Skip to main content
Canllawiau

Cyngor i fusnesau arlwyo ar storio, trin a defnyddio wyau’n ddiogel

Gwybodaeth i fusnesau arlwyo am sut i storio, trin a defnyddio wyau’n ddiogel wrth arlwyo.

Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru

Dylid darllen y canllawiau canlynol ochr yn ochr â’r pecyn Bwyd mwy diogel, busnes gwell ar gyfer arlwywyr.

Wyau a salmonela

Gall rhai wyau gynnwys bacteria salmonela ar y tu mewn neu ar eu plisgyn, felly mae’n bwysig bod yn ofalus wrth eu trin a’u defnyddio. Gall salmonela achosi afiechydon difrifol iawn, yn enwedig mewn plant ifanc, merched beichiog, oedolion hŷn, a’r rheiny sydd â chyflwr iechyd isorweddol (er enghraifft, canser, diabetes, neu glefyd yr afu neu’r arennau). Mewn achosion difrifol, gall gwenwyn bwyd oherwydd salmonela ladd.

Caffael wyau’n ddiogel

Dylai arlwywyr bob amser brynu wyau gan gyflenwyr ag enw da, sy’n gallu olrhain a dangos tarddiad eu cynnyrch.

Oherwydd y risg o salmonela, yr arfer orau yw prynu wyau ieir o’r DU. Dylai’r rhain ddod gan gyflenwr ag enw da sy’n defnyddio wyau o ieir sydd wedi’u brechu yn erbyn salmonela. Mae hyn yn lleihau’r tebygolrwydd y bydd salmonela y tu mewn i’r wyau maen nhw’n eu cynhyrchu neu ar y plisg.

Pan fydd eich dosbarthiad wyau’n cyrraedd, dylech chi gynnal gwiriad ar hap o ansawdd yr wyau. Dylech chi wrthod wyau sydd wedi’u difrodi, sy’n fudr neu sydd ddim yn cyrraedd y safon ofynnol. Mae hyn oherwydd y gallai baw neu facteria fod wedi mynd i mewn i’r wyau a all olygu risg uwch o salmonela.

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn ystyried bod wyau sydd wedi’u cynhyrchu o dan gynlluniau sicrwydd Cod y Llew Prydeinig (‘British Lion’) neu ‘Laid in Britain’ yn peri risg isel iawn o salmonela. Mae’r risg bod yr wyau hyn wedi’u halogi yn isel iawn, ond ni ellir gwarantu hyn yn gyfan gwbl. Mae hyn yn wahanol i risg ‘ddibwys’, sy’n golygu bod y risg mor isel fel nad oes diben ystyried y peth.

Mae babanod, plant ifanc, merched beichiog, oedolion hŷn, a’r rhai sy’n sâl yn gallu bwyta wyau ieir amrwd neu wedi’u coginio’n ysgafn, neu fwydydd sy’n eu cynnwys, yn ddiogel os oes ganddyn nhw farc y Llew Prydeinig neu os ydyn nhw wedi cael eu cynhyrchu o dan gynllun sicrwydd wyau ‘Laid in Britain’.

Mae’n amhosib gwarantu bod unrhyw wy yn rhydd rhag salmonela, dim ots o ble mae’r wy wedi dod na beth yw’r brand. Dylid sicrhau arferion trin bwyd a hylendid da bob amser, felly.

Prydau bwyd sy’n cynnwys wyau ieir amrwd neu wyau sydd wedi’u coginio’n ysgafn

Dylid cymryd gofal ychwanegol wrth baratoi neu weini bwydydd sy’n cynnwys wyau amrwd neu wyau sydd wedi’u coginio’n ysgafn, gan gynnwys wyau â melynwy rhedegog, mayonnaise ffres, mousses, soufflés a phrydau tebyg.

