Skip to main content
Canllawiau

Llwybr Arfordir Penfro: Llwybr Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 24 Mehefin 2026

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Llwybr Cenedlaethol yw Llwybr Arfordir Penfro. Mae’n 186 milltir (299km) o hyd ac yn ymestyn ar hyd glannau De-orllewin Cymru. Mae’r llwybr yn mynd drwy Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro a thros dirweddau arfordirol, gan gynnwys pennau clogwyn, traethau, cildraethau ac aberoedd.

Mae hefyd yn rhan o Lwybr Arfordir Cymru.

Ynglŷn â’r llwybr

Mae’r llwybr rhwng:

  • Llandudoch, Sir Benfro
  • Amroth, Sir Benfro

Gallwch ddewis cerdded y llwybr cyfan, un neu ddwy o rannau penodol, neu gael hyd i lwybrau cylchol lleol sy’n cynnwys rhannau o’r llwybr.

Cewch hyd i deithiau cerdded cylchol a llinol ar wefan y Llwybrau Cenedlaethol.

Pryd i ymweld

Mae’r llwybr ar agor drwy’r flwyddyn.

Arwyddbyst ar y llwybr

Mae’r holl Llwybrau Cenedlaethol wedi’u marcio â symbol mesen neu enw’r llwybr. Byddwch yn gweld y rhain ar hyd y llwybr, er enghraifft ar gatiau ac arwyddbyst.

Ar Lwybr Arfordir Penfro, efallai y gwelwch hefyd ddraig ar ffurf cragen ar arwyddion, sef symbol Llwybr Arfordir Cymru.

Cerdded y llwybr cyfan

  • Hyd 186 milltir (299km)
  • Amser i’w gwblhau: tua 12 diwrnod - os ydych chi’n cerdded 15 milltir (24km) y dydd

Gallwch gerdded i’r naill gyfeiriad neu’r llall ar hyd y llwybr. Mae arwyddbyst yn dangos y llwybr i’r ddau gyfeiriad er mwyn ichi allu dewis. 

Mae llawer o bobl yn cerdded y llwybr o’r gogledd i’r de, o Landudoch i Amroth. Mae’r rhan fwyaf o’r arweinlyfrau wedi’u hysgrifennu i’r cyfeiriad hwn, ac mae’r gatiau neu’r camfeydd ar hyd y llwybr wedi’u rhifo i’r cyfeiriad hwn.

Hygyrchedd ar y llwybr

Ceir adrannau serth a bryniog ar hyd pob rhan o Lwybr Arfordir Penfro. Mae’r rhan o’r llwybr rhwng Llandudoch a Chasnewydd yn cynnwys llawer o fryniau serth. Mae’r llwybr cyfan yn cynnwys cyfanswm esgyn a disgyn o 11,000m (35,000 troedfedd).  

Ar lanw isel gallwch gerdded ar rai o’r traethau, a llogi cadeiriau olwyn traeth hefyd.

Cewch hyd i wybodaeth ar wefan Arfordir Cenedlaethol Penfro am: 

Gallwch hefyd gael rhagor o wybodaeth am hygyrchedd ar y llwybr gan Cyfoeth Naturiol Cymru, gan gynnwys:    

  • pa rannau o’r Llwybrau Cenedlaethol yng Nghymru sy’n addas i bawb, gan gynnwys pobl sy’n defnyddio cadair olwyn
  • teithiau cerdded eraill a allai fod yn addas i ddefnyddwyr offer addasol

Yr hyn y gallwch ei brofi ar y llwybr

Mae yna lawer o bethau y gallwch eu profi ar Lwybr Arfordir Penfro, gan gynnwys:

  • bywyd gwyllt – fel morloi, huganod a llamidyddion o bentir Penmaen Dewi
  • safleoedd hanesyddol a threftadaeth, fel Goleudy Pen-caer, Capel Sant Gofan a’r Morlyn Glas, chwarel lechi danddwr.
  • gwarchodfeydd natur – fel Pyllau Lili Bosherston
  • diwylliant, bwyd ac adloniant lleol

Dyma rai o’r trefi a’r pentrefi y gallech chi fynd drwyddynt neu heibio iddynt:

  • Tyddewi
  • Solfach
  • Penfro
  • Dinbych-y-pysgod
  • Abergwaun
  • Trefdraeth

Rhannau o’r llwybr

Gallwch dorri’r llwybr yn rhannau y gallwch gerdded ar eu hyd mewn diwrnod, neu sy’n rhoi amser ichi ymweld â phethau penodol ar y llwybr neu gerllaw.

