Skip to main content
Ymchwil a dadansoddi

Mewnwelediadau i berfformiad y diwydiant dŵr: adroddiad rheoleiddiwr ar y cyd

Cyhoeddwyd 29 Hydref 2026

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Crynodeb gweithredol

Mae dŵr yn berthnasol i bob agwedd ar fywyd bob dydd. Mae pobl yn dibynnu ar gwmnïau dŵr i ddarparu dŵr yfed glân a diogel bob dydd, i gadw gwasanaethau’n wydn yn ystod sychder, ac i warchod afonydd ac arfordiroedd pan fydd yn glawio’n drwm. Gall pethau fynd o chwith – prif bibell ddŵr yn byrstio, digwyddiad llygredd, neu darfu ar y cyflenwad dŵr. Yna mae pobl, yn briodol, yn disgwyl i gamau gael eu cymryd yn gyflym, ac yn disgwyl gonestrwydd, atebolrwydd, a buddsoddiad wedi’i dargedu i ddatrys y broblem a’i hatal rhag digwydd eto. Pwrpas rheoleiddwyr yw sicrhau bod cwmnïau’n bodloni’r disgwyliadau hynny ac yn cael eu dwyn i gyfrif am y gwasanaethau a ddarperir i gwsmeriaid, cymunedau a’r amgylchedd.

Am y tro cyntaf, mae’r Arolygiaeth Dŵr Yfed, Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Ofwat wedi cyfuno ein tystiolaeth mewn dull cydlynol. Yn yr adroddiad hwn, rydym yn darparu un trosolwg o ansawdd dŵr yfed, perfformiad amgylcheddol a gwasanaeth cwsmeriaid ar gyfer Cymru a Lloegr. Ein nod yw bod yr adroddiad yn helpu pobl, buddsoddwyr, cymunedau a Llywodraethau’r DU a Chymru i ddeall y ffyrdd y mae’r sector yn gwella a ble mae angen gweithredu ymhellach.

Mae’r darlun presennol o berfformiad yn gymysg, ond mae cryfderau pwysig i adeiladu arnynt. Mae ansawdd dŵr yfed yn parhau i fod ymhlith y gorau yn y byd, ac mae 99.97% o brofion yn bodloni’r safonau gofynnol. Mae’r sector yn cyflawni hyn drwy fabwysiadu dull rhagweithiol sy’n seiliedig ar risg o ddiogelu iechyd y cyhoedd. Hefyd bu llai o achosion o lifogydd carthffosydd mewn cartrefi a gostyngiadau hirdymor yn nifer y gollyngiadau. Mae’r gwelliannau hyn yn dangos bod cynnydd yn bosibl ac yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer y dyfodol.

Ar yr un pryd, mae angen i rai cwmnïau wella, a rhaid i gyflymder y cynnydd a wneir gynyddu. Mae newid sylweddol o ran y gwaith monitro a sicrwydd a wnaed gan reoleiddwyr wedi golygu bod gennym ddarlun cliriach bellach o ble mae problemau’n codi. Mae gormod o ddigwyddiadau llygredd ac achosion o dorri amodau trwyddedau amgylcheddol o hyd. Mae oedi hefyd wrth gyflawni gwelliannau amgylcheddol a ariennir. Mae rhai cwsmeriaid yn parhau i brofi tarfiadau hirhoedlog ar eu cyflenwad. Materion yw’r rhain y gall cwmnïau wneud cynnydd cyflym mewn perthynas â nhw trwy reolaeth weithredol gryfach, arferion cynnal a chadw sy’n seiliedig ar wybodaeth, gwell rheolaeth ar asedau, a ffocws ar gyflawni canlyniadau.

Pan fydd perfformiad yn waeth na ddylai fod, byddwn yn parhau i weithredu yn unol â’n cyfrifoldebau deddfwriaethol unigol presennol. Mae hyn yn cynnwys cosbau ariannol, camau gorfodi, a gofynion i gwmnïau ddatblygu a chyflawni cynlluniau gwella. Byddwn yn cefnogi cwmnïau sy’n gwella, ac yn herio’r rhai nad ydynt yn gwella, gan ddefnyddio ein hystod lawn o offer rheoleiddio pan fo angen gweithredu ymhellach.

Mae cyfle sylweddol i’r diwydiant nawr, a sylfaen gref ar gyfer magu hyder, os yw cwmnïau’n canolbwyntio ar gyflawni. Mae cynlluniau i wario mwy na £104 biliwn rhwng 2025 a 2030, yn cynnwys buddsoddiad i adnewyddu seilwaith a gwella gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff. Mae maint y buddsoddiad hwn yn creu cyfle i gyflawni’n gyflymach, defnyddio data yn well, arloesi, a llunio datrysiadau mwy targedig i broblemau gweithredol hirhoedlog. Mae’n dal yn ddigon cynnar yn y cyfnod buddsoddi i gwmnïau droi cynlluniau’n gynnydd pendant, gwella perfformiad, a chryfhau hyder y cyhoedd a buddsoddwyr. Bydd ein ffocws parhaus ar fuddsoddiad sy’n cynnig gwerth am arian ac yn diogelu cwsmeriaid rhag talu am berfformiad gwael. Bydd llwyddiant yn golygu bod dŵr yfed yn parhau i fod yn ddiogel ac o ansawdd uchel, amgylchedd iachach, asedau mwy gwydn, a gwerth am arian gwell i gwsmeriaid a chymunedau.

Mae Llywodraethau’r DU a Chymru wedi amlinellu rhaglen unwaith mewn cenhedlaeth i drawsnewid y system ddŵr, gan awgrymu y bydd symudiad tuag at ddull mwy integredig o reoleiddio dŵr. Mae’r adroddiad ar y cyd hwn yn gam cyntaf pwysig tuag at fwy o gydweithio ac mae’n rhan o’n gwaith ehangach i gefnogi’r newid yng Nghymru a Lloegr. Yn y cyfnod interim hwn, mae gan bob rheoleiddiwr gyfrifoldebau deddfwriaethol penodol o hyd ac felly maent yn parhau i gynhyrchu adroddiadau unigol ac annibynnol ar berfformiad y sector. Rydym yn unfrydol o ran ein hymrwymiad i gydweithio fel rheoleiddwyr, a chyda’r diwydiant, i wella perfformiad, ailadeiladu ymddiriedaeth y cyhoedd, a magu hyder hirdymor buddsoddwyr.

1. Cyflwyniad

1.1 Ynglŷn â’r adroddiad hwn

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi trosolwg clir a hygyrch o berfformiad y diwydiant dŵr yng Nghymru a Lloegr, gan ddod â data rheoleiddwyr a mewnwelediadau o’n cyhoeddiadau unigol diweddaraf ynghyd. Fe’i datblygwyd ar y cyd i roi golwg ar berfformiad mewn meysydd allweddol yr ydym yn eu hystyried eu bod yn bwysig i’r cyhoedd a rhanddeiliaid.

Mae’r adroddiad hwn yn defnyddio data perfformiad ar gyfer blwyddyn galendr 2025 a’r flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2026. Mae’r atodiad i’r adroddiad hwn yn rhestru’r mathau o ddata sydd wedi’u cynnwys a’r cyfnod y mae’n berthnasol iddo. Drwy gydol yr adroddiad, pan ddefnyddir ‘cyfartaledd y diwydiant’, rydym yn cyfeirio at y cymedr, ar draws Cymru a Lloegr, oni nodir yn wahanol. O ganlyniad, gall cyfartaledd y diwydiant ymddangos yn wahanol i’r cyfartaleddau yn rhai o’n hadroddiadau cyhoeddedig unigol gan fod y cyfartaleddau hynny ar gyfer Cymru yn unig neu Loegr yn unig.

1.2. Amdanom ni

Mae perfformiad y diwydiant dŵr yng Nghymru a Lloegr yn cael ei oruchwylio gan bedwar rheoleiddiwr: yr Arolygiaeth Dŵr Yfed, Asiantaeth yr Amgylchedd, , Cyfoeth Naturiol Cymru ac Ofwat. Rydym yn asesu perfformiad yn erbyn rheoliadau, caniatadau, ymrwymiadau allweddol, a risgiau sy’n dod i’r amlwg drwy waith monitro, asesu a dadansoddi, ac adroddiadau tryloyw. Pan fydd cwmnïau’n methu â bodloni eu dyletswyddau neu ddim yn cyflawni ein disgwyliadau o ran perfformiad, rydym yn eu dwyn i gyfrif, gan gymryd camau priodol a’u herio i fynd i’r afael â’r meysydd hyn. Gweler adroddiadau ein rheoleiddwyr unigol am ragor o wybodaeth am y camau sy’n cael eu cymryd.

Rheoleiddio dŵr yfed

Yr Arolygiaeth Dŵr Yfed.  Mae dyletswyddau yn cynnwys:​

  • rheoleiddio diogelwch, ansawdd, digonolrwydd a phrofion dŵr yfed
  • gorfodi rheoliadau ansawdd dŵr yfed statudol
  • rheoleiddio mesurau diogelwch ac argyfwng, a seiberddiogelwch

Rheoleiddio amgylcheddol​

Asiantaeth yr Amgylchedd ar gyfer Lloegr a Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer Cymru.  Mae dyletswyddau yn cynnwys:​

  • gwarchod afonydd, llynnoedd, aberoedd, dŵr daear a dyfroedd arfordirol
  • gorfodi cyfraith amgylcheddol a monitro cydymffurfedd yn erbyn gweithgareddau trwyddedig
  • monitro ac asesu perfformiad amgylcheddol cwmnïau dŵr
  • sicrhau cyflenwad diogel o ddŵr, gan gynnwys rheoli cyfnodau o sychder a chynllunio aml-sector

Rheoleiddio economaidd

Ofwat, yr Awdurdod Rheoleiddio Gwasanaethau Dŵr.  Mae dyletswyddau yn cynnwys:​

  • diogelu buddiannau defnyddwyr, pryd bynnag y bo’n briodol, drwy hyrwyddo cystadleuaeth
  • sicrhau bod y cwmnïau dŵr yn cyflawni eu swyddogaethau’n iawn
  • sicrhau bod y cwmnïau dŵr yn gallu ariannu eu swyddogaethau

2. Trosolwg o’r diwydiant dŵr

2.1 Trosolwg

Bob dydd, mae cartrefi a busnesau yng Nghymru a Lloegr yn cael gwasanaethau dŵr, glanweithdra a draenio. Darperir y gwasanaethau hyn gan gwmnïau preifat.

Mae 11 o gwmnïau dŵr a charthffosiaeth. Maent yn darparu gwasanaethau cyflenwi dŵr a dŵr gwastraff (carthffosiaeth). Gyda’i gilydd, maent yn gwasanaethu dros 62 miliwn o bobl.

Mae chwe chwmni dŵr yn unig. Maent yn darparu dŵr yfed glân. Gyda’i gilydd, maent yn gwasanaethu dros 11 miliwn o bobl.

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi trosolwg o berfformiad yr 17 cwmni hyn. Gyda’i gilydd maent yn gwneud y canlynol:

  • cyflenwi dros 15 biliwn litr o ddŵr y dydd (y mae tua 60% o’r cyflenwad hwn yn cael ei ddefnyddio mewn cartrefi, sef 137 litr y pen y dydd ar gyfartaledd)
  • gweithredu dros 1,000 o weithfeydd trin dŵr a rhwydwaith dosbarthu dŵr sydd tua 350,000 km o hyd
  • gweithredu dros 6,200 o weithfeydd trin carthion a rhwydwaith carthffosydd sydd tua 575,000 km o hyd

Mae yna hefyd dros 546,000 o bobl sy’n cael eu gwasanaethau dŵr neu garthffosiaeth gan 10 cwmni a elwir yn benodiadau ac amrywiadau newydd. Nid yw perfformiad y cwmnïau hyn wedi’i gynnwys yn yr adroddiad hwn. Am berfformiad ansawdd dŵr yfed y cwmnïau hyn, ewch i: Dŵr Yfed 2025 – Crynodeb o adroddiad y Prif Arolygydd ar gyfer dŵr yfed yn Lloegr – yr Arolygiaeth Dŵr Yfed.

I ddod o hyd i’ch cyflenwyr dŵr a dŵr gwastraff, ewch i: Dod o hyd i’ch cyflenwr – Water UK.

Ffigur 1. Ardaloedd gweithredu gwasanaethau cyflenwi dŵr

Ffigur 2. Ardaloedd gweithredu gwasanaethau carthffosiaeth

2.2 Perfformiad y diwydiant dŵr

Mae ein hadroddiad ar y cyd ar berfformiad y diwydiant dŵr yn dangos, er bod cwmnïau’n parhau i wella mewn sawl maes, fod perfformiad mewn perthynas â rhai meysydd hanfodol yn parhau i fod islaw’r safonau disgwyliedig.

