Defnyddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid mewn compost neu fionwy: cais am gymeradwyaeth
Ffurflen i safle compost neu fionwy wneud cais am gymeradwyaeth i drin sgil-gynhyrchion anifeiliaid neu wastraff arlwyo.
Dogfennau
Manylion
Mae’r ffurflen hon yn rhan o’r canllaw ar ddefnyddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid ar safleoedd compostio neu fionwy.
Defnyddiwch y ffurflen hon i wneud cais am gymeradwyaeth i ddefnyddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid neu wastraff arlwyo ar eich safle compost neu fionwy.
Mae rhai cyfleusterau compostio a bionwy wedi’u rhannu’n ddau safle ar wahân, sef ‘hub’ a ‘pod’. Os yw eich safle wedi’i rannu’n ‘hub’ a ‘pod’, rhaid i chi hefyd ddefnyddio ffurflen ABPR 33 i wneud cais am gymeradwyaeth i basteureiddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid neu wastraff arlwyo ar safle’r hwb.
Dylai cwsmeriaid yn Lloegr ddychwelyd y ffurflen wedi’i chwblhau i APHA Customer Service Centre Worcester.
Dylai cwsmeriaid yng Nghymru ddychwelyd y ffurflen wedi’i chwblhau i swyddfa APHA yng Nghaernarfon.
Dylai cwsmeriaid yn yr Alban ddychwelyd y ffurflen wedi’i chwblhau i’w Swyddfa Gwasanaeth Maes APHA leol.