Ceir enghraifft isod, ond mae mwy o wybodaeth ar gael ar-lein ac mewn arweinlyfrau er mwyn helpu i gynllunio eich taith.

Llandudoch i Drefdraeth - 15.5 milltir (25km)

Mae llawer o fryniau serth ar y rhan yma o’r llwybr, a gall fod yn heriol.  Gallwch rannu’r rhan hon yn ddwy os byddwch chi’n stopio yn Nhrewyddel.

Does dim gwasanaethau rhwng Traeth Poppit a Thraeth Mawr, felly dylech gario digon o fwyd, dŵr a chyflenwadau gyda chi.

Trefdraeth i Abergwaun - 12 milltir (19.3km)

Mae’r clogwyni ar y rhan hon yn is, tua 40m gan fwyaf. Mae’r clogwyn ym Mhen Dinas yn codi i 142m, ond gallwch osgoi hwnnw drwy ddilyn llwybr gwastad ar draws y dyffryn.

Yn Abergwaun edrychwch am y symbol mesen, a allai fod yn uchel ar arwyddion a physt, gan fod y rhain yn dangos y llwybr a argymhellir drwy’r dref.

Abergwaun i Bwll Deri - 9 milltir (14.5km)

Ceir bryniau serth ar y rhan hon, gyda chlogwyni rhwng 30m a 70m o uchder gan amlaf,

Mae da byw yn pori ar hyd y rhan hon hefyd, felly dylech ddilyn arwyddion lleol a chadw’ch ci ar dennyn neu o fewn golwg.

Pwll Deri i Borthgain - 12 milltir (19.3km)

Ar y rhan hon o’r llwybr ceir erydu arfordirol ar rai o’r clogwyni. Caiff trywydd y llwybr ei adolygu’n gyson er mwyn sicrhau ei fod yn ddiogel.

Nid oes unrhyw gamfeydd yn y rhan hon.

Porthgain i Borth Mawr - 10 milltir (16.1km)

Mae’r rhan hon yn anghysbell gyda rhai bryniau serth. Mae’r llwybr yn mynd dros glogwyni uchel ac o dan greigiau Pen Beri, Carn Lleithyr a Charn Llidi. Ceir rhai mannau i gael bwyd a diod yn Abereiddi a Phorth Mawr, ond mae’r llwybr rhyngddynt yn anghysbell gydag ond ychydig o gyfleusterau. 

Porth Mawr i Solfach - 13 milltir (20.9km)

Nid oes unrhyw gamfeydd ar y rhan hon o’r llwybr. Mae mannau i gael bwyd a diod, siopau a llety ar gael yn Nhyddewi a Solfach.

Mae’r ardal hon yn boblogaidd ar gyfer teithiau cerdded byr a chylchol, gan fod yna lawer o bwyntiau mynediad a gwasanaeth bws.

Solfach i Aberllydan - 12 milltir (19.3km)

Nid oes unrhyw gamfeydd ar y rhan hon o’r llwybr.

I’r gogledd-orllewin o Niwgwl ceir cyfres o fryniau serth iawn. I’r de o Niwgwl ceir cyfres o fryniau llai serth ac mae’r llwybr yn mynd drwy’r Aberoedd.

Aberllydan i Draeth Martin’s Haven - 11 milltir (17.7km)

Nid oes unrhyw gamfeydd ar y rhan hon o’r llwybr. Llwybr arfordirol yw hwn ac mae’n serth mewn mannau.

Mae’r llwybr yn mynd drwy bentref Aber Bach a’r bae yn Sain Ffraid

Traeth Martin’s Haven i Dale - 10 milltir (16.1km)

Mae’r rhan yma’n wastad ar y cyfan, ac nid yw’n cynnwys unrhyw gamfeydd. Mae yna ambell allt fer o bryd i’w gilydd, allan o ddyffrynnoedd serth. Mae’r llwybr yn dechrau ar arfordir yr Iwerydd, gyda golygfeydd o ynysoedd Skomer, Sgogwm a Gwales, ac yn gorffen yn nyfrffordd Aberdaugleddau.

Mae mannau i gael bwyd a diod a llety ar gael ym Marloes a Dale.