Mae ein hasesiadau diweddaraf o ddata cwmnïau dŵr yn dangos y canlynol:

  • gall defnyddwyr fod yn hyderus bod eu dŵr yn ddiogel i’w yfed oherwydd bod ansawdd dŵr yfed yn parhau i fod yn eithriadol o uchel, ac mae ymhlith y gorau yn fyd-eang – mae cyflenwadau dŵr cyhoeddus yn cydymffurfio â safonau rheoleiddio mewn 99.97% o brofion ar draws o gwmpas 4 miliwn o samplau
  • bod chwe chwmni yn ddarostyngedig i raglen trawsnewid dŵr yfed ffurfiol sy’n nodi ac yn mynd i’r afael ag achosion sylfaenol risgiau posibl i ansawdd a digonolrwydd dŵr – bydd hyn yn helpu i reoli risgiau cynyddol ac amddiffyn cyflenwadau dŵr ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol
  • bod cwsmeriaid wedi profi tarfiadau byrrach ar eu cyflenwad dŵr, gyda pherfformiad canolrifol y diwydiant yn gwella a phedwar cwmni wedi lleihau hyd tarfiadau dros 50%. Fodd bynnag, mae tarfiadau i gyflenwadau rhai cwmnïau yn parhau i fod ar lefelau annerbyniol, gan arwain at darfu parhaus, yn enwedig i’r rhai sy’n byw, yn gweithio neu’n ymweld â’r ardal yr effeithir arni
  • bod boddhad cwsmeriaid ar gyfartaledd yn parhau i ostwng, er bod rhai cwmnïau wedi gallu cynnal perfformiad da. Ehangodd y bwlch rhwng y cwmnïau â’r perfformiad uchaf a’r isaf yn sylweddol
  • er bod rhai cwmnïau wedi sicrhau gostyngiadau sylweddol, mae angen i bob cwmni barhau i gyflawni gostyngiadau pellach o ran gollyngiadau. Mae gwastraffu dŵr wedi’i drin yn ei gwneud yn anoddach bodloni’r galw ac yn effeithio’n negyddol ar yr amgylchedd
  • bod defnydd aelwydydd yn parhau i fod yn debyg i’r flwyddyn flaenorol, sef 137.3 litr y pen y dydd
  • bod bron pob cwmni wedi lleihau digwyddiadau llifogydd carthffosydd mewnol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan helpu i gyflawni gwelliant o 43% ar draws y diwydiant. Mae hyn yn golygu bod llai o gwsmeriaid wedi profi’r gofid a’r difrod i eiddo a achosir gan lifogydd carthffosydd yn eu cartrefi
  • bod nifer y digwyddiadau llygredd (2,991) yn parhau i fod yn uchel, yn enwedig digwyddiadau llygredd difrifol (84) sy’n achosi niwed amgylcheddol sylweddol
  • bod cwmnïau wedi cwblhau 93.7% o’r camau gweithredu angenrheidiol ar gyfer gwella’r amgylchedd a osodwyd arnynt. Gallai eu methiant i gyflawni 142 o’r 2,254 o gamau gweithredu a gynlluniwyd arwain at effeithiau ar yr amgylchedd a pheri risgiau ehangach i dwf cynaliadwy
  • bod cwmnïau wedi llwyddo i ddefnyddio a gwaredu slwtsh carthion yn foddhaol 99.99% o’r amser – mae rheoli slwtsh yn foddhaol yn gwarchod tir, afonydd a dŵr daear rhag llygredd

Gweler yr adrannau canlynol am wybodaeth ynglŷn â pherfformiad eich cwmni dŵr.

3. Affinity Water

Trosolwg o’r cwmni

Mae Affinity Water:

  • yn gwmni dŵr yn unig
  • yn gwasanaethu dros 4.1 miliwn o bobl
  • yn cyflenwi cyfartaledd o 964 megalitr o ddŵr y dydd
  • wedi ymrwymo i fuddsoddi tua £2.3 biliwn rhwng 2025 a 2030

Myfyrdodau cryno

Mae dŵr yfed Affinity Water o safon eithriadol, gan roi hyder i ddefnyddwyr bod eu cyflenwad yn ddiogel. Mae gan y cwmni hefyd un o’r cyfraddau isaf yn y diwydiant ar gyfer cysylltiadau oddi wrth ddefnyddwyr ynghylch afliwiad. Er bod perfformiad mewn perthynas â tharfiadau ar gyflenwad dŵr yr adroddwyd amdanynt wedi dirywio, mae’r cwmni’n dal i fod yn un o’r perfformwyr gorau yn y diwydiant. Mae cynnal cyflenwad dŵr cyson yn lleihau aflonyddwch i gwsmeriaid.

Mae perfformiad amgylcheddol y cwmni yn gadarnhaol ar y cyfan. Mae wedi cyflawni’r holl gamau gwella amgylcheddol a gynlluniwyd ar amser. Mae hyn yn helpu i wella’r amgylchedd lleol, yn y tymor byr a’r hirdymor, ac yn galluogi twf cynaliadwy. Mae ei gyfradd uchel o hunan-adrodd am ddigwyddiadau llygredd yn dangos ymrwymiad cryf i dryloywder a rheoli digwyddiadau yn effeithiol, gan alluogi ymyrraeth gyflym pan fo angen. Er bod cynnal y lefel uchel hon o hunan-adrodd yn bwysig, mae ffocws parhaus ar atal digwyddiadau llygredd yn parhau i fod yn hanfodol er mwyn gwella perfformiad amgylcheddol ymhellach.

Er bod y gollyngiadau yr adroddir amdanynt fesul eiddo yn well na chyfartaledd y diwydiant, mae defnydd dŵr aelwydydd ymhlith yr uchaf yn y diwydiant. Mae nifer o ollyngiadau’r cwmni hefyd wedi cynyddu ychydig o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Mae angen i’r cwmni gymryd camau i leihau’r lefelau hyn er mwyn sicrhau bod digon o ddŵr i ddiwallu’r galw yn y dyfodol a gwarchod yr amgylchedd. Mae cwsmeriaid yn parhau i nodi lefelau cymharol isel o foddhad o’i gymharu â chwmnïau eraill yn y diwydiant. Dylai’r cwmni wella rhyngweithiadau â chwsmeriaid a’r profiad cyffredinol.

Perfformiad ar yr olwg gyntaf

Mae ein hasesiadau diweddaraf o ddata Affinity Water yn dangos y canlynol:

  • bod 99.98% o brofion yn cydymffurfio â safonau dŵr yfed
  • bod 0.17 defnyddiwr fesul pob 1,000 o ddefnyddwyr yn cysylltu â ni i roi gwybod am afliwio, sy’n well na chyfartaledd y diwydiant, sef 0.51 defnyddiwr
  • bu 39 o ddigwyddiadau llygredd, ac roedd dim ohonynt wedi’u dosbarthu fel rhai difrifol. Roedd 97% o’r digwyddiadau yn ddigwyddiadau hunanadroddedig
  • bod 100% o’r camau i wella’r amgylchedd wedi’u cwblhau (2) o fewn y terfynau amser a luniwyd ar eu cyfer
  • gollyngwyd 93.4 litr fesul eiddo bob dydd, sy’n gwell na chyfartaledd y diwydiant, sef 104.5 litr. Ond roedd hyn yn cynrychioli cynnydd o 0.7% yn y cyfanswm o ddŵr a ollyngwyd o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol
  • bod aelwydydd yn defnyddio 154.5 litr o ddŵr y pen y dydd, sy’n waeth na chyfartaledd y diwydiant, sef 137.3 litr
  • bu dirywiad yn y perfformiad o ran tarfu ar y cyflenwad dŵr. Roedd y nifer cyfartalog o funudau heb gyflenwad dŵr fesul eiddo wedi cynyddu 37% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol
  • bod y cwmni yn y trydydd safle ar ddeg allan o 17 o gwmnïau dŵr o ran boddhad cwsmeriaid, sef yr un safle â’r flwyddyn flaenorol

4. Anglian Water

Trosolwg o’r cwmni

Mae Anglian Water:

  • yn gwmni dŵr a charthffosiaeth
  • yn gwasanaethu dros 6.7 miliwn o bobl
  • yn cyflenwi 1,188 megalitr o ddŵr y dydd ar gyfartaledd
  • wedi ymrwymo i fuddsoddi tua £11.2 biliwn rhwng 2025 a 2030

Myfyrdodau cryno

Mae ansawdd dŵr yfed Anglian Water yn parhau i fod yn eithriadol o dda, a gall defnyddwyr fod yn hyderus bod eu dŵr yn ddiogel i’w yfed. Mae’r cwmni hefyd wedi cyflawni’r holl gamau angenrheidiol i wella’r amgylchedd erbyn y terfynau amser a gynlluniwyd ar eu cyfer. Mae cwblhau’r gwelliannau hyn mewn pryd yn helpu i wella’r amgylchedd lleol, yn y tymor byr a’r hirdymor, ac yn galluogi twf cynaliadwy. Mae perfformiad y cwmni ymhlith y gorau yn y diwydiant ar gyfer llifogydd carthffosydd mewnol, gan leihau aflonyddwch i gwsmeriaid. Mae cwsmeriaid hefyd yn parhau i nodi lefelau cymharol uchel o foddhad o’i gymharu â chwmnïau eraill yn y diwydiant. Dylai’r cwmni barhau i gynnal rhyngweithiadau cadarnhaol â chwsmeriaid a phrofiad cyffredinol da i gwsmeriaid.

Fodd bynnag, mae angen gwella sawl maes yn ymwneud â pherfformiad amgylcheddol. Mae nifer yr achosion o lygredd yn parhau i fod yn uchel, gan gynnwys digwyddiadau difrifol sy’n achosi niwed sylweddol i’r amgylchedd. Er bod gan y cwmni lefelau uchel o hunan-adrodd, gan gefnogi ymyrraeth brydlon, mae angen mwy o ffocws ar atal digwyddiadau rhag digwydd yn y lle cyntaf. 

O’i gymharu â chyfartaledd y diwydiant, mae’r cwmni’n perfformio’n well o ran gollyngiadau fesul eiddo a defnydd dŵr aelwydydd. Fodd bynnag, mae’n nodi cynnydd amlwg yng nghyfanswm y gollyngiadau o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Mae angen i’r cwmni gymryd camau i leihau nifer y gollyngiadau er mwyn sicrhau bod digon o ddŵr i ddiwallu galw yn y dyfodol. Mae angen i’r cwmni hefyd wella perfformiad o ran tarfu ar y cyflenwad dŵr, er mwyn sicrhau bod gan gwsmeriaid gyflenwad dŵr dibynadwy.

Perfformiad ar yr olwg gyntaf

Mae ein hasesiadau diweddaraf o ddata Anglian Water yn dangos y canlynol:

  • bod 99.96% o brofion yn cydymffurfio â safonau dŵr yfed
  • bod 433 o ddigwyddiadau llygredd, gan gynnwys 12 a ddosbarthwyd fel rhai difrifol. Roedd 94% o’r digwyddiadau yn ddigwyddiadau hunanadroddedig
  • bod 100% o’r camau i wella’r amgylchedd wedi’u cwblhau (145) o fewn y terfynau amser a gynlluniwyd ar eu cyfer
  • gollyngwyd 92.1 litr fesul eiddo bob dydd, sy’n gwell na chyfartaledd y diwydiant, sef 104.5 litr. Ond roedd hyn yn cynrychioli cynnydd o 15.1% yn y cyfanswm o ddŵr a ollyngwyd o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol
  • bod aelwydydd yn defnyddio 123.3 litr o ddŵr y pen y dydd, sy’n well na chyfartaledd y diwydiant, sef 137.3 litr
  • bu dirywiad yn y perfformiad o ran tarfu ar y cyflenwad dŵr. Roedd y nifer cyfartalog o funudau heb gyflenwad dŵr fesul eiddo yn mwy na dwbl y flwyddyn flaenorol
  • bod nifer y llifogydd carthffosydd mewnol wedi lleihau 36% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol
  • bod y cwmni yn y pedwerydd safle allan o 17 o gwmnïau dŵr o ran boddhad cwsmeriaid, sef tri safle yn well o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol

5. Bristol Water

Trosolwg o’r cwmni

Mae Bristol Water:

  • yn gwmni dŵr yn unig
  • yn gwasanaethu dros 1.2 miliwn o bobl
  • yn cyflenwi 285 megalitr o ddŵr y dydd ar gyfartaledd
  • wedi ymrwymo i fuddsoddi tua £706 miliwn rhwng 2025 a 2030

Myfyrdodau cryno

Mae Bristol Water yn cyflenwi dŵr yfed o safon eithriadol o dda, felly gall defnyddwyr fod yn hyderus bod eu cyflenwad dŵr yn ddiogel. Mae gan y cwmni hefyd gyfraddau isel o ddefnyddwyr yn cysylltu ag ef mewn perthynas â phob maes dŵr yfed o’i gymharu â chyfartaledd y diwydiant, gan amlygu bod gan ddefnyddwyr lawer o hyder yn y cwmni a’i fod yn rheoli risg yn dda. Mae cwsmeriaid yn parhau i nodi lefelau cymharol uchel o foddhad o’i gymharu â chwmnïau eraill yn y diwydiant. Dylai’r cwmni barhau i gynnal rhyngweithiadau cadarnhaol â chwsmeriaid a phrofiad cyffredinol da i gwsmeriaid.

