Bwrdd yr ASB yn cefnogi cynlluniau newydd i gryfhau’r system diogelwch bwyd
Mae Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi cytuno i fwrw ymlaen â chynlluniau i adeiladu system fodern sy’n diogelu’r cyhoedd, yn cefnogi busnesau ac yn cadw bwyd yn ddiogel, yn awr ac yn y dyfodol.
Close up of a meeting room table and chairs / Agoslun o fwrdd a chadeiriau mewn ystafell gyfarfod
O dan y rhaglen ‘Dyfodol Rheoleiddio Bwyd’, nod y cynigion hyn yw diwygio’r system gyfan. Mae hyn yn cynnwys cryfhau’r trefniadau ar gyfer cyflenwi lleol ledled y DU, gan roi’r offer sydd eu hangen ar dimau bwyd awdurdodau lleol, cyflwyno dull cenedlaethol mwy cyson o graffu ar y busnesau bwyd mwyaf, a sicrhau bod safonau bwyd uchel yn cael eu cynnal mewn marchnad sy’n newid.
Dywedodd yr Athro Susan Jebb, Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd:
“Mae’r system sy’n diogelu ein bwyd wedi ein gwasanaethu’n dda ers blynyddoedd maith, gan gynnal rhai o’r safonau bwyd uchaf yn y byd. Ond mae’r ffordd y mae pobl yn prynu, gwerthu a chynhyrchu bwyd wedi newid yn aruthrol, ac mae angen i ni gadw i fyny â’r newid hwnnw fel y gallwn fod yn hyderus y gallwn barhau i gadw bwyd yn ddiogel at y dyfodol.
“Mae timau bwyd awdurdodau lleol yn dyngedfennol i ddiogelwch bwyd yn y gwledydd hyn. Mae eu harbenigedd a’u gwybodaeth ddofn am y busnesau a’r cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu yn anhepgor.
“Rydym wedi ymgysylltu â dros 1,200 o randdeiliaid ledled y DU i ddeall yn well yr heriau sy’n wynebu’r system bresennol a’r newidiadau sydd eu hangen i gefnogi darpariaeth leol. Bydd yr adborth hwn yn llywio’r cynlluniau wrth i ni symud ymlaen i’r cam dylunio nesaf.
“Fel Bwrdd, rydym yn hyderus y gall ein cynigion gryfhau diogelwch bwyd yn gyffredinol, gan wella’r system reoleiddio leol ar gyfer y mwyafrif helaeth o fusnesau, ac ategu hynny gyda gwaith craffu cenedlaethol ar gyfer llond llaw o fusnesau mawr iawn er mwyn cryfhau diogelwch y cyhoedd yn y dyfodol. Mae hyn yn unol ag uchelgeisiau’r llywodraeth ar gyfer twf ac ar gyfer gwneud penderfyniadau ar lefel leol yn ddiofyn.
“Byddaf yn parhau i ymgysylltu â gweinidogion, a fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ar gynigion, i wneud yn siŵr bod ein gwaith yn cyd-fynd â’u blaenoriaethau. Byddaf hefyd yn siarad â llywodraethau datganoledig a Safonau Bwyd yr Alban i wneud yn siŵr bod y rhaglen yn adlewyrchu anghenion cymunedau ledled y DU.
“Rydym yng nghamau cynnar y rhaglen, ac mae angen i ni barhau i weithio mewn partneriaeth i sicrhau bod unrhyw ddiwygiadau’n cyflawni ein huchelgais, sef system reoleiddio sy’n gweithio i bobl, i fusnesau, ac i’r bobl sy’n ei chynnal.”
