Skip to main content
Data tryloywder

Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC) – Adroddiad Cyfarwyddwr Cymru, 22 Hydref 2026

Cyhoeddwyd 8 Hydref 2026

Yn berthnasol i Gymru

Crynodeb

Mae’r adroddiad hwn yn casglu diweddariadau allweddol ar gyfer y Pwyllgor, gan gynnwys:

  • dolen i Adroddiad y Prif Weithredwr a’r diweddariad a gyflwynwyd i’r Bwrdd yn ei gyfarfod ar 16 Medi 2026
  • trosolwg o ddatblygiadau diweddar, prif feysydd cynnydd a materion o ddiddordeb gan dîm yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yng Nghymru i’r Pwyllgor eu hystyried

Gwahoddir aelodau o’r Pwyllgor i wneud y canlynol:

  • nodi’r diweddariad
  • gwahodd y Cyfarwyddwr i ymhelaethu ar unrhyw faterion i’w trafod ymhellach

Adroddiad y Prif Weithredwr i’r Bwrdd

Cyflwynwyd adroddiad diweddaraf y Prif Weithredwr yng nghyfarfod y Bwrdd ar 16 Medi 2026, ac mae’n darparu cyd-destun sefydliadol ehangach ar gyfer y diweddariadau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad hwn.

Diweddariad gan Gyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru

Dros y misoedd diwethaf, mae’r tîm wedi parhau i gefnogi gwaith gweithredu, dylanwadu ar ddatblygu polisi a chryfhau ymgysylltu ledled Cymru, gan weithio’n agos â phartneriaid i helpu i sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label.

Yn ystod fy ychydig fisoedd cyntaf yn y swydd, rwy wedi canolbwyntio ar sefydlu a meithrin perthnasoedd allweddol, a hynny wrth gymryd amser i wella fy nealltwriaeth o holl waith a blaenoriaethau’r ASB yng Nghymru. Mae hyn wedi cynnwys treulio amser gyda’r tîm i ddeall eu meysydd arbenigedd, eu blaenoriaethau presennol a’r cyfleoedd sydd ar gael i gryfhau ein cyfraniad cyfunol ar draws polisi, gwaith gweithredu a strategaeth ymhellach.

Mae nifer o ddigwyddiadau hefyd wedi fy helpu wrth ymsefydlu yn y swydd. Mae’r digwyddiadau hyn wedi darparu cyfleoedd gwerthfawr i weld gwaith yr ASB yng Nghymru yn uniongyrchol, cwrdd â rhanddeiliaid allweddol a deall cyfraniad y tîm ar draws ystod o flaenoriaethau’n well. Mae’r rhain wedi cynnwys cyfarfod â thema WFAC ym mis Gorffennaf, a’n presenoldeb yn Y Farchnad, Sioe Frenhinol Cymru a’r Eisteddfod Genedlaethol. Byddaf yn ymhelaethu ar rai o’r rhain yn ddiweddarach yn yr adroddiad hwn.

Dros y chwarter diwethaf, mae’r timau polisi yng Nghymru wedi parhau i wneud cynnydd cadarn ar draws nifer o ffrydiau gwaith pwysig, gan gynnwys:

  • cynnal momentwm ar y gwaith paratoi ar gyfer y Cytundeb Iechydol a Ffytoiechydol (SPS) rhwng y DU a’r UE ar draws holl feysydd polisi’r ASB, gan gynnwys ein cylch gwaith ehangach o ran safonau bwyd, a hynny gan sicrhau bod ystyriaethau polisi a deddfwriaeth, yn ogystal ag ystyriaethau gweithredol sy’n benodol i Gymru yn cael eu hadlewyrchu wrth i’r rhaglen ddatblygu. Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a Defra ar waith ymgynghori â’r cyhoedd, yn ogystal â gwaith i sicrhau parodrwydd busnesau ac awdurdodau lleol