Mae gan y cwmni y ffigur isaf o ran gollyngiadau fesul eiddo yn ôl ei adroddiadau, ac fe leihawyd cyfanswm y gollyngiadau yn sylweddol o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, mae angen i’r cwmni leihau faint o ddŵr y mae pob cartref yn ei ddefnyddio er mwyn sicrhau cyflenwadau a diogelu’r amgylchedd.

Mae’r cwmni wedi cofnodi un digwyddiad llygredd difrifol sy’n effeithio ar ddŵr ac mae angen iddo wella perfformiad i atal digwyddiadau pellach rhag achosi niwed sylweddol i’r amgylchedd. Mae ganddo lefelau uchel o hunan-adrodd am ddigwyddiadau llygredd, gan alluogi ymyrraeth ac ymateb amserol. Fodd bynnag, mae angen i’r cwmni barhau i ganolbwyntio ar fesurau ataliol i leihau nifer y digwyddiadau a lliniaru risgiau i’r amgylchedd dŵr.

Yn bryderus, bu bron pum gwaith cymaint o darfiadau ar y cyflenwad dŵr, sy’n golygu bod y cwmni’n un o’r perfformwyr gwaethaf yn y diwydiant. Mae angen i’r cwmni wella ei berfformiad i sicrhau cyflenwad dibynadwy i gwsmeriaid.

Perfformiad ar yr olwg gyntaf

Mae ein hasesiadau diweddaraf o ddata Bristol Water yn dangos y canlynol:

  • bod 99.97% o brofion yn cydymffurfio â safonau dŵr yfed
  • bod 0.38 defnyddiwr fesul pob 1,000 o ddefnyddwyr yn cysylltu i roi gwybod am flas, a 0.29 defnyddiwr fesul pob 1,000 o ddefnyddwyr yn cysylltu i roi gwybod am arogl. Mae’r cyfraddau hyn yn well na chyfartaleddau’r diwydiant o 0.51 a 0.32 yn y drefn honno
  • bu 31 o ddigwyddiadau llygredd, gan gynnwys un a ddosbarthwyd fel digwyddiad difrifol. Roedd 87% o’r digwyddiadau yn ddigwyddiadau hunanadroddedig
  • gollyngwyd 60.2 litr fesul eiddo bob dydd, sy’n gwell na chyfartaledd y diwydiant, sef 104.5 litr. Roedd hyn yn cynrychioli gostyngiad o 7.4% yn y cyfanswm o ddŵr a ollyngwyd o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol
  • bod aelwydydd yn defnyddio 153.8 litr o ddŵr y pen y dydd, sy’n waeth na chyfartaledd y diwydiant, sef 137.3 litr
  • bu dirywiad yn y perfformiad o ran tarfu ar y cyflenwad dŵr. Roedd y nifer cyfartalog o funudau heb gyflenwad dŵr fesul eiddo bron i bum gwaith yn uwch na’r flwyddyn flaenorol
  • bod y cwmni yn y pumed safle allan o 17 o gwmnïau dŵr o ran boddhad cwsmeriaid, sef yr un safle â’r flwyddyn flaenorol

6. Dŵr Cymru

Trosolwg o’r cwmni

Mae Dŵr Cymru:

  • yn gwmni dŵr a charthffosiaeth
  • yn gwasanaethu dros 3.1 miliwn o bobl
  • yn cyflenwi 864 megalitr o ddŵr y dydd ar gyfartaledd
  • wedi ymrwymo i fuddsoddi tua £6 biliwn rhwng 2025 a 2030

Myfyrdodau cryno

Mae dŵr yfed Dŵr Cymru yn ddiogel a gall defnyddwyr fod yn hyderus ei fod o ansawdd eithriadol. Mae’r cwmni’n parhau i berfformio’n dda ac mae wedi cyflawni ei holl gamau gweithredu ar gyfer gwella’r amgylchedd ar amser. Mae hyn yn helpu i wella’r amgylchedd lleol, yn y tymor byr a’r hirdymor, ac yn galluogi twf cynaliadwy. Mae wedi lleihau llifogydd carthffosydd mewnol, sy’n golygu llai o ddigwyddiadau sy’n effeithio ar gwsmeriaid ac eiddo. Mae cwsmeriaid yn nodi lefelau cymharol uchel o foddhad o’i gymharu â chwmnïau eraill yn y diwydiant.

Mae angen i’r cwmni wella ei berfformiad amgylcheddol ehangach. Mae gan y cwmni nifer uchel o ddigwyddiadau llygredd, yn enwedig rhai o natur ddifrifol. Cafodd cynnydd ei wneud o ran hunan-adrodd digwyddiadau ac mae angen cynnal hyn. Dylai flaenoriaethu mesurau i leihau nifer y digwyddiadau a rhoi gwybod am ddigwyddiadau’n amserol er mwyn hwyluso ymyrraeth gynnar ac atal digwyddiadau rhag gwaethygu.

Mae angen i’r cwmni leihau colledion dŵr a faint o ddŵr sy’n cael ei ddefnyddio gan aelwydydd er mwyn sicrhau cyflenwadau digonol a diogelu’r amgylchedd. Mae tarfiadau ar y cyflenwad dŵr yn parhau i fod yn bryder sylweddol, ac mae’r cwmni yn un o’r rhai sy’n perfformio’r gwaethaf yn y diwydiant o ran hynny. Mae angen iddo leihau nifer y tarfiadau i sicrhau bod gan gwsmeriaid gyflenwad dŵr dibynadwy.

Mae y rhan fwyaf o brofion dŵr yfed yn bodloni’r safonau gofynnol, fodd bynnag mae’n parhau i gofnodi’r nifer uchaf o gwsmeriaid yn cysylltu ag ef yn y maes hwn yn y diwydiant. Oherwydd hyn a meysydd eraill sy’n tanberfformio, mae gan y cwmni raglen drawsnewid ar waith gan yr Arolygiaeth Dŵr Yfed, wedi’i chynllunio i wella llywodraethiant, cydymffurfedd, a pherfformiad gweithredol.

Perfformiad ar yr olwg gyntaf

Mae ein hasesiadau diweddaraf o ddata Dŵr Cymru yn dangos y canlynol:

  • bod 99.97% o brofion yn cydymffurfio â safonau dŵr yfed
  • bod 1.64 defnyddiwr fesul pob 1,000 o ddefnyddwyr yn cysylltu i roi gwybod am flas, a 0.49 defnyddiwr fesul pob 1,000 o ddefnyddwyr yn cysylltu i roi gwybod am arogl. Mae’r cyfraddau hyn yn waeth na chyfartaleddau’r diwydiant o 0.51 a 0.32 yn y drefn honno
  • bu 162 o ddigwyddiadau llygredd, gan gynnwys naw a ddosbarthwyd fel rhai difrifol. Roedd 78% o’r digwyddiadau yn ddigwyddiadau hunanadroddedig
  • bod 100% o’r camau i wella’r amgylchedd wedi’u cwblhau (452) o fewn y terfynau amser a luniwyd ar eu cyfer
  • gollyngwyd 156.4 litr fesul eiddo bob dydd, sy’n waeth na chyfartaledd y diwydiant, sef 104.5 litr. Ond roedd hyn yn cynrychioli gostyngiad o 0.39% yn y cyfanswm o ddŵr a ollyngwyd o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol
  • bod aelwydydd yn defnyddio 150.6 litr o ddŵr y pen y dydd, sy’n waeth na chyfartaledd y diwydiant, sef 137.3 litr
  • bu gwelliant yn y perfformiad o ran tarfu ar y cyflenwad dŵr. Roedd nifer y munudau cyfartalog heb gyflenwad dŵr fesul eiddo wedi gostwng 40% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol
  • bod nifer y llifogydd carthffosydd mewnol wedi lleihau 3% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol
  • bod y cwmni yn y chweched safle allan o 17 o gwmnïau dŵr o ran boddhad cwsmeriaid, sef tri safle yn waeth o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol

7. Hafren Dyfrdwy

Trosolwg o’r cwmni

Mae Hafren Dyfrdwy:

  • yn gwmni dŵr a charthffosiaeth
  • yn gwasanaethu dros 200,000 o bobl
  • yn cyflenwi 61 megalitr o ddŵr y dydd ar gyfartaledd
  • wedi ymrwymo i fuddsoddi tua £266 miliwn rhwng 2025 a 2030

Myfyrdodau cryno

Mae Hafren Dyfrdwy yn parhau i ddarparu dŵr yfed o ansawdd eithriadol o dda a gall defnyddwyr fod yn hyderus bod eu dŵr yfed yn ddiogel. Mae perfformiad y cwmni ymhlith y gorau yn y diwydiant ar gyfer llifogydd carthffosydd mewnol, gan leihau aflonyddwch i gwsmeriaid. Mae’r cwmni hefyd yn perfformio’n dda yn amgylcheddol, ac mae ganddo niferoedd isel cyson o ddigwyddiadau llygredd a dim digwyddiadau difrifol. Mae’r holl gamau gwella arfaethedig wedi’u cyflawni ar amser, sy’n helpu i wella’r amgylchedd lleol, yn y tymor byr a’r hirdymor, ac yn galluogi twf cynaliadwy.

Mae gostyngiad wedi bod yn nifer yr achosion o darfu ar y cyflenwad dŵr. Mae angen i’r cwmni barhau i wella ei berfformiad er mwyn lleihau aflonyddwch a sicrhau bod gan gwsmeriaid gyflenwad dŵr dibynadwy. O’i gymharu â chyfartaledd y diwydiant, mae’r cwmni’n perfformio’n well o ran defnydd dŵr gan aelwydydd. Fodd bynnag, mae cyfanswm y dŵr a gollwyd wedi gwaethygu, ac mae angen i’r cwmni ei leihau er mwyn sicrhau bod digon o gyflenwadau dŵr ar gael i ddiwallu’r galw yn y dyfodol.

Mae wedi cofnodi ar y cyd yr ail gyfradd uchaf yn y diwydiant o ddefnyddwyr yn cysylltu oherwydd blas ac arogl. Er nad yw’r materion hyn fel arfer yn cynrychioli risg i iechyd y cyhoedd, gallant effeithio ar hyder a boddhad defnyddwyr. Dylai’r cwmni barhau i ganolbwyntio ar ddeall achosion sylfaenol y cysylltiadau hyn er mwyn gwella profiad defnyddwyr a chynnal hyder mewn gwasanaethau dŵr yfed. Mae cwsmeriaid yn nodi lefelau boddhad sy’n fras yr un fath â chwmnïau eraill yn y diwydiant. Fodd bynnag, dylai’r cwmni wneud mwy i wella rhyngweithiadau â chwsmeriaid a’r profiad cyffredinol.

Perfformiad ar yr olwg gyntaf

Mae ein hasesiadau diweddaraf o ddata Hafren Dyfrdwy yn dangos y canlynol:

  • bod 99.95% o brofion yn cydymffurfio â safonau dŵr yfed
  • bod 0.49 defnyddiwr fesul pob 1,000 o ddefnyddwyr yn cysylltu i roi gwybod am flas ac arogl. Mae hyn yn waeth na chyfradd gyfartalog y diwydiant, sef 0.32 defnyddiwr fesul pob 1,000 o ddefnyddwyr
  • bu tri digwyddiad llygredd, ac roedd dim ohonynt wedi’u dosbarthu fel rhai difrifol. Roedd 67% o’r digwyddiadau yn ddigwyddiadau hunanadroddedig
  • bod 100% o’r camau i wella’r amgylchedd wedi’u cwblhau (4) o fewn y terfynau amser a gynlluniwyd ar eu cyfer
  • gollyngwyd 146.9 litr fesul eiddo bob dydd, sy’n waeth na chyfartaledd y diwydiant, sef 104.5 litr. Roedd hyn yn cynrychioli cynnydd o 6.5% yn y cyfanswm o ddŵr a ollyngwyd o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol
  • bod aelwydydd yn defnyddio 123.9 litr o ddŵr y pen y dydd, sy’n well na chyfartaledd y diwydiant, sef 137.3 litr
  • bu gwelliant yn y perfformiad o ran tarfu ar y cyflenwad dŵr. Roedd nifer y munudau cyfartalog heb gyflenwad dŵr fesul eiddo wedi gostwng 20% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol
  • bod nifer y llifogydd carthffosydd mewnol wedi lleihau 60% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol
  • bod y cwmni yn yr wythfed safle allan o 17 o gwmnïau dŵr o ran boddhad cwsmeriaid, sef dau safle yn waeth o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol

8. Northumbrian Water (gan gynnwys Essex and Suffolk Water)

Trosolwg o’r cwmni

Mae Northumbrian Water:

  • yn gwmni dŵr a charthffosiaeth
  • yn gwasanaethu dros 4.9 miliwn o bobl
  • yn cyflenwi 1,169 megalitr o ddŵr y dydd ar gyfartaledd
  • wedi ymrwymo i fuddsoddi tua £6.5 biliwn rhwng 2025 a 2030

Myfyrdodau cryno

Gall defnyddwyr fod yn hyderus bod eu dŵr yn ddiogel i’w yfed. Mae Northumbrian Water yn parhau i ddarparu dŵr yfed o safon eithriadol o dda, ac mae gan y cwmni un o’r cyfraddau isaf o ddefnyddwyr yn cysylltu ag ef mewn perthynas â blas ac arogl. Mae cwsmeriaid yn nodi’r lefelau uchaf o foddhad yn y diwydiant. Dylai’r cwmni barhau i gynnal rhyngweithiadau cadarnhaol â chwsmeriaid a phrofiad cyffredinol da i gwsmeriaid. Mae hefyd wedi lleihau llifogydd carthffosydd mewnol yn sylweddol ac mae’n perfformio orau yn y diwydiant, gan sicrhau bod llai o gwsmeriaid yn cael eu heffeithio arnynt gan y broblem hon. Mae wedi lleihau colledion dŵr yn sylweddol, ond mae angen lleihau faint o ddŵr sy’n cael ei ddefnyddio gan aelwydydd – sef y lefel uchaf yn y diwydiant. Bydd hyn yn sicrhau cyflenwadau ac yn gwarchod yr amgylchedd.

