn benodol. Mae’n cynrychioli cofnodion (yn hytrach nag unigolion) a gedwir yn nata CID CThEF, a allai fod yn gyfrifon hanesyddol nad ydynt bellach yn weithredol; neu TRNau a oedd yn perthyn i unigolion sydd wedi cael rhif YG wedi hynny. Felly, nid yw statws trethdalwr heb ei gadarnhau yn golygu statws trethdalwr anghywir.
Felly, rydym yn hyderus y bydd cyfran yr achosion Cymreig a nodwyd yn gywir yn CThEF yn debygol o tua 98%-99% pan fyddwn ond yn ystyried cofnodion sy’n weithredol ar hyn o bryd mewn Hunanasesiad neu RTI. Mae’r achosion heb eu cadarnhau yn debygol o gael eu hachosi gan gyfrifon sydd wedi dod i ben neu gyfrifon anweithredol, sy’n esbonio pam nad yw KAI wedi gallu dod o hyd iddynt yn y data Hunanasesiad nac RTI. Efallai y bydd rhai achosion hefyd lle bo gwybodaeth cod post wedi’i mewnbynnu’n anghywir, neu lle bo cod post sydd wedi dod i ben wedi’i fewnbynnu sy’n golygu nad oes modd dyrannu Cod GOR i’r cofnod. Felly, nid oes unrhyw risg i CTIC o fethu â chadarnhau’r cofnodion hyn fel rhai Cymreig gan na fydd rhwymedigaeth Treth Incwm arnynt.
Mae hyn yn rhoi hyder y bydd CThEF wedi nodi’n gywir bod tua 99% o’r trethdalwyr Cymreig sy’n weithredol ar hyn o bryd, o’n data CID, yn byw yng Nghymru.
Atodiad B: Adroddiad Gwybodaeth Busnes Blynyddol 2024 i 2025
Cyswllt â chwsmeriaid: dros y ffôn
Mae gan CThEF lwybr ffôn CTIC o fewn llinell gymorth Treth Bersonol CThEF. Mae hyn yn rhoi negeseuon cyffredinol wedi’u recordio i gwsmeriaid ar CTIC cyn iddynt siarad ag Ymgynghorydd Cwsmeriaid CThEF. Nid yw’r ffigurau hyn yn cynrychioli’r holl alwadau gan drethdalwyr Cymreig i CThEF.
Nifer y galwadau ffôn a gafwyd ac a atebwyd
Cyfanswm | 2024 i 2025 | 2023 i 2024 | 2022 i 2023 | 2021 i 2022 | 2020 i 2021 |
---|---|---|---|---|---|
Galwadau a gafwyd | 21 | 35 | 87 | 92 | 120 |
Galwadau a atebwyd | 17 | 23 | 63 | 70 | 83 |
Monitro tudalennau we
Mae gan CThEF nifer o dudalennau gwe sy’n ymwneud â CTIC ar GOV.UK ac mae chwiliadau am y tudalennau hyn yn cael eu monitro:
-
Llawlyfr mewnol CThEF: Arweiniad technegol ar drethdalwyr Cymreig
-
Rhoi gwybod i CThEF am newid mewn amgylchiadau personol, sy’n cael ei ddefnyddio gan gwsmeriaid ar draws y DU
Chwiliadau ar y we
Tudalen we ar GOV.UK | Chwiliadau ar y we yn 2024 i 2025 | Chwiliadau ar y we yn 2023 i 2024 | Chwiliadau ar y we yn 2022 i 2023 | Chwiliadau ar y we yn 2021 i 2022 | Chwiliadau ar y we yn 2020 i 2021 |
---|---|---|---|---|---|
Treth Incwm yng Nghymru | 32,314 | 38,953 | 44,444 | 39,827 | 43,337 |
Llawlyfr mewnol: Arweiniad ar drethdalwyr Cymreig | 67 | 75 | 186 | 178 | 283 |
Rhoi gwybod i CThEF am newid i’ch manylion personol | 754,848 | 1,072,096 | 1,307,931 | 1,332,067 | 1,530,708 |
[1] Mae Cyfeirnod Dros Dro (TRN) yn rhif sy’n cael ei ddyrannu gan CThEF i gofnodion sydd heb ei baru â rhif Yswiriant Gwladol neu sydd heb rif YG hysbys. Mae gan TRNau y fformat ‘RhRh LlRh RhRh RhRh’ (dau rif, llythyren, pum rhif). Mae TRNau fel arfer yn cael eu disodli pan fydd unigolyn yn gwneud cais am rif YG oddi wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) . Fodd bynnag, mae nifer fach o unigolion yn cadw TRN.