  • cyfrannu at ffrydiau gwaith canolog yr ASB mewn perthynas â gorsensitifrwydd i fwyd, gan gynnwys adolygu’r canllawiau ar ddarparu gwybodaeth, y Strategaeth Alergeddau Cenedlaethol, a’r modiwl e-ddysgu

  • arwain ar y gwaith o adolygu’r canllawiau ‘Lleihau’r risg o oedolion sy’n agored i niwed yn dal listeriosis’ ar gyfer sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol, a chynnal ymgynghoriad arnynt. Mae’r canllawiau wedi’u diweddaru mewn ymateb i adborth gan awdurdodau lleol a busnesau bwyd sy’n gweithredu yn y meysydd hyn, a hynny gyda’r bwriad o’u gwneud yn gliriach ac yn haws eu dilyn. Mae’r dasg o adolygu’r canllawiau hyn yn rhan o raglen ehangach yr ASB o waith ar glefydau a gaiff eu cludo gan fwyd, ac maent yn gymwys yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr. Lansiwyd ymgynghoriad ar 23 Medi a fydd yn para 12 wythnos

  • dadansoddi’r ymatebion a gafwyd mewn ymateb i’r ymgynghoriad ar system ddiwygiedig o gefnogaeth ariannol (gostyngiad) i ladd-dai a sefydliadau trin helgig, a gweithio gyda chydweithwyr i gynhyrchu’r crynodeb o ymatebion a pharatoi ar gyfer y drafodaeth yng nghyfarfod y Bwrdd ym mis Medi

Mae ein timau cyflawni, sy’n gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol ac yn arwain gweithgarwch archwilio rheoleiddiol a diogelu defnyddwyr yng Nghymru, hefyd wedi bod yn bwrw ymlaen ag ystod o waith pwysig, gan gynnwys:

  • parhau i gefnogi awdurdodau lleol wrth iddynt roi’r Model Gweithredu Safonau Bwyd (FSDM) ar waith yng Nghymru, gyda 12 o awdurdodau lleol wedi symud draw i’r model newydd, a’r awdurdodau sy’n weddill yn disgwyl bod wedi symud draw erbyn diwedd mis Hydref, sef y terfyn amser ar gyfer trosglwyddo

  • cynnal sesiwn â chynulleidfa fawr (ar 21 Medi) gydag arbenigwyr ar y panel ynghyd â Llywodraeth Cymru i drafod yr argymhellion a nodwyd yn yr adolygiad o swyddogaethau’r ASB yng Nghymru. Cafwyd adborth adeiladol gan y sawl a gymerodd ran ar yr hyn sy’n gweithio’n dda ac awgrymwyd dulliau o gryfhau’r berthynas ymhellach. Byddwn yn rhannu nodiadau a’r camau nesaf arfaethedig â’r mynychwyr

  • Eleni, mae’r Rhaglen Archwilio Awdurdodau Lleol yng Nghymru yn canolbwyntio ar reolaethau samplu a chamau gweithredu sy’n weddill yn sgil archwiliadau. Mae cynnydd da yn cael ei wneud, gyda dau o’r chwe archwiliad a gynlluniwyd eisoes wedi’u cwblhau ac archwiliadau pellach wedi’u trefnu dros y misoedd nesaf. Mae’r tîm hefyd yn parhau i gefnogi’r agweddau Cymreig ar archwiliadau’r UE a thrydydd gwledydd sydd wedi’u cynllunio ledled y DU, ac mae paratoadau’n mynd rhagddynt ar gyfer gweithgarwch sydd ar y gweill mewn perthynas ag anifeiliaid dyfrol byw a deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd

