Defnyddio eich hawliau eiddo deallusol: camau i'w hystyried
Dysgwch sut i wneud y gorau o'ch eiddo deallusol, gan gynnwys trwyddedu, gwerthu ac ehangu dramor.
Dogfennau
Manylion
Os oes gennych hawliau eiddo deallusol (IP), mae sawl ffordd y gallwch elwa ohonynt.
Mae’r canllaw hwn yn egluro’r opsiynau sydd ar gael i chi, gan gynnwys:
- defnyddio eich IP yn eich busnes eich hun
- ehangu eich amddiffyniad IP i wledydd eraill
- trwyddedu eich IP i eraill
- gwerthu eich hawliau IP
- monitro ceisiadau IP newydd a allai effeithio arnoch chi
Os ydych chi’n ystyried gwneud cais am eiddo deallusol, gallwch weld ein canllaw Cael IP: cam wrth gam.