Mae angen gwella perfformiad amgylcheddol y cwmni. Mae nifer y digwyddiadau llygredd yn parhau i fod yn uchel, gan gynnwys digwyddiadau difrifol sy’n achosi niwed sylweddol i’r amgylchedd. Er bod ganddo lefel uchel o hunan-adrodd, sy’n caniatáu ymyrraeth brydlon, mae angen canolbwyntio mwy ar fesurau ataliol i leihau nifer y digwyddiadau. Mae hefyd wedi methu â chwblhau un cam gweithredu angenrheidiol i wella’r amgylchedd. Mae’r gwelliannau hyn wedi’u cynllunio i leihau effaith gweithgareddau’r cwmni ac atal niwed i’r amgylchedd.

Er bod perfformiad cyffredinol y cwmni o ran ansawdd dŵr yfed yn parhau i fod yn gryf, mae’r cwmni’n destun rhaglen drawsnewid gan yr Arolygiaeth Dŵr Yfed, ac mae’n rhaid iddo barhau i nodi a rheoli risgiau er mwyn sicrhau bod hyder defnyddwyr yn cael ei gynnal.

Perfformiad ar yr olwg gyntaf

Mae ein hasesiadau diweddaraf o ddata Northumbrian Water yn dangos:

  • bod 99.92% o brofion yn cydymffurfio â safonau dŵr yfed
  • bod 0.14 defnyddiwr fesul pob 1,000 o ddefnyddwyr yn cysylltu i roi gwybod am flas ac arogl. Mae hyn yn well na chyfradd gyfartalog y diwydiant, sef 0.32 defnyddiwr fesul pob 1,000 o ddefnyddwyr
  • bu 185 o ddigwyddiadau llygredd, gan gynnwys dau a ddosbarthwyd fel rhai difrifol. Roedd 90% o’r digwyddiadau yn ddigwyddiadau hunanadroddedig
  • bod 87.5% o’r camau gweithredu i wella’r amgylchedd wedi’u cwblhau o fewn y terfynau amser a luniwyd ar eu cyfer. Methodd y cwmni â chyflawni un o’r wyth cam gweithredu a gynlluniwyd
  • gollyngwyd 76.7 litr fesul eiddo bob dydd, sy’n waeth na chyfartaledd y diwydiant, sef 104.5 litr. Roedd hyn yn cynrychioli gostyngiad o 5.9% yn y cyfanswm o ddŵr a ollyngwyd o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol
  • bod aelwydydd yn defnyddio 154.9 litr o ddŵr y pen y dydd, sy’n waeth na chyfartaledd y diwydiant, sef 137.3 litr
  • bod nifer y llifogydd carthffosydd mewnol wedi lleihau 48% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol
  • bod y cwmni yn y safle cyntaf allan o 17 o gwmnïau dŵr o ran boddhad cwsmeriaid, sef yr un safle â’r flwyddyn flaenorol

9. Portsmouth Water

Trosolwg o’r cwmni

Mae Portsmouth Water:

  • yn gwmni dŵr yn unig
  • yn gwasanaethu dros 700,000 o bobl
  • yn cyflenwi 180 megalitr o ddŵr y dydd ar gyfartaledd
  • wedi ymrwymo i fuddsoddi tua £469 miliwn rhwng 2025 a 2030

Myfyrdodau cryno

Dylai defnyddwyr fod â hyder yn eu cyflenwad dŵr yfed. Mae gan y cwmni un o’r cyfraddau cydymffurfio uchaf yn y diwydiant ac mae ei ddŵr yfed o safon eithriadol o dda. Mae’r cwmni hefyd wedi rheoli’r risgiau yn ymwneud â dŵr wedi’i afliwio yn effeithiol. Mae gan y cwmni un o’r cyfraddau isaf o gwsmeriaid yn cysylltu ag ef, sy’n dangos bod gan ddefnyddwyr lefelau uchel o hyder ynddo. Mae cwsmeriaid yn nodi rhai o’r lefelau uchaf o foddhad o’i gymharu â chwmnïau eraill yn y diwydiant. Dylai’r cwmni barhau i gynnal rhyngweithiadau cadarnhaol â chwsmeriaid a phrofiad cyffredinol da i gwsmeriaid.

Er bod perfformiad mewn perthynas â tharfiadau ar gyflenwad dŵr yr adroddwyd amdanynt wedi dirywio, mae’r cwmni’n dal i fod yn un o’r perfformwyr gorau yn y diwydiant. Mae cynnal cyflenwad dŵr cyson yn lleihau aflonyddwch i gwsmeriaid.

Mae’r cwmni’n perfformio’n dda yn amgylcheddol, ac mae ganddo nifer isel o ddigwyddiadau llygredd a dim digwyddiadau difrifol. Mae ganddo lefelau uchel o hunan-adrodd am ddigwyddiadau, gan gefnogi ymyrraeth gyflym a helpu i leihau niwed amgylcheddol. Bydd ffocws parhaus ar gynnal y perfformiad hwn ac atal digwyddiadau yn y dyfodol yn helpu i warchod yr amgylchedd dŵr.

Er ei fod yn well na chyfartaledd y diwydiant ar gyfer gollyngiadau fesul eiddo, mae’r cwmni wedi nodi cynnydd amlwg yng nghyfanswm y gollyngiadau. Mae hefyd yn waeth na chyfartaledd y diwydiant o ran faint o ddŵr y mae cartrefi yn ei ddefnyddio. Mae angen iddo leihau gollyngiadau ac annog effeithlonrwydd dŵr mewn cartrefi i warchod yr amgylchedd a sicrhau bod digon o ddŵr ar gyfer y galw yn y dyfodol.

Perfformiad ar yr olwg gyntaf

Mae ein hasesiadau diweddaraf o ddata Portsmouth Water yn dangos y canlynol:

  • bod 99.99% o brofion yn cydymffurfio â safonau dŵr yfed
  • bod 0.11 defnyddiwr fesul pob 1,000 o ddefnyddwyr yn cysylltu i roi gwybod am afliwio, a 0.28 defnyddiwr fesul pob 1,000 o ddefnyddwyr yn cysylltu i roi gwybod am flas ac arogl. Mae’r cyfraddau hyn yn well na chyfartaleddau’r diwydiant o 0.51 a 0.32 yn y drefn honno
  • bu dau digwyddiad llygredd, ac roedd dim ohonynt wedi’u dosbarthu fel rhai difrifol. Roedd 100% o’r digwyddiadau yn ddigwyddiadau hunanadroddedig
  • gollyngwyd 101.3 litr fesul eiddo bob dydd, sy’n gwell na chyfartaledd y diwydiant, sef 104.5 litr. Ond roedd hyn yn cynrychioli cynnydd o 18.7% yn y cyfanswm o ddŵr a ollyngwyd o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol
  • bod aelwydydd yn defnyddio 153.8 litr o ddŵr y pen y dydd, sy’n waeth na chyfartaledd y diwydiant, sef 137.3 litr
  • bu dirywiad yn y perfformiad o ran tarfu ar y cyflenwad dŵr. Roedd y nifer cyfartalog o funudau heb gyflenwad dŵr fesul eiddo yn fwy na dwbl y flwyddyn flaenorol
  • bod y cwmni yn yr ail safle allan o 17 o gwmnïau dŵr o ran boddhad cwsmeriaid, sef dau safle yn well o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol

10. SES Water

Trosolwg o’r cwmni

Mae SES Water:

  • yn gwmni dŵr yn unig
  • yn gwasanaethu dros 700,000 o bobl
  • yn cyflenwi 162 megalitr o ddŵr y dydd ar gyfartaledd
  • wedi ymrwymo i fuddsoddi tua £365 miliwn rhwng 2025 a 2030

Myfyrdodau cryno

Gall defnyddwyr fod yn hyderus bod eu dŵr o safon eithriadol ac yn ddiogel i’w yfed. Mae gan y cwmni un o’r cyfraddau cydymffurfio uchaf yn y diwydiant o ran pa mor ddiogel yw’r dŵr i’w yfed. Mae’r cwmni wedi cofnodi un o’r cyfraddau isaf yn y diwydiant o ran defnyddwyr yn cysylltu ag ef ynghylch afliwiad, yn ogystal â blas ac arogl. Mae hyn yn dangos bod risg yn cael ei rheoli yn effeithiol a bod defnyddwyr yn fodlon. Mae hefyd wedi cyflawni’r canlyniad gorau yn y diwydiant o ran tarfiadau ar y cyflenwad dŵr, gan leihau aflonyddwch i gwsmeriaid.

Nid yw’r cwmni wedi cofnodi unrhyw ddigwyddiadau llygredd difrifol, sy’n dangos rheolaeth effeithiol o risgiau sy’n gysylltiedig â niwed amgylcheddol sylweddol. Mae ganddo hefyd lefel uchel o hunan-adrodd o ddigwyddiadau llygredd cyffredinol, gan gefnogi ymyrraeth brydlon. Fodd bynnag, mae angen i’r cwmni leihau digwyddiadau llygredd cyffredinol er mwyn lleihau’r effeithiau ar yr amgylchedd dŵr.

Rydym yn pryderu nad yw camau’r cwmni i wella’r amgylchedd – sydd wedi’u bwriadu i helpu i wella’r amgylchedd lleol a galluogi twf cynaliadwy – wedi’u gweithredu’n ddigon da. Er bod y cwmni’n perfformio’n well na’r diwydiant o ran gollyngiadau fesul eiddo, mae’n nodi defnydd uwch o ddŵr gan aelwydydd. Mae’r cwmni hefyd yn nodi cynnydd amlwg yng nghyfanswm y gollyngiadau o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Mae angen i’r cwmni gymryd camau i sicrhau bod digon o ddŵr i ddiwallu’r galw yn y dyfodol drwy leihau gollyngiadau ac annog aelwydydd i ddefnyddio dŵr yn effeithiol. Mae cwsmeriaid yn nodi lefelau o foddhad sy’n fras yr un fath â chwmnïau eraill yn y diwydiant, ond dylai wneud mwy i wella rhyngweithiadau â chwsmeriaid a’u profiad cyffredinol..

Perfformiad ar yr olwg gyntaf

Mae ein hasesiadau diweddaraf o ddata SES Water yn dangos:

  • bod 99.99% o brofion yn cydymffurfio â safonau dŵr yfed
  • bod 0.19 defnyddiwr fesul pob 1,000 o ddefnyddwyr yn cysylltu i roi gwybod am afliwio, a 0.15 defnyddiwr fesul pob 1,000 o ddefnyddwyr yn cysylltu i roi gwybod am flas ac arogl. Mae’r cyfraddau hyn yn well na chyfartaleddau’r diwydiant o 0.51 a 0.32 yn y drefn honno
  • bu deg digwyddiad llygredd, ac roedd dim ohonynt wedi’u dosbarthu fel rhai difrifol. Roedd 80% o’r digwyddiadau yn ddigwyddiadau hunanadroddedig
  • bod 12.5% o’r camau gweithredu i wella’r amgylchedd wedi’u cwblhau o fewn y terfynau amser a luniwyd ar eu cyfer. Methodd y cwmni â chyflawni saith o’r wyth cam gweithredu a gynlluniwyd
  • gollyngwyd 74.8 litr fesul eiddo bob dydd, sy’n gwell na chyfartaledd y diwydiant, sef 104.5 litr. Ond roedd hyn yn cynrychioli cynnydd o 16.9% yn y cyfanswm o ddŵr a ollyngwyd o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol
  • bod aelwydydd yn defnyddio 149.6 litr o ddŵr y pen y dydd, sy’n waeth na chyfartaledd y diwydiant, sef 137.3 litr
  • bu gwelliant yn y perfformiad o ran tarfu ar y cyflenwad dŵr. Roedd nifer y munudau cyfartalog heb gyflenwad dŵr fesul eiddo wedi gostwng 89% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol
  • bod y cwmni yn y degfed safle allan o 17 o gwmnïau dŵr o ran boddhad cwsmeriaid, sef pedwar safle yn well o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol

11. Severn Trent Water

Trosolwg o’r cwmni

Mae Severn Trent Water:

  • yn gwmni dŵr a charthffosiaeth
  • yn gwasanaethu dros 9.7 miliwn o bobl
  • yn cyflenwi 1,942 megalitr o ddŵr y dydd ar gyfartaledd
  • wedi ymrwymo i fuddsoddi tua £14.9 biliwn rhwng 2025 a 2030

Myfyrdodau cryno

Mae Severn Trent Water yn parhau i ddarparu dŵr yfed o safon eithriadol, ac mae gan y cwmni lai o ddefnyddwyr yn cysylltu ag ef ynglŷn ag afliwio, blas ac arogl o gymharu â cyfraddau cyfartaledd y diwydiant. Mae’n cwblhau mwy o brofion cydymffurfio â dŵr yfed nag unrhyw gwmni arall. Gall defnyddwyr fod yn hyderus bod eu dŵr yn ddiogel i’w yfed. Yn ogystal, mae’r cwmni wedi lleihau nifer y llifogydd carthffosydd mewnol, sy’n golygu bod llai o ddigwyddiadau sy’n effeithio ar gwsmeriaid ac eiddo.

