Mewnwelediadau i berfformiad y diwydiant dŵr: adroddiad rheoleiddiwr ar y cyd
Mae'r adroddiad hwn yn rhoi trosolwg o berfformiad y diwydiant dŵr, gan ddod â data rheoleiddwyr a mewnwelediadau o'n cyhoeddiadau unigol diweddaraf ynghyd. Mae'n defnyddio data perfformiad ar gyfer blwyddyn galendr 2025 a'r flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2026.
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Dogfennau
Manylion
Mae perfformiad y diwydiant dŵr yng Nghymru a Lloegr yn cael ei oruchwylio gan bedwar rheoleiddiwr: Yr Arolygiaeth Dŵr Yfed, Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Ofwat.
Mae 11 o gwmnïau dŵr a charthffosiaeth. Maent yn darparu gwasanaethau cyflenwi dŵr a dŵr gwastraff (carthffosiaeth). Mae 6 cwmni dŵr yn unig. Maent yn darparu dŵr yfed glân.
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi trosolwg o berfformiad yr 17 cwmni hyn.