Os ydych chi’n paratoi bwydydd sy’n cynnwys wyau amrwd neu wyau sydd wedi’u coginio’n ysgafn a’ch bod yn debygol o fod yn gweini pobl a allai fod yn fwy agored i heintiau, dylech chi ddefnyddio wyau sydd wedi’u cynhyrchu o dan gynlluniau sicrwydd Cod y Llew Prydeinig neu ‘Laid in Britain’.

Os na allwch chi gadarnhau bod wyau’n cael eu cynhyrchu o dan y naill gynllun sicrwydd na’r llall, dylech chi sicrhau bod prydau ag wyau ynddyn nhw’n cael eu coginio’n drylwyr neu eu paratoi gan ddefnyddio cynhyrchion wyau wedi’u pasteureiddio.

Gweini defnyddwyr agored i niwed

Pwysig: Nid yw’r cyngor hwn yn berthnasol i bobl sydd â system imiwnedd wan iawn ac sydd angen deietau dan oruchwyliaeth feddygol. Dylid ceisio cyngor meddygol bob tro wrth baratoi bwyd i’r unigolion hyn.

Dylai arlwywyr feddwl am y bobl maen nhw’n paratoi bwyd ar eu cyfer ac ystyried a allai unrhyw ddefnyddwyr fod yn fwy agored i heintiau. Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth baratoi bwydydd sy’n cynnwys wyau amrwd neu wyau sydd wedi’u coginio’n ysgafn.

Mae pobl a allai fod yn fwy agored i heintiau yn cynnwys babanod, plant ifanc, merched beichiog ac oedolion hŷn.

Os ydych chi’n gweini bwydydd sy’n cynnwys wyau amrwd neu wyau sydd wedi’u coginio’n ysgafn i’r grwpiau hyn, dylid defnyddio wyau sydd wedi’u cynhyrchu o dan gynlluniau sicrwydd Cod y Llew Prydeinig neu ‘Laid in Britain’.

Os na allwch chi gadarnhau bod wyau’n cael eu cynhyrchu o dan y naill gynllun sicrwydd na’r llall, dylech chi sicrhau bod prydau ag wyau ynddyn nhw’n cael eu coginio’n drylwyr neu eu paratoi gan ddefnyddio cynhyrchion wyau wedi’u pasteureiddio.

Gweini pobl sy’n iach

Mae pobl iach (hynny yw, pobl sydd ddim yn agored i niwed wrth ddal heintiau) yn annhebygol o brofi gwenwyn bwyd wrth fwyta wyau ieir y DU yn amrwd neu wedi’u coginio’n ysgafn, pan ddaw’r wyau hynny o heidiau sydd wedi’u brechu yn erbyn salmonela.

Trin a storio wyau’n ddiogel

Gall bacteria fod yn bresennol ar blisg wyau yn ogystal ag y tu mewn i’r wy. Gall y bacteria hyn ledaenu i fwydydd, dwylo, offer cegin ac arwynebau gwaith. Mae’r rhestr ganlynol yn cynnwys awgrymiadau i leihau’r risg o groeshalogi ac osgoi lledaenu bacteria wrth drin wyau:

  • golchwch a sychwch eich dwylo’n drylwyr cyn ac ar ôl trin wyau, plisg wyau a deunydd pecynnu wyau
  • glanhewch a diheintiwch arwynebau ac offer ar ôl trin wyau
  • cadwch wyau ar wahân i fwydydd eraill, pan fyddan nhw’n dal i fod yn y plisgyn a phan fyddwch chi wedi’u cracio ar agor
  • storiwch wyau mewn man oer a sych, yn ddelfrydol yn yr oergell, tan i chi eu defnyddio nhw
  • cadwch fannau storio’n lân drwy eu cynnal a’u cadw’n rheolaidd
  • peidiwch â defnyddio wyau y tu hwnt i’w dyddiad ‘ar ei orau cyn’ (‘best before’)
  • peidiwch â defnyddio wyau sydd wedi cracio, wedi’u difrodi neu sy’n fudr
  • gwaredwch blisg wyau ar unwaith a glanhewch arwynebau’n drylwyr
  • cymerwch ofal i beidio â thasgu wy amrwd ar fwydydd, arwynebau neu brydau eraill
  • gwnewch eich holl waith ag wyau amrwd ar un adeg
  • gweinwch brydau sydd ag wyau ynddyn nhw ar unwaith, neu oerwch nhw’n gyflym a’u cadw nhw’n oer

Am gyngor pellach, cyfeiriwch at y dudalen Hylendid bwyd ar gyfer busnesau ar GOV.UK.