Mae’r cwmni hefyd yn perfformio’n dda yn amgylcheddol, ac roedd ei gamau i wella’r amgylchedd wedi’u cyflawni ar amser. Mae hyn yn helpu i wella’r amgylchedd lleol, yn y tymor byr a’r hirdymor, ac yn galluogi twf cynaliadwy. Mae’r cwmni’n perfformio’n well na chyfartaledd y diwydiant o ran gollyngiadau fesul eiddo a defnydd aelwydydd. Bu gostyngiadau pellach yn y flwyddyn ddiwethaf. Mae lefelau isel o ollyngiadau yn sicrhau bod digon o ddŵr i ddiwallu galw defnyddwyr yn y dyfodol. Mae angen gwaith pellach i leihau faint o ddŵr y mae cartrefi yn ei ddefnyddio.

Er bod lefelau o hunan-adrodd am ddigwyddiadau llygredd yn uchel, mae angen camau ataliol, yn enwedig i leihau nifer y digwyddiadau difrifol. Bydd hyn yn lleihau risgiau i’r amgylchedd dŵr. Mae boddhad cwsmeriaid yn parhau i fod yn faes sydd angen gwelliant pellach, o ystyried bod cwsmeriaid yn parhau i nodi lefelau boddhad cymharol isel o’i gymharu â chwmnïau eraill yn y diwydiant. Dylai’r cwmni wella rhyngweithiadau â chwsmeriaid a’r profiad cyffredinol.

Perfformiad ar yr olwg gyntaf

Mae ein hasesiadau diweddaraf o ddata Severn Trent Water yn dangos y canlynol:

  • bod 99.96% o brofion yn cydymffurfio â safonau dŵr yfed
  • bod 0.47 defnyddiwr fesul pob 1,000 o ddefnyddwyr yn cysylltu i roi gwybod am afliwio, a 0.30 defnyddiwr fesul pob 1,000 o ddefnyddwyr yn cysylltu i roi gwybod am flas ac arogl. Mae’r cyfraddau hyn yn well na chyfartaleddau’r diwydiant o 0.51 a 0.32 yn y drefn honno
  • bu 222 o ddigwyddiadau llygredd, gan gynnwys dau a ddosbarthwyd fel rhai difrifol. Roedd 88% o’r digwyddiadau yn ddigwyddiadau hunanadroddedig
  • bod 100% o’r camau i wella’r amgylchedd wedi’u cwblhau (817) o fewn y terfynau amser a luniwyd ar eu cyfer
  • gollyngwyd 87.1 litr fesul eiddo bob dydd, sy’n well na chyfartaledd y diwydiant, sef 104.5 litr. Roedd hyn yn cynrychioli gostyngiad o 0.9% yn y cyfanswm o ddŵr a ollyngwyd o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol
  • bod aelwydydd yn defnyddio 134.3 litr o ddŵr y pen y dydd, sy’n well na chyfartaledd y diwydiant, sef 137.3 litr
  • bod nifer y llifogydd carthffosydd mewnol wedi lleihau 20% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol
  • bod y cwmni yn yr unfed safle ar ddeg allan o 17 o gwmnïau dŵr o ran boddhad cwsmeriaid, sef yr un safle â’r flwyddyn flaenorol

12. Southern Water

Trosolwg o’r cwmni

Mae Southern Water:

  • yn gwmni dŵr a charthffosiaeth
  • yn gwasanaethu dros 4.7 miliwn o bobl
  • yn cyflenwi 560 megalitr o ddŵr y dydd ar gyfartaledd
  • wedi ymrwymo i fuddsoddi tua £8.9 biliwn rhwng 2025 a 2030

Myfyrdodau cryno

Mae ansawdd dŵr yfed Southern Water yn parhau i fod yn eithriadol o dda, a gall defnyddwyr fod yn hyderus bod eu dŵr yn ddiogel i’w yfed. Mae’r cwmni wedi nodi ei berfformiad cryfaf erioed o ran lleihau nifer y tarfiadau ar y cyflenwad dŵr, gan ddarparu cyflenwad dŵr mwy dibynadwy i gwsmeriaid. Mae’r cwmni wedi lleihau colledion dŵr yn sylweddol ac wedi cynnal lefelau defnydd dŵr ar gyfer cartrefi sy’n is na chyfartaledd y diwydiant, gan helpu i ddiogelu cyflenwadau dŵr yn y dyfodol.

Fodd bynnag, mae perfformiad amgylcheddol cyffredinol y cwmni yn wael. Er bod ganddo lefelau uchel o hunan-adrodd am ddigwyddiadau llygredd, sy’n galluogi ymyrraeth gynnar, mae’r niferoedd uchel o ddigwyddiadau, gan gynnwys digwyddiadau difrifol, yn parhau i fod yn destun pryder. Rydym yn disgwyl i’r cwmni roi mesurau ataliol ar waith i leihau nifer y digwyddiadau. Mae’r cwmni hefyd wedi methu â chwblhau’r holl gamau gwella amgylcheddol angenrheidiol mewn pryd ac mae ganddo gydymffurfedd gwael â therfynau rhifol trwyddedau gollwng ar gyfer llygryddion mewn dŵr gwastraff mewn safleoedd gweithfeydd trin dŵr. Mae’r gwelliannau a’r amodau trwydded hyn wedi’u cynllunio i leihau effaith gweithgareddau’r cwmni ar yr amgylchedd dŵr.

Rydym yn disgwyl i’r cwmni wella perfformiad mewn perthynas â llifogydd carthffosydd mewnol. Mae cwsmeriaid hefyd yn nodi bod ganddynt y lefelau isaf o foddhad yn y diwydiant. Rhaid i’r cwmni wella rhyngweithiadau â chwsmeriaid a’r profiad cyffredinol yn sylweddol. Er bod perfformiad cyffredinol profion cydymffurfedd dŵr yfed yn parhau i fod yn gryf, mae’r cwmni’n destun rhaglen drawsnewid gan yr Arolygiaeth Dŵr Yfed. Dylai gwelliannau’r rhaglen fynd i’r afael ag achosion sylfaenol perfformiad gwael o ran rheoli risg systemig a diogelu cyflenwadau dŵr yn y dyfodol.

Perfformiad ar yr olwg gyntaf

Mae ein hasesiadau diweddaraf o ddata Southern Water yn dangos:

  • bod 99.98% o brofion yn cydymffurfio â safonau dŵr yfed
  • bu 301 o ddigwyddiadau llygredd, gan gynnwys deuddeg a ddosbarthwyd fel rhai difrifol. Roedd 84% o’r digwyddiadau yn ddigwyddiadau hunanadroddedig
  • bu 96.7% o’r gweithfeydd trin dŵr yn cydymffurfio â therfynau rhifol trwyddedau gollwng (11 o safleoedd sy’n methu)
  • bod 73.0% o’r camau gweithredu i wella’r amgylchedd wedi’u cwblhau o fewn y terfynau amser a luniwyd ar eu cyfer. Methodd y cwmni â chyflawni deg o’r 37 cam gweithredu a gynlluniwyd
  • gollyngwyd 76.6 litr fesul eiddo bob dydd, sy’n well na chyfartaledd y diwydiant, sef 104.5 litr. Roedd hyn yn cynrychioli gostyngiad o 8.1% yn y cyfanswm o ddŵr a ollyngwyd o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol
  • bod aelwydydd yn defnyddio 126.6 litr o ddŵr y pen y dydd, sy’n well na chyfartaledd y diwydiant, sef 137.3 litr
  • bu gwelliant yn y perfformiad o ran tarfu ar y cyflenwad dŵr. Roedd nifer y munudau cyfartalog heb gyflenwad dŵr fesul eiddo wedi gostwng 96% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol
  • bod nifer y llifogydd carthffosydd mewnol wedi cynyddu 40% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol
  • bod y cwmni yn y safle olaf allan o 17 o gwmnïau dŵr o ran boddhad cwsmeriaid, sef un safle yn waeth o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol

13. South East Water

Trosolwg o’r cwmni

Mae South East Water:

  • yn gwmni dŵr yn unig
  • yn gwasanaethu dros 2.3 miliwn o bobl
  • yn cyflenwi 550 megalitr o ddŵr y dydd ar gyfartaledd
  • wedi ymrwymo i fuddsoddi tua £2 biliwn rhwng 2025 a 2030

Myfyrdodau cryno

Mae gan South East Water ddŵr yfed o safon eithriadol o dda a dylai defnyddwyr fod yn hyderus ei fod yn ddiogel i’w yfed. Mae’r cwmni yn adrodd bod cyfanswm y gollyngiadau wedi gostwng o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, mae angen i’r cwmni leihau faint o ddŵr y mae pob cartref yn ei ddefnyddio er mwyn amddiffyn cyflenwadau dŵr a’r amgylchedd. Mae perfformiad amgylcheddol yn dangos meysydd i’w gwella. Er nad yw’r cwmni wedi cofnodi unrhyw ddigwyddiadau llygredd difrifol, mae angen iddo ganolbwyntio ar fesurau i atal digwyddiadau yn gyffredinol. Bydd hyn yn lleihau’r effaith ar yr amgylchedd dŵr. Mae gan y cwmni lefelau uchel o hunan-adrodd am ddigwyddiadau a all ei helpu i ymateb i ddigwyddiadau yn amserol. Rydym yn pryderu bod y cwmni wedi methu â chyflawni ei holl gamau angenrheidiol i wella’r amgylchedd a gynlluniwyd i leihau effaith amgylcheddol gweithgareddau’r cwmni.

Mae perfformiad y cwmni o ran tarfiadau ar y cyflenwad dŵr wedi dirywio’n sylweddol ac mae ganddo’r perfformiad gwaethaf yn y diwydiant. Mae digwyddiadau mawr yn effeithio ar filoedd o gwsmeriaid ac eiddo. Rhaid i’r cwmni fynd i’r afael â gwendidau hirhoedlog yn ymwneud â rheolaeth weithredol a chynnal a chadw er mwyn atal methiannau systemig o ran cyflenwi dŵr. Mae cwsmeriaid yn nodi lefelau cymharol isel o foddhad o’i gymharu â chwmnïau eraill yn y diwydiant. Dylai wella rhyngweithiadau â chwsmeriaid, cefnogaeth, a phrofiad cyffredinol y cwsmer. Oherwydd problemau o ran perfformiad sy’n effeithio ar ansawdd dŵr yfed y cyflenwad dŵr, megis afliwio, mae’r Arolygiaeth Dŵr Yfed yn ei gwneud yn ofynnol i’r cwmni gwblhau rhaglen drawsnewid i fynd i’r afael â’r achosion sylfaenol a diogelu dibynadwyedd cyflenwadau dŵr. Mae Ofwat hefyd wedi rhoi’r cwmni dan oruchwyliaeth ychwanegol ac wedi sefydlu corff monitro annibynnol. Bydd y corff hwn yn cael ei ariannu’n llawn gan South East Water a bydd yn olrhain cyflawniad ei gynlluniau gwella.

