Canllawiau

Gwasanaeth Gwrandawiadau Fideo: canllawiau waliau tân i wasanaethau cymorth TG corfforaethol

Diweddarwyd 14 November 2023

Canllawiau ar gyfer cefnogi mynediad at y Gwasanaeth Gwrandawiadau Fideo o rwydwaith corfforaethol, gan gynnwys ein rheolau waliau tân.

Mae’r Gwasanaeth Gwrandawiadau Fideo yn wasanaeth gwe a ddefnyddir trwy borwr, ac mae’n cefnogi fideo a sain mewn amser real trwy WebRTC diogel.

Mynediad at gamera a meicroffon

Rhaid bod defnyddwyr yn gallu caniatáu mynediad at gamera a meicroffon eu dyfais fel y gallant brofi eu dyfais eu hunain a chymryd rhan mewn gwrandawiad fideo.

Rhaid bod eich polisïau porwr yn caniatáu mynediad at gamera a meicroffon ar y tudalennau canlynol:

Cyfryngau amser real

Cyflwynir cynnwys fel a ganlyn:

1. Anfonir traffig gwe trwy HTTPS dros TCP/IP

2. Anfonir signalau i borwyr cleient trwy WSS/HTTPS

3. Anfonir traffig fideo a sain drwy SRTP dros TCP/IP a UDP

UDP yw’r dull o ddewis ar gyfer trosglwyddo fideo a sain mewn amser real oherwydd mae’n perfformio’n well ac yn darparu cyfnod ymateb cyflymach na TCP/IP.

Cydnabyddwn na ellir, mewn rhai achosion, ddiffodd waliau tân corfforaethol i ganiatáu cysylltu dros UDP. Lle bo WebRTC yn methu â sicrhau cysylltiad cleient dros UDP, bydd y Gwasanaeth Gwrandawiadau Fideo yn defnyddio HTTPS porth 443 dros TCP/IP ar gyfer rhannu fideo a sain i’r cleient.

Noder, lle defnyddir y dull cysylltu hwn, bydd ansawdd fideo a sain y defnyddiwr yn cael eu heffeithio gan ansawdd cysylltiad eu rhwydwaith lleol.

Mae gan rhai waliau tân a VPNs corfforaethol nodwedd ffiltro paced neu archwilio. Os digwydd hyn, ac yn dibynnu ar eich ffurfweddiad, efallai bydd arnoch angen caniatáu pecynnau cyfryngau o’r Gwasanaeth Gwrandawiadau Fideo os ydych yn dewis defnyddio porth HTTPS 443 ar gyfer traffig fideo a sain.

URLs

Rhaid i’r URLs a restrir isod gael eu caniatáu trwy porth HTTPS 443:

  • video.hearings.reform.hmcts.net
  • signalr.hearings.reform.hmcts.net

Cyfeiriadau/Ystodau IP

Rhaid i’r cyfeiriadau/ystodau IP a restrir gael eu caniatáu dros TCP/IP porth HTTPS 443 er mwyn i’r gwasanaeth weithio.

Dylid caniatáu’r cyfeiriadau/ystodau IP a restrir dros UDP er mwyn sicrhau’r profiad gorau bosib i ddefnyddwyr.

Cyfeiriadau TCP/IP

FQDN IP Amgylchedd Dyfais
px01.hearings.hmcts.net 35.246.61.150 hearings - prod Nod signalau
px02.hearings.hmcts.net 35.246.79.59 hearings - prod Nod signalau
px03.hearings.hmcts.net 35.246.113.194 hearings - prod Nod signalau
sip.hearings.hmcts.net 35.246.61.150
35.246.79.59
35.246.113.194
hearings - prod Cofnodion SIP
hearings.hmcts.net 35.242.182.154 hearings - prod Balansydd llwythi
px01.self-test.hearings.hmcts.net 35.234.138.149 self-test - prod Nod signalau
px02.self-test.hearings.hmcts.net 35.242.187.24 self-test - prod Nod signalau
px03.self-test.hearings.hmcts.net 35.197.254.119 self-test - prod Nod signalau
sip.self-test.hearings.hmcts.net 35.234.138.149
35.242.187.24
35.197.254.119
self-test - prod Cofnodion SIP
self-test.hearings.hmcts.net 35.244.218.27 self-test - prod Balansydd llwythi
vhs-turn-prd.9kc.org 34.105.188.62 prod Turn relay
vhs-turn-prd.9kc.org 34.105.131.240 prod Turn relay
  35.242.182.154
35.246.61.150
35.246.79.59
35.246.113.194
35.234.138.149
35.242.187.24
35.197.254.119
35.230.139.187
35.230.135.196
35.246.107.219
35.246.20.63
35.246.124.45
35.246.61.132
35.246.26.151
35.242.138.175
35.246.14.216
35.234.149.169
35.242.154.242
35.246.67.204
35.246.103.161
35.246.64.249
35.242.129.244
35.246.107.187
Rhwydweithiau cleient WebRTC Balanswyr llwythi a nodau cynhadledd

Cyfeiriadau/Ystodau UDP ac IP

  Cyfeiriad IP Protocol Porth Gwasanaeth Dyfais
Rhwydweithiau cleient WebRTC 35.242.182.154
35.246.61.150
35.246.79.59
35.246.113.194
35.234.138.149
35.242.187.24
35.197.254.119
35.230.139.187
35.230.135.196
35.246.107.219
35.246.20.63
35.246.124.45
35.246.61.132
35.246.26.151
35.242.138.175
35.246.14.216
35.234.149.169
35.242.154.242
35.246.67.204
35.246.103.161
35.246.64.249
35.242.129.244
35.246.107.187
UDP 40000 - 49999 Cyfryngau RTP Balanswyr llwythi a nodau cynhadledd

Porwyr

Dylech ddefnyddio’r fersiwn diweddaraf o’r system weithredu ar eich dyfais.

Dylech hefyd defnyddio’r fersiwn diweddaraf o’ch porwr gwe. Gall pa borwr rydych yn gallu ei ddefnyddio ddibynnu ar eich dyfais.

Os ydych yn defnyddio gliniadur neu gyfrifiadur bwrdd gwaith, gallwch ddefnyddio:

  • Google Chrome
  • Mozilla Firefox
  • Microsoft Edge
  • Apple Safari (ar gyfrifiaduron Macs yn unig)

Os ydych yn defnyddio tabled neu ffôn clyfar Android, gallwch ddefnyddio:

  • Google Chrome
  • Samsung Internet

Os ydych yn defnyddio iPad neu iPhone, gallwch ond defnyddio Apple Safari.

Nid yw’r gwasanaeth gwrandawiadau fideo yn gweithio gydag Internet Explorer ar unrhyw ddyfais.