VO BR25 Gwiriad cydymffurfiaeth ar gyfer llety gwyliau hunanddarpar yng Nghymru
Llenwch ffurflen VO BR25 os ydy Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) wedi gofyn i chi gadarnhau gwybodaeth ar gyfer llety gwyliau hunanddarpar yng Nghymru.
Yn berthnasol i Gymru
Dogfennau
Manylion
Anfonir ffurflen VO BR25 at gwsmeriaid unwaith y flwyddyn i wirio gwybodaeth am lety gwyliau hunanddarpar yng Nghymru. Mae’r VOA yn defnyddio’r wybodaeth hon i gadarnhau bod llety yn dal yn gymwys i dalu ardrethi busnes.
Ni ofynnir i bob cwsmer lenwi’r ffurflen hon bob blwyddyn, ond rhaid i chi lenwi’r ffurflen hon os yw’r VOA wedi gofyn i chi wneud hynny. Gall eich eiddo gael ei symud i’r Dreth Gyngor os na fyddwch yn dychwelyd y ffurflen hon.
Pam mae eich gwybodaeth yn bwysig
Mae gwerthoedd ardrethol yn seiliedig ar yr hyn fyddai’r rhent blynyddol ar gyfer eiddo wedi bod ar ddyddiad gwerthuso sefydlog. Mae’r VOA yn defnyddio’r wybodaeth yr ydych yn ei ddarparu ar y ffurflen hon i sicrhau bod yr asesiad o werthoedd ardrethol yn gywir. Mae awdurdodau lleol yn defnyddio gwerthoedd ardrethol i gyfrifo biliau ardrethi busnes.
Rhaid i chi ddychwelyd y ffurflen hon o fewn 56 diwrnod i’r diwrnod y byddwch yn ei derbyn. Os na fyddwch yn dychwelyd y ffurflen hon o fewn 56 diwrnod byddwch yn agored i ddirwy o £100 o dan baragraff 5A(1) o Atodlen 9 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (yn agor tudalen Saesneg).
Gweler y rhestr gyflawn o ffurflenni cais rhent VOA (yn agor tudalen Saesneg).
Ble i anfon y ffurflen hon
Atodwch y ffurflen wedi’i chwblhau at e-bost. Anfonwch hi at selfcatering@voa.gov.uk gan ddefnyddio’r pennawd pwnc ‘Ffurflen ddychwelyd llety gwyliau hunanddarpar wedi’i chwblhau’.
Os yw’n well gennych, gallwch anfon y ffurflen wedi’i chwblhau drwy’r post at:
Valuation Officer
Wycliffe House
Green Lane
Durham
DH1 3UW