Mae’n ardal boblogaidd ar gyfer teithiau cerdded byr a chylchol, oherwydd gellir ymuno â llwybr o sawl man, ac mae yno wasanaethau bws.

Dale i Neyland - 16 milltir (25.7km)

Nid yw’r rhan yma’n cynnwys unrhyw gamfeydd ond mae yna 2 groesfan llanw, felly  gwiriwch amseroedd y llanw cyn cychwyn. Mae yna lwybr arall y gallwch ei ddilyn ar lanw uchel, ac arno un gamfa ychydig i’r de o Herbrandston.

Neyland i Angle - 16 milltir (25.7km)

O Neyland mae’r llwybr yn croesi Dyfrffordd Aberdaugleddau dros Bont Cleddau. Mae’n mynd drwy Benfro ac yn dilyn yr aber i Angle. Ceir sawl darn o goetir ar y rhan yma o’r llwybr.

Angle i Draeth Freshwater West - 10 milltir (16.1km)

Mae hyd cyfan y rhan yma ar yr arfordir, ac yn anghysbell. Nid oes unrhyw gyfleusterau na ffyrdd, ac nid oes unrhyw dderbyniad ffôn ar y rhan fwyaf o’r llwybr. Mae’n cynnwys ychydig o gamfeydd. 

Freshwater West i Dde Aberllydan - 10 milltir (16.1km)

Mae’r rhan hon o lwybr arfordir Sir Benfro yn mynd ger ardal hyfforddi Maes Castlemartin.

Mae’r arfordir yng Ngorllewin y Maes, rhwng Freshwater West a Chreigiau Elugug, ar gau i’r cyhoedd. Yn Nwyrain y Maes, mae’r llwybr ar hyd yr arfordir ar gau i’r cyhoedd pan gynhelir gweithgarwch ‘tanio’ ond mae ar gael ar wyliau’r banc, drwy gydol mis Awst y rhan fwyaf o benwythnosau a gyda’r nos ond bydd yr amseroedd yn amrywio gan ddibynnu ar ofynion gweithredol. Yn ystod yr amseroedd hyn, gallwch ddilyn llwybr arall rhwng Castellmartin a Bosherston.

I gynllunio eich llwybr, dylech wirio’r amseroedd tanio ym Maes Castellmartin neu ffonio 01646 662367.

De Aberllydan i Draeth Skrinkle Haven (7km)

Mae sawl lle ar gyfer bwyd a diod ar hyd y rhan yma o’r llwybr, gan gynnwys ym Mae Barafundle. Mae’r llwybr hefyd yn mynd heibio Gwarchodfa Natur Genedlaethol Pyllau Lili Bosherton.

Skrinkle Haven i Amroth - 14 milltir (22.5km)

Yn aml hon yw rhan brysuraf y llwybr, ac arni lawer o draethau. Ceir siopau a mannau i gael bwyd a diod yn Ninbych-y-pysgod. Nid oes unrhyw gamfeydd yn y rhan hon.

Mapiau ar gyfer y llwybr

Cewch hyd i:

Dyma fapiau Explorer yr Arolwg Ordnans (OS) sy’n cwmpasu Llwybr Arfordir Sir Benfro:

  • OL35 Gogledd Sir Benfro
  • OL36 De Sir Benfro

Gwyro neu gau rhannau o’r llwybr

Efallai y byddwch yn dod ar draws mân wyriadau neu newidiadau i’r llwybr yn unol â’r tymor neu’r llanw. Bydd y rhain wedi’u dangos yn glir, a dylech ddilyn yr arwyddbyst ar y llwybr bob tro.

Paratowch am eich ymweliad

Darllenwch ganllawiau ar sut i baratoi ar gyfer eich ymweliad i gael gwybodaeth am:

  • wirio’r llwybr – gan gynnwys gwybodaeth am wyriadau neu rannau o’r llwybr sydd wedi cau
  • cynllunio eich taith
  • beth i’w baratoi cyn ichi gychwyn
  • beth i’w wneud ar y llwybr

Manylion cyswllt

Defnyddiwch y ffurflen ar-lein Llwybrau Cenedlaethol berthnasol i:

  • roi gwybod am broblem ar y llwybr, er enghraifft rhwystrau, unrhyw waith cynnal a chadw sydd ei angen neu arwydd camarweiniol
  • gofyn cwestiwn am hygyrchedd ar y llwybr
  • canfod cyfleoedd i wirfoddoli