Perfformiad ar yr olwg gyntaf

Mae ein hasesiadau diweddaraf o ddata South East Water yn dangos:

  • bod 99.98% o brofion yn cydymffurfio â safonau dŵr yfed
  • bod 0.57 defnyddiwr fesul pob 1,000 o ddefnyddwyr yn cysylltu i roi gwybod am afliwio, a 0.42 defnyddiwr fesul pob 1,000 o ddefnyddwyr yn cysylltu i roi gwybod am flas ac arogl. Mae’r cyfraddau hyn yn waeth na chyfartaleddau’r diwydiant o 0.51 a 0.32 yn y drefn honno
  • bu 57 digwyddiad llygredd, ac roedd dim ohonynt wedi’u dosbarthu fel rhai difrifol. Roedd 86% o’r digwyddiadau yn ddigwyddiadau hunanadroddedig
  • bod 62.5% o’r camau gweithredu i wella’r amgylchedd wedi’u cwblhau o fewn y terfynau amser a luniwyd ar eu cyfer. Methodd y cwmni â chyflawni tri o’r wyth cam gweithredu a gynlluniwyd
  • gollyngwyd 101.6 litr fesul eiddo bob dydd, sy’n well na chyfartaledd y diwydiant, sef 104.5 litr. Roedd hyn yn cynrychioli gostyngiad o 3.5% yn y cyfanswm o ddŵr a ollyngwyd o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol
  • bod aelwydydd yn defnyddio 142.0 litr o ddŵr y pen y dydd, sy’n waeth na chyfartaledd y diwydiant, sef 137.3 litr
  • bu dirywiad yn y perfformiad o ran tarfu ar y cyflenwad dŵr. Roedd y nifer cyfartalog o funudau heb gyflenwad dŵr fesul eiddo wedi cynyddu chwe gwaith o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol
  • bod y cwmni yn y bedwaredd safle ar ddeg allan o 17 o gwmnïau dŵr o ran boddhad cwsmeriaid, sef dau safle yn waeth o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol

14. South Staffordshire Water (gan gynnwys Cambridge Water)

Trosolwg o’r cwmni

Mae South Staffordshire Water:

  • yn gwmni dŵr yn unig
  • yn gwasanaethu dros 1.8 miliwn o bobl
  • yn cyflenwi 419 megalitr o ddŵr y dydd ar gyfartaledd
  • wedi ymrwymo i fuddsoddi tua £922 miliwn rhwng 2025 a 2030

Myfyrdodau cryno

Mae ansawdd dŵr yfed South Staffordshire Water o safon ragorol, a dylai defnyddwyr fod yn hyderus bod eu cyflenwad dŵr yn ddiogel. Mae perfformiad ymhlith y gorau yn y diwydiant ar gyfer tarfiadau ar y cyflenwad dŵr. Mae cadw tarfiadau i’r nifer lleiaf posibl yn lleihau aflonyddwch i gwsmeriaid. Mae hefyd yn adrodd am lefelau isel o ollyngiadau fesul eiddo a defnydd gan aelwydydd, yn ogystal â nifer llai o ollyngiadau. Mae hyn yn helpu i warchod cyflenwadau dŵr, gan sicrhau bod digon ar gyfer y galw yn y dyfodol.

Mae perfformiad amgylcheddol y cwmni yn gadarnhaol mewn sawl maes. Cofnodwyd nifer isel o ddigwyddiadau llygredd ac ni chofnodwyd unrhyw ddigwyddiadau difrifol. Mae’r cwmni wedi cyflawni ei holl gamau i wella’r amgylchedd o fewn y terfynau amser a luniwyd. Mae cyflawni’r rhain ar amser yn helpu i wella’r amgylchedd lleol ac yn galluogi twf cynaliadwy. Fodd bynnag, mae cyfraddau hunan-adrodd am ddigwyddiadau llygredd yn isel. Bydd gwella hyn yn cefnogi ymyrraeth fwy prydlon ac yn helpu i liniaru effeithiau posibl ar yr amgylchedd dŵr.

Mae gan y cwmni gyfraddau cyswllt defnyddwyr gwael, yn enwedig o ran afliwiad, ac mae ganddo’r record waethaf yn y diwydiant o ran blas ac arogl dŵr yfed. Er nad yw’r materion hyn fel arfer yn cynrychioli risg i iechyd y cyhoedd, dylai’r cwmni barhau i ganolbwyntio ar ddeall yr achosion sylfaenol. Bydd hyn yn gwella profiad defnyddwyr ac yn cynnal hyder o ran ansawdd dŵr yfed. Mae cwsmeriaid yn nodi lefelau o foddhad sy’n fras yr un fath â chwmnïau eraill yn y diwydiant, ond dylai wneud mwy i wella rhyngweithiadau â chwsmeriaid a’r profiad cyffredinol.

Perfformiad ar yr olwg gyntaf

Mae ein hasesiadau diweddaraf o ddata South Staffordshire Water yn dangos:

  • bod 99.89% o brofion yn cydymffurfio â safonau dŵr yfed
  • bod 0.71 defnyddiwr fesul pob 1,000 o ddefnyddwyr yn cysylltu i roi gwybod am afliwio, a 0.57 defnyddiwr fesul pob 1,000 o ddefnyddwyr yn cysylltu i roi gwybod am flas ac arogl. Mae’r cyfraddau hyn yn waeth na chyfartaleddau’r diwydiant o 0.51 a 0.32 yn y drefn honno
  • bu saith digwyddiad llygredd, ac roedd dim ohonynt wedi’u dosbarthu fel rhai difrifol. Roedd 29% o’r digwyddiadau yn ddigwyddiadau hunanadroddedig
  • bod 100% o’r camau i wella’r amgylchedd wedi’u cwblhau (2) o fewn y terfynau amser a luniwyd ar eu cyfer
  • gollyngwyd 89.3 litr fesul eiddo bob dydd, sy’n well na chyfartaledd y diwydiant, sef 104.5 litr. Roedd hyn yn cynrychioli gostyngiad o 1.1% yn y cyfanswm o ddŵr a ollyngwyd o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol
  • bod aelwydydd yn defnyddio 132.2 litr o ddŵr y pen y dydd, sy’n well na chyfartaledd y diwydiant, sef 137.3 litr
  • bu gwelliant yn y perfformiad o ran tarfu ar y cyflenwad dŵr. Roedd nifer y munudau cyfartalog heb gyflenwad dŵr fesul eiddo wedi gostwng 68% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol
  • bod y cwmni yn y nawfed safle allan o 17 o gwmnïau dŵr o ran boddhad cwsmeriaid, sef yr un safle â’r flwyddyn flaenorol

15. South West Water (gan gynnwys Bournemouth Water)

Trosolwg o’r cwmni

Mae South West Water:

  • yn gwmni dŵr a charthffosiaeth
  • yn gwasanaethu dros 2.3 miliwn o bobl
  • yn cyflenwi 645 megalitr o ddŵr y dydd ar gyfartaledd
  • wedi ymrwymo i fuddsoddi tua £3.8 biliwn rhwng 2025 a 2030

Myfyrdodau cryno

Mae ansawdd dŵr yfed South West Water yn parhau i fod yn eithriadol o dda, a gall defnyddwyr fod yn hyderus bod eu dŵr yn ddiogel i’w yfed. Er bod ei berfformiad o ran llifogydd carthffosydd mewnol wedi dirywio, mae’n dal i berfformio’n well na chyfartaledd y diwydiant.

Mae perfformiad amgylcheddol cyffredinol y cwmni yn wael. Mae wedi cofnodi nifer uchel o ddigwyddiadau llygredd, gan gynnwys digwyddiadau difrifol, ac mae wedi methu â hunan-adrodd am nifer ohonynt yn rhagweithiol. Rydym hefyd yn pryderu am yr oedi wrth gwblhau rhai camau gweithredu angenrheidiol i wella’r amgylchedd. Gall perfformiad gwael yn y meysydd hyn arwain at niwed amgylcheddol, felly mae angen canolbwyntio mwy ar fesurau ataliol.

Mae tarfiadau ar y cyflenwad dŵr yn parhau i fod yn bryder sylweddol, ac mae’r cwmni yn un o’r rhai sy’n perfformio’r gwaethaf yn y diwydiant o ran hynny. Mae angen iddo leihau nifer y tarfiadau i sicrhau bod gan gwsmeriaid gyflenwad dŵr dibynadwy. Mae ei ddefnydd aelwydydd yn waeth na chyfartaledd y diwydiant, ac mae cyfanswm y gollyngiadau wedi cynyddu. Mae angen gweithredu i sicrhau cyflenwadau a diogelu’r amgylchedd. Er nad yw’n peri risg i iechyd y cyhoedd, mae gan y cwmni un o’r cyfraddau gwaethaf o ddefnyddwyr yn cysylltu i roi gwybod bod dŵr yfed wedi’i afliwio. Oherwydd risgiau posibl o ran trin dŵr, mae’r Arolygiaeth Dŵr Yfed yn ei gwneud yn ofynnol i’r cwmni gwblhau rhaglen drawsnewid i fynd i’r afael â gwraidd achosion methiannau perfformiad. Mae cwsmeriaid yn nodi rhai o’r lefelau isaf o foddhad o’i gymharu â chwmnïau eraill yn y diwydiant. Rhaid i’r cwmni wella rhyngweithiadau â chwsmeriaid a’r profiad cyffredinol yn sylweddol.

Perfformiad ar yr olwg gyntaf

Mae ein hasesiadau diweddaraf o ddata South West Water yn dangos:

  • bod 99.96% o brofion yn cydymffurfio â safonau dŵr yfed
  • bod 0.90 defnyddiwr fesul pob 1,000 o ddefnyddwyr yn cysylltu i roi gwybod am afliwio, a 0.37 defnyddiwr fesul pob 1,000 o ddefnyddwyr yn cysylltu i roi gwybod am flas ac arogl. Mae’r cyfraddau hyn yn waeth na chyfartaleddau’r diwydiant o 0.51 a 0.32 yn y drefn honno
  • bu 137 o ddigwyddiadau llygredd, gan gynnwys tri a ddosbarthwyd fel rhai difrifol. Roedd 71% o’r digwyddiadau yn ddigwyddiadau hunanadroddedig
  • bod 94.2% o’r camau gweithredu i wella’r amgylchedd wedi’u cwblhau o fewn y terfynau amser a luniwyd ar eu cyfer. Methodd y cwmni â chyflawni pedwar o’r 69 cam gweithredu a gynlluniwyd
  • gollyngwyd 102.2 litr fesul eiddo bob dydd, sy’n gwell na chyfartaledd y diwydiant, sef 104.5 litr. Ond roedd hyn yn cynrychioli cynnydd o 5.4% yn y cyfanswm o ddŵr a ollyngwyd o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol
  • bod aelwydydd yn defnyddio 147.5 litr o ddŵr y pen y dydd, sy’n waeth na chyfartaledd y diwydiant, sef 137.3 litr
  • bu dirywiad yn y perfformiad o ran tarfu ar y cyflenwad dŵr. Roedd y nifer cyfartalog o funudau heb gyflenwad dŵr fesul eiddo pum gwaith yn fwy na’r flwyddyn flaenorol
  • bod nifer y llifogydd carthffosydd mewnol wedi cynyddu 74% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol
  • bod y cwmni yn y pymthegfed safle allan o 17 o gwmnïau dŵr o ran boddhad cwsmeriaid, sef yr un safle â’r flwyddyn flaenorol

16. Thames Water

Trosolwg o’r cwmni

Mae Thames Water:

  • yn gwmni dŵr a charthffosiaeth
  • yn gwasanaethu dros 16.3 miliwn o bobl
  • yn cyflenwi 2,568 megalitr o ddŵr y dydd ar gyfartaledd
  • wedi ymrwymo i fuddsoddi tua £20.5 biliwn rhwng 2025 a 2030

Myfyrdodau cryno

Mae dŵr yfed Thames Water o safon eithriadol, gan roi hyder i ddefnyddwyr bod eu cyflenwad yn ddiogel. Mae gan y cwmni y cyfraddau isaf yn y diwydiant o ran defnyddwyr yn cysylltu i roi gwybod am afliwio, a’r ail isaf ar gyfer blas ac arogl. Mae wedi lleihau llifogydd carthffosydd mewnol, sy’n golygu llai o ddigwyddiadau sy’n effeithio ar gwsmeriaid ac eiddo.

Fodd bynnag, mae perfformiad amgylcheddol yn wael a bu nifer uchel o ddigwyddiadau llygredd, gan gynnwys digwyddiadau difrifol, sy’n achosi niwed amgylcheddol sylweddol. Mae cyfraddau hunan-adrodd am ddigwyddiadau yn uchel, sy’n caniatáu ymyrraeth brydlon, ond mae’n rhaid i’r cwmni wella ei fesurau ataliol. Rydym yn pryderu nad yw llawer o weithfeydd trin dŵr yn cydymffurfio â therfynau rhifol trwyddedau gollwng ar gyfer llygryddion mewn dŵr gwastraff. Mae’r cwmni hefyd wedi methu â chwblhau nifer sylweddol o gamau gweithredu arfaethedig ar gyfer gwelliannau amgylcheddol. Rhaid i’r cwmni wella yn y meysydd hyn er mwyn atal niwed amgylcheddol.