  • Mae’r tîm yn parhau i weithio gydag asiantaethau eraill, gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU, i ymchwilio i frigiad o achosion cenedlaethol o Salmonela Enteritidis. Er mwyn cefnogi’r ymchwiliad sydd ohoni, mae’r ASB wedi cyhoeddi cyngor dwyieithog ar drin wyau’n ddiogel, ac wedi rhannu gohebiaeth ag awdurdodau lleol sy’n gofyn am eu cymorth wrth godi ymwybyddiaeth o arferion trin wyau’n dda gyda gweithredwyr busnesau bwyd. Bydd y tîm yng Nghymru yn parhau i weithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, awdurdodau lleol Cymru a phartneriaid eraill ledled y DU mewn perthynas â gwaith samplu ac ymchwilio i’r gadwyn fwyd

Mae ein timau strategaeth yng Nghymru wedi parhau i gryfhau cyrhaeddiad ac effaith negeseuon allweddol yr ASB ledled Cymru drwy ddwyn ynghyd gyfathrebiadau, y Gymraeg a mewnwelediad rhanddeiliaid i sicrhau bod ein gwaith yn weladwy, yn hygyrch ac yn berthnasol i gynulleidfaoedd yng Nghymru. Mae hyn wedi cynnwys:

  • Ym mis Gorffennaf, cymerodd yr ASB yng Nghymru ran yn nigwyddiad Y Farchnad yn y Senedd. Roedd hyn yn gyfle pwysig i ymgysylltu’n uniongyrchol â’r Aelodau o’r Senedd a oedd newydd eu hethol a chodi ymwybyddiaeth o rôl yr ASB wrth ddiogelu defnyddwyr a sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label. Drwy drafodaethau â seneddwyr o bob cwr o Gymru, gwnaethom ni dynnu sylw at flaenoriaethau allweddol, gan gynnwys diogelwch bwyd, materion o ran diogelu defnyddwyr, a phwysigrwydd trefniadau rheoleiddio bwyd effeithiol, a hynny oll wrth gryfhau perthnasoedd a fydd yn cefnogi ymgysylltiad a phenderfyniadau polisi yn y dyfodol.

  • Gwnaethom ni hefyd fynd i Sioe Frenhinol Cymru ym mis Gorffennaf, gan gefnogi Cadeirydd yr ASB a Chadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC) wrth iddynt ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol. Fel arfer, roedd y digwyddiad yn gyfle pwysig i ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid o bob rhan o’r sectorau bwyd, ffermio a chyhoeddus. Gwnaeth y digwyddiad alluogi uwch-gynrychiolwyr, gan gynnwys ein Cadeirydd ac aelodau o WFAC, i gryfhau perthnasoedd â gweinidogion, cynrychiolwyr o’r diwydiant a sefydliadau partner, wrth godi ymwybyddiaeth o waith yr ASB a thrafod materion allweddol sy’n effeithio ar ddiogelwch bwyd a materion o ran diogelu defnyddwyr yng Nghymru.

  • Gwnaethom ni fwynhau blwyddyn lwyddiannus arall yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gan ddefnyddio ein stondin i ymgysylltu’n uniongyrchol â’r cyhoedd ar faterion allweddol o ran diogelwch bwyd mewn modd hygyrch a pherthnasol yn ddiwylliannol. Drwy amrywiaeth o weithgareddau rhyngweithiol a sgyrsiau, gwnaeth cydweithwyr a gwirfoddolwyr godi ymwybyddiaeth o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, arferion trin bwyd yn ddiogel a gwaith ehangach yr ASB, gan helpu i gryfhau dealltwriaeth y cyhoedd o’n rôl a’n hymrwymiad i Gymru a’r Gymraeg. Gwnaeth y stondin hefyd gynnig cyfleoedd gwerthfawr i ymgysylltu â rhanddeiliaid a dangos amlygrwydd yr ASB yn un o ddigwyddiadau diwylliannol pwysicaf Cymru.

