Guidance

Credyd Cynhwysol a'ch Ymrwymiad Hawlydd

Updated 1 July 2020

1. Eich Ymrwymiad Hawlydd

Pan fyddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol bydd angen i chi dderbyn eich Ymrwymiad Hawlydd.

Yn y rhan fwyaf o achosion bydd eich Ymrwymiad Hawlydd yn cael ei lunio yn ystod sgwrs gyda’ch anogwr gwaith yn eich canolfan gwaith leol.

Bydd eich Ymrwymiad Hawlydd yn gosod allan beth rydych wedi’i gytuno i’w wneud i baratoi at ac i chwilio am waith, neu i gynyddu eich enillion os ydych eisoes yn gweithio. Bydd yn seiliedig ar eich amgylchiadau personol a bydd yn cael ei adolygu a’i ddiweddaru yn barhaus. Bob tro bydd yn cael ei ddiweddaru bydd angen i chi dderbyn Ymrwymiad Hawlydd newydd i barhau i gael Credyd Cynhwysol.

Yr Ymrwymiad Hawlydd yw eich cofnod o’r gofynion rydych wedi’u derbyn mewn cyfnewid am gael Credyd Cynhwysol ar goblygiadau o beidio a’u cwrdd.

Gall eich taliadau Credyd Cynhwysol gael eu torri os na fyddwch yn cwrdd â’ch gofynion.

Gallwch edrych ar eich Ymrwymiad Hawlydd diweddaraf ar-lein. Byddwch hefyd yn gallu diweddaru eich cynnydd tuag at eich nodau drwy ddefnyddio’r cyfrif hwnnw.

Os ydych yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol fel cwpwl, bydd angen i’r ddau ohonnoch dderbyn Ymrwymiad Hawlydd. Bydd gennych eich Ymrwymiad Hawlydd eich hunan a gall un chi gael ei effeithio os yw eich partner yn dechrau gweithio neu bod eu hamgylchiadau yn newid.

2. Wedi’i deilwra i’ch sefyllfa

Mae Credyd Cynhwysol yn newid fel mae pethau’n newid yn eich bywyd. Bydd eich cyfrifoldebau yn amrywio yn dibynnu ar bethau fel eich teulu, eich iechyd a’ch potensial ar gyfer enillion yn y dyfodol.

Er enghraifft:

Os ydych yn ennill cymaint ag y gellir ei ddisgwyl Byddwch yn derbyn cefnogaeth ariannol heb unrhyw amodau eraill i gynyddu eich enillion.
Os ydych yn gallu ac ar gael i weithio Bydd angen i chi wneud popeth yn eich gallu i roi’r cyfle gorau i chi gael gwaith. Mae’n rhaid i baratoi at a chael gwaith fod eich ffocws llawn amser. Os nad ydych yn gwneud hyn heb reswm da, byddwch yn cael toriad yn eich Credyd Cynhwysol, a elwir yn sancsiwn.
Os ydych gyda gallu cyfyngedig i weithio, yn berthnasol i anabledd neu gyflwr iechyd, ar hyn o bryd, ond mae disgwyl i hyn newid dros amser Byddwch yn cael eich cefnogi hyd nes bydd eich amgylchiadau yn gwella a byddwch yn gallu gweithio. Bydd disgwyl i chi baratoi ar gyfer gwaith cyn belled ag y gallwch.
Os ydych gydag anabledd neu gyflwr iechyd sy’n eich atal rhag gweithio Ni ofynnir i chi weithio, a byddwch yn cael eich cefnogi trwy Gredyd Cynhwysol.

Os ydych yn gofalu am berson sy’n ddifrifol anabl am o leiaf 35 awr yr wythnos ni fydd yn ofynnol i chi weithio.

Os ydych yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol ac mae gennych blant, bydd angen i chi benodi prif ofalydd. Os ydych yn riant unigol chi fydd y prif ofalydd yn awtomatig.

Bydd beth a ddisgwylir gan y prif ofalydd mewn cyfnewid am gael Credyd Cynhwysol yn seiliedig ar oed y plentyn ieuengaf yn y cartref.

3. Cymorth gan eich anogwr gwaith

Gyda Chredyd Cynhwysol, byddwch yn profi math gwahanol o berthynas gyda’ch anogwr gwaith nag efallai y byddech wedi’i ddisgwyl. Byddant yn canolbwyntio ar eich mentora a’ch hyfforddi, i’ch helpu i gwrdd â’r gofynion sydd wedi’u cofnodi yn eich Ymrwymiad Hawlydd.

Byddant yn eich cefnogi ac yn eich herio i gyflawni eich potensial a’ch helpu i godi eich disgwyliadau o beth y gallwch ei gyflawni.

Os ydych yn gallu chwilio am neu baratoi am waith, bydd eich Ymrwymiad Hawlydd yn cynnwys pethau fel eich nodau o ran swyddi, gweithgaredd chwiliad gwaith rheolaidd neu unrhyw gamau i baratoi ar gyfer gwaith mae’n rhaid i chi eu cwblhau i gael Credyd Cynhwysol.

Gallai gweithgarwch chwilio am waith gynnwys cofrestru gyda ‘Dod o hyd i swydd’ neu asiantaeth recriwtio, neu wneud cais am swyddi gwag a awgrymir.

Gallai gweithgareddau paratoi at waith gynnwys paratoi CV neu fynychu a chwblhau cwrs hyfforddi. Gall hefyd fod disgwyl i chi fynychu cyfweliadau rheolaidd i drafod cynnydd.

Dylech feddwl am geisio gwiath fel swydd llawn amser. Bydd yn ddisgwyl i chi edrych neu baratoi at waith am 35 awr yr wythnos, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau.

4. Peidio bodloni eich gofynion

Bydd eich ymrwymiadau yn datgan yn glir beth fydd yn digwydd os byddwch yn methu â bodloni pob un o’ch gofynion. Efallai y byddwch yn cael gostyngiad yn eich budd-dal, a elwir yn sancsiwn, os ydych yn methu â bodloni un o’ch gofynion ac yn methu rhoi rheswm da i egluro pam.

Mae pa mor hir y mae sancsiynau’n para yn dibynnu ar yr hyn rydych wedi methu â’i wneud a faint o weithiau rydych wedi methu â chyflawni’ch cyfrifoldebau, heb reswm da.