Rhaid i’r cwmni leihau colledion dŵr a faint o ddŵr sy’n cael ei ddefnyddio gan aelwydydd er mwyn sicrhau cyflenwadau dŵr. Mae cwsmeriaid yn nodi rhai o’r lefelau isaf o foddhad o’i gymharu â chwmnïau eraill yn y diwydiant, a rhaid iddo wella rhyngweithiadau â chwsmeriaid a’r profiad cyffredinol yn sylweddol. Er mwyn mynd i’r afael â mesurau rheoli risg gwael, rhaid i’r cwmni gwblhau rhaglen drawsnewid gan yr Arolygiaeth Dŵr Yfed, gan gynnwys cyfres o welliannau i lywodraethiant a gweithrediadau. Mae Ofwat hefyd wedi rhoi Thames Water o dan ei gyfundrefn goruchwylio gwyrdroi, yn dilyn pryderon ynghylch cydnerthedd ariannol, perfformiad gweithredol, a’r gallu i gyflawni ar gyfer cwsmeriaid a’r amgylchedd. Mae’n destun proses monitro a goruchwylio rheoleiddiol well, wedi’i chefnogi gan fewnwelediadau gan gorff monitro annibynnol ac wedi’i hariannu’n llawn gan y cwmni.

Perfformiad ar yr olwg gyntaf

Mae ein hasesiadau diweddaraf o ddata Thames Water yn dangos:

  • bod 99.97% o brofion yn cydymffurfio â safonau dŵr yfed
  • bod 0.07 defnyddiwr fesul pob 1,000 o ddefnyddwyr yn cysylltu i roi gwybod am afliwio, a 0.18 defnyddiwr fesul pob 1,000 o ddefnyddwyr yn cysylltu i roi gwybod am flas ac arogl. Mae’r cyfraddau hyn yn well na chyfartaleddau’r diwydiant o 0.51 a 0.32 yn y drefn honno
  • bu 464 o ddigwyddiadau llygredd, gan gynnwys 24 a ddosbarthwyd fel rhai difrifol. Roedd 80% o’r digwyddiadau yn ddigwyddiadau hunanadroddedig
  • bu 88.2% o’r gweithfeydd trin dŵr yn cydymffurfio â therfynau rhifol trwyddedau gollwng (45 o safleoedd sy’n methu)
  • bod 72.7% o’r camau gweithredu i wella’r amgylchedd wedi’u cwblhau o fewn y terfynau amser a luniwyd ar eu cyfer. Methodd y cwmni â chyflawni 112 o’r 410 cam gweithredu a gynlluniwyd
  • gollyngwyd 136.7 litr fesul eiddo bob dydd, sy’n waeth na chyfartaledd y diwydiant, sef 104.5 litr. Roedd hyn yn cynrychioli cynnydd o 1.0% yn y cyfanswm o ddŵr a ollyngwyd o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol
  • bod aelwydydd yn defnyddio 139.2 litr o ddŵr y pen y dydd, sy’n waeth na chyfartaledd y diwydiant, sef 137.3 litr
  • bod nifer y llifogydd carthffosydd mewnol wedi lleihau 22% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol
  • bod y cwmni yn yr unfed safle ar bymtheg allan o 17 o gwmnïau dŵr o ran boddhad cwsmeriaid, sef un safle yn well o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol

17. United Utilities

Trosolwg o’r cwmni

Mae United Utilities:

  • yn gwmni dŵr a charthffosiaeth
  • yn gwasanaethu dros 8.1 miliwn o bobl
  • yn cyflenwi 1,872 megalitr o ddŵr y dydd ar gyfartaledd
  • wedi ymrwymo i fuddsoddi tua £13.3 biliwn rhwng 2025 a 2030

Myfyrdodau cryno

Mae dŵr yfed United Utilities o safon eithriadol o dda, gan roi hyder i ddefnyddwyr o ran diogelwch ei gyflenwad. Mae’r cwmni wedi cyflawni’r holl gamau i wella’r amgylchedd a gynlluniwyd ar amser. Mae hyn yn helpu i wella’r amgylchedd lleol, yn y tymor byr a’r hirdymor, ac yn galluogi twf cynaliadwy. Mae hefyd wedi lleihau llifogydd carthffosydd mewnol, sy’n golygu llai o ddigwyddiadau sy’n effeithio ar gwsmeriaid ac eiddo. Mae cwsmeriaid yn nodi lefelau cymharol uchel o foddhad o’i gymharu â chwmnïau eraill yn y diwydiant.

Fodd bynnag, mae angen gwella perfformiad amgylcheddol ehangach y cwmni, ac rydym yn pryderu ynghylch y nifer uchel o ddigwyddiadau llygredd a gofnodwyd, gan gynnwys digwyddiadau difrifol. Er bod gan y cwmni lefelau uchel o hunan-adrodd am ddigwyddiadau sy’n hwyluso ymyrraeth gyflym, mae angen canolbwyntio mwy ar fesurau ataliol i leihau nifer y digwyddiadau.

Er bod y cwmni yn adrodd am ddefnydd dŵr aelwydydd sy’n well na chyfartaledd y diwydiant ac wedi lleihau colledion dŵr, mae colled dŵr fesul eiddo yn waeth na chyfartaledd y diwydiant. Mae’n hanfodol ei fod yn parhau i reoli’r galw a lleihau nifer y gollyngiadau er mwyn sicrhau cyflenwadau a gwarchod yr amgylchedd. Mae angen i’r cwmni barhau i wella ei berfformiad o ran tarfiadau ar y cyflenwad dŵr er mwyn sicrhau cyflenwad dibynadwy i gwsmeriaid. Mae’r gyfradd y mae cwsmeriaid yn cysylltu â’r cwmni i adrodd am afliwiad yn un o’r gwaethaf yn y diwydiant; fodd bynnag, mae’r gyfradd hon bron wedi haneru yn y pum mlynedd diwethaf. Mae angen ffocws parhaus ar reoli asedau rhwydwaith i barhau â’r gwelliant hwn.

Perfformiad ar yr olwg gyntaf

Mae ein hasesiadau diweddaraf o ddata United Utilities yn dangos y canlynol:

  • bod 99.97% o brofion yn cydymffurfio â safonau dŵr yfed
  • bod 0.73 defnyddiwr fesul pob 1,000 o ddefnyddwyr yn cysylltu â ni i roi gwybod am afliwio, sy’n waeth na chyfartaledd y diwydiant, sef 0.51 defnyddiwr
  • bod 0.26 defnyddiwr fesul pob 1,000 o ddefnyddwyr yn cysylltu i roi gwybod am flas ac arogl. Mae hyn yn well na chyfradd gyfartalog y diwydiant, sef 0.32 defnyddiwr fesul pob 1,000 o ddefnyddwyr
  • bu 388 o ddigwyddiadau llygredd, gan gynnwys dau a ddosbarthwyd fel rhai difrifol. Roedd 92% o’r digwyddiadau yn ddigwyddiadau hunanadroddedig
  • bod 100% o’r camau i wella’r amgylchedd wedi’u cwblhau (58) o fewn y terfynau amser a luniwyd ar eu cyfer
  • gollyngwyd 113.1 litr fesul eiddo bob dydd, sy’n waeth na chyfartaledd y diwydiant, sef 104.5 litr. Fodd bynnag, roedd hyn yn cynrychioli gostyngiad o 4.0% yn y cyfanswm o ddŵr a ollyngwyd o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol
  • bod aelwydydd yn defnyddio 127.2 litr o ddŵr y pen y dydd, sy’n well na chyfartaledd y diwydiant, sef 137.3 litr
  • bu gwelliant yn y perfformiad o ran tarfu ar y cyflenwad dŵr. Roedd nifer y munudau cyfartalog heb gyflenwad dŵr fesul eiddo wedi gostwng 9% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol
  • bod nifer y llifogydd carthffosydd mewnol wedi lleihau 42% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol
  • bod y cwmni yn y seithfed safle allan o 17 o gwmnïau dŵr o ran boddhad cwsmeriaid, sef un safle yn well o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol

18. Wessex Water

Trosolwg o’r cwmni

Mae Wessex Water:

  • yn gwmni dŵr a charthffosiaeth
  • yn gwasanaethu dros 2.9 miliwn o bobl
  • yn cyflenwi 349 megalitr o ddŵr y dydd ar gyfartaledd
  • wedi ymrwymo i fuddsoddi tua £4.5 biliwn rhwng 2025 a 2030

Myfyrdodau cryno

Mae gan Wessex Water un o’r cyfraddau cydymffurfio uchaf yn y diwydiant o ran pa mor ddiogel yw’r dŵr i’w yfed. Gall defnyddwyr fod yn hyderus bod eu dŵr o safon eithriadol ac yn ddiogel i’w yfed. Mae perfformiad y cwmni ymhlith y gorau yn y diwydiant ar gyfer tarfiadau ar y cyflenwad dŵr, ac mae ei rwydwaith yn darparu gwasanaethau dŵr dibynadwy i ddefnyddwyr. Mae’r cwmni wedi cyflawni’r holl gamau angenrheidiol i wella’r amgylchedd erbyn y terfynau amser a gynlluniwyd ar eu cyfer. Mae cyflawni’r gwelliannau hyn yn brydlon yn hanfodol er mwyn cyflawni’r canlyniadau amgylcheddol a fwriadwyd a gwella’r amgylchedd dŵr. Mae hefyd wedi lleihau nifer y llifogydd carthffosydd mewnol, sy’n golygu bod llai o ddigwyddiadau, gan leihau’r aflonyddwch i gwsmeriaid ac eiddo. Mae cwsmeriaid yn nodi rhai o’r lefelau uchaf o foddhad o’i gymharu â chwmnïau eraill yn y diwydiant. Dylai’r cwmni barhau i gynnal rhyngweithiadau cadarnhaol â chwsmeriaid a phrofiad cyffredinol da.

Mae angen gwella ei berfformiad amgylcheddol. Rydym yn parhau i bryderu ynghylch y nifer uchel o ddigwyddiadau llygredd, yn enwedig digwyddiadau difrifol sy’n achosi niwed sylweddol i’r amgylchedd. Er bod gan y cwmni lefelau uchel o hunan-adrodd am ddigwyddiadau, mae angen canolbwyntio mwy ar fesurau ataliol i leihau nifer y digwyddiadau.

Er bod defnydd dŵr cartref y cwmni yn well na chyfartaledd y diwydiant, mae ei gyfradd gollwng dŵr fesul eiddo yn waeth na chyfartaledd y diwydiant. Mae’r cwmni hefyd yn nodi cynnydd amlwg yng nghyfanswm y gollyngiadau o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Mae angen i’r cwmni leihau nifer y gollyngiadau er mwyn sicrhau bod digon o ddŵr i ddiwallu’r galw yn y dyfodol.

Perfformiad ar yr olwg gyntaf

Mae ein hasesiadau diweddaraf o ddata Wessex Water yn dangos:

  • bod 99.99% o brofion yn cydymffurfio â safonau dŵr yfed
  • bod 0.64 defnyddiwr fesul pob 1,000 o ddefnyddwyr yn cysylltu i roi gwybod am afliwio, a 0.36 defnyddiwr fesul pob 1,000 o ddefnyddwyr yn cysylltu i roi gwybod am flas ac arogl. Mae’r cyfraddau hyn yn waeth na chyfartaleddau’r diwydiant o 0.51 a 0.32 yn y drefn honno
  • bu 215 o ddigwyddiadau llygredd, gan gynnwys pedwar a ddosbarthwyd fel rhai difrifol. Roedd 93% o’r digwyddiadau yn ddigwyddiadau hunanadroddedig
  • bod 100% o’r camau i wella’r amgylchedd wedi’u cwblhau (157) o fewn y terfynau amser a luniwyd ar eu cyfer
  • gollyngwyd 119.0 litr fesul eiddo bob dydd, sy’n waeth na chyfartaledd y diwydiant, sef 104.5 litr. Roedd hyn yn cynrychioli cynnydd o 11.4% yn y cyfanswm o ddŵr a ollyngwyd o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol
  • bod aelwydydd yn defnyddio 132.4 litr o ddŵr y pen y dydd, sy’n well na chyfartaledd y diwydiant, sef 137.3 litr
  • bu gwelliant yn y perfformiad o ran tarfu ar y cyflenwad dŵr. Roedd nifer y munudau cyfartalog heb gyflenwad dŵr fesul eiddo wedi gostwng 58% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol
  • bod nifer y llifogydd carthffosydd mewnol wedi lleihau 24% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol
  • bod y cwmni yn y drydedd safle allan o 17 o gwmnïau dŵr o ran boddhad cwsmeriaid, sef un safle yn waeth o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol

19. Yorkshire Water

Trosolwg o’r cwmni

Mae Yorkshire Water:

  • yn gwmni dŵr a charthffosiaeth
  • yn gwasanaethu dros 5.6 miliwn o bobl
  • yn cyflenwi 1,264 megalitr o ddŵr y dydd ar gyfartaledd
  • wedi ymrwymo i fuddsoddi tua £8.3 biliwn rhwng 2025 a 2030

Myfyrdodau cryno

Mae dŵr yfed Yorkshire Water o safon eithriadol o dda, gan roi hyder i ddefnyddwyr bod eu cyflenwad yn ddiogel. Mae’r cwmni’n nodi lefelau gollyngiadau a defnydd dŵr gan aelwydydd sy’n well na chyfartaledd y diwydiant. Dylai barhau i reoli gollyngiadau a galw er mwyn sicrhau cyflenwadau a gwarchod yr amgylchedd.