  • Mae’r haf hefyd wedi rhoi cyfle i ni atgyfnerthu negeseuon allweddol am ddiogelwch a hylendid bwyd drwy ein hymgyrch i ddefnyddwyr, ‘Stopia. Meddylia. Gweina.’. Drwy gydol yr haf, gwnaethom ni ddefnyddio’r ymgyrch i hyrwyddo cyngor ar arferion diogel wrth gael barbeciw, picnic a bwyta yn yr awyr agored, gan helpu defnyddwyr i fwynhau’r tywydd braf yn ddiogel. Roedd hyn yn cynnwys rhaglen o hysbysebion ar y cyfryngau cymdeithasol y codwyd tâl ar eu cyfer; rydym yn aros am y gwerthusiad llawn o’r hysbysebion hynny. Yn ogystal, mewn ymateb i’r don wres a’r rhybuddion tywydd dros yr haf, rydym ni wedi defnyddio ein sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol yn ddiweddar i atgyfnerthu cyngor ar ddiogelwch bwyd, gan atgoffa defnyddwyr i drin, storio a pharatoi bwyd yn ddiogel pan fo’r tywydd yn gynnes. Gwnaethom ni hybu negeseuon ar Facebook ac Instagram a chefnogi gohebiaeth berthnasol am iechyd y cyhoedd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru.

Edrych tua’r dyfodol

Bydd llawer o’r gwaith a amlinellir yn yr adroddiad hwn yn parhau dros y misoedd nesaf. Ochr yn ochr â hyn, bydd y tîm yn cynnal momentwm ar y prosiectau a’r ffrydiau gwaith canlynol, gan sicrhau bod Cymru’n parhau i fod mewn sefyllfa dda i ddylanwadu ar flaenoriaethau allweddol, eu cyflawni a’u cefnogi.

Mewn perthynas â pholisi, ac yn dilyn cytundeb y Bwrdd ym mis Medi, byddwn yn ceisio cytundeb gan weinidogion Cymru i fabwysiadu’r model diwygiedig ar gyfer gostyngiadau wrth godi tâl am reolaethau cig, a byddwn yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid o Gymru ar y gwaith o ran codi tâl am reolaethau cig.

O ran ein gwaith cyflawni a pholisi, rydym wedi cael cadarnhad gan archwilwyr yr UE eu bod yn fodlon ar ymateb y DU i’r archwiliad ar folysgiaid dwygragennog byw a gynhaliwyd ym mis Medi 2025. Bydd y tîm, ar y cyd â chydweithwyr yng Ngogledd Iwerddon a Lloegr, nawr yn bwrw ymlaen â’r argymhellion y cytunwyd arnynt ochr yn ochr â’r trafodaethau SPS.

Byddwn yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid yng Nghymru wrth i ni symud i gam nesaf y rhaglen ‘Dyfodol Rheoleiddio Bwyd’, fel y cytunwyd arno yng nghyfarfod Bwrdd yr ASB ar 16 Medi, gyda’r cyfarwyddyd i roi’r offer sydd eu hangen ar awdurdodau lleol i wella’r broses gofrestru. Mae’r cynlluniau a fydd yn cael eu datblygu’n fanylach wedi’u hamlygu yn y stori newyddion ddwyieithog a gyhoeddwyd yn dilyn cyfarfod y Bwrdd.

O ran strategaeth, byddwn yn defnyddio’r misoedd nesaf i gytuno ar y ffordd orau o alinio ein gwaith â chynlluniau Llywodraeth Cymru sydd wrthi’n cael eu datblygu ar gyfer Strategaeth Fwyd Genedlaethol yng Nghymru, gan sicrhau bod arbenigedd, tystiolaeth a chylch gwaith yr ASB o ran diogelu defnyddwyr yn gallu gwneud cyfraniad ystyrlon wrth i’r gwaith pwysig hwn fynd rhagddo. Byddwn hefyd yn parhau â’r paratoadau ar gyfer ein digwyddiad yn y Senedd ar 1 Rhagfyr, a fydd yn darparu llwyfan flynyddol i ymgysylltu’n uniongyrchol â rhanddeiliaid allweddol, arddangos hyd a lled ein gwaith yn yr ASB yng Nghymru a chryfhau’r perthnasoedd sy’n ein helpu i gyflawni ein blaenoriaethau.