Mae’r cynlluniau sydd i’w datblygu’n fanylach yn cynnwys:
-
cefnogi a chryfhau gwerth enfawr arbenigedd lleol, drwy roi’r offer sydd eu hangen ar dimau bwyd awdurdodau lleol i weithredu ar broblemau a chefnogi’r busnesau yn eu cymunedau sydd angen cefnogaeth fwyaf
-
gwella’r ffordd y mae busnesau bwyd yn cofrestru o’r cychwyn cyntaf, fel bod darlun cliriach o bwy sy’n gweithredu yn y system fwyd, gan helpu’r rhai sy’n gwneud y peth iawn i ffynnu, a mynd i’r afael â’r rhai nad ydynt yn gwneud hynny
-
cymhwyso’r lefel gywir o reoleiddio i wahanol fathau o fusnesau, gyda thimau bwyd awdurdodau lleol yn parhau i reoleiddio a chefnogi busnesau yn eu cymunedau, a hynny wrth i’r gwaith o oruchwylio cenedlaethol ganolbwyntio ar lond llaw o’r busnesau mwyaf, lle gellir ei ddefnyddio i gryfhau’r mesurau diogelu ar gyfer defnyddwyr
-
gwneud defnydd gwell o ddata a deallusrwydd o gadwyni cyflenwi busnesau mawr er mwyn gweld y darlun cyfan, gan arwain at ymateb tecach a mwy cymesur a helpu rheoleiddwyr i ganolbwyntio ar y meysydd lle mae’r risg fwyaf
-
rhoi canllawiau cliriach sy’n helpu busnesau i wneud y peth iawn ac sy’n cefnogi dull cyson
-
darparu pwerau ac offer gorfodi mwy effeithiol, fel y gall timau bwyd lleol fynd i’r afael â gwir achosion arferion diogelwch bwyd gwael
-
bod yn fwy agored ynghylch hylendid bwyd, fel y gall y cyhoedd a busnesau wneud dewisiadau gwybodus, gan gynnwys ei gwneud hi’n orfodol arddangos sgoriau hylendid bwyd ar-lein ledled y DU, ac mewn siopau a bwytai yn Lloegr
Mae’r mwyafrif helaeth o fusnesau bwyd – dros 99.5% – yn fusnesau micro, bach a chanolig, ond mae dros 97% o’r bwyd sy’n cael ei werthu mewn siopau yn dod o 10 manwerthwr cenedlaethol sydd â chadwyni cyflenwi bwyd byd-eang helaeth. Mae’r busnesau hyn yn dod i gysylltiad â nifer enfawr o ddefnyddwyr, ac mae ganddynt ddylanwad sylweddol dros eu cadwyni cyflenwi.
Roedd y treial diweddar a gynhaliwyd gan yr ASB gyda manwerthwyr wedi dangos y gellid craffu ar eu data ar lefel genedlaethol a’i ddefnyddio i nodi problemau a risgiau diogelwch bwyd ar lefel systemig, ochr yn ochr â gwiriadau ar lawr gwlad.
Yng nghyllideb yr hydref yn 2025, gofynnodd y llywodraeth i’r ASB ddatblygu cynigion ar gyfer system reoleiddio genedlaethol ar gyfer busnesau bwyd mawr yn Lloegr, gan ddechrau gyda phrif fanwerthwyr. Mae’r Bwrdd wedi cytuno o’r blaen y gallai’r dull hwn gryfhau goruchwyliaeth a gwella gwelededd risg ar draws y sector, a bydd cynlluniau ar gyfer y dull hwn yn cael eu datblygu’n fanylach nawr.
Mae’r Bwrdd hefyd wedi bod yn glir bod rhaid datblygu’r cynigion hyn ochr yn ochr â gwelliannau i gefnogi awdurdodau lleol i gynnal gwaith rheoleiddio.
Yn dilyn trafodaeth y Bwrdd, bydd yr ASB yn gweithio gyda thimau bwyd awdurdodau lleol, busnesau a phartneriaid eraill drwy bwyllgor cynghori technegol. Bydd y grŵp hwn yn helpu i ddatblygu’r dull ac yn gweithio drwy fanylion pob newid fel rhan o fodel rheoleiddio ar draws y system.
Bydd y rhaglen yn parhau i gynnwys partneriaid wrth iddi gyrraedd cerrig milltir allweddol. Bydd yn dychwelyd i Fwrdd yr ASB ym mis Mawrth 2027 gyda chynigion wedi’u datblygu ar gyfer y system gyfan, gan gynnwys newidiadau sydd eu hangen i gryfhau’r ddarpariaeth leol ochr yn ochr â chynigion ar gyfer dull cenedlaethol o ymdrin â manwerthwyr mawr. Bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn dilyn hyn yn ddiweddarach yn 2027.