Defnyddio wyau wedi’u cymysgu ymlaen llaw

Os byddwch chi’n cracio wyau i’w defnyddio’n ddiweddarach, cadwch yr wy hylifol yn yr oergell, tynnwch symiau bach allan yn ôl yr angen, a defnyddiwch y cymysgedd cyn gynted â phosib. Defnyddiwch yr holl wy hylifol hwn sydd wedi’i ‘gymysgu ymlaen llaw’ ar yr un diwrnod, a pheidiwch ag ychwanegu wyau newydd ar ei ben.

Cynhyrchion wy wedi’u pasteureiddio

Mae cynhyrchion wy wedi’u pasteureiddio yn addas ar gyfer bwydydd fydd ddim yn cael eu coginio neu a fydd ond yn cael eu coginio’n ysgafn. Maen nhw ar gael yn gyffredin fel gwynnwy, melynwy neu wy cyfan hylifol wedi’i oeri, yn ogystal â chynhyrchion wy rhew a phowdr. Yn aml, mae mayonnaise a chynhyrchion tebyg a gaiff eu cynhyrchu’n fasnachol yn cael eu gwneud ag wy wedi’i basteureiddio. Gall defnyddio cynhyrchion wy wedi’u pasteureiddio helpu i leihau risgiau diogelwch bwyd wrth baratoi bwydydd sy’n cynnwys wyau amrwd neu wyau sydd wedi’u coginio’n ysgafn.

Wyau hwyaid, gwyddau, a soflieir (‘quail’)

Mae’r risg o salmonela yn uwch mewn wyau sy’n dod o rywogaethau heblaw ieir, felly ddylech chi ddim eu defnyddio i baratoi prydau sy’n cynnwys wyau amrwd neu wyau sydd wedi’u coginio’n ysgafn. Dylech chi goginio’r fath wyau’n drylwyr bob amser cyn eu gweini.

Rhestr wirio diogelwch wyau

  • Prynwch wyau gan gyflenwyr ag enw da
  • Peidiwch â derbyn na defnyddio wyau sydd wedi’u difrodi neu sy’n fudr
  • Dilynwch arferion hylendid da
  • Oerwch wyau lle bo modd
  • Peidiwch â defnyddio wyau y tu hwnt i’w dyddiad ‘ar ei orau cyn’
  • Cymerwch ofal ychwanegol â phrydau sy’n cynnwys wyau amrwd neu wyau sydd wedi’u coginio’n ysgafn
  • Cadwch mewn cof bob amser i bwy rydych chi’n coginio, yn enwedig os oes risg y gallai eich defnyddwyr fod yn agored i niwed
  • Defnyddiwch wyau wedi’u pasteureiddio, neu wyau sydd wedi’u cynhyrchu o dan gynlluniau sicrwydd Cod y Llew Prydeinig neu ‘Laid in Britain’, wrth weini defnyddwyr agored i niwed
  • Cadwch wy hylifol sydd wedi’i gymysgu ymlaen llaw yn yr oergell tan i chi ei ddefnyddio – peidiwch byth ag ychwanegu wyau newydd, a defnyddiwch y cymysgedd ar yr un diwrnod
  • Coginiwch wyau sydd heb ddod o ieir yn drylwyr bob amser
  • Gweinwch brydau sydd ag wyau ynddyn nhw ar unwaith, neu oerwch nhw’n gyflym a’u cadw nhw’n oer

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 14 Awst 2026

Argraffu'r dudalen hon