Fodd bynnag, mae perfformiad amgylcheddol y cwmni yn wael. Mae wedi cofnodi nifer uchel o ddigwyddiadau llygredd, yn enwedig digwyddiadau difrifol sy’n achosi niwed sylweddol i’r amgylchedd. Er bod gan y cwmni lefelau uchel o hunan-adrodd, sy’n caniatáu ymyrraeth brydlon, mae angen canolbwyntio mwy ar fesurau ataliol i leihau nifer y digwyddiadau. Rydym hefyd yn pryderu am yr oedi wrth gwblhau camau gweithredu angenrheidiol i wella’r amgylchedd, sy’n peryglu datblygu cynaliadwy ac yn gallu arwain at niwed i’r amgylchedd.

Mae angen i’r cwmni wella ei berfformiad o ran tarfiadau ar y cyflenwad dŵr er mwyn sicrhau cyflenwad dibynadwy i gwsmeriaid. Rydym hefyd yn disgwyl i’r cwmni gymryd camau i wella perfformiad mewn perthynas â llifogydd carthffosydd mewnol. Dyma un o’r mathau mwyaf gofidus o wasanaeth yn methu y gall cwsmer ei brofi, ac, ar hyn o bryd, perfformiad y cwmni yw’r perfformiad gwaethaf yn y diwydiant. Mae cwsmeriaid yn nodi lefelau cymharol isel o foddhad o’i gymharu â chwmnïau eraill yn y diwydiant. Dylai’r cwmni wella rhyngweithiadau â chwsmeriaid a phrofiad cyffredinol y cwsmer.

Perfformiad ar yr olwg gyntaf

Mae ein hasesiadau diweddaraf o ddata Yorkshire Water yn dangos:

  • bod 99.97% o brofion yn cydymffurfio â safonau dŵr yfed
  • bod 0.44 defnyddiwr fesul pob 1,000 o ddefnyddwyr yn cysylltu i roi gwybod am afliwio, a 0.30 defnyddiwr fesul pob 1,000 o ddefnyddwyr yn cysylltu i roi gwybod am flas ac arogl. Mae’r cyfraddau hyn yn well na chyfartaleddau’r diwydiant o 0.51 a 0.32 yn y drefn honno
  • bu 335 o ddigwyddiadau llygredd, gan gynnwys 13 a ddosbarthwyd fel rhai difrifol. Roedd 82% o’r digwyddiadau yn ddigwyddiadau hunanadroddedig
  • bod 93.3% o’r camau gweithredu i wella’r amgylchedd wedi’u cwblhau o fewn y terfynau amser a luniwyd ar eu cyfer. Methodd y cwmni â chyflawni pum o’r 75 cam gweithredu a gynlluniwyd
  • gollyngwyd 103.8 litr fesul eiddo bob dydd, sy’n well na chyfartaledd y diwydiant, sef 104.5 litr. Roedd hyn yn cynrychioli gostyngiad o 3.7% yn y cyfanswm o ddŵr a ollyngwyd o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol
  • bod aelwydydd yn defnyddio 126.1 litr o ddŵr y pen y dydd, sy’n well na chyfartaledd y diwydiant, sef 137.3 litr
  • bu dirywiad yn y perfformiad o ran tarfu ar y cyflenwad dŵr. Roedd nifer y munudau cyfartalog heb gyflenwad dŵr fesul eiddo wedi cynyddu 42% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol
  • bod nifer y llifogydd carthffosydd mewnol wedi cynyddu 14% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol
  • bod y cwmni yn y deuddegfed safle allan o 17 o gwmnïau dŵr o ran boddhad cwsmeriaid, sef dau safle yn waeth o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol

Atodiad: adroddiadau a ddefnyddir fel ffynhonnell a geirfa

Adroddiadau a ddefnyddir fel ffynhonnell

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o berfformiad. Am ragor o wybodaeth, gweler ein cyhoeddiadau diweddaraf.

Adroddiadau’r Arolygiaeth Dŵr Yfed:

Adroddiadau Asiantaeth yr Amgylchedd:

Adroddiadau Cyfoeth Naturiol Cymru:

Adroddiad Ofwat:

Tabl 1 – Cyfnod adrodd ynghylch data perfformiad ac adroddiadau a ddefnyddir fel ffynhonnell

Data perfformiad Cyfnod adrodd Adroddiad a ddefnyddir fel ffynhonnell
Bodlonrwydd cwsmeriaid Blwyddyn ariannol Ofwat, Adroddiad Perfformiad Gweithredol Cwmnïau Dŵr
Dŵr yfed yn cael ei afliwio (cysylltiadau gan ddefnyddwyr) Blwyddyn galendr Yr Arolygiaeth Dŵr Yfed
Terfynau rhifol trwyddedau gollwng Blwyddyn galendr Adroddiad perfformiad amgylcheddol Asiantaeth yr Amgylchedd
Safon Dŵr Yfed Blwyddyn galendr Yr Arolygiaeth Dŵr Yfed
Camau gwella amgylcheddol (Rhaglen Amgylchedd Genedlaethol y Diwydiant Dŵr) Blwyddyn ariannol Adroddiadau perfformiad amgylcheddol Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru
Defnydd dŵr aelwydydd y pen Blwyddyn ariannol Ofwat, Adroddiad Perfformiad Gweithredol Cwmnïau Dŵr
Llifogydd carthffosydd mewnol Blwyddyn ariannol Ofwat, Adroddiad Perfformiad Gweithredol Cwmnïau Dŵr
Gollyngiadau fesul eiddo Blwyddyn ariannol Perfformiad adnoddau dŵr blynyddol Asiantaeth yr Amgylchedd
Digwyddiadau llygredd (difrifol a chyfanswm) Blwyddyn galendr Adroddiadau perfformiad amgylcheddol Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru
Hunan-adrodd am ddigwyddiadau llygredd Blwyddyn galendr Adroddiadau perfformiad amgylcheddol Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru
Slwtsh carthion Blwyddyn galendr Adroddiadau perfformiad amgylcheddol Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru
Blas ac arogl (cysylltiadau gan ddefnyddwyr) Blwyddyn galendr Yr Arolygiaeth Dŵr Yfed
Cyfanswm y gollyngiadau Blwyddyn ariannol Perfformiad adnoddau dŵr blynyddol Asiantaeth yr Amgylchedd
Achosion o darfu ar y cyflenwad dŵr Blwyddyn ariannol Ofwat, Adroddiad Perfformiad Gweithredol Cwmnïau Dŵr

Geirfa

Gwasanaeth cwsmeriaid

Mae mesur o brofiad y cwsmer (C-MeX) yn mesur boddhad cwsmeriaid preswyl â’u cwmni dŵr. Mae’r sgôr yn cyfuno dau arolwg:

  • yr Arolwg Gwasanaeth Cwsmeriaid, sy’n cwmpasu cwsmeriaid sydd wedi cysylltu â’u cwmni yn ddiweddar
  • yr Arolwg Profiad Cwsmeriaid, sy’n cwmpasu hapsampl o gwsmeriaid

Mae’r ddau arolwg yn gofyn i gwsmeriaid raddio eu boddhad cyffredinol â’u cwmni dŵr. Ystod y sgôr C-MeX yw rhwng 0 a 100. Mae sgôr uwch yn dynodi perfformiad gwell.

Cyfradd cysylltu i roi gwybod am ddŵr wedi’i afliwio

Nifer y cwynion neu’r hysbysiadau a wneir gan ddefnyddwyr pan fydd eu dŵr tap yn ymddangos wedi’i afliwio (yn ddu, yn frown, yn oren neu’n wyn llaethog), wedi’i safoni fesul 1,000 o’r boblogaeth.

Terfynau rhifol trwyddedau gollwng

Canran y gweithfeydd trin carthion a’r gweithfeydd trin dŵr sy’n cydymffurfio â’r terfynau ansawdd dŵr rhifol ar gyfer llygryddion mewn dŵr gwastraff wedi’i drin y caniateir iddynt ei ollwng.

Safon Dŵr Yfed

Y gofyniad cyfreithiol bod rhaid i ddŵr yfed fod yn iach o dan adran 68 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 a’r Rheoliadau Cyflenwad Dŵr (Ansawdd). Mae dŵr wedi’i ddiffinio’n gyfreithiol fel dŵr dihalog os yw’n bodloni safonau ffisegol, cemegol a microbiolegol llym, ac nad yw’n cynnwys unrhyw sylwedd ar lefel sy’n peri perygl posibl i iechyd pobl.

Camau gweithredu i wella’r amgylchedd

Canran y camau gweithredu yr ydym yn gofyn i gwmnïau dŵr eu cwblhau i gyflawni eu rhwymedigaethau statudol a’u gofynion amgylcheddol. Mae’r holl gamau gweithredu wedi’u nodi yn Rhaglen Amgylchedd Genedlaethol y Diwydiant Dŵr, a elwir yn WINEP, yr ydym yn ei datblygu a’i chyhoeddi.

Mae’r camau gweithredu’n cynnwys cynlluniau gwella asedau, ymchwiliadau i lywio camau gweithredu yn y dyfodol, a gwaith monitro a gynlluniwyd i wella pysgodfeydd, bioamrywiaeth a geomorffoleg, ansawdd dŵr, ac adnoddau dŵr.

Defnydd dŵr aelwydydd y pen

Defnydd dŵr dyddiol y pen gan y rhai sy’n byw ar aelwyd.

Llifogydd carthffosydd mewnol

Pa mor aml mae dŵr gwastraff o’r system garthffosiaeth yn mynd i mewn i gartref neu adeilad arall, neu’n mynd o dan lawr crog. Wedi’i fesur fel nifer blynyddol y digwyddiadau fesul 10,000 o gysylltiadau carthffosiaeth.

Gollyngiadau fesul eiddo

Dŵr a gollir o’r system ddosbarthu fesul dydd fesul eiddo.

Digwyddiadau llygredd (difrifol a chyfanswm)

Nifer y digwyddiadau llygredd sy’n effeithio ar ddŵr o asedau carthffosiaeth a dŵr glân. Mae pob digwyddiad wedi’i gategoreiddio yn seiliedig ar ei effaith. Caiff digwyddiadau eu hasesu fel rhai sydd ag effaith fawr (Categori 1), arwyddocaol (Categori 2), bach (Categori 3), neu ddim effaith o gwbl (Categori 4).

Cyfanswm – yn rhoi digwyddiadau Categori 1 i 3 mewn grŵp.

Difrifol – yn rhoi digwyddiadau Categori 1 a 2 mewn grŵp.

Hunan-adrodd am ddigwyddiadau llygredd

Canran digwyddiadau llygredd cwmnïau dŵr sy’n cael eu hadrodd amdanynt gan gwmni dŵr i Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru cyn i eraill wneud hynny.

Slwtsh carthion

Canran y slwtsh sy’n cael ei waredu neu ei ddefnyddio yn unol â deddfau amgylcheddol perthnasol. Mae slwtsh carthion yn gynnyrch trin dŵr gwastraff ac felly nid yw’n berthnasol i gwmnïau dŵr yn unig.

Cyfradd cysylltu o ran rhoi gwybod am ddŵr nad yw’n blasu neu’n arogli’n dda

Nifer y cwynion neu’r hysbysiadau a wnaed gan ddefnyddwyr ynghylch blas neu arogl eu dŵr tap, wedi’i safoni fesul 1,000 o’r boblogaeth.

Cyfanswm y gollyngiadau

Dŵr a gollir o’r system ddosbarthu bob dydd.

Rhaglen drawsnewid

Defnyddir rhaglen drawsnewid gan yr Arolygiaeth Dŵr Yfed pan fydd cwmni dŵr wedi dangos patrwm o fethiannau difrifol neu ailadroddus na ellir mynd i’r afael â nhw trwy gamau gorfodi unigol yn unig. Rhaid i’r cwmni nodi achosion sylfaenol perfformiad gwael a ffurfioli’r rhaglenni hyn yn offerynnau cyfreithiol i gyflawni’r newidiadau sydd eu hangen i sicrhau bod defnyddwyr yn cael y cyflenwad dŵr dibynadwy y mae ganddynt hawl i’w ddisgwyl.

Achosion o darfu ar y cyflenwad dŵr

Yr amser y mae cwsmeriaid yn treulio heb ddŵr oherwydd tarfu ar y cyflenwad sy’n para am o leiaf dair awr. Wedi’i fesur fel y nifer cyfartalog blynyddol o funudau a gollir fesul cwsmer. Mae lleihau nifer a hyd yr achosion o darfu ar y cyflenwad dŵr yn gwella dibynadwyedd cyflenwad cwsmeriaid.

Nodyn ar werthoedd buddsoddi

Mae’r gwerthoedd buddsoddi ar gyfer 2025 i 2030 a gynhwysir yn y crynodeb gweithredol ac adrannau cwmnïau unigol yn adlewyrchu newidiadau yn dilyn ailbenderfyniadau terfynol yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd a diwygiadau dilynol ar gyfer gwybodaeth gyfrifyddu wedi’i diweddaru.