Guidance

Credyd Cynhwysol a chredydau treth

Updated 24 April 2019

1. Sut mae credydau treth yn cael eu heffeithio

Os ydych eisoes yn cael credydau treth, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth oni bai bod eich amgylchiadau’n newid.

Dylech roi gwybod am unrhyw newid yn eich amgylchiadau a allai effeithio ar eich cais am gredydau treth cyn gynted ag y bo modd drwy ffonio Llinell Gymorth Credyd Treth ar 0345 300 3900 neu ysgrifennu i’r Swyddfa Credyd Treth.

Os ydych yn colli eich swydd, gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol, bydd eich credydau treth yn dod i ben. Ni allwch gael Credyd Cynhwysol a chredydau treth ar yr un pryd.

Os ydych yn gallu gweithio, gallwch hefyd gwneud cais am Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) dull newydd neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) dull newydd os ydych yn sâl ac yn methu â gweithio. Gallwch hawlio un o’r budd-daliadau hyn, gyda, neu yn lle Credyd Cynhwysol, yn dibynnu ar eich cofnod Yswiriant Gwladol.

Os ydych yn hawlio credydau treth ac yn dechrau byw gyda phartner sy’n cael Credyd Cynhwysol bydd eich taliadau credydau treth yn dod i ben. Byddwch chi a’ch partner yn cael eich trin fel hawlwyr Credyd Cynhwysol ar y cyd yn lle hynny.

Bydd hyn yn eich helpu i reoli eich arian gyda’ch gilydd ac yn wahanol i gredydau treth gallwch gael taliadau Credyd Cynhwysol hyd yn oed os ydych ond yn gweithio ychydig o oriau’r wythnos. Bydd Credyd Cynhwysol hefyd yn helpu tuag at gostau gofal plant os ydych eich dau mewn gwaith.

Mae’n rhaid i’ch partner ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) eich bod yn awr yn byw gyda’ch gilydd. Mae’n bwysig eu bod yn gwneud hyn ar unwaith er mwyn i chi eich dau fod yn sicr eich bod yn cael yr holl help y mae gennych hawl iddo.

Bydd Cyllid a Thollau EM yn atal eich credydau treth ac yn cysylltu â chi i gwblhau eich dyfarniad presennol. Ni fyddwch yn cael eich trosglwyddo yn awtomatig o gredydau treth i Gredyd Cynhwysol.

Bydd DWP yn dweud wrthych chi a’ch partner beth sydd angen i chi ei wneud i sicrhau bod eich cais Credyd Cynhwysol ar y cyd yn mynd yn esmwyth.

2. Ceisiadau newydd am gredydau treth o fis Chwefror 2019

Os ydych eisoes yn cael credydau treth, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth oni bai bod eich amgylchiadau’n newid neu hyd nes y bydd DWP yn dweud wrthych am wneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Mae credydau treth yn cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol i’r rhan fwyaf o bobl.

O 1 Chwefror 2019, gallwch barhau i hawlio credydau treth os ydych yn cael Premiwm Anabledd Difrifol (SDP), neu rydych yn gymwys iddo, neu roeddech yn cael neu roeddech yn gymwys am SDP yn y mis diwethaf ac rydych dal yn gymwys ar ei gyfer. Ni allwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol ar hyn o bryd.

Dylech, os yw’n gymwys, gwneud cais am fudd-daliadau eraill, defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau i wirio pa fudd-daliadau y gallech eu cael os na allwch hawlio Credyd Cynhwysol ar hyn o bryd.

3. Taliadau Credyd Cynhwysol

Yn y rhan fwyaf o achosion byddwch yn cael taliad Credyd Cynhwysol misol sengl sy’n cwmpasu chi a’ch partner. Bydd eich Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu i gyfrif addas o’ch dewis chi, a all fod yn gyfrif ar y cyd neu gyfrif sengl yn eich enw chi neu enw eich partner.

Efallai y bydd yna fwlch rhwng taliadau pan fyddwch yn symud i Gredyd Cynhwysol. Bydd Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu yn fisol fel ôl-daliad, tra gall credydau treth gael eu talu mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd.

Os byddwch yn symud i mewn gyda phartner, byddwch yn cael eich taliad cartref newydd ar y cyd o dan Credyd Cynhwysol ar yr un diwrnod y byddai eich partner wedi cael eu taliad Credyd Cynhwysol unigol.

Mae cymorth a chyngor ariannol ar gael os ydych yn poeni am reoli bwlch rhwng i’ch credydau treth ddod i ben a chael eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf.

Mae’r Gwasanaeth Cynghori Arian yn rhoi cyngor am ddim a diduedd trwy eu gwefan. Mae ganddynt declyn cymorth rheoli arian ar-lein sy’n darparu gwybodaeth a chyngor cyllidebu am ddim a di-duedd yn seiliedig ar eich amgylchiadau personol.

Gallwch hefyd gael cyngor dros y ffôn ar 0800 138 7777 (mae’r galwadau am ddim o ffonau symudol a llinellau daear).

Gallwch ofyn am daliad ymlaen llaw ar gyfer cais newydd am Gredyd Cynhwysol ar gyfer y taliad cyntaf o Gredyd Cynhwysol, i’ch helpu i reoli’r newid i daliadau misol. Os byddwch yn cael taliad ymlaen llaw, bydd eich taliadau misol yn y dyfodol yn cael eu lleihau i wneud iawn am hyn.

4. Beth sy’n digwydd i ddyled credydau treth?

Os ydych yn symud o gredydau treth i Gredyd Cynhwysol, bydd eich dyled credydau treth yn cael ei drosglwyddo i DWP. Gellid lleihau eich taliadau Credyd Cynhwysol i adennill y ddyled hon, yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Bydd Cyllid a Thollau EM (CThEM) yn anfon llythyr atoch o’r enw ‘Eich gordaliad credydau treth’ (TC1131) os yw eich dyled credydau treth yn cael ei drosglwyddo i DWP i’w hadfer. Efallai cewch fwy nag un llythyr, os penderfynir bod unrhyw ddyled credydau treth ychwanegol yn ddyledus, mae’n rhaid i chi ad-dalu pob un o’r dyledion hyn.

Os oes eisoes gennych gynllun ad-daliad CThEM, bydd hyn yn cael ei atal a bydd trefniadau debyd uniongyrchol yn cael eu canslo. Fodd bynnag, mae’n rhaid i chi ganslo unrhyw Archebion Sefydlog sydd gennych.

Bydd unrhyw ddyledion credydau treth sy’n cael eu rheoli gan asiantaeth casglu dyledion pan fyddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, yn cael eu dychwelyd.

Unwaith y bydd eich dyled credydau treth wedi’i throsglwyddo i DWP, byddant yn gwneud trefniadau i chi ad-dalu’r ddyled hon.